Y Goblygiadau i Gymru yn sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi ei adroddiad cyntaf

16 Mawrth 2017

Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 30 Ionawr 2017 yn wreiddiol. Mae’n cael ei phostio eto cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Mawrth 2017.

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Fflagiau UEMae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad (@SeneddMADY) wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf ar y goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr UE. Adroddiad mewn dwy ran ydyw.

Mae Rhan 1 o’r adroddiad yn nodi casgliadau’r Pwyllgor ar y prif oblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr UE. Mae’r casgliadau hyn yn seiliedig ar y seminarau a sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd gan y Pwyllgor gydag arbenigwyr blaenllaw ar amrywiaeth o bynciau allweddol, gan gynnwys masnach, gwasanaethau cyhoeddus, cyllid yr UE, addysg uwch a’r amgylchedd.

Dyma rai o’r prif gasgliadau:

  • O ystyried pwysigrwydd gweithgynhyrchu i Gymru, byddai gosod tariffau yn peri risg sylweddol i’r sector hwn, yn enwedig i’r gweithgynhyrchwyr sy’n gysylltiedig â chadwyni gwerth byd-eang;
  • Mae risg sylweddol i’r fasnach mewn cynhyrchion amaethyddol;
  • Heb ystyriaeth ofalus, bydd cyfyngu ar allu dinasyddion yr UE i weithio yn y DU ar ôl Brexit yn cael effaith niweidiol ar lawer o wasanaethau cyhoeddus, ar rai busnesau ac ar brosiectau seilwaith yn y dyfodol yng Nghymru.
  • Mater o’r brys mwyaf i’r sector addysg uwch yng Nghymru yw cael eglurhad ar statws dinasyddion yr UE sy’n gweithio ac yn astudio yng Nghymru;
  • Dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau wrth baratoi gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau.

Mae Rhan 2 o’r adroddiad yn canolbwyntio ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r refferendwm, llais Cymru yn y trafodaethau a dyfodol cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU. Ar y pwnc hwn, yn ogystal â’i gasgliadau allweddol, mae’r Pwyllgor yn gwneud chwe argymhelliad.

Mae’r argymhellion allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae’n seilio ei Phapur Gwyn arni, gan gynnwys manylion y gwaith sydd wedi’i wneud ar fodelu senarios ym mhob sector.
  • Dylai Llywodraeth Cymru roi cofrestr risgiau i’r Pwyllgor ar gyfer pob maes lle y bydd Brexit yn effeithio ar ei gweithgarwch.
  • Dylai Llywodraeth Cymru nodi’r camau y mae wedi’u cymryd er 24 Mehefin 2016 i sicrhau ei bod yn cael gafael ar y swm mwyaf posibl o gyllid Ewropeaidd ac yn ei ddefnyddio cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
  • Dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i’w chynnwys yn llawn wrth lunio’i safbwynt ar gyfer y trafodaethau. Dylai gymryd rhan yn uniongyrchol yn y trafodaethau hynny sy’n ymwneud â phwerau datganoledig, neu â materion sy’n effeithio ar bwerau datganoledig.
  • Mae’r Pwyllgor hefyd yn dod i’r casgliad y byddai sicrhau priodoldeb cyfansoddiadol yn gofyn cael cydsyniad y Cynulliad ar gyfer yr holl Ddeddfau posibl sy’n gysylltiedig â Brexit a gyflwynid gan Senedd y DU.
  • Mae’r Pwyllgor yn nodi, petai’r Bil Diddymu yn tarfu ar y setliad datganoli, y byddai’n cefnogi egwyddor gwarchod y setliad datganoli drwy gyflwyno ‘Bil Parhad i Gymru’.

Byddai Bil Parhad yn ailddatgan bod y canlynol yn bodoli, yng nghyfraith Cymru:

  • pob cyfraith ddomestig sy’n gymwys i Gymru a wnaed at ddibenion gweithredu unrhyw rwymedigaeth UE-nghyfraith / disgresiwn, a
  • yr holl hawliau a’r rhwymedigaethau sy’n uniongyrchol berthnasol/uniongyrchol effeithiol sy’n deillio o gyfraith yr UE

sy’n dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor yn nodi ei obaith y bydd yr adroddiad yn gyfeirbwynt a fydd yn llywio’r drafodaeth ehangach yng Nghymru, a’r tu hwnt, o ran ymadawiad y DU â’r UE ac y bydd yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau eraill wrth iddynt ddechrau ystyried y goblygiadau i Gymru .

Mae rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor ar gael ar ei wefan.

Y Goblygiadau i Gymru yn sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi ei adroddiad cyntaf

30 Ionawr 2017

Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Fflagiau UE

Mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad (@SeneddMADY) wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf ar y goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr UE. Adroddiad mewn dwy ran ydyw.

Mae Rhan 1 o’r adroddiad yn nodi casgliadau’r Pwyllgor ar y prif oblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr UE. Mae’r casgliadau hyn yn seiliedig ar y seminarau a sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd gan y Pwyllgor gydag arbenigwyr blaenllaw ar amrywiaeth o bynciau allweddol, gan gynnwys masnach, gwasanaethau cyhoeddus, cyllid yr UE, addysg uwch a’r amgylchedd.

Dyma rai o’r prif gasgliadau:

  • O ystyried pwysigrwydd gweithgynhyrchu i Gymru, byddai gosod tariffau yn peri risg sylweddol i’r sector hwn, yn enwedig i’r gweithgynhyrchwyr sy’n gysylltiedig â chadwyni gwerth byd-eang;
  • Mae risg sylweddol i’r fasnach mewn cynhyrchion amaethyddol;
  • Heb ystyriaeth ofalus, bydd cyfyngu ar allu dinasyddion yr UE i weithio yn y DU ar ôl Brexit yn cael effaith niweidiol ar lawer o wasanaethau cyhoeddus, ar rai busnesau ac ar brosiectau seilwaith yn y dyfodol yng Nghymru.
  • Mater o’r brys mwyaf i’r sector addysg uwch yng Nghymru yw cael eglurhad ar statws dinasyddion yr UE sy’n gweithio ac yn astudio yng Nghymru;
  • Dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau wrth baratoi gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau.

Mae Rhan 2 o’r adroddiad yn canolbwyntio ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r refferendwm, llais Cymru yn y trafodaethau a dyfodol cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU. Ar y pwnc hwn, yn ogystal â’i gasgliadau allweddol, mae’r Pwyllgor yn gwneud chwe argymhelliad.

Mae’r argymhellion allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae’n seilio ei Phapur Gwyn arni, gan gynnwys manylion y gwaith sydd wedi’i wneud ar fodelu senarios ym mhob sector.
  • Dylai Llywodraeth Cymru roi cofrestr risgiau i’r Pwyllgor ar gyfer pob maes lle y bydd Brexit yn effeithio ar ei gweithgarwch.
  • Dylai Llywodraeth Cymru nodi’r camau y mae wedi’u cymryd er 24 Mehefin 2016 i sicrhau ei bod yn cael gafael ar y swm mwyaf posibl o gyllid Ewropeaidd ac yn ei ddefnyddio cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
  • Dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i’w chynnwys yn llawn wrth lunio’i safbwynt ar gyfer y trafodaethau. Dylai gymryd rhan yn uniongyrchol yn y trafodaethau hynny sy’n ymwneud â phwerau datganoledig, neu â materion sy’n effeithio ar bwerau datganoledig.
  • Mae’r Pwyllgor hefyd yn dod i’r casgliad y byddai sicrhau priodoldeb cyfansoddiadol yn gofyn cael cydsyniad y Cynulliad ar gyfer yr holl Ddeddfau posibl sy’n gysylltiedig â Brexit a gyflwynid gan Senedd y DU.
  • Mae’r Pwyllgor yn nodi, petai’r Bil Diddymu yn tarfu ar y setliad datganoli, y byddai’n cefnogi egwyddor gwarchod y setliad datganoli drwy gyflwyno ‘Bil Parhad i Gymru’.

Byddai Bil Parhad yn ailddatgan bod y canlynol yn bodoli, yng nghyfraith Cymru:

  • pob cyfraith ddomestig sy’n gymwys i Gymru a wnaed at ddibenion gweithredu unrhyw rwymedigaeth UE-nghyfraith / disgresiwn, a
  • yr holl hawliau a’r rhwymedigaethau sy’n uniongyrchol berthnasol/uniongyrchol effeithiol sy’n deillio o gyfraith yr UE

sy’n dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor yn nodi ei obaith y bydd yr adroddiad yn gyfeirbwynt a fydd yn llywio’r drafodaeth ehangach yng Nghymru, a’r tu hwnt, o ran ymadawiad y DU â’r UE ac y bydd yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau eraill wrth iddynt ddechrau ystyried y goblygiadau i Gymru .

Mae rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor ar gael ar ei wefan.

Ymgysylltu â’r broses llunio polisïau a chraffu yng Nghymru: Sut mae gwaith ymchwil yn cyrraedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru?

25 Mai 2016

Blog gwadd gan Lauren Carter-Davies, Swyddog Ymchwil, Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru

Yn ychwanegol at ein cylch gwaith i gefnogi Gweinidogion Llywodraeth Cymru i ganfod eu hanghenion o ran tystiolaeth ac i roi cyngor a dadansoddiad arbenigol annibynnol iddynt, mae Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn ceisio chwarae rôl ehangach o ran datblygu’r ‘ecosystem tystiolaeth’ yng Nghymru – y rhwydweithiau a’r sianeli sy’n caniatáu i dystiolaeth hysbysu polisi ac arferion. Rydym o’r farn ei bod yn bwysig bod Aelodau’r Cynulliad sydd yn cymryd rhan mewn craffu ar bolisi a deddfwriaeth hefyd yn cael mynediad at arbenigwyr polisi annibynnol ac awdurdodol.

Mae Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn darparu gwaith ymchwil a gwybodaeth arbenigol a diduedd i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad a’r pwyllgorau i gyflawni swyddogaethau craffu, deddfu a chynrychioli’r Cynulliad. Mae darparu Gwasanaeth Ymchwil effeithiol yn gofyn am gael mynediad at ymchwil gan sefydliadau allanol ac unigolion sydd â gwybodaeth ac arbenigedd mewn meysydd pwnc perthnasol.

Ar ôl cael ein hysbrydoli gan Nine ways research gets into Parliament Sarah Foxen, fe benderfynom archwilio sut y mae ymchwil yn cyrraedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn ymgais i helpu cyflenwyr gwaith ymchwil allanol i ymgysylltu â’r broses llunio polisïau a chraffu. Pam ddylai cyflenwyr gwaith ymchwil allanol ymgysylltu? Ar ôl siarad â Staff y Gwasanaeth Ymchwil, mae ein canfyddiadau i’w gweld isod.

Sut y caiff gwaith ymchwil ei ddefnyddio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru?

Mae Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys arbenigwyr pwnc sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor ymchwil uniongyrchol yn fewnol ar ystod eang o bynciau i Aelodau’r Cynulliad. Maent yn gwneud hyn drwy dri phrif wasanaeth;

  1. gwasanaeth ymholiadau;
  2. briffio pwyllgorau; a
  3. chyhoeddiadau rhagweithiol

Dyma ffeithlun sy’n dangos beth yw rôl y Gwasanaeth YmchwilFel rhan o’r gwasanaeth ymholiadau, gall Aelodau’r Cynulliad wneud ceisiadau am wybodaeth a thystiolaeth sy’n ymwneud â busnes y Cynulliad a gwaith etholaeth.

Yn ychwanegol at y gwasanaeth ymholiadau, mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cyhoeddi dogfennau briffio rhagweithiol, gan gynnwys eu blog, Pigion, ac amrywiaeth o ddogfennau briffio rhagweithiol ar bolisi a deddfwriaeth a chanllawiau etholaethol.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil hefyd yn darparu sesiynau briffio i gefnogi pwyllgorau craffu’r Cynulliad yn eu swyddogaethau craffu ar bolisi, deddfwriaeth a chyllid. Yn yr achos hwn, caiff galwadau am dystiolaeth yn aml eu cyhoeddi fel rhan o’r broses ymgynghori a gellir hefyd gofyn i arbenigwyr unigol roi sesiynau briffio neu ddarparu cyngor arbenigol i aelodau pwyllgorau.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil hefyd yn rhoi cymorth i Aelodau’r Cynulliad ddatblygu cynigion ar gyfer deddfwriaeth breifat Aelodau.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn mynd ati i ymateb i ymholiadau a pharatoi sesiynau briffio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae pob arbenigwr pwnc yn ceisio cadw i fyny â’r newyddion diweddaraf a’r gwaith ymchwil yn eu maes. Mae ganddynt hefyd gronfa ddata arbenigol y gall arbenigwyr ac ymchwilwyr gofrestru arno er mwyn i Aelodau’r Cynulliad gysylltu â hwy pan maent angen arbenigedd allanol.

Sut y gall ymchwilwyr allanol gymryd rhan, gwneud eu gwaith ymchwil yn hygyrch a rhoi gwybod am eu harbenigedd?

Yn seiliedig ar ein sgyrsiau gyda staff y Gwasanaeth Ymchwil, rydym yn awgrymu y gallai’r canlynol helpu ymchwilwyr allanol i ymgysylltu fwy â’r prosesau llunio polisi a chraffu ar bolisi yng Nghymru.

1. Cysylltwch â ni i roi gwybod beth yw eich arbenigedd. Gan fod amserlenni yn aml yn dynn, mae staff y Gwasanaeth Ymchwil yn aml yn dibynnu ar gysylltiadau sydd eisoes yn bodoli i ddod o hyd i atebion i gwestiynau ymchwil. Drwy hysbysebu eich arbenigedd, byddwch yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd staff y Gwasanaeth Ymchwil yn defnyddio eich gwaith ymchwil neu yn cysylltu â chi i gael cyngor. Gall ymchwilwyr allanol gysylltu â’r Gwasanaeth Ymchwil mewn amrywiaeth o ffyrdd:

  • Cofrestrwch ar y gronfa ddata arbenigwyr fel ymgynghorydd arbenigol allanol er mwyn cael contractau ymchwil byrdymor posibl yn y dyfodol.
  • Cysylltwch â’r arbenigwr perthnasol yn y Gwasanaeth Ymchwil. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn croesawu cael gwybod am gyhoeddiadau neu gynadleddau a allai fod o ddiddordeb i Aelodau’r Cynulliad a staff ymchwil. Mae cyfeiriadau e-byst staff y Gwasanaeth Ymchwil ar gael ar ddiwedd y Canllaw i’r Gwasanaeth Ymchwil (PDF 1.85MB).

2. Sicrhewch fod y wybodaeth ddiweddaraf gennych ynghylch buddiannau Aelodau’r Cynulliad er mwyn bod yn ymwybodol o’r adegau y gallai eich gwaith ymchwil neu eich arbenigedd fod yn berthnasol. Gall ymchwilwyr allanol sicrhau fod ganddynt y wybodaeth ddiweddaraf drwy:

  • Agendâu a Datganiadau Busnes y Cyfarfod Llawn, sy’n cael eu cyhoeddi o flaen llaw. Os bydd dadl wedi’i threfnu sy’n berthnasol i’ch maes, efallai y byddai’n werth cysylltu ag Aelod o’r Cynulliad i esbonio eich gwaith ymchwil.
  • Blog y Gwasanaeth Ymchwil, Pigion, sy’n cyhoeddi erthyglau cyfoes ar faterion sydd o ddiddordeb i Aelodau’r Cynulliad. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn diweddaru eu blog a’u cyhoeddiadau â’r wybodaeth ddiweddaraf yn barhaus, felly maent yn croesawu sylwadau arnynt. Gallwch hefyd danysgrifio i gael eich hysbysu bod cyhoeddiad newydd sy’n berthnasol i’ch maes.
  • Cadw llygad ar gylch gwaith pwyllgorau’r Cynulliad a chofrestru diddordeb gyda chlerc y pwyllgor, os yw eich gwaith yn berthnasol, er mwyn peidio â cholli unrhyw alwadau am dystiolaeth.
  • Mae cyhoeddiad ‘‘Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’ (PDF 15.9MB) Gwasanaeth Ymchwil yn nodi detholiad o faterion tebygol o bwys i Aelodau’r Pumed Cynulliad.

3. Gwnewch eich gwaith ymchwil a’ch arbenigedd mor hygyrch â phosibl i gynulleidfaoedd nad ydynt yn academaidd. Am fod galwadau niferus ac amserlenni byr gan staff y Gwasanaeth Ymchwil, dylech ei gwneud mor hawdd â phosibl iddynt asesu perthnasedd eich gwaith ymchwil a deall y prif negeseuon. Yn ymarferol, gall sefydliadau ymchwil wneud eu hymchwil yn hygyrch drwy:

  • Bennu un pwynt cyswllt o fewn eich Athrofa neu Ysgol y gall staff y Gwasanaeth Ymchwil gysylltu â hwy i gael gwybodaeth am ffynonellau o arbenigedd ac ymchwil.
  • Creu cylchlythyr neu ddogfen sy’n sôn am waith ymchwil diweddar neu barhaus, gan ychwanegu’r arbenigwr perthnasol o’r Gwasanaeth Ymchwil at eich rhestr bostio.

4. Gwneud cais am interniaeth tri mis. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar y cyd â’r Cynghorau Ymchwil, yn cynnig cyfle i fyfyrwyr PhD ddysgu am y broses o lunio polisïau yng Nghymru drwy gyfrwng cystadleuaeth agored, a gynhelir gan y Cynghorau Ymchwil.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awyddus i greu gwell cysylltiadau â chyflenwyr gwaith ymchwil allanol. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn datblygu cynllun ymgysylltu academaidd newydd a fydd yn rhan o strategaeth ymgysylltu ehangach ar gyfer y Pumed Cynulliad. Mae’n archwilio a fyddai mentrau ymgysylltu academaidd a ddefnyddir mewn gwledydd eraill y DU yn gweithio yma yng Nghymru. Mae’r rheiny’n cynnwys sefydlu rhwydwaith o gysylltiadau ar draws prifysgolion Cymru fel pwynt cyswllt cyntaf wrth chwilio am arbenigedd ymchwil ar fater, a sefydlu cyfres o seminarau cyfnewid gwybodaeth er mwyn i academyddion gyflwyno eu canfyddiadau ymchwil i Aelodau’r Cynulliad. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil hefyd yn ymwybodol iawn o’r angen i academyddion allu dangos effaith eu gwaith, fel sy’n ofynnol gan y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, ac mae’n awyddus i archwilio sut y gallai helpu wrth ddarparu adborth ystyrlon am yr effaith. Yn gyffredinol, ymddengys mai neges y Gwasanaeth Ymchwil yw: ‘Mae’r drws ar agor, dewch i siarad â ni’.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyhoeddiad Newydd: Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad

12 Mai 2016

Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae ‘Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’ (PDF,  13.6MB) yn gyhoeddiad sydd wedi’i baratoi gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’n cynnwys detholiad o faterion sy’n debygol o fod o bwys i Aelodau yn y Pumed Cynulliad: o’r diwydiant dur i ddyfodol deddfu yng Nghymru. Mae’n dangos y math o waith y gallwn ei wneud ar ran Aelodau – dadansoddi arbenigol gan ddefnyddio ystod eang o ffynonellau mewn fformat cryno a darllenadwy.

Rydym yn gweithio ar sail yr egwyddor ein bod yn rhoi gwasanaeth diduedd ac annibynnol, ac rydym yn trin ceisiadau gan Aelodau o bob plaid yn wrthrychol ac yn gyfrinachol, gan roi’r un sylw i bob un.

Dyma ddelwedd o glawr y cyhoeddiad: Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ffurfio barn ar Fil yr Amgylchedd (Cymru)

12 Hydref 2015

Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun o lyn.

Llun o Flickr gan Hefin Owen. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi cyhoeddi ei Adroddiad Cyfnod 1 ar Fil yr Amgylchedd (Cymru). Mae’r adroddiad hwn yn nodi barn y Pwyllgor ar egwyddorion cyffredinol y Bil a’i argymhellion ar gyfer newid. Mae’r Pwyllgor argymell fod y Cynulliad yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ond yn gwneud 51 argymhelliad yn ei adroddiad. Mae rhai yn galw am wneud gwelliannau i’r Bil tra bod eraill yn galw am fwy o eglurder ar fwriadau Llywodraeth Cymru.

Mae cofnod blaenorol yn amlinellu prif gynigion y Bil.

Argymhellion a Barn y Pwyllgor

Mae saith rhan benodol i’r Bil, gan gwmpasu Rheoli Adnoddau Naturiol, Newid yn yr Hinsawdd, Gwastraff, Pysgodfeydd ar gyfer Pysgod Cregyn, Trwyddedu Morol a Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

Yn ei adroddiad, mae’r Pwyllgor yn gofyn am fwy o eglurder ynghylch ystyr adnoddau naturiol cynaliadwy, sut y caiff term hwn ei ddiffinio, ac am gryfhau llawer o ddyletswyddau’r Bil, gan gynnwys y rhai ar fioamrywiaeth. O ran y ffaith bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwrthod rhoi cydsyniad i rai rannau o adran 6 y Bil (y ddyletswydd newydd ar fioamrywiaeth), mae’r Pwyllgor o’r farn, er ei bod yn destun siom bod hyn yn golygu na fydd y ddyletswydd yn berthnasol i Gymru gyfan, ond y dylai barhau i fod yn rhan o’r Bil mewn perthynas â gweddill Cymru.

Mae’n galw am wella’r darpariaethau craffu a monitro yn yr adran newid yn yr hinsawdd drwy ei gwneud yn ofynnol i barhau i adolygu targed newid yn yr hinsawdd 2050, am gyhoeddi cyllidebau carbon yn gynt na’r hyn a gynigir, ac ar Weinidogion Cymru i adrodd yn flynyddol ar y cynnydd o ran lleihau allyriadau Cymru.

O safbwynt gwastraff, mae’n galw am fwy o sicrwydd ynghylch effeithiau rhai darpariaethau ar fusnes ac am gyfeirio arian o unrhyw dâl newydd am fagiau siopa at achosion amgylcheddol.

Mae’n ceisio sicrwydd i’r diwydiant pysgota ar sut y bydd y darpariaethau ynghylch pysgodfeydd pysgod cregyn yn cael eu gweithredu ac yn gofyn am gynnwys nifer o faterion mewn perthynas â thrwyddedu morol mewn ymgynghoriad pellach gyda’r diwydiant.

 

Mae rhai o argymhellion allweddol y Pwyllgor wedi’u nodi yn fanylach isod.

Rhan 1: Rheoli Adnoddau Naturiol

  • Argymhellion 4 a 5: Dylai’r Bil gynnwys diffiniadau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Biolegol o ecosystemau a bioamrywiaeth.
  • Argymhelliad 6: Dylai amcan y Bil hwn adlewyrchu nod Cymru Gydnerth, fel y mae wedi’i nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
  • Argymhelliad 9: Dylai’r Bil gynnwys darpariaethau ymgynghori penodol ynghylch llunio Adroddiadau ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal.
  • Argymhelliad 10: Dylid cryfhau nifer o’r dyletswyddau yn Rhan 1.
  • Argymhellion 14-17: Dylid cryfhau’r ddyletswydd bioamrywiaeth newydd, dylai fod yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru bennu’r camau y maent wedi’u cymryd i warchod y cynefinoedd a’r rhywogaethau pwysicaf yng Nghymru, a dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi mwy o wybodaeth am y dangosyddion bioamrywiaeth a fydd yn cael eu datblygu o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Rhan 2: Newid yn yr Hinsawdd

  • Argymhellion 28 a 29: Dylai fod yn ofynnol i’r corff cynghori ar newid yn yr hinsawdd asesu pa mor ddigonol yw targed 2050 a dylai fod gan Weinidogion Cymru bwerau i addasu’r targed hwn os bydd angen.
  • Argymhelliad 33: Dylai Gweinidog Cymru gyhoeddi’r gyllideb garbon gyntaf yn gynt o lawer na diwedd 2018.
  • Argymhelliad 36: Dylai fod yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y cynnydd o ran lleihau allyriadau yng Nghymru.

Rhannau 3 a 4: Bagiau Siopa a Gwastraff

  • Argymhelliad 42: Dylai’r enillion o unrhyw dâl newydd am fagiau siopa, e.e. tâl am fagiau am oes, gael eu cyfeirio at elusennau amgylcheddol.
  • Argymhelliad 44: Dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â’r busnesau a wnaeth sylwadau i’r Pwyllgor ynghylch effaith bosibl gwaharddiad ar wastraff bwyd ar eu cwmnïau a diwygio’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn unol â hynny.
  • Argymhelliad 48: Dylai Llywodraeth Cymru egluro pwy fydd yn gyfrifol am sicrhau nad yw sylweddau gwastraff sydd wedi’u gwahardd yn cael eu hanfon i losgyddion o dan unrhyw reoliadau newydd.

Rhannau 5 a 6 Pysgodfeydd ar gyfer Pysgod Cregyn a Thrwyddedu Morol

  • Argymhelliad 49: Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau sy’n nodi’n glir sut y bydd y darpariaethau newydd i bysgodfeydd cregyn yn cael eu dehongli a’u cymhwyso.
  • Argymhelliad 51: Dylai Llywodraeth Cymru, mewn unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol ar ffioedd trwyddedu morol, y dangosyddion perfformiad y mae CNC yn eu mabwysiadu, cyfraddau fesul awr ar gyfer ffioedd, trefniadau tryloyw ar gyfer gosod ffioedd a threfniadau i ganiatáu cyhoeddi mwy o ddata morol.

Y camau nesaf

Bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil ac Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor ar 20 Hydref. Bydd Cyfnodau 2 a 3 y Bil yn dilyn, gyda’r disgwyliad, os caiff y Bil ei basio, y bydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2016.

View this post in English.

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg.