Gofal iechyd trawsffiniol – cleifion o dramor

16 Mawrth 2017

Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi yn ddiweddar y bydd yn ofynnol i ysbytai’r GIG yn Lloegr i godi tâl ar gleifion o dramor o flaen llaw ar gyfer gofal wedi’i gynllunio, nad yw’n ofal brys, oni bai eu bod yn gymwys i gael triniaeth am ddim.

Sut mae hyn yn berthnasol i’r gweinyddiaethau datganoledig? Beth yw’r trefniadau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswylwyr y DU i gael mynediad i ofal iechyd y GIG, ac i gleifion Cymru (a’r DU) i gael triniaeth dramor? A yw hyn yn debygol o newid ar ôl i’r DU adael yr UE?

Mynediad i wasanaethau’r GIG yn y DU – preswylio fel arfer

Mae hawl i ofal iechyd y GIG am ddim yn seiliedig ar fod yn ‘preswylio fel arfer’ yn y DU. Nid yw preswylio fel arfer yn dibynnu ar genedligrwydd, talu trethi/yswiriant gwladol yn y DU, meddu ar rif GIG neu gael eich cofrestru gyda meddyg teulu, neu fod yn berchen ar eiddo yn y DU. Mae wedi dod i gael ei dderbyn i olygu bod unigolyn yn byw yma yn gyfreithlon, yn wirfoddol, ac at ddibenion sefydlog. O dan y Ddeddf Mewnfudo 2014, rhaid i berson gael caniatâd amhenodol i aros yn y DU, er mwyn cael ei ystyried fel rhywun sy’n preswylio yma fel arfer.

Ledled y DU, mae rhai mathau o ofal iechyd, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu a thriniaeth mewn adran damweiniau ac achosion brys, yn rhad ac am ddim i bob claf ar hyn o bryd p’un a ydynt yn preswylio yma fel arfer ai peidio. I bobl nad ydynt yn breswylwyr y DU, mae’r rhan fwyaf o driniaeth ysbyty yn destun tâl, er bod rhai grwpiau o bobl yn cael eu heithrio, er enghraifft ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant sy’n derbyn gofal. Yn ogystal, efallai y bydd cleifion sydd â hawliau i ofal iechyd o dan ddeddfwriaeth yr UE neu gytundebau gofal iechyd cyfatebol eraill hefyd wedi’u heithrio rhag taliadau. Mae mwy o fanylion am y trefniadau hyn – sydd hefyd yn berthnasol i breswylwyr y DU sy’n cael triniaeth dramor – yn cael eu darparu isod.

O fis Ebrill 2015, efallai bydd gwladolion y tu allan i’r AEE sy’n dod i’r DU am fwy na chwe mis yn gorfod talu gordal iechyd mewnfudo fel rhan o’u cais am fisa. Mae hyn yn rhoi’r hawl iddynt gael triniaeth GIG ar yr un sail â phreswylwyr parhaol y DU.

Rheoliadau codi tâl

Mae’n ofynnol i sefydliadau’r GIG ledled y DU drwy reoliadau i sefydlu a yw rhywun yn gorfod talu am wasanaethau GIG ac i godi tâl yn unol â hynny.

Mae Adran Iechyd y DU wedi dweud bod y gofyniad newydd i ysbytai godi tâl ar gleifion o dramor ymlaen llaw yn dod i rym ym mis Ebrill 2017. Mae hyn yn berthnasol i Loegr yn unig – mae rheoliadau ar wahân yn llywodraethu’r trefniadau codi tâl yn y gweinyddiaethau datganoledig. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r rheoliadau a chanllawiau codi tâl presennol, a disgwylir y bydd yn cyhoeddi fersiynau wedi’u diweddaru ar ffurf drafft ar gyfer ymgynghori yng ngwanwyn 2017.

Preswylwyr gwledydd yr AEE (gan gynnwys preswylwyr y DU)

Triniaeth heb ei gynllunio

Gall preswylwyr gwledydd Ardal Economaidd Ewrop (AEE) a’r Swistir wneud cais am Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC), a fydd yn eu galluogi i gael mynediad at ofal iechyd a ddarperir gan y wladwriaeth yn ystod arhosiad dros dro mewn gwlad arall yr AEE / Swistir. Mae’r EHIC yn cwmpasu unrhyw driniaeth feddygol angenrheidiol na ellir ei ohirio hyd nes y byddwch wedi dychwelyd adref. Mae hyn yn cynnwys triniaeth ar gyfer cyflyrau meddygol cronig neu sydd eisoes yn bodoli a hefyd gofal mamolaeth arferol (mae hyn yn cynnwys genedigaeth heb ei gynllunio, ond ni fyddai’n darparu yswiriant ar gyfer rhywun sy’n bwriadu rhoi genedigaeth dramor).

Dylid darparu triniaeth ar yr un sail ag y byddai’n cael ei darparu i un o drigolion y wlad honno. Mewn llawer o achosion bydd hyn yn rhad ac am ddim, fodd bynnag, mewn rhai gwledydd mae disgwyl i gleifion gyfrannu at gost eu triniaeth a ddarperir gan y wladwriaeth, a bydd hyn hefyd yn berthnasol i ddeiliaid EHIC sy’n derbyn triniaeth yn y gwledydd hynny.

Mae’n pwysleisio nad yw’r EHIC yn ddewis amgen i yswiriant teithio – ni fydd, er enghraifft, yn talu dros rywun mewn achos o achub a dychwelyd adref yn dilyn damwain.

Triniaeth wedi’i chynllunio

Mae dau lwybr posibl lle y gall trigolion yr AEE deithio i wlad arall yn yr AEE ar gyfer gofal iechyd wedi’i gynllunio:

  • llwybr Cyfarwyddeb yr UE;
  • y cynllun S2.

O dan Gyfarwyddeb yr UE ar hawliau cleifion mewn gofal iechyd trawsffiniol , gall cleifion brynu gofal iechyd y wladwriaeth neu breifat mewn gwlad arall yr AEE a cheisio ad-daliad gan eu gwlad gartref (hyd at gyfanswm cost y driniaeth honno gartref). Nid yw llwybr Cyfarwyddeb yr UE yn berthnasol i’r Swistir.

Nid oes o reidrwydd angen awdurdodiad ymlaen llaw, er y bydd hwn yn ofyniad ar gyfer rhai mathau o ofal iechyd, yn gyffredinol gofal i gleifion mewnol a thriniaeth hynod arbenigol, cost uchel. O dan y Gyfarwyddeb, nid yw cleifion yn gallu cael ad-daliad am driniaeth na fyddai ganddynt hawl i’w chael gartref.

Mae gwybodaeth bellach am drefniadau o dan Gyfarwyddeb yr UE i’w gweld yng nghanllawiau ar gyfer y GIG  Llywodraeth Cymru ar ofal iechyd trawsffiniol a symudedd cleifion.

O dan y llwybr S2, gall preswylwyr yr AEE a’r Swistir geisio triniaeth a gynlluniwyd mewn gwledydd eraill yr AEE/y Swistir, ond mae’n rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan eu Haelod Wladwriaeth eu hunain, sy’n talu’r gost. Mae’r llwybr S2 ond yn berthnasol i driniaeth a ddarparwyd gan y wladwriaeth (nid triniaeth breifat).

Mae’r ffurflen S2 yn gweithredu fel math o warant talu – yn y mwyafrif o achosion, nid yw’n ofynnol i’r claf dalu unrhyw beth ei hun (ac eithrio unrhyw daliadau statudol perthnasol a fyddai hefyd yn berthnasol i’r rhai sy’n preswylio yn y wlad fel arfer, er enghraifft, taliadau presgripsiynau a deintyddol yn y DU).

Pensiynwyr sy’n byw dramor

O dan y cynllun S1, gall pensiynwyr sy’n setlo mewn gwlad arall yn yr AEE neu’r Swistir gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd yn y wlad honno ar yr un telerau â phreswylwyr arferol. Mae’r ffurflen S1 yn cael ei chyhoeddi gan y wlad sy’n talu eich pensiwn, ac mae’n rhaid ei chofrestru yn y wlad yr ydych yn byw ynddi nawr.

Mae’r cynllun S1 yn cael ei ddefnyddio yn bennaf i bensiynwyr, ond efallai bydd hefyd yn berthnasol i grwpiau eraill megis gweithwyr sy’n cael eu penodi a gweithwyr trawsffiniol.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithredu ar ran y DU gyfan i adennill costau gan Aelod-wladwriaethau eraill yr AEE o dan y cynlluniau S1, S2 a EHIC.

Effaith Brexit

Mae’r DU yn ‘allforiwr’ net o dan drefniadau gofal iechyd cyfatebol yr UE, gan dalu mwy i wledydd eraill yr AEE nag y mae’n ei dderbyn. Mae hyn yn bennaf oherwydd y nifer uwch o bensiynwyr y DU sy’n byw dramor. Ym mis Chwefror 2017 dywedodd Adran Iechyd y DU wrth Bwyllgor Iechyd Tŷ’r Cyffredin:

on an annual basis, we pay out roughly £650 million a year to cover the costs of UK‑insured pensioners in other EEA countries and UK visitors to those countries.

(…)

Of that, about £500 million is on pensioners, so that is UK‑insured pensioners, of which there are about 190,000 in other EEA countries. I think the figures there are 70,000 in Spain, 44,000 in Ireland, 43,000 in France and about 12,000 in Cyprus. Those are the main countries.

Mae’r trefniadau uchod yn parhau yn eu lle tra bod y DU yn dal i fod yn aelod o’r UE, ond nid yw’n glir eto sut y gallai pethau newid yn dilyn y DU yn gadael yr UE. Mewn tystiolaeth i Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad, dywedodd Cydffederasiwn GIG Cymru:

If the UK were to leave the EU single market, these systems would in principle no longer apply in the future, unless bilateral agreements were negotiated. Consideration should be given by negotiators to possible implications for patients and how to ensure that a fair alternative system is put in place, either with the EU as a whole, or with those EU countries, such as Spain, which have high numbers of UK nationals living there.

Gwledydd y tu allan i’r AEE

Mae gan y DU gytundebau gofal iechyd dwyochrog gyda nifer o wledydd unigol y tu allan i’r AEE. Gall y cytundebau hyn ddarparu ar gyfer triniaeth sydd ei hangen ar unwaith ar gyfer cyflyrau sy’n codi, neu gyflyrau sydd eisoes yn bodoli sy’n mynd yn ddifrifol waeth, yn ystod ymweliad dros dro. Mae lefel y gofal y gellir ei ddarparu yn rhad ac am ddim yn amrywio. Fel gyda’r EHIC, argymhellir bod y rhai sy’n teithio mewn gwledydd eraill yn trefnu yswiriant teithio digonol i dalu am eu harhosiad dramor.

Efallai y bydd rhai cytundebau dwyochrog hefyd yn darparu ar gyfer nifer cyfyngedig o gyfeiriadau penodol ar gyfer trin cyflyrau sydd eisoes yn bodoli (byddai hyn fel arfer yn gymwys dim ond lle nad oes gan y wlad sy’n cyfeirio gyfleusterau digonol i ddarparu’r driniaeth sydd ei hangen).

I gael rhagor o wybodaeth

  • Gall Pwyntiau Cyswllt Cenedlaethol ym mhob gwlad AEE gynghori cleifion am eu hawliau o dan drefniadau’r UE.
  • Gellir cael gwybodaeth am gael trinaieth wedi’i gynllunio neu heb ei gynllunio mewn gwlad Ewropeaidd arall ar wefan Your Europe yr UE.
  • Mae gwybodaeth bellach a chyngor i bobl sy’n ymweld â gwlad dramor neu sy’n symud dramor, ac ar gyfer y rhai sy’n ceisio triniaeth yng Nghymru, yn cael ei darparu gan Galw Iechyd Cymru .
  • Gweler ein papur briffio o Fehefin 2016 i gael gwybodaeth am y trefniadau gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Safbwyntiau Cymru a San Steffan

28 Chwefror 2017

Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dyma lun o ystafell pwyllgor.

Ar 6 a 13 Chwefror 2017, rhoddodd Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru a’r Gwir Anrhydeddus David Jones AS, y Gweinidog Gwladol dros Adael yr UE dystiolaeth i Bwyllgor Materion Allanol y Cynulliad (@SeneddMADY) ar bapurau gwyn priodol eu llywodraethau a’u blaenoriaethau ar gyfer y trafodaethau ar y DU yn gadael yr UE.

Beth oedd safbwynt Cymru?

Dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth y Pwyllgor mai ei flaenoriaeth ar gyfer y trafodaethau oedd sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn gallu allforio i’r farchnad Ewropeaidd yn yr un modd ag y maent yn ei wneud nawr. Amlinellodd y Prif Weinidog ei farn y dylai’r nod hwn gael ei ddilyn, hyd yn oed os yw’n golygu cyfaddawdu ar fewnfudo, ond roedd hefyd yn tynnu sylw at gynnig Llywodraeth Cymru i gysylltu’r rhyddid i symud pobl â chyflogaeth.

O ran y ffin rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon, dywedodd y Prif Weinidog na fyddai’n dymuno gweld bargen ar y mater a fyddai’n ei gwneud yn haws i gwmnïau symud nwyddau drwy Ogledd Iwerddon na thrwy borthladdoedd Cymru.

Mewn perthynas â chyllid yn y dyfodol, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn disgwyl i Gymru gael iawndal am golli cyllid Ewropeaidd. Amlinellodd ei farn y dylai hyn fod ar ffurf cynnydd yn y grant bloc ac na ddylai’r cyllid hwn fod yn amodol ar fformiwla Barnett.

Dywedodd y Prif Weinidog fod ymgysylltiad Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru wedi bod yn dda ac roedd yn croesawu cyfarfodydd chwarterol Cydbwyllgor y Gweinidogion. Fodd bynnag, pwysleisiodd y Prif Weinidog ei fod yn disgwyl nid yn unig i lais Llywodraeth Cymru gael ei glywed, ond hefyd i chwarae rôl weithredol yn y trafodaethau gyda’r UE. Mynegodd y Prif Weinidog ei farn nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael barn gydlynol gan Weinidogion y DU ar sefyllfa negodi Llywodraeth y DU hyd yma.

Dadleuodd y Prif Weinidog nad yw’r strwythurau presennol ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU yn addas i’r diben. Galwodd am strwythurau newydd ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi a datrys anghydfodau rhwng pedair llywodraeth y DU. Roedd yn glir yn ei farn mai’r sefyllfa ddiofyn o ran pwerau ar ôl i’r DU adael yr UE fyddai i’r holl bwerau a gaiff eu harfer ar hyn o bryd gan yr UE mewn meysydd polisi datganoledig megis amaethyddiaeth ddod yn ôl i Gymru. Dywedodd nad dyma’r farn gyfredol yn Whitehall lle dywedodd fod cred y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu lle y bydd y pwerau sydd gan yr UE ar hyn o bryd yn mynd yn y DU.

Beth oedd safbwynt San Steffan?

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus David Jones AS, Gweinidog Gwladol dros Adael yr UE wrth y Pwyllgor Materion Allanol nad yw Llywodraeth y DU wedi penderfynu eto pryd y byddai’n sbarduno Erthygl 50. Dywedodd nad oedd Llywodraeth y DU wedi penderfynu eto a fyddai’n anfon llythyr syml yn hysbysu neu a fyddai’n anfon llythyr mwy manwl yn amlinellu rhai o’i hamcanion negodi.

Cynigiodd y Gweinidog ei sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai sefyllfa negodi Llywodraeth y DU yn adlewyrchu barn y deddfwrfeydd a’r llywodraethau datganoledig yn llawn. Dywedodd y byddai angen i Lywodraeth y DU bwyso a mesur blaenoriaethau a phryderon sy’n gwrthdaro o fewn y DU i ddod o hyd i ateb sydd o’r budd gorau i’r DU gyfan.

Dywedodd y Gweinidog ei fod ‘am fod yn gwbl glir y byddwn ni (yn y DU) yn gadael y farchnad sengl’, ond ei fod yn credu y byddai pob cymhelliad i’r UE gytuno ar gytundeb masnach rydd gynhwysfawr gyda’r DU. Amlinellodd fod Llywodraeth y DU yn cynnal dadansoddiad o dros 50 o sectorau yn economi y DU i ystyried y goblygiadau a’r cyfleoedd iddynt ar ôl i’r DU adael yr UE.

Dywedodd y Gweinidog fod y Swyddfa Gartref wrthi’n gweithio ar bolisi mewn perthynas â symud yn rhydd rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon ar ôl i’r DU adael yr UE.

O ran cysylltiadau rhynglywodraethol, dywedodd y Gweinidog nad oedd Llywodraeth y DU wrthi’n edrych ar ddatblygu strwythurau cyfansoddiadol newydd i ddisodli Cydbwyllgor y Gweinidogion er y gall ystyried hyn ‘yng nghyflawnder amser’. Mewn perthynas â dychwelyd pwerau ar ôl i’r DU adael yr UE, dywedodd y Gweinidog fel a ganlyn: (PDF 432KB):

It will be necessary for the United Kingdom to make a decision as to where various competences lie. We have been absolutely clear in indicating that any devolved competences that are currently exercised at devolved level will not be, so to speak, clawed back. It will be necessary to decide where powers best lie. It may be that there will be scope for further devolution, but, it may well be there will be an advantage, and in fact an imperative to look at UK-wide structures to replace the competences that previously resided at Brussels level.

Roedd y ddwy sesiwn dystiolaeth yn rhan o waith y Pwyllgor Materion Allanol ar y goblygiadau i Gymru o ran y DU yn gadael yr UE. Darllenwch fwy am waith y Pwyllgor ar ei dudalen gwe neu ar Twitter @SeneddMADY. Gallwch wylio’r sesiynau tystiolaeth yn llawn ar Senedd.tv

Y Comisiwn Ewropeaidd yn gwrthod cynigion ar gyfer y broses awdurdodi ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig.

22 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun o adeilad Senedd Ewrop

Llun o Flickr gan DiamondGeezer. Dan drwydded Creative Commons.

Mae cynigion y Comisiwn Ewropeaidd i ganiatáu i Aelod-wladwriaethau wahardd defnyddio bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (GM) yn eu tiriogaethau eu hunain, neu gyfyngu ar eu defnydd ynddynt, yn wynebu taith drafferthus drwy’r Sefydliadau Ewropeaidd. Mae’r blog hwn yn dilyn erthygl flaenorol ar y cynigion ynghylch bwyd a bwyd anifeiliaid GM ac ynddo mae’r wybodaeth ddiweddaraf am statws cyfredol y goflen. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynigion yn Y Diweddaraf am Bolisi’r UE (PDF, 275KB). Mae’r Sefydliadau Ewropeaidd yn ystyried y cynigion o dan y weithdrefn ddeddfwriaethol arferol. Yn sgil pryderon cyffredin, mae risg y caiff y cynigion eu tynnu yn ôl. Cyngor yr Undeb Ewropeaidd Mewn dadl ar 13 Gorffennaf 2015, lleisiodd cynrychiolwyr Aelod-wladwriaethau o’r Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd bryderon cryf (PDF, 352KB) ynghylch ymarferoldeb y cynigion. Roedd pryder nad oedd gan y cynigion eglurder cyfreithiol ac na fyddent yn caniatáu i Aelod-wladwriaethau ddefnyddio mesurau i gyfyngu neu wahardd ar sail gyfreithiol gadarn. Awgrymwyd y byddai’r cynnig yn codi problemau o ran cysondeb â’r farchnad fewnol a rheolau Sefydliad Masnach y Byd. Dadleuodd Awstria, Denmarc a Gwlad Belg y dylai fod cysonder drwy’r UE parthed GM. Roedd y rhan fwyaf o’r Aelod-wladwriaethau yn feirniadol o’r ffaith na chafwyd asesiad effaith i ategu’r cynnig; galwyd ar i’r Comisiwn gynnal asesiad effaith fel y byddai modd iddynt drafod y cynnig yn gall. Senedd Ewrop Argymhellodd Aelodau Seneddol Ewropeaidd o’r Pwyllgor Amgylchedd y dylid gwrthod y cynigion mewn dadl ar 16 Gorffennaf 2015. Mae Giovanni La Via, cadeirydd y Pwyllgor a’r Rapporteur ar y goflen, wedi drafftio adroddiad yn galw am i’r cynigion gael eu gwrthod yn llwyr. Nododd y Rapporteur fod gan bob grŵp gwleidyddol amheuon mawr ynghylch y cynigion. Cefnogodd Rapporteuriaid Cysgodol yr adroddiad drafft ar y sail na fyddai’r cynnig yn rhoi digon o sicrwydd cyfreithiol i Aelod-wladwriaethau sydd am wahardd bwyd a bwyd anifeiliaid GM, y byddai’n dryllio’r farchnad fewnol, ac y byddai’n anghydweddu â rheolau’r WTO. Gofynnodd ASE Eickhout (y Gwyrddion/EFA, yr Iseldiroedd) am i’r Adroddiad Drafft gynnwys adran a fyddai’n gofyn i’r Comisiwn gyflwyno cynnig newydd ar y mater, a hynny gyda chefnogaeth mwyafrif o’r ASEau. Serch hynny, mae cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud na fydd dim ‘plan B’ ac y byddai gwrthod mewn unrhyw ffordd yn golygu y byddai’r sefyllfa bresennol yn parhau, gyda’r Comisiwn yn aml yn gorfod penderfynu yn derfynol ynghylch awdurdodi. Y camau nesaf yn yr UE Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau i Adroddiad Drafft y Pwyllgor Amgylchedd yw 16 Medi 2015. Trefnwyd y bydd ASEau ar y Pwyllgor Amgylchedd yn pleidleisio ar yr Adroddiad Drafft ar 12/13 Hydref 2015. Bydd pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Tachwedd 2015. Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol Mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi bod yn dilyn cynigion y Comisiwn ac mae wedi ysgrifennu at Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd, i gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ac effeithiau posibl y cynigion ar Gymru. Bydd y Pwyllgor yn trafod y llythyr yn y tymor newydd. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Murco: A all gweithwyr yr effeithir arnynt gael mwy o help gan yr UE?

21 Tachwedd 2014

Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun Flikr gan Sam Whitfield. Dan drwydded Creative Commons

Llun Flikr gan Sam Whitfield. Dan drwydded Creative Commons

Ar 5 Tachwedd, rhoddwyd gwybod bod ymdrechion i werthu purfa olew Murco yn Aberdaugleddau fel busnes gweithredol wedi methu. Mae’n debygol y bydd y burfa yn troi’n gyfleuster storio a dosbarthu, gyda disgwyl y bydd tua 340 o 400 o swyddi’n mynd.

Galwyd ar Lywodraeth y DU i wneud cais i’r UE am arian gan y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Addasu i Effeithiau Globaleiddio (yr EGF) i helpu gweithwyr yr effeithir arnynt, er nad yw eto’n eglur a yw Llywodraeth y DU – sef yr Aelod-wladwriaeth berthnasol a fyddai’n gorfod gwneud y cais – wedi gwneud hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r newyddion am golli swyddi drwy gyhoeddi (mewn Datganiadau’r Cabinet ar 5 Tachwedda 12 Tachwedd) becyn o fesurau gyda’r diben o helpu cyn-weithwyr yn uniongyrchol ac ysgogi’r economi leol. Dyma rai o’r prif bwyntiau yn ymateb Llywodraeth Cymru:

  • Parhau â gwaith tasglu Murco – fe’i sefydlwyd yn wreiddiol ym mis Ebrill i geisio sicrhau dyfodol tymor hir i’r safle – o dan gadeiryddiaeth newydd Roger Evans MBE;
  • Defnyddio cynllun ReAct Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithwyr a fydd yn colli eu swyddi, ac ystyried defnyddio cynllun ProAct Llywodraeth Cymru;
  • Gweithio gydag arweinwyr busnes i archwilio cyfleoedd i baru cyflogwyr â darpar weithwyr. Rhan o’r gwaith hwn fydd ‘Ffair Swyddi’ ar 10 Rhagfyr yng Nghanolfan Arloesedd y Bont;
  • Sicrhau bod cyllid pellach ar gael i fusnesau yn sir Benfro drwy gynllun Grant Bach Buddsoddi Cyfalaf Mentrau Bach a Chanolig Sir Benfro a chynnal rownd arbennig o Gronfa Twf Economaidd Cymru.

Nododd y Gweinidog hefyd y byddai’n edrych ar y defnydd o arian Ewropeaidd er mwyn cyrraedd y nodau a gweithio gyda Llywodraeth y DU i ystyried defnyddio’r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Addasu i Effeithiau Globaleiddio. Mae Jill Evans ASE, ar wahân, wedi galw ar Lywodraeth y DU i wneud cais i’r gronfa honno, ac mae wedi ysgrifennu at Edwina Hart AC a Stephen Crabb AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar y mater hwn.

Mae’r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Addasu i Effeithiau Globaleiddio yn un o gronfeydd yr UE ac fe’i lluniwyd i roi cymorth i bobl sy’n colli eu swyddi o ganlyniad i newidiadau strwythurol mawr ym mhatrymau masnach y byd oherwydd globaleiddio. Gellir trefnu bod cyllid ar gael pan fydd cwmni mawr yn cau neu pan symudir gwaith cynhyrchu y tu allan i’r UE, neu pan fydd swyddi’n cael eu colli o ganlyniad i’r argyfwng economaidd ac ariannol byd-eang.

Mae manylion am feini prawf cymhwysedd ceisiadau i’r gronfa ar gael yn Rheoliad yr EGF ar gyfer 2014-2020. Mae’r Rheoliad yn nodi natur y diswyddiadau at ddibenion dyfarnu grantiau fel hyn:

a) at least 500 workers being made redundant or self-employed persons’ activity ceasing, over a reference period of four months, in an enterprise in a Member State, including workers made redundant and self-employed persons’ activity ceasing in its suppliers or downstream producers;

b) at least 500 workers being made redundant or self-employed persons’ activity ceasing, over a reference period of nine months, particularly in SMEs, all operating in the same economic sector defined at NACE Revision 2 division level and located in one region or two contiguous regions defined at NUTS 2 level, or in more than two contiguous regions defined at NUTS 2 level provided that there are more than 500 workers or self-employed persons affected in two of the regions combined.

2. In small labour markets or in exceptional circumstances, in particular with regard to collective applications involving SMEs, where duly substantiated by the applicant Member State, an application for a financial contribution under this Article may be considered admissible even if the criteria laid down in points (a) or (b) of paragraph 1 are not entirely met, when the redundancies have a serious impact on employment and the local, regional or national economy. Rhaid i’r Aelod-wladwriaeth sy’n gwneud cais nodi’r meini prawf ar gyfer ymyrryd a nodir ym mhwyntiau (a) a (b) ym mharagraff 1 nad ydynt yn cael eu diwallu yn gyfan gwbl. Ni chaiff crynswth y cyfraniadau mewn amgylchiadau eithriadol fod yn fwy na 15% o uchafswm blynyddol yr EGF.

Er i adroddiadau cynnar yn y wasg nodi mai tua 360 o bobl a fyddai’n colli gwaith o safle Murco, nid yw’n glir a amcangyfrifwyd nifer y swyddi a gollir yn yr ardal o blith ei gyflenwyr neu gynhyrchwyr ymhellach i lawr y gadwyn cyflenwi. O gynnwys y rhain, mae’n bosibl y gallai cyfanswm y swyddi a gollir fod ymhell dros y trothwy o “500 o weithwyr” a grybwyllir yng nghymalau a) a b) uchod.

Ar ben hynny, mae paragraff 2 yn nodi bod rhywfaint o hyblygrwydd o ran sut y mae’r Comisiwn yn gweithredu’r trothwy hwn, gan ddibynnu ar yr effaith debygol y byddai colli’r swyddi hyn yn ei chael yn economaidd.

I’r perwyl hwn, mae’n werth nodi bod gwefan y Comisiwn Ewropeaidd yn cynnwys manylion am grantiau sydd wedi cael eu cynnig o’r blaen o dan yr EGF. Yn un ohonynt, cynigiodd y Comisiwn ddyfarnu €1.5 miliwn i gefnogi swyddi pan gaeodd cwmni gemwaith yn Iwerddon, gyda 171 o swyddi yn cael eu colli o’r herwydd.

Mae’n ymddangos bod posibilrwydd o leiaf y gallai colli swyddi yn Murco arwain at gais llwyddiannus i’r EGF, pe bai cais o’r fath yn cael ei wneud. Fodd bynnag, mae’r cyfrifoldeb yn hyn o beth yn nwylo Llywodraeth y DU, gan mai’r Aelod-wladwriaeth berthnasol sy’n gorfod gwneud ceisiadau.

Nid yw’n ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi gwneud cais i’r Gronfa o’r blaen. Erbyn diwedd 2013, wyth Aelod-wladwriaeth oedd heb wneud cais am gymorth gan yr EGF: Estonia, Cyprus, Latfia, Lwcsembwrg, Hwngari, Slofacia, a Croatia (nad oedd wedi ymuno â’r UE tan 1 Gorffennaf 2013) a’r Deyrnas Unedig.

Mae Jill Evans ASE wedi awgrymu bod y DU yn gyndyn o ddefnyddio’r Gronfa gan y gallai gwneud hynny arwain at ostyngiad yn ad-daliad yr UE i’r DU – sef y swm o arian y mae’r DU yn ei gael yn ôl bob blwyddyn o’i chyfraniad net at gyllid yr UE – ac nid yw Llywodraeth y DU yn barod i fentro yn hynny o beth.

Mae’n amlwg bod awydd gan rai yng Nghymru weld y rhai yr effeithir arnynt gan y newid defnydd ym mhurfa Murco yn cael cymorth gan yr EGF. Yn ddiweddar, dywedodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wrth y Cyfarfod Llawn, “rwy’n credu ein bod yn mynd i orfod pwyso’n galed i wneud yn siŵr bod y cais yn cael ei gyflwyno”. O ran canlyniad y cais hwn, neu a wneir cais o gwbl, amser a ddengys.