Arweinyddiaeth mewn Addysg

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Y prynhawn yma (16 Mai 2017), bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn gwneud datganiad yn y Senedd ynghylch arweinyddiaeth mewn addysg.

Mae adroddiadau Estyn un ar ôl y llall wedi nodi pwysigrwydd arweinyddiaeth gref ac effeithiol i wella safonau addysg. Yn ei adroddiad blynyddol diweddaraf (2015/2016), nododd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru mai arweinyddiaeth yw’r ‘ffactor pwysicaf’ yng ngwelliant ysgolion. Yn flaenorol, mae Estyn hefyd wedi adrodd:

Parhau i Ddarllen

Y Cynulliad i drafod Adroddiad Blynyddol 2015/16 Prif Arolygydd Estyn

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (7 Mawrth, 2017), bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod Adroddiad blynyddol 2015/16 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Meilyr Rowlands. Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol ar 24 Ionawr 2017, ac mae eisoes wedi bod yn destun craffu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 15 Chwefror 2017 .

Parhau i Ddarllen

Gwella safonau mewn ysgolion

10 Mehefin 2016

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Rhoddodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru flaenoriaeth i wella safonau a pherfformiad mewn ysgolion, ar ôl y ‘sioc i’r system’ yn sgil canlyniadau siomedig PISA. A fydd y sylw hwn yn parhau a beth yw’r prif heriau?

Roedd y ffocws a roddodd Llywodraeth Cymru ar safonau a pherfformiad ysgolion yn ystod y Pedwerydd Cynulliad yn ddigynsail. Cyfaddefodd Gweinidogion fod llywodraethau blaenorol o’r un lliw gwleidyddol â hwy wedi tynnu eu ‘llygaid oddi ar y bêl’. Bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru benderfynu a ddylid parhau â’r un dull â’i rhagflaenydd wrth ymdrin â’r heriau hyn.

Dyma lun o fformiwlâu mathemategol.

Llun o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Dylanwad PISA

Ym mis Rhagfyr 2010, disgrifiodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd, ganlyniadau Cymru yn y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn 2009 fel ysgytwad i system hunanfodlon.

Ymatebodd drwy gyflwyno cynlluniau oedd yn canolbwyntio o’r newydd ar lythrennedd a rhifedd, yn ogystal â gwell atebolrwydd ac arweinyddiaeth a rheolaeth gryfach mewn ysgolion. Nid oedd Canlyniadau PISA 2012 fawr gwell gyda Chymru yn sgorio’n is na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Fodd bynnag, pwysleisiodd Llywodraeth Cymru fod ei diwygiadau yn dal i fwrw gwreiddiau ac y byddai’n cymryd blynyddoedd i oresgyn yr heriau a amlygwyd gan PISA.

Yn gynnar yn 2016, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, fod canlyniadau 2009 yn sioc i’r system a bod llawer wedi newid o ganlyniad i PISA.

Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA)

  • mae’n arolygu galluoedd disgyblion 15 oed mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth
  • caiff ei chynnal gan yr OECD mewn cylchoedd 3 blynedd
  • rhoddir sgôr a safle i wledydd ar sail canlyniadau perfformiad eu sampl

Cynllun gwella addysg

Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru ei chynllun gwella addysg, Cymwys am Oes, yn 2014. Roedd hyn yn rhannol mewn ymateb i adolygiad a gomisiynwyd gan yr OECD (2014) a ddaeth i’r casgliad bod diffyg gweledigaeth hirdymor a diffyg strategaeth weithredu glir a chyffredin ar gyfer gwella ysgolion.

Mae Cymwys am Oes yn cynnwys pecyn o ddiwygiadau tan 2020, yn seiliedig ar bedwar amcan strategol:

  • gweithlu proffesiynol rhagorol;
  • cwricwlwm sy’n ddeniadol ac yn atyniadol;
  • cymwysterau sy’n cael eu parchu’n rhyngwladol; a
  • system sy’n hunanwella gydag arweinyddiaeth gref.

    Dyma dabl sy'n dangos canlyniadau PISA ar gyfer 2012

    Sgoriau PISA 2012

Hefyd, ymrwymodd Llywodraeth flaenorol Cymru i gyhoeddi Cerdyn Adroddiad Addysg Cymru yn flynyddol yn nodi’r hyn yr oedd wedi’i gyflawni mewn perthynas â phob amcan strategol.

Cyhoeddodd y Cerdyn Adroddiad Addysg Cymru ym mis Mawrth 2016. Dywedodd hwn fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd ym mhob cyfnod addysg a’i bod yn lleihau’r bwlch cyrhaeddiad ym mhob cyfnod allweddol rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion. Fodd bynnag, dadleuodd y Gymdeithas Athrawon a Darlithwyr nad oedd y cerdyn adrodd yn rhoi’r darlun cyfan. Cyfeiriodd y Gymdeithas at yr adroddiad blynyddol diweddaraf gan Estyn gan nodi bod y Gweinidog yn marcio ei waith cartref ei hun, fel petai.

Cyflawniad disgyblion yng Nghymru, yn ôl cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Noder: Trothwy cynwysedig lefel 2 = 5 TGAU graddau A*-C neu fwy gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg, neu gymwysterau cyfatebol

Cyflawniad disgyblion yng Nghymru, yn ôl cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim.
Noder: Trothwy cynwysedig lefel 2 = 5 TGAU graddau A*-C neu fwy gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg, neu gymwysterau cyfatebol

Yr heriau a amlygwyd gan Estyn

Mae’n amlwg y bydd gan Lywodraeth newydd Cymru nifer o heriau i’w goresgyn os yw am wella safonau ysgolion a chanlyniadau disgyblion. Amlygwyd rhai o’r rhain yn adroddiad blynyddol 2014/15 Prif Arolygydd Estyn. Daeth i’r casgliad, er bod cynnydd wedi’i wneud, fod mwy i’w wneud o hyd. Gan adrodd ar y sampl o ysgolion a arolygwyd yn ystod 2014/15, dywedodd y Prif Arolygydd:

  • fod safonau’n amrywio a bwlch rhy eang rhwng yr ysgolion gorau a’r ysgolion gwaethaf na ellir eu hegluro gan ffactorau economaidd-gymdeithasol yn unig;
  • mai dim ond hanner yr ysgolion uwchradd sydd â chynlluniau addas ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Yn yr hanner arall, mae cynllunio ar draws y cwricwlwm yn ‘wan’;
  • mai dim ond mewn tua hanner yr ysgolion uwchradd a arolygwyd y mae safon yr addysgu’n dda neu’n well. Yn yr hanner arall, mae ‘ansawdd yr addysgu yn anghyson ac nid yw gweithgareddau’n ddigon heriol’; ac
  • mai arweinyddiaeth dda sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i ansawdd y ddarpariaeth mewn ysgol.

Polisi’r dyfodol a chanlyniadau PISA 2015

Yn ystod wythnosau olaf y Pedwerydd Cynulliad, honnodd y Gweinidog ar y pryd fod momentwm newydd yn y byd addysg. Tynnodd sylw at well canlyniadau TGAU a’r ffaith bod y bwlch cyrhaeddiad yn sgil tlodi yn lleihau, sef un o’i brif flaenoriaethau.

Mae targed Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau PISA yn darged hirdymor: sgoriau o 500 ym mhob un o’r tri maes (darllen, mathemateg a gwyddoniaeth) erbyn 2021. Fodd bynnag, bydd canlyniadau cylch 2015 yn cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2016 a dylent ddangos faint o effaith y mae’r llu o ddiwygiadau dros y pedair neu bum mlynedd diwethaf wedi’i chael. Ym mis Ionawr 2016, dywedodd y Gweinidog ar y pryd wrth Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad fod yn rhaid i dystiolaeth o system gyfan yn symud yn ei blaen gael ei hadlewyrchu yn y canlyniadau hynny gan PISA.

Dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru y byddai’n parhau i yrru’r broses wella yn ei blaen. Fodd bynnag, a fydd Llywodraeth newydd Cymru a’r Ysgrifennydd Cabinet newydd, sy’n Ddemocrat Rhyddfrydol, yn rhoi cymaint o bwys ar PISA ac a fyddant yn parhau â’r diwygiadau sydd eisoes ar y gweill? Os na fyddant, pa ddull gwahanol y byddant yn ei fabwysiadu i fynd i’r afael â’r mater hollbwysig hwn?

Ffynonellau allweddol

 

 

Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Estyn 2014-15: Sylwadau manylach cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn

19 Chwefror 2016

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae hwn yn ddarlun o rai pensiliau.

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Dyma’r ail erthygl ar adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Estyn cyn dadl y Cynulliad ddydd Mawrth (23 Chwefror 2016).

Roedd erthygl ddoe yn edrych ar sylwadau cyffredinol y Prif Arolygydd ynghylch beth roedd arolygwyr Estyn wedi canfod yn ystod 2014-15 ac roedd yn cyflwyno peth data ar ganlyniadau arolygiadau mewn dau dabl. Heddiw, rydym yn cymryd golwg agosach ar sectorau penodol a blaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru.

Mae adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd yn cynnwys ‘adroddiadau sector’ ar gyfer pob agwedd ar system addysg Cymru y mae’n ei harolygu. Mae rhai o’r prif bwyntiau wedi’u rhestru isod.

Ysgolion cynradd

  • Cafodd safonau eu barnu yn Dda neu’n well mewn tua dwy o bob tair ysgol gynradd a arolygwyd.
  • Cafodd darpariaeth yn gyffredinol ei barnu yn Dda neu’n well mewn tri chwarter o ysgolion a arolygwyd.

Ysgolion uwchradd

  • Gwnaeth cyfran yr ysgolion a farnwyd yn Ardderchog godi i 16%, sef y gyfran uchaf yn unrhyw flwyddyn ers 2010. Fodd bynnag, mae cyfran yr ysgolion a farnwyd yn Anfoddhaol hefyd wedi codi. Mae’r Prif Arolygydd yn disgrifio hyn fel ‘polareiddio mewn canlyniadau’, fel y nodwyd yn erthygl ddoe.
  • Nododd arolygwyr Estyn arfer ardderchog yn 38% o ysgolion uwchradd, sef cynnydd o 13 pwynt canran oddi ar 2013-14.
  • Cafodd safonau eu barnu yn Dda neu’n well mewn dwy o bob pum ysgol uwchradd, sy’n is na’r flwyddyn flaenorol.
  • Cafodd darpariaeth ei barnu yn Dda neu’n well mewn tua hanner o ysgolion a arolygwyd, sef cyfran is na’r flwyddyn flaenorol.

Y Blynyddoedd Cynnar

  • Roedd 36% o leoliadau heb fod mewn ysgolion i blant dan bump oed angen rhyw fath o waith dilynol, sy’n uwch na’r ddwy flynedd flaenorol. Mae’r Prif Arolygydd yn nodi bod hyn yn ‘gwrth-droi’r duedd flaenorol o welliant mewn meysydd allweddol, fel cynllunio’r cwricwlwm a hunanarfarnu’.

Unedau Cyfeirio Disgyblion

  • Cafodd safonau eu barnu yn Dda mewn dwy Uned Cyfeirio Disgyblion ac yn Ddigonol yn y llall, tra bod darpariaeth wedi’i barnu’n Dda yn y tair Uned. Mae hyn yn dangos gwelliant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Mae’r Prif Arolygydd yn cyfeirio at Unedau Cyfeirio Disgyblion fel enghraifft lle nad yw cyfres o ganlyniadau arolygu un flwyddyn mewn sector cymharol fach yn rhoi’r darlun llawn. Dywed fod y ‘sector yn gyffredinol yn parhau’n wan, ac mae angen newidiadau o hyd i’r ffordd y mae unedau cyfeirio disgyblion yn cael eu rheoli a’u trefnu’.

Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru

Llythrennedd a rhifedd

Mae’r Prif Arolygydd yn nodi gwelliannau yn sgiliau llythrennedd disgyblion mewn ysgolion cynradd. Fodd bynnag, mae hefyd yn dweud, mewn chwarter o ysgolion cynradd, bod y cynnydd o ran gwella sgiliau rhifedd yn rhy amrywiol. Mae Estyn yn dweud mai ‘diffyg hyder disgyblion yn cymhwyso medrau rhifedd y tu allan i wersi mathemateg’ sy’n gyfrifol am hyn ynghyd â ‘diffyg cyfleoedd perthnasol a difyr iddynt gymhwyso’u medrau ar draws y cwricwlwm’.

Dywedodd y Prif Arolygydd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 27 Ionawr 2016 y bu llai o gynnydd mewn rhifedd na llythrennedd, a oedd, yn ei farn ef, yn rhannol gan fod athrawon ym mhob pwnc yn llai cyfforddus a hyderus eu hunain wrth gymhwyso rhifedd. [gweler paragraffau 57-62 o drawsgrifiad y Pwyllgor (pdf 461KB)]

Dim ond tua hanner o ysgolion uwchradd sydd â ‘chynlluniau addas i ddatblygu llythrennedd a rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm’ ac ystyriwyd fod gwaith cynllunio a chydgysylltu ar gyfer dilyniant ar draws y cwricwlwm yn yr hanner arall yn ‘wan’.

Mynd i’r afael ag effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad

Mae’r Prif Arolygydd yn nodi bod y bwlch yn lleihau ym mhob cyfnod rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy’n gymwys i gael cinio ysgol am ddim a’u cyfoedion mwy breintiedig Yng nghyfnod allweddol 4 (lefel TGAU) mae’r bwlch ar ei leiaf ers 2009. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru (Rhagfyr 2015) yn rhoi rhagor o fanylion.

Am y tro cyntaf, mae’r adroddiad blynyddol yn trafod pa mor dda mae ysgolion yn defnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion. Mae’r Prif Arolygydd yn nodi bod ‘arweinwyr mewn llawer o ysgolion cynradd yn defnyddio’r cyllid…yn dda’ ac, mewn ysgolion uwchradd ‘mae mwyafrif o ysgolion yn gwneud defnydd effeithiol’ ohono ‘trwy weithgareddau wedi’u cynllunio’n dda’. [Gellir cael rhagor o wybodaeth am hyn yn y Gwerthusiad ar Grant Amddifadedd Disgyblion gan Ipsos MORI a WISERD.]

Cymhwysedd digidol

Dywed y Prif Arolygydd, yn y mwyafrif o ysgolion cynradd, y ‘ceir diffygion pwysig mewn safonau TGCh’ gyda safonau Da neu well mewn lleiafrif yn unig.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd ‘nid yw disgyblion yn cael digon o gyfle i ddatblygu’u medrau TGCh mewn pynciau ar draws y cwricwlwm’ ac mae hyn yn ‘fylchog ac wedi’i gydlynu’n wael’ yn ôl Estyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu blaenoriaethu’r cymhwysedd digidol o fewn y cwricwlwm ar ôl i adolygiad cwricwlwm yr Athro Graham Donaldson argymell y dylai gael yr un pwysigrwydd â llythrennedd a rhifedd.

Safonau addysgu

Mae’r Prif Arolygydd yn nodi fod addysgu yn cael ei farnu yn Dda neu’n well mewn dim ond tua hanner o ysgolion uwchradd. Yn yr hanner arall, ‘mae ansawdd yr addysgu yn anghyson ac nid yw gweithgareddau’n ddigon heriol’. Mae’r adroddiad blynyddol hefyd yn dweud ‘mewn rhyw hanner y gwersi, nid yw athrawon yn addasu gwaith i ymestyn disgyblion mwy abl nac i gynorthwyo’r rhai is eu gallu’.

Mae’r sefyllfa mewn ysgolion cynradd yn well, gyda dwy o bob tair ysgol gydag addysgu ac asesu Da neu well.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n gwneud newidiadau mawr i addysgu a hyfforddiant cychwynnol athrawon, yn dilyn Adolygiad Furlong, ac i ddatblygiad proffesiynol parhaus athrawon drwy’r ‘Fargen Newydd’.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae Estyn wedi pwysleisio’n rheolaidd bod arweinyddiaeth dda yn mynd law yn llaw ag ansawdd darpariaeth. Fel y nodwyd yn adroddiad blynyddol y flwyddyn flaenorol:

Mae canfyddiadau arolygu wedi dangos, dro ar ôl tro dros y pum mlynedd diwethaf, fod cysylltiad rhwng ansawdd arweinyddiaeth ac ansawdd deilliannau ar gyfer dysgwyr. [fy mhwyslais i]

Roedd hon yn un o brif negeseuon yn adroddiad thematig Estyn, Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion (PDF 964KB) (Mehefin 2015).

Amlygir y thema hon yn adroddiad 2014-15 hefyd. Er enghraifft, mae’r Prif Arolygydd yn nodi bod gan bob un o’r ysgolion cynradd a roddwyd mewn categori statudol yn 2014-15 wendidau o ran arweinyddiaeth a rheolaeth.

Mae’r Prif Arolygydd yn nodi, yn 2014-15:

  • Mae’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth yn Dda neu’n well mewn saith o bob deg ysgol. Mae hyn yr un fath â’r llynedd.
  • Mae’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth yn Dda neu’n well mewn 43% o’r ysgolion a arolygwyd eleni. Hynny yw, mae ond yn Ddigonol ar ei orau mewn bron i dair o bob pum ysgol.
  • Mewn ychydig dros chwarter o ysgolion uwchradd, mae hunanarfarnu yn Anfoddhaol ac mae agweddau pwysig, fel addysgu ac asesu, ar goll mewn adroddiadau hunanarfarnu.

Hunanarfarnu

Yn ei adroddiad blynyddol cyntaf fel Prif Arolygydd, mae Meilyr Rowlands wedi cynnwys cyfres o gwestiynau hunanarfarnu, a, dywed:

‘allai fod yn fuddiol i staff a llywodraethwyr wrth feddwl am yr addysgu a’r dysgu yn eu hysgol eu hunain neu mewn lleoliad heblaw’r ysgol, ac am ba mor dda y maent wedi paratoi ar gyfer y newidiadau sydd i ddod [y cwricwlwm newydd ac ati] dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.’

Dywedodd y Prif Arolygydd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 27 Ionawr 2016 (PDF 461KB)

‘Wel, rydych chi’n gwybod beth yw barn Estyn: mae hunanarfarnu yn

bwysig ofnadwy. Yn aml, yr ysgolion yna sy’n gwneud yn dda yw’r ysgolion sy’n hunanarfarnu mewn ffordd hollol onest. (…) Felly, rydym ni’n pwysleisio drwy’r amser ar bwysigrwydd hunanasesu fel rhywbeth mae pob ysgol yn ei wneud, bob blwyddyn.’

Mae’r ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn wedi’i drefnu ar gyfer 4.00pm ddydd Iau 23 Chwefror 2016. Gellir ei gwylio ar SeneddTV.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Estyn 2014/15: Trosolwg byr cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn

18 Chwefror 2016

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun yw hwn o fformiwla fathamategol mewn sialc ar fwrdd du.

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Yr wythnos nesaf (dydd Mawrth 23 Chwefror 2016), bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Estyn, sy’n rhoi crynodeb o ddeilliannau arolygu ysgolion a lleoliadau addysg a hyfforddiant eraill yn ystod blwyddyn academaidd 2014/15. Dyma’r cyntaf o ddwy erthygl sy’n ceisio rhoi rhywfaint o wybodaeth cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf.

Adroddiad blynyddol 2014/15 yw’r cyntaf ers i Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd newydd, gael ei benodi ym mis Mehefin 2015. Mae’r nodweddion newydd eleni yn cynnwys cyfleuster chwilio a hidlo ar-lein, sy’n darparu data ynghylch deilliannau pob arolygiad a gynhaliwyd yn 2014/15 a hefyd drwy gydol y cylch arolygu cyfredol a ddechreuodd yn 2010.

Yn ei adroddiad, mae’r Prif Arolygydd yn cyfeirio at y diwygiadau addysg a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf, gan nodi iddynt ‘osod sylfeini cadarn ar gyfer addysg’ yng Nghymru. Dywed:

‘Ar y cyfan, mae cynnydd yn cael ei wneud gyda’r sylfeini hyn, ac rydym yn dechrau gweld budd y gwaith cychwynnol hwn, er bod mwy i’w wneud o hyd.’

Gellir dadlau mai’r brif neges gan y Prif Arolygydd yw’r ‘amrywioldeb’ mewn safonau, y mae’n ei ddisgrifio fel ‘un o nodweddion mwyaf amlwg system addysg Cymru’. Dywed:

‘Unwaith eto eleni, mae cyferbyniad nodedig, yn enwedig rhwng ansawdd yr addysgu a’r dysgu, yn ein darparwyr addysg gorau ac yn y rhai gwannaf. Nid ffactorau economaidd-gymdeithasol sy’n bennaf gyfrifol am yr amrywioldeb hwn, gan fod rhai o’n darparwyr gorau mewn ardaloedd cymharol ddifreintiedig.’

(…)

‘…mae’r bwlch rhwng yr ysgolion sy’n gwneud yn dda a’r rhai nad ydynt yn gwneud yn dda yn rhy eang o hyd. Mae angen mynd i’r afael â’r amrywioldeb yn ansawdd yr addysg rhwng darparwyr, a’u gallu amrywiol ar gyfer arweinyddiaeth, hunanwella a gweithio mewn partneriaeth.’

Mae’r cyferbyniad mewn perfformiad yn fwyaf amlwg ymysg ysgolion uwchradd. Barnwyd bod un o bob chwe ysgol uwchradd yn Rhagorol ar y cyfan, a barnwyd bod tua’r un gyfran yn anfoddhaol. Dywed y Prif Arolygydd fod hyn dangos ‘polareiddio mewn canlyniadau arolygu’ mewn ysgolion uwchradd, yn ôl y sampl a arolygwyd yn 2014/15, gan fod cyfran y rhai a gafodd ddyfarniad Rhagorol neu Anfoddhaol wedi codi ers y flwyddyn flaenorol.

Mae Mr Rowlands eisoes wedi ateb cwestiynau ynghylch ei adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 27 Ionawr 2016 (pdf 461KB). Ceisiodd esbonio i’r Pwyllgor pam mae safonau yn tueddu amrywio i’r eithafion mewn ysgolion uwchradd yn fwy nag ysgolion cynradd:

‘Why is that polarisation greater in secondary than in primary? I think it’s not just a function of inspection, as you see it in lots of other indicators. So, for example, the gap between boys’ performance and girls’ performance seems to get wider as children get older. The gap between disadvantaged pupils and their peers also seems to get wider as they get older. There seems to be a cumulative effect that starts, maybe, in primary school, but gets wider in secondary. I think the other factor in terms of this polarisation, possibly, is that secondary schools are bigger and more complex organisations than primary schools.’

Beth y mae Estyn yn edrych arno wrth arolygu ysgolion a lleoliadau eraill?

Mae Estyn defnyddio Fframwaith Arolygu Cyffredin a gyflwynwyd ar ddechrau’r cylch arolygu cyfredol ym mis Medi 2010. Mae’r Fframwaith yn cynnwys tri chwestiwn allweddol ynghylch ‘pa mor dda’ yw’r deilliannau, y ddarpariaeth, a’r arweinyddiaeth a rheolaeth. Yn dilyn hynny, mae Estyn yn ffurfio dwy farn gyffredinol am berfformiad cyfredol a rhagolygon ar gyfer gwella ym mhob lleoliad yn ôl graddfa â phedwar pwynt iddi, sef Rhagorol, Da, Digonol ac Anfoddhaol.

Ceir dau dabl ar ddiwedd yr erthygl hon. Mae Tabl 1 yn dangos deilliannau’r ddau ddyfarniad cyffredinol ynghylch lleoliadau yn y sector oedran ysgol a’r sector blynyddoedd cynnar yn 2014/15. Mae Tabl 2 yn dangos y deilliannau hyn ar sail gronnus drwy gydol y cylch cyfredol hyd yn hyn.

Beth sydd wedi digwydd i ddeilliannau arolygu?

Mae data Estyn ar-lein yn darparu ar gyfer dadansoddi tueddiadau mewn deilliannau arolygu rhwng blynyddoedd unigol

  • Gwnaeth cyfran yr ysgolion cynradd a arolygwyd yn ystod y flwyddyn, y barnwyd eu bod yn Rhagorol neu’n Dda, ostwng o 70% yn 2012/13 i 62% yn 2013/14, cyn codi i 67% yn 2014/15.
  • Gwnaeth cyfran yr ysgolion uwchradd a arolygwyd yn ystod y flwyddyn, y barnwyd eu bod yn Rhagorol neu’n Dda, gynyddu o 45% yn 2012/13 i 53% yn 2013/14, cyn gostwng i 41% yn 2014/15.

Fodd bynnag, mae’r Prif Arolygydd yn dweud y dylid bod yn ofalus wrth ddod i gasgliadau ar sail samplau blynyddol yn unig. Yn ei adroddiad, mae’n tynnu sylw at y ffaith nad oedd yr un o’r newidiadau a nodir uchod yn arwyddocaol yn ystadegol. Ar 27 Ionawr 2016, dywedodd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

‘..all those changes were, in fact, within those error bars [used to measures ranges of statistical significance]. So, what that means is that, in reality, you can be pretty sure that, overall, there hasn’t been a lot of change in either primary or secondary.’

Felly, er nad oedd fawr ddim newid arwyddocaol yng nghyfran yr ysgolion sy’n Dda neu well, roedd cynnydd yn nghyfran yr ysgolion hynny sy’n Rhagorol yn y sector uwchradd. Yn yr un modd, nid oedd newid sylweddol yng nghyfran yr ysgolion sy’n Ddigonol ar y gorau, ond roedd cynnydd yng nghyfran yr ysgolion uwchradd sy’n Anfoddhaol. Felly, dyna oedd y Prif Arolygydd yn cyfeirio ato wrth sôn am bolareiddio. Yn ôl Meilyr Rowlands, y rheswm pennaf am hyn yw’r lefel o gysondeb a geir mewn ysgolion a safon yr arweinyddiaeth. Dyma a ddywedodd wrth y Pwyllgor,

‘So, ultimately, we have little doubt that what makes the biggest difference in terms of what makes good provision in a school is good leadership.’

Byddwn yn cyhoeddi erthygl arall yfory, yn edrych ar sectorau penodol a’r hyn y mae Estyn yn ei ddweud am berfformiad yn erbyn blaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru.

Tabl 1: Deilliannau arolygiadau fesul sector, 2014/15

Tabl 1: Deilliannau arolygiadau fesul sector, 2014/15

Ffynhonnell: Data Estyn (data.estyn.llyw.cymru)
Nodiadau: a) mae’r rhif mewn cromfachau ar ôl enw’r sector yn dynodi nifer y lleoliadau a arolygwyd; b) efallai na fydd y canrannau’n dod i gyfanswm o 100 am fod y ffigurau wedi’u talgrynnu; c) oherwydd y nifer fechan o ddarparwyr a gynhwyswyd, mae ffigurau ar gyfer categorïau ac eithrio ysgolion cynradd ac uwchradd, a lleoliadau i blant o dan 5 oed, wedi cael eu darparu fel rhifau yn hytrach na chanrannau.

Tabl 2: Deilliannau arolygiadau fesul sector, 2010/11 – 2014/15

Tabl 2: Deilliannau arolygiadau fesul sector, 2010/11 - 2014/15

Ffynhonnell: Data Estyn (data.estyn.llyw.cymru)
Nodiadau: a) mae’r rhif mewn cromfachau ar ôl enw’r sector yn dynodi nifer y lleoliadau a arolygwyd; b) efallai na fydd y canrannau’n dod i gyfanswm o 100 am fod y ffigurau wedi’u talgrynnu; c) oherwydd y nifer fechan o ddarparwyr a gynhwyswyd, mae ffigurau ar gyfer categorïau ac eithrio ysgolion cynradd ac uwchradd, a lleoliadau i blant o dan 5 oed, wedi cael eu darparu fel rhifau yn hytrach na chanrannau.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg