Llais Cryfach i Gymru: Y Prif Weinidog i roi tystiolaeth

16 Mawrth 2017

Erthygl gan Dr Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Sut y mae pwyllgor y Cynulliad yn ymchwilio i gysylltiadau rhwng sefydliadau.

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cynnal ymchwiliad i waith rhyngsefydliadol er mwyn:

  • Llunio egwyddorion arfer gorau ar gyfer dulliau o weithio rhwng sefydliadau ar gyfer deddfwriaeth gyfansoddiadol.
  • Ystyried gwaith deddfwrfeydd eraill o ran eu dulliau o weithio rhwng sefydliadau ac adeiladu arno pan fo’n ymwneud â meysydd polisi ehangach.
  • Ceisio, sefydlu a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dulliau o weithio rhwng seneddau, gan gynnwys hyrwyddo’r broses o ymgysylltu â dinasyddion.

Mae’r ymchwiliad yn canolbwyntio ar ddwy ffrwd: Materion Cyfansoddiadol a Materion Polisi Mae’r Pwyllgor ar hyn o bryd yn ystyried Ffrwd I: Materion Cyfansoddiadol. Mae wrthi’n adolygu sut y mae cysylltiadau rhyngsefydliadol wedi dylanwadu ar ddatblygiad datganoli yng Nghymru ers 1999. Mae hyn yn cynnwys ystyried:

  • Sut y mae dulliau rhynglywodraethol wedi effeithio ar ddatblygiad y setliad datganoli.
  • Sut y mae cysylltiadau rhynglywodraethol wedi datblygu ac esblygu, yr hyn a oedd yn llwyddiannus, a sut y mae’r cysylltiadau hyn wedi effeithio ar y setliad datganoli.
  • Sut y mae cysylltiadau rhyngseneddol wedi esblygu, cyflwr presennol y cysylltiadau hyn, a sut y gellid eu datblygu ymhellach o ran y gwaith o ddatblygu deddfwriaeth gyfansoddiadol a chraffu arni.

Mae’r Pwyllgor wedi bod yn clywed gan ffigurau allweddol yn natblygiad datganoli yn ystod y 18 mlynedd ddiwethaf. Mae eisoes wedi clywed gan yr Arglwydd Murphy, a oedd yn Ysgrifenydd Gwladol ar ddau wahanol achlysur – gweler ein llun ar Lywodraethiant Cymru. Yn y cyfarfod diwethaf, clywodd y Pwyllgor gan y Farwnes Randerson, sydd wedi bod yn Weinidog yn Llywodraeth Cymru ac yn Swyddfa Cymru, ac Elfyn Llwyd, sy’n gyn arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi clywed tystiolaeth gan Syr Paul Silk a oedd yn arwain Comisiwn Silk, a fu ynghlwm wrth y ddeddf ddiweddaraf ynghylch datganoli, sef Deddf Cymru 2017.

Ddydd Llun 20 Mawrth, fel rhan o #SeneddCasnewydd, bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ym Mhrifysgol De Cymru, Casnewydd ac yn clywed tystiolaeth gan y Prif Weinidog Carwyn Jones AC fel rhan o’r ymchwiliad. Caiff ei gwestiynu hefyd am y papur gwyn sy’n ymdrin â Chymru’n gadael yr UE, sef Diogelu Dyfodol Cymru. Bydd y cyfarfod yn cychwyn am 2.30pm a bydd croeso i’r cyhoedd.

Mae’r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i ofyn barn ynghylch yr ymchwiliad. 5 Mehefin 2017 yw’r dyddiad cau ar gyfer ymatebion.

Pa fath o wasanaeth ieuenctid sydd ei eisiau ar Gymru? Aelodau’r Cynulliad i drafod adroddiad y Pwyllgor

02 Chwefror 2017

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dyma lun o bobl ifanc

Ddydd Mercher 8 Chwefror 2017, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i effeithiolrwydd strategaeth a pholisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwaith ieuenctid: Pa fath o wasanaeth ieuenctid sydd ei eisiau ar Gymru? (PDF 1.11MB).

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod angen dull radical ar gyfer mynd i’r afael â’r dirywiad brawychus mewn gwasanaethau ieuenctid ledled Cymru. Gwnaeth ddeg o argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y dylai gynnig y gwasanaeth ieuenctid y mae ar bobl Cymru ei eisiau.

Canolbwyntiodd ymchwiliad y Pwyllgor yn bennaf ar y materion a ganlyn:

  • Mynediad pobl ifanc at wasanaethau ieuenctid;
  • Effeithiolrwydd strategaeth a pholisi Llywodraeth Cymru o ran gwaith ieuenctid;
  • Cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid gan awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a’r trydydd sector.

Mynegodd dros 1,500 o bobl ifanc eu barn i’r Pwyllgor, a’u neges ddilyffethair oedd cymaint yw’r effaith ar fywyd person ifanc pan na fo darpariaeth ar gyfer gwaith ieuenctid ar ei gyfer. At hynny, clywodd y Pwyllgor gan randdeiliaid a oedd yn gweithio â phobl ifanc. Dyma oedd ganddynt i’w ddweud: fideo chwe munu.

Sut beth yw gwaith ieuenctid heddiw?

Clywodd y Pwyllgor fod pwysau ariannol wedi cael effaith ddifrifol ar waith ieuenctid dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod cyfanswm gwariant a neilltuir gan awdurdodau lleol at ddiben gwasanaethau ieuenctid wedi gostwng o bron i 25 y cant dros y pedair blynedd ddiwethaf. Bu gostyngiad hefyd yng nghyfran y bobl ifanc sydd wedi cofrestru i fanteisio ar ddarpariaeth y gwaith ieuenctid, a hynny o 20 y cant yn 2013-14 i 17 y cant yn 2015-16. Disgrifiodd y Pwyllgor yr ystedegyn hwn i fod yn ostyngiad dirfawr.

Clywodd y Pwyllgor fod y rhagolwg ar gyfer y sector gwirfoddol yr un mor brudd, â Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn adrodd bod 30 y cant o’i aelodau yn ansicr ynghylch eu dyfodol ariannol.

Lansiodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru ym mis Chwefror 2014, gan fwriadu gosod cyfeiriad ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod tan 2018. Esboniodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes (PDF 662 KB), fod y strategaeth yn amcanu i roi rôl bwysig i ddarpariaeth gwaith ieuenctid er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc a sicrhau llwyddiant iddynt yn addysg y brif ffrwd.

Trafododd y Pwyllgor y graddau y gwneir y mwyaf o gapasiti’r sector gwirfoddol a’r sector statudol, gan ddod i’r casgliad a ganlyn:

Mae angen ymyriad brys a radical ar ran y Gweinidog os yw am sicrhau ei weledigaeth uchelgeisiol o ddarpariaeth ddwyieithog sy’n wirioneddol agored. Rhaid iddo hefyd fynd i’r afael â’r diffyg gweithio strategol a chydweithio rhwng y sectorau statudol a gwirfoddol, rhywbeth y cred y Pwyllgor sy’n rhwystr sylweddol i ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cyffredinol.

Pa rôl y dylai Llywodraeth Cymru ei chwarae?

Argymhellodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru adolygu ei Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol ac adnewyddu’r canllawiau statudol Ymestyn Hawliau, a gyhoeddwyd yn 2002. Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor fod y strategaeth bresennol yn cael ei hadolygu, a chaiff canlyniadau’r adolygiad eu cyhoeddi yn nhymor y gwanwyn 2017. Dywedodd y byddai hyn yn sail i strategaeth newydd yn 2018 ac y byddai’n adnewyddu’r canllawiau statudol.

Dangosodd rhanddeiliaid yn eu tystiolaeth eu bod yn credu bod diffyg arweiniad a chyfeiriad strategol gan Lywodraeth Cymru. Roedd barn y Gweinidog ar gyflwr gwaith ieuenctid ar hyn o bryd yn dra gwahanol i farn Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid llywodraeth leol a Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol. Galwodd y Pwyllgor ar y Gweinidog i weithio gyda’r sefydliadau hyn, gan ddwyn ynghyd eu harbenigedd a’u dealltwriaeth i sicrhau gwelliant mewn darpariaeth gwaith ieuenctid.

Pa fath o wasanaeth ieuenctid sydd ei eisiau ar Gymru?

Galwodd nifer o’r rhai a gyfranodd at ymchwiliad y Pwyllgor am sefydlu corff cenedlaethol newydd i arwain y ffordd o ran polisi gwaith ieuenctid, a gweithredu’r polisi hwnnw yn y sector statudol a’r sector gwirfoddol. Credai’r rhanddeiliaid hyn y byddai model cenedlaethol, fel y noda adroddiad y Pwyllgor, ‘yn galluogi prosesau cydweithredol gwell, yn lleihau dyblygu ar draws y sectorau, yn codi statws a phroffil gwaith ieuenctid, ac yn galluogi datblygiad y gweithlu’, gan ‘wneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael er budd pobl ifanc’.

Dywedodd Alun Davies AC wrth y Pwyllgor nad yw’n bwriadu cenedlaetholi gwasanaethau ieuenctid na’u cynnig yn ganolog o Fae Caerdydd. Dywedodd y byddai’n penderfynu ar fodel ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid yn y dyfodol yn gynnar yn 2017. Fodd bynnag, ychwanegodd:

Overwhelmingly, my view remains that this is a matter for local government to take these decisions and not a matter for a Minister to intervene in. (…)

Mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno model cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, yn cwmpasu darpariaeth statudol a gwirfoddol fel ei gilydd.

Yn ei adroddiad, mynegodd y Pwyllgor ei bryder ynghylch y diffyg atebolrwydd o ran y modd y mae awdurdodau lleol yn defnyddio cyllid ar gyfer gwasanaethau ieuenctid fel rhan o’r Grant Cynnal Refeniw at ddibenion gwahanol mewn gwirionedd. Dywedodd y Gweinidog, mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y posibilrwydd o bennu canlyniadau disgwyliedig ar gyfer awdurdodau lleol fel amod i’r cyllid:

Setting outcomes by local authority area—I’m happy to consider that. (…)

I’m more attracted by the concept of outcomes than I am by hypothecation … If we are going to look at a national outcomes framework, then perhaps how we break that down into local areas could be something we could look at.

Mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu fframwaith atebolrwydd ar gyfer rheoli defnydd awdurdodau lleol o’r cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid drwy’r Grant Cynnal Refeniw, gan gynnwys gosod cosbau os nad yw’r gofynion yn cael eu bodloni.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 293KB) heddiw (2 Chwefror 2017). Mae Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi derbyn pump o’r argymhellion, a derbyniodd y pum argymhelliad arall mewn egwyddor.

Sut i wylio’r ddadl

Bydd dadl Aelodau’r Cynulliad ynghylch adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am tua 16:00 yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 8 Chwefror 2017. Gellir gwylio ar SeneddTV a bydd trawsgrifiad ar gael ar Gofnod y Trafodion.

Ymchwiliad Newydd i Wasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru

20 Awst 2015

Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Wasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru. Mae’r blog-bost hwn yn gosod y cefndir i’r ymchwiliad gan fynd i’r afael â gostyngiad yn y ddarpariaeth o ran gwasanaethau bysiau a nifer y teithwyr yng Nghymru, newidiadau i bolisi bysiau, a chynigion ynghylch datganoli pwerau.

Mae tudalen yr ymchwiliad gyda’r cylch gorchwyl, y dystiolaeth a ddaeth i law ac ati, ar gael drwy dudalen yr ymchwiliad.

Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor Menter a Busnes, gan gynnwys yr ymchwiliad hwn ar Twitter: @SeneddBusnes

Gostyngiad yn y ddarpariaeth o ran gwasanaethau bysiau a nifer y teithwyr

Mae’r ddarpariaeth o ran gwasanaethau bysiau a nifer y teithwyr sy’n eu defnyddio wedi gostwng yng Nghymru (Ffigur 1). Mae Adroddiadau Blynyddol y Comisiynwyr Traffig yn dangos bod nifer y gwasanaethau bysiau oedd wedi’u cofrestru yng Nghymru wedi gostwng tua 25 y cant rhwng mis Mawrth 2005 a Mawrth 2014. Mae ystadegau chwarterol yr Adran Drafnidiaeth o ran bysiau yn dangos bod teithiau teithwyr bysiau hefyd wedi gostwng erbyn mis Mawrth 2015, tua 18 y cant o gymharu â’u nifer uchaf yn 2008-09. Mae’r gostyngiad hwn yn nifer y teithwyr yn fwy yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o Brydain. O’i gymharu, mae teithiau bws yn Lloegr y tu allan i Lundain wedi gostwng ychydig dros 6% yn yr un cyfnod, ac ychydig o dan 16% yn yr Alban.

Yn ystod ei ymchwiliad, mae’r Pwyllgor Menter a Busnes yn bwriadu edrych i mewn i sefyllfa bresennol y sector bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yng Nghymru, gan gynnwys y rhesymau dros y gostyngiad diweddar mewn gwasanaethau bysiau cofrestredig a nifer y teithwyr bysiau fel ei gilydd. Bydd hefyd yn edrych ar effaith gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y gostyngiad diweddar mewn gwasanaethau bysiau a nifer y teithwyr.

 

Bus Cym

Ffigur 1: Teithiau teithwyr ym Mhrydain ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad (Mynegai: 2004-05 = 100). Ffynhonnell: Cyfres Ystadegau Bysiau Yr Adran Drafnidiaeth,  niferoedd teithwyr yn BUS0106 (nodiadau a diffiniadau o’r ystadegau hyn)

Polisi bysiau yng Nghymru

Mae’r polisi bysiau yng Nghymru wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda newidiadau i fecanweithiau a lefelau ariannu Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, ym mis Ionawr 2014, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth y byddai’n disodli’r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol ac yn ei le yn rhoi Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau a fyddai wedi’i ddyrannu’n uniongyrchol i awdurdodau lleol. Mewn termau real arweiniodd hyn at doriadau yn yr arian. Am ragor o fanylion, gweler yr erthyglau blaenorol ar Ariannu gwasanaethau bysiau a Newidiadau i gynllunio ac ariannu trafnidiaeth yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, diddymwyd y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol y llynedd.

Comisiynodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth adolygiad o’r polisi bysiau a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar; fesurau i wella perfformiad masnachol gweithredwyr i leihau eu dibyniaeth ar gymhorthdal ​​cyhoeddus; hygyrchedd ar gyfer teithwyr anabl; ac opsiynau i gefnogi anghenion cludiant pobl ifanc. Mae’r adroddiad yn gwneud 29 o argymhellion, gan gynnwys argymhellion ar gyfer gweithredu gan awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill er mwyn cydweithio’n agosach i drefnu ac integreiddio gwasanaethau bysiau yn fwy effeithiol. Yn dilyn hyn mae’r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol newydd yn ymrwymo i weithredu’r ‘ymatebion i’r argymhellion sy’n codi o’r adolygiad polisi bysiau’.

Yn ystod ei ymchwiliad bydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn ymchwilio i’r camau y dylid eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yn diwallu anghenion Cymru.

Datganoli pwerau

Er mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gyllid a pholisïau bysiau yng Nghymru, cafodd y diwydiant bysiau ei ddadreoleiddio yn ystod yr 80au ac ni all y Cynulliad ddeddfu ar hyn o bryd i newid y trefniadau rheoleiddio bysiau yng Nghymru.

Gosododd Llywodraeth y DU gynigion i ddatganoli pwerau dros gofrestru bysiau yn ei Phapur Gorchymyn – ‘Powers for a Purpose: Towards a Lasting Devolution Settlement’ ym mis Chwefror 2015. Fodd bynnag, nid oes unrhyw gynigion i ddatganoli pwerau ehangach o ran rheoleiddio bysiau wedi’u gosod hyd yma, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y cred fod angen datganoli’r pwerau hyn.

Yn ystod ei ymchwiliad mae’r Pwyllgor Menter a Busnes yn bwriadu edrych ar fanteision posibl neu fel arall datganoli pwerau cofrestru bysiau, ac a fyddai pwerau pellach i reoleiddio’r diwydiant bysiau yn ddymunol.

Bydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn cymryd tystiolaeth gan randdeiliaid yn ystod y misoedd nesaf wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen.  

Fideo yn dangos barn pobl ifanc am entrepreneuriaeth

Cafodd fideo yn dangos entrepreneuriaid ifanc yn lleisio barn am y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt yng Nghymru i sefydlu eu busnes eu hunain ei gyflwyno adeg Ymchwiliad Pwyllgor a’i gyhoeddi ar wefan y Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor Menter a Busnes yn cynnal Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc yng Nghymru ac fe wyliodd y fideo yn ei gyfarfod ar 12 Mehefin 2013.  Cafodd y fideo ei lunio a’i olygu o ffilm o tua 35 cyfweliad gyda phobl ifanc ledled Cymru sydd yn ymwneud â dechrau busnes.

Fideo yn dangos barn pobl ifanc am entrepreneuriaeth

Fideo yn dangos barn pobl ifanc am entrepreneuriaeth

Mae’r fideo tua 13 munud o hyd ac mae pum rhan iddo:

  • Menter mewn Addysg
  • Gwybodaeth a Mentora
  • Cyllid a Chefnogaeth
  • Cyd-destun Economaidd a Rhanbarthol
  • Yr Ysbryd Entrepreneuraidd

 

Erthygl gan Michael Dauncey.