Gwiriad iechyd ariannol – a yw byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru wedi bodloni eu dyletswyddau ariannol?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyfrifon blynyddol cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru ar gyfer 2016-17 yw’r adroddiadau cyntaf ar berfformiad yn erbyn y ddyletswydd ariannol statudol gyntaf a gyflwynwyd yn sgil Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014.

Cafodd cyfrifon blynyddol ar gyfer 2016-17 y saith bwrdd iechyd lleol a’r tair Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru eu gosod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 9 Mehefin 2017.

Beth yw’r dyletswyddau ariannol statudol?

O dan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, roedd yn ofynnol i bob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru sicrhau nad yw’r defnydd o’i adnoddau mewn blwyddyn ariannol yn rhagori ar y terfynau gwariant a osodwyd gan Weinidogion Cymru ar ei gyfer mewn perthynas â’r flwyddyn honno.

Ar 1 Ebrill 2014, roedd Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014  yn diwygio Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, gan ddisodli’r ddyletswydd i fantoli’r cyfrifon bob blwyddyn â gofyniad ar fyrddau iechyd lleol i reoli eu hadnoddau o fewn terfynau a gymeradwywyd dros gyfnod treigl o dair blynedd. Gelwir hon y ddyletswydd ariannol statudol gyntaf. Rhagwelwyd y byddai’r newid hwn yn y gofyniad yn rhoi’r hyblygrwydd sydd ei angen ar fyrddau iechyd lleol yng Nghymru i alluogi gwasanaeth mwy hirdymor, i gynllunio’r gweithlu a’r sefyllfa ariannol a helpu i sicrhau bod y broses o drawsnewid gwasanaethau gofal iechyd yn un gynaliadwy.

Caiff gwaith cynllunio ariannol mewn ymateb i Ddeddf 2014 ei ategu gan yr ail ddyletswydd statudol, sy’n ei gwneud yn ofynnol bod pob bwrdd iechyd lleol yn paratoi Cynllun Tymor Canolig Integredig tair blynedd dreigl a gaiff ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

Roedd Cylchlythyr Iechyd Cymru WHC/2016/054 yn egluro’r dyletswyddau ariannol statudol ar gyrff y GIG yng Nghymru ac yn cadarnhau, er bod newid y ddeddfwriaeth yn sgil Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 yn ymwneud â byrddau iechyd lleol, roedd y ddwy ddyletswydd ariannol hefyd yn berthnasol i Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru.

Sut y caiff y perfformiad yn erbyn y ddyletswydd ariannol gyntaf ei fesur?

Mae Atodlen 9 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG baratoi cyfrifon blynyddol. Mae Adran 61 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn ei gwneud yn ofynnol bod y cyfrifon blynyddol hyn yn cael eu harchwilio a’u hardystio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sydd hefyd yn gyfrifol am osod copi o’r cyfrifon ardystiedig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae cyfrifon blynyddol byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG yn adrodd ar eu perfformiad yn erbyn y ddwy ddyletswydd ariannol.

A yw byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG wedi bodloni’r ddyletswydd ariannol gyntaf?

Roedd y cyfnod cyntaf o dair blynedd o dan y ddyletswydd ariannol gyntaf yn rhedeg o 2014-15 i 2016-17.  Cafodd perfformiad yn erbyn y ddyletswydd hon ei asesu am y tro cyntaf yn 2016-17 ac adroddir yn ei gylch yn y cyfrifon blynyddol ar gyfer 2016-17.

Mae pob ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru wedi bodloni’r ddyletswydd statudol gyntaf drwy fantoli eu cyfrifon. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn wir ar gyfer pob bwrdd iechyd lleol. Dim ond tri bwrdd iechyd lleol sydd wedi nodi eu bod wedi bodloni’r ddyletswydd ariannol statudol gyntaf drwy weithredu o fewn eu terfyn gwario refeniw dros y cyfnod o dair blynedd o 2014-15 i 2016-17. Nid oedd y pedwar bwrdd iechyd lleol arall wedi bodloni’r ddyletswydd gyntaf, ac roeddent yn nodi gorwariant dros y tair blynedd o 2014-15 i 2016-17. Roedd y sefyllfa gyfanredol ar gyfer yr holl fyrddau iechyd lleol am y cyfnod o dair blynedd hyd at 2016-17 yn orwariant net o £253 miliwn. Dangosir y sefyllfa a nodwyd yn erbyn y terfyn gwario refeniw ar gyfer pob bwrdd iechyd lleol isod:

Mae pob un o’r saith bwrdd iechyd lleol wedi aros o fewn eu terfynau ar gyfer gwariant cyfalaf dros y cyfnod o dair blynedd o 2014-15 i 2016-17.

A yw byrddau iechyd lleol wedi bodloni’r ail ddyletswydd ariannol?

Mae’r cyfrifon blynyddol ar gyfer cyrff y GIG yng Nghymru o 2014-15 ymlaen yn nodi a yw byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG wedi cyflawni’r ail ddyletswydd ariannol. Ceir crynodeb o’r perfformiad isod:

Mae nifer o gyrff y GIG wedi cyflwyno cynllun un-flwyddyn, am nad yw eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig wedi cael eu cymeradwyo.

Beth yw effaith y diffygion a nodwyd?

Mae Paragraff 22, Amgaead 1 o Gylchlythyr Iechyd Cymru WHC/2016/054 yn nodi fel a ganlyn:

Failure to achieve the first financial duty is viewed as a serious matter by the Welsh Government and will be considered in accordance with the NHS Wales Delivery Framework included annually in the IMTP guidance and the escalation and intervention arrangements in the NHS in Wales.

Mewn datganiad ysgrifenedig ar 9 Mehefin 2017, nododd Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r pryderon o ran perfformiad ariannol yn y pedwar bwrdd iechyd lleol a nododd orwariant yn y cyfnod o dair blynedd o 2014-15 i 2016-17. Roedd hyn yn cynnwys monitro eu perfformiad ariannol a chynnal adolygiadau llywodraethu ariannol. Nododd Ysgrifennydd y Cabinet y “daeth yr adolygiadau hyn i ben yn ddiweddar, a byddwn yn ystyried y gwersi i’w dysgu ac unrhyw gamau gweithredu dilynol sydd eu hangen ddechrau’r flwyddyn ariannol newydd hon”.

Nododd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd fel a ganlyn:

Mae cymorth ariannol ychwanegol yn parhau i gael ei roi yn ôl yr angen i’r holl fyrddau sydd mewn diffyg ariannol i’w galluogi i gyflawni eu hymrwymiadau arian cyffredinol gan gynnwys gwariant y gyflogres. Mae modd ad-dalu’r cymorth ariannol hwn yn ystod blynyddoedd ariannol y dyfodol pan fo’n briodol, a chaiff cynlluniau gwell eu datblygu a’u cymeradwyo o dan y Ddeddf er mwyn ad-dalu’r diffygion ariannol.

Bydd y gofyniad i ad-dalu’r cymorth ariannol a’r gorwariant yn ychwanegu at y pwysau ariannol cyfredol ar fyrddau iechyd lleol yn y byrdymor a’r hirdymor. Caiff y ddyletswydd ariannol gyntaf ei hasesu ar sail cyfnod treigl o dair blynedd. Felly, caiff unrhyw orwariant ar gyfer 2015-16 a 2016-17 ei asesu y flwyddyn nesaf yn erbyn perfformiad ariannol byrddau iechyd lleol yn 2017-18. Mae gwerth cyfanswm y gorwariant a nodwyd gan bedwar bwrdd iechyd lleol ar gyfer 2015-16 a 2016-17 yn £198 miliwn.

Mae GIG Cymru yn wynebu pwysau o ran cynaliadwyedd a chyllid yn yr hirdymor, gan gynnwys poblogaeth sy’n heneiddio fwyfwy gyda mwy o afiachusrwydd, cyfradd gynyddol uwch o ordewdra a chyflyrau sy’n gysylltiedig â hynny a datblygiadau o ran technoleg sy’n arwain at gyflwyno triniaethau mwy cymhleth.

Mae nifer o adroddiadau diweddar wedi tynnu sylw at y pwysau sy’n wynebu gofal iechyd yng Nghymru. Roedd adroddiad y Sefydliad Iechyd The path to sustainability: Funding projections for the NHS in Wales to 2019/20 and 2030/31 (Hydref 2016) yn nodi bod y GIG yng Nghymru yn wynebu’r cyfnod mwyaf heriol yn ei hanes o safbwynt ariannol, a bod y symiau y mae angen eu harbed yn hynod heriol. Mae’r adroddiad yn nodi bod angen arian ychwanegol ar GIG Cymru, ond hefyd bod angen gwella effeithlonrwydd a chyflwyno gwasanaethau wedi’u haddasu i ddiwallu anghenion newidiol cleifion.

Yn yr un modd, mae adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru Efficiency and the NHS Wales Funding Gap (Hydref 2016) yn nodi bod angen gwella effeithlonrwydd a newid gwasanaethau, ond hefyd bod angen dull cenedlaethol mwy strategol a chyson i wella effeithlonrwydd ac i gefnogi newid. Mae Conffederasiwn GIG Cymru hefyd wedi tynnu sylw at y pwysau ariannol sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru ac wedi dadlau y bydd angen gwneud rhai dewisiadau anodd mewn perthynas â gwasanaethau a blaenoriaethau yn y dyfodol mewn amgylchedd lle bydd cyllid yn parhau i fod yn eithriadol o dynn.

Mae datganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet ar 9 Mehefin 2017 yn nodi ei fod yn hyderus bod y gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi adennill ei chostau yn gyffredinol yn 2016-17. Ar yr un pryd, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod heriau ariannol parhaus ac yn y dyfodol yn parhau i fod.


Erthygl gan Dr Paul Worthington a Joanne McCarthy, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Darlun o ddiabetes yng Nghymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar hyn o bryd, mae tua 190,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu trin ar gyfer diabetes (tua 6% o’r boblogaeth gyfan a dros 7% o’r boblogaeth sy’n oedolion).

Parhau i Ddarllen

Gwella mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn 2016, cafodd Cronfa Cyffuriau Canser ddadleuol Lloegr ei diwygio yn sylweddol. Galwodd rhanddeiliaid am fwy o eglurder am effaith y newidiadau yng Nghymru, os o gwbl, yn enwedig o ystyried rôl ganolog NICE yn y Gronfa ar ei newydd wedd a’r ffaith bod disgwyl iddi arwain at fynediad cynharach i driniaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi na chaiff cleifion yng Nghymru eu trin yn llai ffafriol.

Parhau i Ddarllen

Gofal iechyd trawsffiniol – cleifion o dramor

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi yn ddiweddar y bydd yn ofynnol i ysbytai’r GIG yn Lloegr i godi tâl ar gleifion o dramor o flaen llaw ar gyfer gofal wedi’i gynllunio, nad yw’n ofal brys, oni bai eu bod yn gymwys i gael triniaeth am ddim.

Parhau i Ddarllen

Cyrraedd mewn pryd? Gwerthuso Model Ymateb Clinigol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

24 Chwefror 2017

Erthygl gan Paul Worthington, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

ambiwlans

Cefndir i’r model ymateb clinigol newydd

Bu newid sylweddol ym myd gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru yn ddiweddar. Ym mis Ebrill 2013 pennodd yr Adolygiad Strategol o Wasanaethau Ambiwlans Cymru (adolygiad McClelland) nifer o argymhellion ar gyfer gwella gwasanaethau, gan gynnwys cynigion ar gyfer ffyrdd newydd o fonitro perfformiad ar amseroedd ymateb ambiwlansiau.

Yn dilyn adolygiad McClelland, o 1 Hydref 2015 ymlaen, rhoddodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fodel ymateb clinigol newydd ar waith dros gyfnod peilot o 12 mis, a ymestynnwyd yn ddiweddarach am 6 mis ychwanegol. Y bwriad yn ystod y cyfnod prawf hwn oedd mai dim ond y galwadau mwyaf difrifol, wedi eu categoreiddio fel rhai coch (bygythiad uniongyrchol i fywyd), fyddai’n cael targed amser ymateb. Byddai pob galwad arall yn cael ymateb priodol, naill ai wyneb yn wyneb neu asesiad dros y ffôn, ar sail angen clinigol. Mae gan y model newydd dri chategori o alwadau:

  • Coch: Bygythiad uniongyrchol i fywyd (rhywun mewn perygl agos o farwolaeth, fel trawiad ar y galon). Y targed yw i 65% o’r ymatebion brys gyrraedd o fewn 8 munud;
  • Ambr: Difrifol ond dim bygythiad uniongyrchol i fywyd (cleifion sydd angen triniaeth yn y fan a’r lle ac a allai fod angen mynd i’r ysbyty);
  • Gwyrdd: Dim brys (yn aml gellir rheoli’r mater gan wasanaethau iechyd eraill) ac asesiad clinigol dros y ffôn.

Ategwyd y model ymateb clinigol newydd hefyd gan y gwaith o ddatblygu cyfres o Ddangosyddion Ansawdd Ambiwlans (AQI), a gyhoeddir bob chwarter blwyddyn ac sy’n cynnwys set fwy manwl o fesurau perfformiad, gan gynnwys profiad y claf a chanlyniadau clinigol.

Perfformiad ar sail y targedau newydd

Mae’r ystadegau diweddaraf ar amseroedd ymateb ambiwlansiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar fis Ionawr 2017; Dengys Tabl 1 isod y tueddiadau tra mae Tabl 2 yn nodi’r ffigurau ar gyfer mis Ionawr 2017 yn ôl ardal Bwrdd Iechyd Lleol:

Tabl 1: Galwadau coch fesul diwrnod ar gyfartaledd, a’r ganran sy’n cyrraedd o fewn 8 munud, Cymru (Saesneg yn unig)

chart8

Tabl 2: Ymatebion ambiwlans brys yng Nghymru i alwadau coch, Ionawr 2017 (Saesneg yn unig)

table-2

Yn ogystal, dengys y data perfformiad ar gyfer mis Ionawr 2017:

  • Cafwyd 39,864 o alwadau brys, cyfartaledd o 1,286 y dydd, 4.3% i lawr o’r cyfartaledd dyddiol ar gyfer mis Rhagfyr 2016.
  • O’r cyfanswm, roedd 1,980 (5.0%) yn goch, 26,456 (66.4%) yn felyn ac 11,428 (28.7%) yn wyrdd.
  • Cyrhaeddodd 75.4% o ymatebion brys i alwadau coch o fewn 8 munud, sy’n uwch na’r targed o 65%, ond yn is na’r 75.8% a gofnodwyd ym mis Rhagfyr 2016.
  • Roedd amrywiaeth yn y perfformiad, o 66.2% ym Mhowys i 79.5% yng Nghaerdydd a’r Fro.

Ymchwiliadau i wasanaethau ambiwlans yn ystod y Pedwerydd Cynulliad

Yn 2015 cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Pedwerydd Cynulliad ymchwiliad byr i berfformiad y gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru; yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau ychwanegol i archwilio pa gynnydd a wnaed mewn ymateb i’w argymhellion gwreiddiol. Roedd hyn yn fuan ar ôl i gynllun peilot y model ymateb clinigol newydd ddechrau.

O ganlyniad i’r ymchwiliadau dilynol, ysgrifennodd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru yn croesawu’r ffaith y cyrhaeddwyd targed Cymru gyfan ar gyfer amseroedd ymateb brys ym mis cyntaf y model prawf newydd. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn pryderu bod amrywiadau rhanbarthol sylweddol yn parhau, a dywedodd y byddai’n hoffi gweld y rhain yn cael sylw fel mater o flaenoriaeth, a’i fod yn disgwyl gweld cynnydd parhaus o ran amseroedd ymateb ar lefel leol a chenedlaethol.

Yn ei ymateb, croesawodd y Dirprwy Weinidog Iechyd gydnabyddiaeth y Pwyllgor o’r cynnydd a wnaed er ymchwiliad cychwynnol 2015, a dywedodd:

Mae’n destun balchder i mi ein bod wedi cymryd cam ymlaen ar gyfer cleifion trwy gynnal cynllun peilot ar fodel ymateb clinigol gyda’r bwriad o flaenoriaethu cleifion y mae angen ymyriad clinigol brys arnynt. Bwriad y cynllun peilot yw galluogi clinigwyr ac adnoddau ambiwlans i gael eu dyrannu’n briodol ar sail angen clinigol.

Cyfeiriwyd hefyd yn yr ymateb at y cynnydd a wnaed fis ar ôl mis mewn cymhariaeth â’r targedau, a chyhoeddi’r set gyntaf o Ddangosyddion Ansawdd Ambiwlans newydd ym mis Ionawr 2016. Nododd y Dirprwy Weinidog hefyd mewn gohebiaeth bellach i’r Pwyllgor:

Yn ystod cyfnod cynllun peilot y model ymateb clinigol, a fydd yn para blwyddyn, bydd data AQI yn cael eu cyhoeddi bob chwarter, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o dueddiadau ac effaith amrywiadau tymhorol. Cyhoeddir y rhain ochr yn ochr â’r amseroedd ymateb ‘Coch’ a gyhoeddir yn fisol. Fel yr wyf wedi dweud eisoes, mae’r ffordd yr ydym yn rhannu gwybodaeth allweddol ynghylch gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru yn golygu bod ein dull gweithredu y mwyaf tryloyw yn y DU ac ymysg y mwyaf tryloyw ledled y byd.

Adolygu’r model ymateb clinigol

Nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon mewn Datganiad Ysgrifenedig ym mis Medi 2016 bod disgwyl i adroddiad gwerthuso terfynol y model ymateb clinigol gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2016 ac y byddai’n gwneud penderfyniad terfynol ar ddyfodol y cynllun peilot erbyn diwedd mis Mawrth 2017.

Nid oedd adroddiad interim ar y model a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ym mis Medi 2016 yn nodi unrhyw bryder sylweddol. Mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys hefyd wedi cael diweddariad am ddrafft terfynol yr adroddiad gwerthuso, sy’n nodi:

…the removal of time based targets for the majority of calls has allowed for more efficient dispatching of ambulance resources, increased opportunities for hear and treat; and supported timely responses to patients with the greatest clinical need.

Roedd disgwyl i’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys gael gweld yr adroddiad gwerthuso terfynol ym mis Ionawr 2017 cyn ei gyflwyno i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, y mae disgwyl iddo wneud datganiad ynghylch y gwerthusiad i’r Cyfarfod Llawn ar 28 Chwefror 2017.

Llun gan Diluvienne o Flickr. Dan drwydded Creative Commons.