Arweinyddiaeth mewn Addysg

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Y prynhawn yma (16 Mai 2017), bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn gwneud datganiad yn y Senedd ynghylch arweinyddiaeth mewn addysg.

Mae adroddiadau Estyn un ar ôl y llall wedi nodi pwysigrwydd arweinyddiaeth gref ac effeithiol i wella safonau addysg. Yn ei adroddiad blynyddol diweddaraf (2015/2016), nododd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru mai arweinyddiaeth yw’r ‘ffactor pwysicaf’ yng ngwelliant ysgolion. Yn flaenorol, mae Estyn hefyd wedi adrodd:

Parhau i Ddarllen

Ffedereiddio ysgolion; yr ateb i osgoi cau ysgolion gwledig?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 15 Tachwedd 2016, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, ei bwriad i wneud newidiadau i’r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Prif amcan y newidiadau fydd cyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, rhywbeth sydd eisoes ar waith yn yr Alban a Lloegr.

Parhau i Ddarllen

Y Cynulliad i drafod Adroddiad Blynyddol 2015/16 Prif Arolygydd Estyn

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (7 Mawrth, 2017), bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod Adroddiad blynyddol 2015/16 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Meilyr Rowlands. Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol ar 24 Ionawr 2017, ac mae eisoes wedi bod yn destun craffu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 15 Chwefror 2017 .

Parhau i Ddarllen

A yw diwygiadau addysg Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn?

22 Chwefror 2017

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun yw hwn o fformiwla fathamategol mewn sialc ar fwrdd du.

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (28 Chwefror, 2017) ar argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar gyfer Llywodraeth Cymru ynghylch ei diwygiadau addysg.

Ym mis Hydref 2016, comisiynodd Ysgrifennydd y Cabinet y Sefydliad i ystyried y diwygiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i wella safonau addysg, ac a ydynt ‘ar y trywydd iawn’.

Dylanwad y OECD ar bolisi addysg Llywodraeth Cymru

Mae’r OECD wedi cael dylanwad sylweddol ar bolisïau addysg Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf drwy ei Raglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA). Cychwynnodd Llywodraeth flaenorol Cymru lu o ddiwygiadau mewn ymateb uniongyrchol i  ganlyniadau PISA siomedig Cymru yng nghylchoedd 2009 a 2012. Wrth ymateb i Ganlyniadau PISA Cymru yn 2015, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2016, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Byddwn yn defnyddio’r canlyniadau hyn a’r data cyfoethog y maen nhw’n eu rhoi inni, ynghyd â’r adroddiad OECD sydd ar ddod, i gefnogi a herio fy mlaenoriaethau a fy rhaglen.

Cynhaliodd y OECD adolygiad manwl o’r system addysg yng Nghymru yn 2014, a arweiniodd at gynllun gwella addysg newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod hyd at 2020, sef Cymwys am Oes (a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2014). I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn, gweler ein herthyglau blaenorol, Gwella safonau ysgolion (Mehefin 2016), Polisi addysg yn gogwyddo tuag at PISA? (Rhagfyr 2015) a PISA: Beth ydyw a pham y mae’n bwysig? (Tachwedd 2016).

Adolygiad y OECD ym mis Hydref 2016 a bwriad Llywodraeth Cymru i adnewyddu cynllun Cymwys am Oes

Roedd cyfranogiad mwyaf diweddar y OECD yn dilyn ymweliad Kirsty Williams â swyddfa’r Sefydliad ym mis Medi 2016, dim ond rhai misoedd ers iddi ddechrau yn ei rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, pan ddywedodd:

Rwy o blaid dilyn tystiolaeth ryngwladol. Dyna pam rwy wedi gofyn i’r OECD edrych ar ein diwygiadau a rhoi gwybod inni a ydyn ni ar y trywydd iawn ac a yw’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn briodol.

Dyw hi ddim yn ddigon da i gyfyngu ar ein huchelgeisiau drwy edrych ar yr hyn sy’n digwydd ar draws y ffin yn unig. Rhaid inni anelu at fod ymhlith y gorau yn y byd. Felly, pan gwrddais i â’r OECD, gofynnais iddynt roi gwybod imi a yw’r strategaethau iawn gyda ni ar waith erbyn hyn ers eu Hadolygiad yn 2014.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod gwaith craffu ar y gyllideb ym mis Tachwedd 2016 (PDF 543KB) y byddai canfyddiadau’r OECD yn dylanwadu ar ei phenderfyniadau terfynol ynglŷn â sut i ddefnyddio’r £20 miliwn a ddyrannwyd yn 2017-18 ar gyfer codi safonau ysgolion (sy’n rhan o gyfanswm o £100 miliwn a addawyd dros gyfnod pum mlynedd y Cynulliad hwn).

I’m not waiting for them to tell me how to spend the money. This is the approach I’m intending. But I do want to reflect, before I make absolute, final allocations [on] their report. It would seem churlish to me to have them over to test this and then have no reflection on what they might say. So, those are the areas and the figures that we’re looking at the moment—a taster of where we’re going—but I will use the feedback from the OECD report to refine what we’re doing. As I said, we’ve put this forward to them as part of our plans, but I do want a little bit of flexibility to be able to reflect on what they tell us.

Mewn llythyr at y Pwyllgor (PDF 784KB) ynglŷn â datblygiad y cwricwlwm newydd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod canfyddiadau cynnar y OECD, yn dilyn ei ymweliad â Chymru ym mis Tachwedd, yn nodi bod llawer o bethau yn awr ar waith sy’n rhoi Cymru ar drywydd mwy addawol. Ychwanegodd:

Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd wedi cadarnhau imi yn ddiweddar ein bod ar y trywydd iawn a bod angen inni lynu wrth y llwybr hwn.  Yn unol â hyn, byddaf yn adnewyddu ein cynllun cyflawni strategol, Cymwys am Oes, gyda’r nod o gyhoeddi dogfen ddiwygiedig yn y gwanwyn. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud hyn er mwyn sicrhau bod popeth a wnawn yn y maes addysg yn cyd-fynd â’n hagenda ddiwygio, ac yn gefn i honno.

Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran Addysg

Mae i gynllun gwella addysg presennol Llywodraeth Cymru, sef Cymwys am Oes, bedwar amcan strategol:

  • Gweithlu proffesiynol rhagorol gydag addysgeg gryf wedi’i seilio ar ddealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio.
  • Cwricwlwm sy’n ddeniadol ac yn atyniadol i blant a phobl ifanc ac sy’n datblygu eu gallu i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau yn annibynnol.
  • Pobl ifanc yn ennill cymwysterau sy’n cael eu parchu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol ac sy’n gweithredu fel pasbort credadwy i’w haddysg a’u cyflogaeth yn y dyfodol.
  • Arweinwyr addysg ar bob lefel yn cydweithio mewn system hunan-wella, gan helpu a herio ei gilydd er mwyn codi safonau ym mhob ysgol.

Gellir gweld beth yw blaenoriaethau Kirsty Williams fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn llythyrau a gyfnewidiodd â’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ym mis Mehefin 2016. Nodir yn y llythyrau hyn fanylion y cytundeb a fu’n sail i benodiad Kirsty Williams i’r Cabinet, a’r cyfrifoldeb ar y cyd y mae’n ei dderbyn am benderfyniadau’r Cabinet. Y deg blaenoriaeth addysg yw:

  • Bod argymhellion Adolygiad Diamond yn cael eu hystyried, gyda’r nod o weithredu’n gynnar lle bo’n briodol, ond ni fydd unrhyw effaith negyddol ar y gyllideb addysg uwch os bydd unrhyw newidiadau;
  • Lleihau maint dosbarthiadau babanod;
  • Sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd drwy ehangu’r Grant Amddifadedd Disgyblion;
  • Cymell, cydnabod a hyrwyddo rhagoriaeth addysgu fel y gallwn ni godi safonau ledled y sector;
  • Blaenoriaethu mynediad ysgolion at fand eang cyflym iawn fel rhan o’r rhaglen genedlaethol;
  • Hyrwyddo a gwella llwybrau academaidd a galwedigaethol i a thrwy addysg bellach ac uwch;
  • Adolygu effaith y polisi cyfredol ar leoedd gwag mewn ysgolion, gyda phwyslais ar ysgolion gwledig, a rhoi mwy o ystyriaeth i dueddiadau twf y dyfodol;
  • Ymgynghori ymhellach ar argymhellion penodol Adolygiad Hazelkorn o oruchwylio a rheoleiddio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol;
  • Edrych ar y posibilrwydd o ehangu cylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys addysg bellach;
  • Blaenoriaethu cymorth ar gyfer gwell cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant.

Pan ofynnwyd, yn ystod y gwaith craffu ar y gyllideb, a oedd unrhyw flaenoriaethu pellach o fewn y deg blaenoriaeth hyn, atebodd Ysgrifennydd y Cabinet (PDF 565KB):

O ran blaenoriaethu, mae cyflawni mewn perthynas â’r holl ymrwymiadau yn parhau i fod yr un mor bwysig. Fodd bynnag, rwy’n disgwyl y bydd ein polisïau i gyd yn helpu i godi safonau a chau rhagor ar y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o’n cymunedau mwyaf difreintiedig a’r rheini o ardaloedd mwy llewyrchus.

Beth i’w ddisgwyl gan ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet

Bydd Aelodau’r Cynulliad a rhanddeiliaid, fel ei gilydd, yn awyddus i glywed dyfarniad y OECD ar ddiwygiadau addysg Llywodraeth Cymru a chamau nesaf Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad ac argymhellion y Sefydliad yn debygol o ddylanwadu ar y fersiwn nesaf o Cymwys am Oes ac ar flaenoriaethau gwella addysg a ddiweddarwyd Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag ar benderfyniadau ar sut i wario’r buddsoddiad ychwanegol i godi safonau ysgolion. Mae’r arwyddion, a roddwyd gan Kirsty Williams ers ymweliad y OECD, yn awgrymu rhagor o’r un peth, yn hytrach na newid sylweddol o ran cyfeiriad:

Pan wahoddais yr OECD y mis diwethaf i edrych ar sut yr oeddem yn gwneud yng Nghymru, roedd eu cyngor imi’n ddiamwys: daliwch ati; byddwch yn ddewr; rydych yn gwneud y pethau iawn.

Dywedodd Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Estyn, wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PDF 751KB) yn ddiweddar:

I think I don’t expect to see great u-turns or changes. I think it’s a question of building on the current direction. The general sense of direction, I think, is the right one. I think what we need to do now is to implement those initiatives successfully. So, I’d be expecting to see some detail about how some of these things, such as the curriculum reform, are going to be implemented successfully.

Bydd datganiad Ysgrifennydd y Cabinet a chwestiynau dilynol Aelodau’r Cynulliad yn cael eu darlledu ar Senedd TV, a bydd trawsgrifiad ar gael yng Nghofnod y Trafodion y Cynulliad.

Diwallu anghenion iechyd plant a phobl ifanc mewn ysgolion. A oes angen newid y gyfraith yng Nghymru?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae pryder nad yw hawliau plant a phobl ifanc Cymru sydd ag anghenion gofal iechyd yn cael eu diogelu o dan y gyfraith yn ystod y diwrnod ysgol i’r un graddau â phlant yn Lloegr, gan eu rhoi mewn perygl o anfantais academaidd ac o ran iechyd.

Rhoi’r cymorth angenrheidiol i blant i gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd ysgol

Llun: o flickr gan alishavargas. Dan drwydded Creative Commons

Llun: o flickr gan alishavargas. Dan drwydded Creative Commons

Bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion, ar ryw adeg, yn dioddef o gyflwr meddygol a all effeithio ar eu gallu i gymryd rhan yng ngweithgareddau eu hysgol. I lawer, cyflwr byrdymor fydd hwnnw; gorffen cwrs o feddyginiaeth efallai. Ond mae gan ddisgyblion eraill anhwylderau meddygol cronig hirdymor a all gyfyngu ar eu gallu i gael addysg oni chânt eu rheoli’n briodol. Bernir bod gan ddisgyblion o’r fath anghenion gofal iechyd. Gall y rhan fwyaf o blant ag anghenion gofal iechyd fynd i’r ysgol yn rheolaidd gan gymryd rhan yn y diwrnod ysgol arferol gyda rhywfaint o gymorth gan yr ysgol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu bod y gefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd yn yr ysgol yn anghyson ledled Cymru.

Ym mis Chwefror 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau drafft ‘Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd’ a oedd yn disodli’r canllawiau blaenorol a gyhoeddwyd yn 2010: ‘Mynediad i Addysg a Chymorth i Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Meddygol’. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dogfen ymgynghori yr un pryd â’r canllawiau drafft a gofynnodd am safbwyntiau rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2016. Caiff y fersiwn ddiwygiedig ei chyhoeddi ddechrau 2017, ond a fydd yn mynd yn ddigon pell i sicrhau bod plant â chyflyrau iechyd yn cael y gofal a’r cymorth sydd ei angen arnynt yn yr ysgol?

Mae canllawiau 2010 yn rhoi cyngor ac arweiniad ar ddiwallu anghenion addysgol plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd mewn lleoliad addysg. Mae’r canllawiau yn rhoi cyngor ar y ffordd y gall ysgolion lunio polisïau i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd. Er bod rhanddeiliaid wedi croesawu’r fersiwn ddiweddaraf o’r canllawiau, nid yw’n rhan o fframwaith deddfwriaethol ac mae llawer yn dadlau na fydd y canllawiau newydd yn ddigonol.

Mae dros 15 o sefydliadau iechyd a phlant (gan gynnwys Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a Diabetes UK) yn cydweithio i gasglu tystiolaeth am y problemau sy’n wynebu teuluoedd ac i ddylanwadu ar newidiadau deddfwriaethol yng Nghymru. Mae teimlad cryf ymhlith y rhanddeiliaid hyn a’u cefnogwyr fod angen newid y ddeddfwriaeth yng Nghymru a chyflwyno dyletswydd gofal statudol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd. Mae’r grŵp hwn yn credu na fydd diweddaru’r canllawiau’n mynd i’r afael â’r problemau cyffredin sy’n wynebu teuluoedd yng Nghymru yn rheolaidd, ac y bydd yr anghysondeb cynyddol mewn canlyniadau yn parhau ymhlith y plant yn y grŵp hwn sydd mor agored i niwed.

Mae’r fframweithiau presennol sy’n cynnwys canllawiau ar gyfer rheoli anghenion gofal iechyd plant mewn lleoliad ysgol yn wahanol yng Nghymru i’r hyn ydynt yn Lloegr. Yn Lloegr, daeth Deddf Plant a Theuluoedd 2014 i rym ar 1 Medi 2014. Mae adran 100 yn cynnwys dyletswydd statudol i gefnogi disgyblion sydd â chyflyrau meddygol. Yn ymarferol, golyga hyn fod yn rhaid i ysgolion wneud trefniadau ychwanegol i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd mewn ysgolion. Nid yw’r ddeddfwriaeth hon yn gymwys i ysgolion yng Nghymru.

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i ysgolion Lloegr fod â pholisi ar gyfer cyflyrau meddygol, yn ogystal â Chynllun Iechyd Unigol i bob plentyn sydd ag anghenion meddygol. Dylai’r polisi gydnabod y gall rhai cyflyrau iechyd fygwth bywyd ac y gallant hefyd effeithio ar y ffordd y mae plentyn yn dysgu. Rhaid i ysgolion adolygu ac archwilio’u polisi a’u Cynlluniau Iechyd Unigol yn rheolaidd i sicrhau bod y trefniadau ar gyfer plant ag anghenion gofal iechyd yn gweithio. Gyda’i gilydd, mae’r dogfennau’n esbonio sut y bydd yr ysgol yn gofalu am blant â chyflyrau meddygol, y gweithdrefnau ar gyfer sicrhau bod y gofal a’r hyfforddiant priodol yn cael eu darparu, a phwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod y polisi yn cael ei weithredu.

Mae pryderon yng Nghymru nad oes polisi gofal iechyd / cyflyrau meddygol gan nifer o ysgolion a bod llawer o blant ag anghenion gofal iechyd yn cael eu heithrio o’r diwrnod ysgol oherwydd hynny, a hynny am hyd at nifer o wythnosau ar y tro weithiau. Mae rhanddeiliaid am weld pob plentyn a pherson ifanc ag anghenion gofal iechyd yng Nghymru – o ran iechyd corfforol a meddyliol – yn cael eu cefnogi’n briodol yn yr ysgol fel y gallant chwarae rhan lawn ac egnïol ym mywyd yr ysgol. Mae hefyd yn bwysig bod rhieni yn teimlo bod eu plant yn ddiogel.

Bu rhywfaint o ddadlau ynghylch a ddylai Llywodraeth Cymru ehangu’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i gynnwys anghenion gofal iechyd plant a phobl ifanc yn yr ysgol, neu mewn lleoliad addysgol arall. Fodd bynnag, nid yw’r diffiniad a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), y mae’r Bil yn ei gadw ar gyfer y term newydd, Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn cynnwys dysgwyr ag anghenion gofal iechyd. Mae gan 4% o blant yng Nghymru anghenion meddygol ac mae gan 22% o blant anghenion dysgu ychwanegol.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Cyflwynwyd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, i’r Cynulliad gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ar 12 Rhagfyr 2016. Yn ei ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar y Bil ar 13 Rhagfyr 2016, esboniodd y Gweinidog fod y fframwaith deddfwriaethol presennol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn seiliedig ar fodel a gyflwynwyd dros 30 mlynedd yn ôl. Esboniodd y bydd y Bil yn creu un system ddeddfwriaethol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol o’u genedigaeth hyd nes eu bod yn 25 oed.

Yn ystod y ddadl, gofynnwyd yn benodol i’r Gweinidog am ddysgwyr ag anghenion gofal iechyd. Dywedodd Darren Millar AC efallai nad oes gan rai plant a phobl ifanc anghenion dysgu ychwanegol, ond gall fod ganddynt anghenion gofal iechyd sydd angen rhai ymyriadau yn y dosbarth neu eu man dysgu er mwyn sicrhau y gallant barhau i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Mewn ymateb i bryderon a amlygwyd gan Aelodau’r Cynulliad fod “y canllawiau yn rhy aml yn cael eu gweithredu mewn ffordd anghyson, ac weithiau’n cael eu hanwybyddu” (Cofnod y Trafodion), atebodd y Gweinidog fel a ganlyn:

Rydym yn credu bod gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu eisoes gyfrifoldebau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal iechyd. Rydym yn darparu ac yn adolygu canllawiau penodol ar y materion hyn, a gyhoeddir yn y flwyddyn newydd. Os yw Aelodau, ar ôl darllen drwy’r canllawiau hynny, yn credu bod angen eu gwella neu eu cryfhau, cawn gyfle i wneud hynny yn y flwyddyn newydd.

Aeth rhagddo i ddweud:

Dewch imi ddweud hyn: nid yw’r Bil yn sôn am y materion hynny, ond mae ein meddyliau’n agored i sgyrsiau am y materion hynny. Os na fydd y canllawiau a gyhoeddir yn darparu’r math o sicrwydd yr hoffai pobl ei weld, fe wnawn ni ystyried hynny yng Nghyfnod 2.

Mae’n amlwg bod rhanddeiliaid fel Diabetes UK a’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn pryderu nad yw plant a phobl ifanc, na’u rhieni, yn teimlo’n hyderus ar hyn o bryd fod ysgolion yn gwneud trefniadau i ddarparu cymorth effeithiol ar gyfer anghenion gofal iechyd y dysgwyr hyn. Maent yn dweud na ddylai asthma, epilepsi, diabetes nac amryw o gyflyrau meddygol eraill atal plant a phobl ifanc rhag manteisio ar addysg lawn. Mae’r sefydliadau hyn am weld ysgolion yn gwneud rhagor i ddiogelu plant a chanddynt gyflyrau meddygol a allai beryglu eu bywydau ac maent yn galw am i’r grŵp hwn gael yr un diogelwch â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig cyn bo hir, ac mae o’r farn y bydd y rhain yn cryfhau’r trefniadau presennol ac yn lleddfu pryderon o’r fath.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.