Gwella mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn 2016, cafodd Cronfa Cyffuriau Canser ddadleuol Lloegr ei diwygio yn sylweddol. Galwodd rhanddeiliaid am fwy o eglurder am effaith y newidiadau yng Nghymru, os o gwbl, yn enwedig o ystyried rôl ganolog NICE yn y Gronfa ar ei newydd wedd a’r ffaith bod disgwyl iddi arwain at fynediad cynharach i driniaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi na chaiff cleifion yng Nghymru eu trin yn llai ffafriol.

Parhau i Ddarllen

Cyhoeddiad Newydd: Mynediad i Feddyginiaethau

16 Rhagfyr 2016

Erthygl gan Elizabeth Norris, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r daflen ffeithiau hon (PDF, 477KB) yn rhoi arweiniad byr i Fynediad i Feddyginiaethau yng Nghymru. Mae’n disgrifio sut mae meddyginiaethau yn mynd drwy broses arfarnu cyn eu bod ar gael i gleifion ar y GIG. Mae hefyd yn egluro rhai o’r ffyrdd y gall cleifion gael mynediad i feddyginiaethau nad ydynt ar gael fel mater o drefn ar y GIG a chyffuriau newydd a allai fod yn addas ar gyfer cyflyrau iechyd datblygedig neu gymhleth.

Clawr ar gyfer y dogfen Mynediad i Feddyginiaethau

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Elizabeth Norris gan Engineering and Physical Sciences Research Council ac Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.

 

Tegwch wrth roi meddyginiaethau

18 Mai 2016

Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Daw’r erthygl hon o ‘Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

A oes loteri cod post yn bodoli wrth ariannu cyffuriau’r GIG, ynteu a yw’r prosesau cywir gennym i sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael y triniaethau mwyaf effeithiol mewn ffordd deg?

Bydd y cyfryngau yn aml yn rhoi sylw i achosion lle bydd cleifion yn methu â chael meddyginiaethau penodol drwy’r GIG. Bydd gwleidyddion hefyd yn clywed am etholwyr sydd wedi cael anhawster yn cael y driniaeth fwyaf addas iddynt yn eu barn hwy a’u meddygon.

Mae’n fater emosiynol ac anodd. Gyda chyllideb gyfyngedig a galw cynyddol am wasanaethau, mae GIG Cymru o dan bwysau cynyddol i ddangos ei fod yn blaenoriaethu’n effeithiol ac yn sicrhau gwerth am arian. Mae cleifion yng Nghymru, serch hynny, am gael eglurder a sicrwydd ynghylch triniaethau ac, yn fwy na dim, am deimlo nad ydynt yn rhan o loteri cod post.

Arfarnu meddyginiaethau

Cyn y gellir defnyddio meddyginiaethau newydd i drin cleifion y GIG fel mater o drefn, mae’n rhaid mynd drwy broses arfarnu i benderfynu a yw’r budd i gleifion yn cyfiawnhau’r gost.

Llun: Dan drwydded Creative Commons.

Llun: Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn cynghori’r GIG ar effeithiolrwydd clinigol ac effeithiolrwydd cost meddyginiaethau sydd newydd gael eu trwyddedu. Mae sail statudol i’r cyngor hwn yng Nghymru a Lloegr, gyda rhwymedigaeth gyfreithiol ar fyrddau iechyd Cymru i ariannu meddyginiaethau sydd wedi’u cymeradwyo gan NICE.

Mae gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) gyfrifoldeb i arfarnu meddyginiaethau newydd nad ydynt ar raglen waith NICE. Mae gofyniad cyfreithiol ar fyrddau iechyd yng Nghymru i ariannu meddyginiaethau a gymeradwywyd gan AWMSG hefyd.

Cronfa Cyffuriau Canser

Yn Lloegr, mae’r Gronfa Cyffuriau Canser yn ariannu’n rheolaidd nifer o feddyginiaethau canser nad ydynt ar gael drwy’r GIG.

Drwy gydol y Pedwerydd Cynulliad, roedd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu’r galw am gronfa debyg. Ei dadl oedd bod cronfa o’r fath yn gwahaniaethu yn erbyn cyflyrau iechyd eraill, ac nad yw’r gronfa wedi bod yn well i gleifion yn Lloegr nag yng Nghymru wrth gynnig meddyginiaethau newydd a chost-effeithiol. Yn 2013, dywedodd y Prif Weinidog:

… rydym yn gwybod nawr nad yw’r gronfa cyffuriau canser yn ddim mwy na thwyll. Byddaf yn egluro pam rwy’n dweud hynny. O’r rhai sy’n gwneud cais am gyllid i’r gronfa cyffuriau canser, mae mwy na 70% yn cael eu gwrthod. O ran y gronfa gyfatebol yng Nghymru, y ceisiadau cyllido cleifion unigol, sy’n agored i bobl â phob cyflwr, nid yn unig y rhai sy’n dioddef o ganser, derbynnir mwy na hanner y ceisiadau.

Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR)

Os nad yw meddyginiaeth arbennig wedi cael ei chymeradwyo gan NICE neu AWMSG at ddefnydd cyffredinol yn y GIG yng Nghymru, gall clinigydd anfon Cais Cyllido Claf Unigol at fwrdd iechyd. Caiff y ceisiadau hyn eu hystyried ar sail pa mor ‘eithriadol’ yw’r achos. Cyhoeddwyd polisi Cymru gyfan ar gyfer hyn yn 2011, gyda’r nod o sicrhau dull cyson o benderfynu ar y ceisiadau.

Mae’r broses hon wedi cael ei beirniadu’n gyson. Clywodd ymchwiliad canser Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Pedwerydd Cynulliad yn 2014 ei bod yn bosibl bod paneli’r byrddau iechyd yn ymdrin â cheisiadau mewn ffyrdd gwahanol, ac argymhellodd y Pwyllgor fod panel cenedlaethol yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru. Comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad (a gyhoeddwyd yn 2014) a wnaeth nifer o argymhellion i gryfhau’r broses, ond ni wnaeth yr adolygiad hwn argymell creu panel ar gyfer Cymru gyfan.

Newidiadau i’r Gronfa Cyffuriau Canser

Bydd model newydd ar gyfer y Gronfa Cyffuriau Canser yn cael ei gyflwyno yn Lloegr ym mis Gorffennaf 2016. Bydd y gronfa bellach yn dod o dan gylch gwaith NICE, a dylai hyn sicrhau bod cleifion yn cael cyffuriau newydd yn gynt a bod mwy o sicrwydd am ba driniaethau sydd ar gael. Mae NICE a GIG Lloegr wedi cadarnhau mai cyfrifoldeb y gwledydd datganoledig fydd penderfynu sut y maent am ymateb i drefniadau newydd y Gronfa Cyffuriau Canser. Nid yw’n glir eto sut y gallai’r newidiadau effeithio ar Gymru.

Bydd NICE yn arfarnu llawer mwy o gyffuriau, a hynny yn gynharach yn y broses. Gallai hyn effeithio ar raglen waith AWMSG, neu ar gyllideb meddyginiaethau GIG Cymru, ac ystyried bod yn rhaid i fyrddau iechyd ariannu meddyginiaethau a gymeradwywyd gan NICE.

Yn Lloegr, o dan y model newydd, os gwneir argymhelliad drafft i’r GIG i gomisiynu cyffuriau fel mater o drefn, neu i’w defnyddio drwy’r Gronfa Cyffuriau Canser, yna bydd y cyffuriau hynny ar gael ar unwaith i gleifion, gan eu hariannu dros dro drwy’r Gronfa Cyffuriau Canser. Mae Cancer Research UK yn galw am eglurder ynghylch beth fydd goblygiadau’r newidiadau i gleifion yn y gwledydd datganoledig lle nad oes unrhyw ddull tebyg ar gael ar hyn o bryd i ariannu’r meddyginiaethau hyn dros dro.

Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan wedi sefydlu un dull posibl o ariannu rhai triniaethau newydd yng Nghymru. Bydd y broses ‘Cymru’n Un’ yn caniatáu comisiynu meddyginiaethau interim ar gyfer carfannau penodol o gleifion, cyn belled â bod cynhyrchwyr y meddyginiaethau hynny yn cytuno i gymryd rhan mewn arfarniad dilynol gan AWMSG neu NICE. Rhagwelir, fodd bynnag, na fydd y broses hon yn cael ei defnyddio’n aml.

Waeth beth fo’r newidiadau yn Lloegr, bydd cleifion a rhanddeiliaid eraill am deimlo’n hyderus bod y system i arfarnu ac ariannu meddyginiaethau yng Nghymru yn gadarn ac yn dryloyw, ac yn sicrhau bod triniaethau effeithiol ar gael yng Nghymru mewn ffordd deg.

Ffynonellau Allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyhoeddiad Newydd: Sbwriel Mor

14 Ebrill 2014

Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Sbwriel Môr yw unrhyw ddeunydd solet parhau, gwneuthuredig neu brosesedig y cafwyd gwared arno yn yr amgylchedd morol ac arfordirol. Gellir dod o hyd i sbwriel môr ar y traeth (sbwriel traeth) neu yn y môr (sbwriel alltraeth).

Sbwriel Mor

blog - wel

 

A oes angen Cronfa Gyffuriau ar Gymru?

16 Rhagfyr 2013

Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mis Mai 2013, comisiynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol adolygiad o’r gwerthusiad o feddyginiaethau amddifad ac amddifad iawn yng Nghymru. Defnyddir y meddyginiaethau hyn i drin cyflyrau iechyd prin a hynod brin.

Llun o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons.

Llun o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons.

Ddechrau 2013, lansiodd Llywodraeth yr Alban gronfa gwerth £21 miliwn i dalu am feddyginiaethau i gleifion unigol â chyflyrau prin. Nid oedd y meddyginiaethau hyn ar gael ar bresgripsiwn fel mater o drefn. Ym mis Hydref 2013, fel rhan o’r adolygiad parhaus o’r mynediad at feddyginiaethau newydd, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y byddai’r Gronfa Gyffuriau Meddyginiaethau Prin yn parhau tan 2016.

Mae Cronfa Gyffuriau Canser Lloegr, a sefydlwyd yn 2011, yn rhoi arian yn rheolaidd i dalu am nifer o feddyginiaethau canser nad ydynt ar gael ar y GIG. Hefyd, mae’r Gronfa yn cael ceisiadau am feddyginiaethau i drin unigolion sydd â mathau prin o ganser. Cynllun dros dro oedd y Gronfa Cyffuriau Canser, hyd nes byddai system newydd o brisio meddyginiaethau yn dod i rym ddechrau 2014. Ond nid yw’r system brisio newydd, sy’n seiliedig ar werth, wedi datblygu fel y bwriadwyd yn wreiddiol, ac ym mis Medi 2013, cyhoeddwyd y byddai Cronfa Cyffuriau Canser Lloegr yn parhau am ddwy flynedd arall, tan 2016.

Mae Llywodraeth Cymru, dro ar ôl tro, wedi gwrthod y galwadau am gronfa debyg yng Nghymru, gan ddadlau bod mwy yn cael ei wario y pen ar driniaethau canser yng Nghymru nag yn Lloegr. Yn ddiweddar, dywedodd y Prif Weinidog:

… rydym yn gwybod nawr nad yw’r gronfa cyffuriau canser yn ddim mwy na thwyll. Byddaf yn egluro pam rwy’n dweud hynny. O’r rhai sy’n gwneud cais am gyllid i’r gronfa cyffuriau canser, mae mwy na 70% yn cael eu gwrthod. O ran y gronfa gyfatebol yng Nghymru, y ceisiadau am gyllid i gleifion unigol, sy’n agored i bobl â phob cyflwr, nid yn unig y rhai sy’n dioddef o ganser, derbynnir mwy na hanner y ceisiadau.

Cyhoeddwyd adroddiad yr adolygiad ar feddyginiaethau amddifad yng Nghymru ar 11 Tachwedd 2013, fel y gallai pobl fynegi barn arno. Yr oedd yn argymell peidio â sefydlu cronfa ar wahân ar gyfer meddyginiaethau amddifad ac amddifad iawn yng Nghymru, ac y dylai’r gwaith o werthuso’r meddyginiaethau hyn barhau’n rhan o fframwaith Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan.

Nododd yr Adolygiad bod angen symleiddio’r llwybrau mynediad at feddyginiaethau amddifad ac amddifad iawn.  Gwnaeth hefyd nifer o argymhellion mewn perthynas â’r broses arfarnu, y meini prawf a ddefnyddir i asesu, a sicrhau mynediad cyfartal. Nodwyd yn yr Adolygiad:

There cannot be a guarantee that all medicines approved for use in England will be approved for use in Wales. Different methods across UK may result in difference in recommendations. Of greater importance is that there is fairness and equity across Wales.

Yn gynharach eleni, sefydlwyd Cronfa Technolegau Iechyd Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi buddsoddiad mewn technoleg feddygol arloesol. Er y gallai’r Gronfa helpu cleifion i gael rhai triniaethau (heblaw triniaethau â chyffuriau) nad ydynt ar gael yng Nghymru fel arall (er enghraifft llawdriniaeth robot ar gyfer canser y prostad), roedd y dystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i dechnolegau meddygol yn pwysleisio nad yw bodolaeth Cronfa o’r fath ar unrhyw gyfrif yn disodli’r angen am system gadarn o arfarnu a chaffael technolegau yn gyffredinol.  Awgrymir bod angen dull o weithredu tebyg i’r un yng Nghymru i wella mynediad at dechnolegau meddygol newydd. Bydd y Pwyllgor yn dechrau clywed tystiolaeth lafar ar gyfer ei ymchwiliad i dechnolegau meddygol yn y flwyddyn newydd.