Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Beth fyddai goblygiadau masnachu o dan “delerau Sefydliad Masnach y Byd” i economi Cymru?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd Prif Weinidog y DU at Donald Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, i roi gwybod iddo am fwriad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd y weithred hon yn Tanio Erthygl 50, yr adran o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd sy’n rheoli sut y byddai Aelod-wladwriaeth yn gadael yr UE.

Parhau i Ddarllen

Mae Erthygl 50 wedi’i thanio; beth sy’n digwydd nesaf?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Theresa May, Prif Weinidog y DU, wedi hysbysu’r Cyngor Ewropeaidd fod Llywodraeth y DU yn bwriadu tanio Erthygl 50 o Gytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn golygu bod gan y DU a’r Undeb Ewropeaidd gyfnod o ddwy flynedd yn awr i drafod cytundeb i’r DU adael yr UE.

Parhau i Ddarllen

Bil “Erthygl 50”: Y datblygiadau diweddaraf

06 Chwefror 2017

Erthygl gan Dr Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

1024px-uk_supreme_court_court_1

Llun: o Wikimedia gan Rwendland. Dan drwydded Creative Commons.

Ers dyfarniad y Goruchaf Lys, mae’r broses o ran ymadael â’r UE wedi symud ymlaen yn gyflym.

Cyhoeddodd y Goruchaf Lys ei ddyfarniad ar achos R (ar gais Miller ac arall) (Ymatebwyr) v yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Apelydd) ar 24 Ionawr 2017, yr hyn a elwir yn “ddyfarniad Erthygl 50”. Apêl oedd hwn; roedd yr Uchel Lys wedi dyfarnu yn erbyn Llywodraeth y DU ar gam blaenorol yn yr achos.

Pe byddai Aelod-wladwriaeth yn penderfynu tynnu’n ôl o’r Undeb Ewropeaidd (“yr UE”), mae Erthygl 50 o’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd yn darparu y dylai gyflwyno hysbysiad o’r bwriad hwnnw (“Hysbysiad”). Bydd y cytuniadau sy’n llywodraethu’r UE yn peidio â bod yn gymwys i’r Aelod-wladwriaeth honno ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Dadleuodd Llywodraeth y DU fod ganddi hawl i roi Erthygl 50 o’r Cytuniad mewn grym heb fod angen i’r Senedd basio deddf. Dywedodd fod pwerau uchelfraint y Goron i lofnodi cytuniadau ac i dynnu’n ôl ohonynt yn golygu fod gan Weinidogion yr hawl i arfer y pŵer hwn mewn perthynas â Chytuniadau’r UE, a bod ganddi, felly, hawl i gyflwyno Hysbysiad o fwriad y DU i ymadael â’r UE heb fod angen deddfu ar y mater.

Roedd y gwrthwynebwyr, fodd bynnag, yn dadlau y byddai tynnu’n ôl o Gytuniadau’r UE yn newid y gyfraith ddomestig. Oherwydd y rheol na chaniateir defnyddio pwerau uchelfraint i newid cyfraith ddomestig y DU, roeddynt o’r farn fod hyn yn golygu na allai Llywodraeth y DU gyflwyno Hysbysiad oni chaiff ei hawdurdodi i wneud hynny gan Ddeddf Seneddol.

Gwrthododd y Goruchaf Lys apêl yr Ysgrifennydd Gwladol o fwyafrif o 8 i 3. Roedd y Goruchaf Lys o’r farn, ar ôl astudio telerau Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a oedd yn rhoi effaith i aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd, na allai Gweinidogion y DU arfer pŵer i dynnu’n ôl o Gytuniadau’r UE heb i’r pŵer hwnnw gael ei awdurdodi’n gyntaf gan Ddeddf Seneddol.

Ymatebodd Llywodraeth y DU drwy gyhoeddi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad Tynnu’n Ôl) 2016-17. Dim ond dau gymal sydd yn y Bil hwnnw, ac maent yn datgan fel a ganlyn:

1 Power to notify withdrawal from the EU

(1) The Prime Minister may notify, under Article 50(2) of the Treaty on European Union, the United Kingdom’s intention to withdraw from the EU.

(2) This section has effect despite any provision made by or under the European Communities Act 1972 or any other enactment.

2 Enw byr

This Act may be cited as the European Union (Notification of Withdrawal) Act 2017.

Cynhaliwyd Ail Ddarlleniad y Bil ar 31 Ionawr ac 1 Chwefror. Pleidleisiodd 498 Aelod Seneddol o blaid ac 114 yn erbyn. Ar 6 Chwefror, am dri diwrnod, bydd y Bil yn cael ei drafod gan Bwyllgor y Tŷ Cyfan. Trefnwyd Trydydd Darlleniad y Bil a’r Cyfnod Adrodd ar 8 Chwefror. Yna, bydd yn mynd i Dŷ’r Arglwyddi.

Mae gwelliannau wedi’u cyflwyno i’r Bil. Mae nifer o’r rhain yn ychwanegu cymalau newydd sy’n sefydlu pwerau fel y gall Senedd y DU graffu ar waith Llywodraeth y DU yn ystod y trafodaethau. Mae gwelliannau eraill yn ceisio gwneud rôl Cydbwyllgor y Gweinidogion yn un statudol yn ystod y trafodaethau i ymadael â’r UE a/neu ei gwneud yn ofynnol i’r Prif Weinidog gael cytundeb Prif Weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon cyn cytuno ar y telerau tynnu’n ôl. Mae un grŵp o welliannau hefyd yn ceisio’i gwneud yn ofynnol i Weinidogion gael sêl bendith y Senedd ar gyfer unrhyw gytundeb â’r UE i dynnu’n ôl.

Mae’r cymalau sy’n anelu at wneud rôl Cydbwyllgor y Gweinidogion yn statudol yn gysylltiedig â dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50, a ddyfarnodd nad mater i’r llysoedd oedd y confensiwn na fydd Senedd y DU yn deddfu mewn materion sydd wedi’u datganoli (a elwir yn “Gytundeb Sewel”). Nododd y Llys fel a ganlyn:

In reaching this conclusion we do not underestimate the importance of constitutional conventions, some of which play a fundamental role in the operation of our constitution. The Sewel Convention has an important role in facilitating harmonious relationships between the UK Parliament and the devolved legislatures. But the policing of its scope and the manner of its operation does not lie within the constitutional remit of the judiciary, which is to protect the rule of law.

Y diwrnod ar ôl i’r Bil gael Ail Ddarlleniad, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn: The United Kingdom’s exit from and new partnership with the European Union. O ran datganoli, roedd yn nodi fel a ganlyn:

The devolved administrations will continue to be engaged through the Joint Ministerial Committee (JMC), chaired in plenary by the Prime Minister and attended by the First Ministers of Scotland and Wales and the First and deputy First Ministers of Northern Ireland, and the JMC sub-committee on EU Negotiations (JMC(EN)), chaired by the Secretary of State for Exiting the European Union, with members from each of the UK devolved administrations.

Y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn cyhoeddi cynllun ar y cyd ar gyfer Gadael yr UE

02 Chwefror 2017

Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

welshflags

Ar 23 Ionawr, cyhoeddodd y Llywodraeth a Phlaid Cymru bapur gwyn, sef Diogelu Dyfodol Cymru, yn gosod cynigion ar gyfer perthynas Cymru â’r UE yn y dyfodol. Cefnogwyd y papur hefyd gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Cyhoeddwyd y papur yn dilyn araith Prif Weinidog y DU yn Lancaster House ar 17 Ionawr, pan amlinellwyd 12 amcan ar gyfer trafodaethau’r DU â’r UE.

Mae papur gwyn y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn gosod cynigion ar gyfer chwe maes allweddol:

  • Y Farchnad Sengl;
  • Masnach rhyngwladol;
  • Mudo;
  • Cyllid a buddsoddi;
  • Materion cyfansoddiadol a datganoledig;
  • Trefniadau gwarchod cymdeithas ac amgylchedd Cymru, ynghyd â’i gwerthoedd;
  • Trefniadau trosiannol.

Mae’r papur gwyn yn galw i Gymru, a’r DU o ganlyniad, gael mynediad llawn i’r Farchnad Sengl. O ran mudo, mae’r papur yn nodi y dylai rhyddid pobl o’r UE i symud i Gymru fod yn gysylltiedig â chyflogaeth yn y dyfodol, ac eithrio myfyrwyr a’r rheini a all gynnal eu hunain.

Mae’r Llywodraeth a Phlaid Cymru yn galw am adolygiad o’r Grant Bloc y mae Cymru yn ei dderbyn gan y DU, ac i’r grant hwnnw gynnwys cyllid y byddai Cymru wedi ei dderbyn gan yr UE pe bai’r DU wedi aros yn rhan o’r Undeb.

Mae’r papur gwyn hefyd yn nodi bod Brexit yn drobwynt cyfansoddiadol enfawr i Gymru ac i’r DU. Mae’n galw i wneud trefniadau a strwythurau rhyng-lywodraethol newydd yn y DU a fyddai’n caniatáu i’r sefydliadau datganoledig a Llywodraeth y DU ddod i gytundebau ar y cyd ar faterion polisi allweddol megis amaethyddiaeth. Mae’r papur gwyn yn dadlau y dylai Cymru fod yn wyliadwrus i sicrhau bod hawliau gweithwyr a safonau amgylcheddol yn cael eu gwarchod yn dilyn Brexit.

Yn olaf, mae’r papur gwyn yn nodi y dylai Llywodraeth y DU ddod i gytundeb pontio fel mater o flaenoriaeth er mwyn osgoi’r anhrefn a allai godi pe bai’r DU yn gadael yr UE yn ddisymwth, a hynny heb i berthynas newydd y DU a’r holl faterion eraill gael eu trefnu o fewn dwy flynedd.

Er bod rhai meysydd nad yw Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cytuno arnynt, mae Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, wedi nodi (PDF 378KB) ei fod yn credu y gellid cymodi:

You could still deliver a great deal of what we say is essential to Wales within the terms of what the Prime Minister had to say, but you do have to work quite hard to reconcile the two. But in order to be influential, sometimes you have to bridge positions. You have to try and demonstrate that what we want to achieve and what the Prime Minister said don’t have to be irreconcilable.

Cynhaliwyd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion rhwng Prif Weinidog y DU, Prif Weinidog Cymru, Prif Weinidog yr Alban ynghyd ag arweinwyr o Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd yng Ngogledd Iwerddon a Sinn Féin, yng Nghaerdydd ar 30 Ionawr. Dyma’r cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd ers i Lywodraeth y DU amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer trafodaethau’r DU i adael yr UE. Nododd Llywodraeth Cymru y byddai Prif Weinidog Cymru yn manteisio ar y cyfle yn y cyfarfod i annog Prif Weinidog y DU i ddefnyddio papur gwyn Llywodraeth Cymru fel man cychwyn yn nhrafodaethau’r DU i adael yr UE. Yn y datganiad a gyhoeddodd Llywodraeth y DU yn dilyn y cyfarfod, dywedwyd:

Consideration of the proposals of the devolved administrations is an ongoing process. Work will need to be intensified ahead of triggering Article 50 and continued at the same pace thereafter.

Bydd Prif Weinidog Cymru yn bresennol yng nghyfarfod Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad ar 6 Chwefror er mwyn trafod cynigion Llywodraeth Cymru. Bydd y papur gwyn hefyd yn cael ei drafod gan y Cynulliad ar 7 Chwefror.