Y Goblygiadau i Gymru yn sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi ei adroddiad cyntaf

Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 30 Ionawr 2017 yn wreiddiol. Mae’n cael ei phostio eto cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mawrth 2017.

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad (@SeneddMADY) wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf ar y goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr UE. Adroddiad mewn dwy ran ydyw.

Parhau i Ddarllen

Datganoli pwerau ym maes ynni a’r amgylchedd: a yw’r setliad newydd yn un parhaol yn wyneb Brexit?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r setliad datganoli yn newid o dan Ddeddf Cymru 2017 a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 31 Ionawr 2017. Mae’r erthygl hon yn trafod beth y mae hyn yn ei olygu i bwerau ym maes ynni a’r amgylchedd yng Nghymru, ac mae hefyd yn tynnu sylw at y gwahanol agweddau ar ddatganoli pwerau ar ôl gadael yr UE.

Parhau i Ddarllen

Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Safbwyntiau Cymru a San Steffan

28 Chwefror 2017

Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dyma lun o ystafell pwyllgor.

Ar 6 a 13 Chwefror 2017, rhoddodd Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru a’r Gwir Anrhydeddus David Jones AS, y Gweinidog Gwladol dros Adael yr UE dystiolaeth i Bwyllgor Materion Allanol y Cynulliad (@SeneddMADY) ar bapurau gwyn priodol eu llywodraethau a’u blaenoriaethau ar gyfer y trafodaethau ar y DU yn gadael yr UE.

Beth oedd safbwynt Cymru?

Dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth y Pwyllgor mai ei flaenoriaeth ar gyfer y trafodaethau oedd sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn gallu allforio i’r farchnad Ewropeaidd yn yr un modd ag y maent yn ei wneud nawr. Amlinellodd y Prif Weinidog ei farn y dylai’r nod hwn gael ei ddilyn, hyd yn oed os yw’n golygu cyfaddawdu ar fewnfudo, ond roedd hefyd yn tynnu sylw at gynnig Llywodraeth Cymru i gysylltu’r rhyddid i symud pobl â chyflogaeth.

O ran y ffin rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon, dywedodd y Prif Weinidog na fyddai’n dymuno gweld bargen ar y mater a fyddai’n ei gwneud yn haws i gwmnïau symud nwyddau drwy Ogledd Iwerddon na thrwy borthladdoedd Cymru.

Mewn perthynas â chyllid yn y dyfodol, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn disgwyl i Gymru gael iawndal am golli cyllid Ewropeaidd. Amlinellodd ei farn y dylai hyn fod ar ffurf cynnydd yn y grant bloc ac na ddylai’r cyllid hwn fod yn amodol ar fformiwla Barnett.

Dywedodd y Prif Weinidog fod ymgysylltiad Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru wedi bod yn dda ac roedd yn croesawu cyfarfodydd chwarterol Cydbwyllgor y Gweinidogion. Fodd bynnag, pwysleisiodd y Prif Weinidog ei fod yn disgwyl nid yn unig i lais Llywodraeth Cymru gael ei glywed, ond hefyd i chwarae rôl weithredol yn y trafodaethau gyda’r UE. Mynegodd y Prif Weinidog ei farn nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael barn gydlynol gan Weinidogion y DU ar sefyllfa negodi Llywodraeth y DU hyd yma.

Dadleuodd y Prif Weinidog nad yw’r strwythurau presennol ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU yn addas i’r diben. Galwodd am strwythurau newydd ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi a datrys anghydfodau rhwng pedair llywodraeth y DU. Roedd yn glir yn ei farn mai’r sefyllfa ddiofyn o ran pwerau ar ôl i’r DU adael yr UE fyddai i’r holl bwerau a gaiff eu harfer ar hyn o bryd gan yr UE mewn meysydd polisi datganoledig megis amaethyddiaeth ddod yn ôl i Gymru. Dywedodd nad dyma’r farn gyfredol yn Whitehall lle dywedodd fod cred y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu lle y bydd y pwerau sydd gan yr UE ar hyn o bryd yn mynd yn y DU.

Beth oedd safbwynt San Steffan?

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus David Jones AS, Gweinidog Gwladol dros Adael yr UE wrth y Pwyllgor Materion Allanol nad yw Llywodraeth y DU wedi penderfynu eto pryd y byddai’n sbarduno Erthygl 50. Dywedodd nad oedd Llywodraeth y DU wedi penderfynu eto a fyddai’n anfon llythyr syml yn hysbysu neu a fyddai’n anfon llythyr mwy manwl yn amlinellu rhai o’i hamcanion negodi.

Cynigiodd y Gweinidog ei sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai sefyllfa negodi Llywodraeth y DU yn adlewyrchu barn y deddfwrfeydd a’r llywodraethau datganoledig yn llawn. Dywedodd y byddai angen i Lywodraeth y DU bwyso a mesur blaenoriaethau a phryderon sy’n gwrthdaro o fewn y DU i ddod o hyd i ateb sydd o’r budd gorau i’r DU gyfan.

Dywedodd y Gweinidog ei fod ‘am fod yn gwbl glir y byddwn ni (yn y DU) yn gadael y farchnad sengl’, ond ei fod yn credu y byddai pob cymhelliad i’r UE gytuno ar gytundeb masnach rydd gynhwysfawr gyda’r DU. Amlinellodd fod Llywodraeth y DU yn cynnal dadansoddiad o dros 50 o sectorau yn economi y DU i ystyried y goblygiadau a’r cyfleoedd iddynt ar ôl i’r DU adael yr UE.

Dywedodd y Gweinidog fod y Swyddfa Gartref wrthi’n gweithio ar bolisi mewn perthynas â symud yn rhydd rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon ar ôl i’r DU adael yr UE.

O ran cysylltiadau rhynglywodraethol, dywedodd y Gweinidog nad oedd Llywodraeth y DU wrthi’n edrych ar ddatblygu strwythurau cyfansoddiadol newydd i ddisodli Cydbwyllgor y Gweinidogion er y gall ystyried hyn ‘yng nghyflawnder amser’. Mewn perthynas â dychwelyd pwerau ar ôl i’r DU adael yr UE, dywedodd y Gweinidog fel a ganlyn: (PDF 432KB):

It will be necessary for the United Kingdom to make a decision as to where various competences lie. We have been absolutely clear in indicating that any devolved competences that are currently exercised at devolved level will not be, so to speak, clawed back. It will be necessary to decide where powers best lie. It may be that there will be scope for further devolution, but, it may well be there will be an advantage, and in fact an imperative to look at UK-wide structures to replace the competences that previously resided at Brussels level.

Roedd y ddwy sesiwn dystiolaeth yn rhan o waith y Pwyllgor Materion Allanol ar y goblygiadau i Gymru o ran y DU yn gadael yr UE. Darllenwch fwy am waith y Pwyllgor ar ei dudalen gwe neu ar Twitter @SeneddMADY. Gallwch wylio’r sesiynau tystiolaeth yn llawn ar Senedd.tv

Y Goblygiadau i Gymru yn sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi ei adroddiad cyntaf

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Fflagiau UE

Mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad (@SeneddMADY) wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf ar y goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr UE. Adroddiad mewn dwy ran ydyw.

Mae Rhan 1 o’r adroddiad yn nodi casgliadau’r Pwyllgor ar y prif oblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr UE. Mae’r casgliadau hyn yn seiliedig ar y seminarau a sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd gan y Pwyllgor gydag arbenigwyr blaenllaw ar amrywiaeth o bynciau allweddol, gan gynnwys masnach, gwasanaethau cyhoeddus, cyllid yr UE, addysg uwch a’r amgylchedd.

Dyma rai o’r prif gasgliadau:

  • O ystyried pwysigrwydd gweithgynhyrchu i Gymru, byddai gosod tariffau yn peri risg sylweddol i’r sector hwn, yn enwedig i’r gweithgynhyrchwyr sy’n gysylltiedig â chadwyni gwerth byd-eang;
  • Mae risg sylweddol i’r fasnach mewn cynhyrchion amaethyddol;
  • Heb ystyriaeth ofalus, bydd cyfyngu ar allu dinasyddion yr UE i weithio yn y DU ar ôl Brexit yn cael effaith niweidiol ar lawer o wasanaethau cyhoeddus, ar rai busnesau ac ar brosiectau seilwaith yn y dyfodol yng Nghymru.
  • Mater o’r brys mwyaf i’r sector addysg uwch yng Nghymru yw cael eglurhad ar statws dinasyddion yr UE sy’n gweithio ac yn astudio yng Nghymru;
  • Dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau wrth baratoi gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau.

Mae Rhan 2 o’r adroddiad yn canolbwyntio ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r refferendwm, llais Cymru yn y trafodaethau a dyfodol cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU. Ar y pwnc hwn, yn ogystal â’i gasgliadau allweddol, mae’r Pwyllgor yn gwneud chwe argymhelliad.

Mae’r argymhellion allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae’n seilio ei Phapur Gwyn arni, gan gynnwys manylion y gwaith sydd wedi’i wneud ar fodelu senarios ym mhob sector.
  • Dylai Llywodraeth Cymru roi cofrestr risgiau i’r Pwyllgor ar gyfer pob maes lle y bydd Brexit yn effeithio ar ei gweithgarwch.
  • Dylai Llywodraeth Cymru nodi’r camau y mae wedi’u cymryd er 24 Mehefin 2016 i sicrhau ei bod yn cael gafael ar y swm mwyaf posibl o gyllid Ewropeaidd ac yn ei ddefnyddio cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
  • Dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i’w chynnwys yn llawn wrth lunio’i safbwynt ar gyfer y trafodaethau. Dylai gymryd rhan yn uniongyrchol yn y trafodaethau hynny sy’n ymwneud â phwerau datganoledig, neu â materion sy’n effeithio ar bwerau datganoledig.
  • Mae’r Pwyllgor hefyd yn dod i’r casgliad y byddai sicrhau priodoldeb cyfansoddiadol yn gofyn cael cydsyniad y Cynulliad ar gyfer yr holl Ddeddfau posibl sy’n gysylltiedig â Brexit a gyflwynid gan Senedd y DU.
  • Mae’r Pwyllgor yn nodi, petai’r Bil Diddymu yn tarfu ar y setliad datganoli, y byddai’n cefnogi egwyddor gwarchod y setliad datganoli drwy gyflwyno ‘Bil Parhad i Gymru’.

Byddai Bil Parhad yn ailddatgan bod y canlynol yn bodoli, yng nghyfraith Cymru:

  • pob cyfraith ddomestig sy’n gymwys i Gymru a wnaed at ddibenion gweithredu unrhyw rwymedigaeth UE-nghyfraith / disgresiwn, a
  • yr holl hawliau a’r rhwymedigaethau sy’n uniongyrchol berthnasol/uniongyrchol effeithiol sy’n deillio o gyfraith yr UE

sy’n dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor yn nodi ei obaith y bydd yr adroddiad yn gyfeirbwynt a fydd yn llywio’r drafodaeth ehangach yng Nghymru, a’r tu hwnt, o ran ymadawiad y DU â’r UE ac y bydd yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau eraill wrth iddynt ddechrau ystyried y goblygiadau i Gymru .

Mae rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor ar gael ar ei wefan.


Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd; Cyfarfod Llawn y Cynulliad i ystyried

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun o’r Goruchaf Lys

Llun: o Flickr gan Rev Stan. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r Goruchaf Lys wedi dyfarnu heddiw bod angen Deddf Senedd y DU i gymeradwyo rhoi’r hysbysiad sy’n ofynnol o dan Erthygl 50 o’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd. Mewn geiriau eraill, ni chaiff Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddefnyddio’r Uchelfraint Frenhinol i roi’r hysbysiad hwn.

Fodd bynnag, mynegodd y Goruchaf Lys nad oedd unrhyw ofyniad cyfreithiol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon hefyd gydsynio i’r ddeddfwriaeth hon, o dan yr hyn a elwir yn gyffredin yn Gonfensiwn Sewel neu’r Confensiwn Cydsyniad Deddfwriaethol.  Pwysleisiodd y Llys fod gan Gonfensiwn Sewel rôl bwysig o ran hwyluso perthynas gytûn rhwng Senedd y DU a’r deddfwrfeydd datganoledig, ond dyfarnodd nad oedd yn rhan o swyddogaeth y farnwriaeth i blismona cwmpas confensiynau cyfansoddiadol o’r fath, na sut maent yn gweithredu. Aeth y Llys ymlaen i fynegi nad effeithir ar y casgliad hwn gan y ffaith bod rhan o Gonfensiwn Sewel bellach wedi ei sefydlu mewn statud ar gyfer yr Alban, yn Neddf yr Alban 2016 (ac y bydd hynny’n wir hefyd ar gyfer Cymru os yw Bil Cymru, sy’n mynd trwy ei gyfnodau terfynol yn y Senedd ar hyn o bryd, yn cael ei basio).

Nid oedd y Llys rhoi rhwydd hynt i Lywodraeth y DU a’r Senedd anwybyddu Confensiwn Sewel. Yr oll y mae’n ei ddweud yw nad yw’r llysoedd yn gallu penderfynu a yw wedi cael ei roi ar waith yn gywir os oes anghydfod. Rhaid i unrhyw gosb am beidio â’i ddilyn fod yn un wleidyddol, yn hytrach nag yn un gyfreithiol.Mae’r hysbysiad o dan Erthygl 50 yn sbarduno’n ffurfiol ddechrau’r broses o adael yr UE – gall trafodaethau ynglŷn â’r telerau ddechrau ar ôl i’r hysbysiad gael ei roi. Mae’r Prif Weinidog wedi nodi ei bod yn bwriadu rhoi’r hysbysiad erbyn diwedd mis Mawrth 2017, er y bydd yr amserlen hon yn awr yn amodol ar y broses Seneddol.

Bydd Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn heddiw ar ganlyniadau’r dyfarniad. Bydd yr Aelodau yn cael cyfle i holi’r Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â’i ddatganiad.

Mae’r materion o bwys sy’n debygol o gael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn yn cynnwys:

  • Sut y bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn y broses o adael yr UE.
  • Pa fath o rôl fydd gan y Cynulliad o ran craffu ar y trafodaethau ac a yw’n debygol y bydd rôl i’r Cynulliad o ran cymeradwyo’r fargen derfynol wrth i’r DU adael yr UE.
  • A yw’r strwythurau rhynglywodraethol presennol sydd ar waith yn y DU yn ddigonol i alluogi’r gweinyddiaethau datganoledig i ymgysylltu’n llawn.
  • A yw’n debygol y bydd y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU yn llwyddo i gytuno ar safbwynt cyffredin ar gyfer y trafodaethau cyn i Erthygl 50 gael ei sbarduno.

Erthygl gan Elisabeth Jones, Cynulliad Cenedlaethol Cymru  Prif Gynghorydd Cyfreithiol.