Gweithwyr dur yn pleidleisio i dderbyn cynnig Tata – beth yw’r camau nesaf i’r diwydiant?

17 Chwefror 2017

Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

tatasteel

Llun o Flickr gan Ben Salter. Dan drwydded Creative Commons.

Ar 15 Chwefror 2017, gwnaeth aelodau undebau llafur Community, UNITE a GMB oll bleidleisio i dderbyn y cynnig gan Tata Steel yn ymwneud â phensiynau, buddsoddiad yn y dyfodol a sicrwydd swyddi. Roedd y tair undeb wedi argymell bod gweithwyr yn derbyn y cynnig, tra’n cydnabod y penderfyniad anodd y byddai’n rhaid i weithwyr ei wneud o ran eu pensiynau. Mae Tata wedi dweud bod gwaith yn parhau i fynd rhagddo gyda’r undebau ac eraill i sicrhau dyfodol i’r diwydiant.

Beth sydd yn y cynnig?

Mae undeb llafur UNITE wedi nodi manylion y cynnig y gwnaeth aelodau’r undeb bleidleisio arno, a oedd yn cynnwys:

  • Cau Cynllun Pensiwn British Steel ar gyfer croniadau yn y dyfodol ar 31 Mawrth 2017 a chyflwyno Cynllun Pensiwn Cyfraniadau Diffiniedig. Bydd taliadau untro ychwanegol i aelodau’r cynllun pensiwn 50+ oed sy’n ymddeol rhwng 60 a 64 oed ar gael hefyd mewn rhai amgylchiadau.
  • Ymrwymiad i redeg 2 ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot tan o leiaf 2021, a buddsoddiad arfaethedig yn Ffwrnais Chwyth 5 i ymestyn ei oes y tu hwnt i 2021.
  • Ymrwymiad i gynllun buddsoddi sy’n cynnig £1 biliwn o fuddsoddiad dros 10 mlynedd, ar yr amod bod Tata Steel UK yn gwneud o leiaf £200 miliwn mewn enillion cyn treth, llog, dyled ac amorteiddiad (EBITDA) y flwyddyn.
  • Amddiffyn yn erbyn diswyddiadau gorfodol tan 2021, sy’n cyfateb i’r ymrwymiad a roddwyd i’r gweithlu yn ffatri IJmuiden Tata yn yr Iseldiroedd.

Bydd Tata hefyd yn ceisio ailstrwythuro Bonws Elw’r DU, ac yn cyflwyno cyfraddau ac amodau newydd ar gyfer cyflogeion newydd. Mae hefyd yn anelu i wneud arbedion cost cyflogaeth gwerth £13 miliwn ledled y DU.

Sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yn y diwydiant dur a’r cymunedau dur?

Yn flaenorol, cynigiodd Llywodraeth Cymru becyn gwerth dros £60 miliwn i Tata, gydag amodau ynghlwm, cyn cyhoeddi eu bod yn gwerthu asedau’r DU ym mis Mawrth 2016, gan gynnwys buddsoddiad mewn gwelliannau amgylcheddol a datblygu’r llinell galfaneiddio ym Mhort Talbot.  Yn dilyn y bleidlais, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ei fod yn gobeithio cyflwyno cyhoeddiadau yn fuan ar y prosiectau hyn.

Hefyd, sefydlodd Ardal Fenter Glannau Port Talbot mewn ymateb i’r cyhoeddiad bod swyddi yn cael eu colli ym mis Ionawr 2016. Hefyd, cytunodd Llywodraeth y DU i ariannu Lwfansau Cyfalaf Uwch ar gyfer tri safle yn yr Ardal Fenter, sy’n galluogi busnesau i hawlio 100% o lwfans y flwyddyn gyntaf ar gyfer cost cyfalaf buddsoddiad newydd mewn peiriannau ac offer.

Ym mis Rhagfyr 2016, cytunodd Llywodraeth Cymru i gyfrannu £8 miliwn tuag at gyfanswm buddsoddiad o £18 miliwn mewn gwelliannau i weithfeydd pŵer Port Talbot a sefydlu canolfan ymchwil a datblygu yn Abertawe. Ym mis Chwefror 2017, cyfrannodd £1.6 miliwn tuag at welliannau amgylcheddol yn Celsa Steel yng Nghaerdydd, a £1.2 miliwn o fuddsoddiad mewn tri chwmni arall yn y diwydiant.

Ym mis Rhagfyr 2016, cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu £4 miliwn i Tata i gyfateb â’i buddsoddiad mewn hyfforddiant i staff a rheolwyr ledled Cymru.  Mae cynllun cymorth diswyddo ReAct Llywodraeth Cymru wedi helpu gweithwyr Tata a chwmnïau’r gadwyn gyflenwi.

Mae Llywodraeth y DU wedi helpu i liniaru prisiau trydan uchel ac effaith polisi newid hinsawdd. Dros y ddau gynllun iawndal a gyflwynwyd, mae Llywodraeth y DU wedi darparu dros £100 miliwn o iawndal i’r diwydiant dur.

A yw’r cymorth hwn wedi mynd i’r afael â’r heriau allweddol y mae’r diwydiant yn eu hwynebu, a pha gamau pellach sydd eu hangen?

Ym mis Hydref 2015, nododd y diwydiant dur bum maes lle gellid cymryd camau i fynd i’r afael â’r heriau y mae’n wynebu yn y tymor hwy. Mae UK Steel yn dweud o’r rhain, mae un wedi’i weithredu’n llwyr, tri yn rhannol ac nid yw un wedi’i weithredu o gwbl. I’r gwrthwyneb, mae Llywodraeth y DU o’r farn ei bod wedi mynd i’r afael â phedwar o’r camau gweithredu hyn.

O ran prisiau ynni, er bod y diwydiant dur wedi croesawu pecyn cymorth Llywodraeth y DU, mae prisiau trydan ar gyfer cynhyrchwyr y DU yn parhau i fod dipyn uwch na’r cystadleuwyr yn Ewrop. Mae UK Steel yn nodi gwahaniaeth o £17 fesul Mega Watt Awr rhwng cynhyrchwyr y DU a’r Almaen, gan effeithio ar benderfyniadau buddsoddi rhwng gweithfeydd dur mewn gwledydd gwahanol.

Bydd gweithredu mewn cysylltiad â ‘dympio’ dur yn allweddol lle bydd angen i Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau ar ôl i’r DU adael yr UE, gan y bydd angen iddi sefydlu mesurau amddiffyn masnach. Bu pryder nad yw tariffau gwrth-dympio blaenorol yr UE wedi bod yn ddigon uchel, ac nad yw Llywodraeth y DU wedi helpu i godi’r rheol ‘dyletswydd leiaf’ gan yr UE. Mae’r sector yn pryderu ynghylch y potensial y bydd tariffau yn cael eu gosod ar ôl i’r DU adael yr UE.  Er bod tariffau WTO ar gynnyrch dur yn 2%, mae tariffau fel y 10% ar y diwydiant modur yn peri mwy o bryder.

O ran ardrethi busnes, mae’r diwydiant dur wedi galw bod peiriannau ac offer yn cael eu heithrio o filiau ardrethi busnes. Canfu UK Steel fod cwmnïau yn y DU yn talu bum i ddeg gwaith mwy o ardrethi busnes na chynhyrchwyr yn Ffrainc a’r Almaen. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn, gan ei bod o’r farn ei bod yn gymhleth i’w weithredu ac wedi dewis helpu’r diwydiant mewn ffyrdd eraill. Fodd bynnag, yn sgil ailbrisio ardrethi busnes yn ddiweddar, gwelwyd gostyngiad yng ngwerthoedd ardrethol gwaith dur yng Nghymru. Mae UK Steel wedi nodi o dan gynllun rhyddhad trosiannol Llywodraeth Cymru, ni fydd gostyngiadau biliau ardrethi busnes gweithfeydd dur yn cael eu capio fel y bydd yn digwydd yn Lloegr.

Mae’r ddwy lywodraeth wedi gweithredu o ran caffael hefyd.  Mae Llywodraethau Cymru a’r DU wedi cyhoeddi prosiectau seilwaith yn yr arfaeth a fydd angen dur. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi newid ei chontractau cludiant i’w gwneud yn ofynnol nad yw dur wedi’i ‘dympio’ yn cael ei ddefnyddio. Hefyd, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno mesurau caffael, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i adrannau llywodraeth ganolog i ystyried effeithiau economaidd a chymdeithasol y dur maent yn ei gael. Ymysg y camau gweithredu allweddol ar gyfer y diwydiant dur yn y dyfodol mae cydymffurfio â chanllawiau, a datblygu dulliau adrodd tryloyw.

Ym mis Mai 2016, galwodd Prifysgol Abertawe am gefnogaeth i gynnig newydd ar gyfer canolfan arloesi a thechnoleg genedlaethol ar gyfer dur. Mae’r IPPR wedi dadlau y dylai diwydiannau sylfaen megis dur gael eu hintegreiddio’n well i’r rhwydweithiau Catapult, sydd wedi’u dylunio i hybu arloesedd mewn sectorau allweddol ledled y DU.

Gan edrych at y dyfodol, mae rhai’n ystyried nad yw cynigion Llywodraeth y DU am strategaeth ddiwydiannol yn ystyried dur yn ddigonol. Mae Llywodraeth y DU a’r diwydiant dur yn trafod y potensial o gael ‘bargen sector’ i’r diwydiant, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Bydd sectorau yn datblygu cynlluniau i hybu cynhyrchiant.  Yna gallai Llywodraeth y DU helpu mewn sawl ffordd, gan gynnwys polisi sgiliau a hyfforddiant, newidiadau i reoliadau, helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau i fasnach a helpu i greu sefydliadau sectoraidd newydd.

Sut mae menywod a dynion yn cyfrannu at economi Cymru, a sut y gall strategaeth economaidd adlewyrchu hyn?

31 Ionawr 2017

Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

six-people-working-in-office-725x483

Llun o Google gan Pixnio. Dan drwydded Creative Commons.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad yn cynnal cyfres o seminarau i glywed gwahanol safbwyntiau ar yr hyn y dylai strategaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru ei gynnwys. Bydd y sesiwn gyntaf, ar 2 Chwefror, yn edrych ar sut y gallai strategaeth economaidd ddiwallu anghenion menywod a dynion yng Nghymru. Cyn hynny, dyma bum gwahaniaeth allweddol rhwng y rolau y mae menywod a dynion yn eu chwarae yn economi Cymru sy’n debygol o lywio’r sesiwn.

Mae menywod yn fwy tebygol o weithio yn awr nag yr oeddent 25 mlynedd yn ôl, er eu bod yn dal i fod yn llai tebygol o fod mewn gwaith na dynion.

Pan gyhoeddwyd ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) am y tro cyntaf ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Mai 1992, roedd 58.9 y cant o fenywod 16-64 oed yng Nghymru mewn cyflogaeth, o’i gymharu â’r ffigur diweddaraf o 69.9 y cant yn y cyfnod rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2016. Yn ystod yr un cyfnod, cynyddodd y ffigur cyfatebol ar gyfer dynion o 71.7 y cant i 75.1 y cant.

Mae Cyngor Busnes Menywod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi amcangyfrif y gallai sicrhau cydraddoldeb rhwng cyfraddau cyfranogiad economaidd menywod a dynion helpu i economi’r DU dyfu mwy na 10 y cant erbyn 2030.

Mae bron i dri chwarter o weithwyr rhan-amser yn fenywod.

Dengys ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 286,000 o fenywod yn gweithio’n rhan-amser yng Nghymru, sy’n cyfateb i 73 y cant o’r holl weithwyr rhan-amser. Yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2016, roedd gan 85 y cant o’r dynion a oedd mewn cyflogaeth swyddi amser llawn, ac roedd 15 y cant yn gweithio’n rhan-amser. Mewn cyferbyniad, roedd gan 57 y cant o fenywod mewn cyflogaeth swyddi amser llawn, tra roedd 43 y cant yn gweithio’n rhan-amser.

Canfu prosiect Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi fod cydberthynas gref rhwng gwaith rhan-amser a galwedigaethau sydd yn bennaf yn cyflogi menywod, fel gwasanaethau personol, gwerthiant a gofal. Yng Nghymru, gwnaeth y prosiect ganfod bod o leiaf 40 y cant o’r swyddi hyn yn debygol o gael eu cynnig ar sail ran-amser, gan gyfyngu ar gyfleoedd i gael gwaith llawn amser.

Ar gyfartaledd, caiff menywod eu talu llai yr awr na dynion, ac maent yn fwy tebygol o gael eu talu’n llai na’r cyflog byw

Mae dwy ffordd gyffredin o gymharu gwahaniaethau mewn cyflog gweithwyr benywaidd a gwrywaidd – mae’r ddwy ffordd yn dangos bod menywod ar gyfartaledd yn cael eu talu llai yr awr na dynion yng Nghymru ac yn y DU.

  • Mae’r prif fesur a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cymharu canolrif enillion menywod a dynion sy’n gweithio amser llawn, heb gynnwys taliadau goramser. Gan ddefnyddio’r mesur hwn, 7.5 y cant oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn 2016 ar gyfer gweithwyr llawn amser, sy’n is na ffigur y DU o 9.4 y cant.
  • Dull arall a ddefnyddir i fesur y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw edrych ar enillion canolrif yr awr heb gynnwys goramser ar gyfer yr holl fenywod a dynion sy’n gweithio, oherwydd bod hyn yn ystyried y ffaith bod menywod lawer yn fwy tebygol o weithio’n rhan-amser na dynion. Gan ddefnyddio’r mesur hwn, 15.7 y cant oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn 2016 ar gyfer yr holl weithwyr, sy’n is na ffigur y DU o 18.1 y cant.

Amlygir goblygiadau’r gwahaniaeth hwn mewn cyflog gan y ffaith bod menywod yn fwy tebygol na dynion o ennill cyflog sy’n llai na’r cyflog byw. Dengys data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn seiliedig ar y cyflog byw o £8.25 yr awr ym mis Ebrill 2016, fod 29 y cant o fenywod (172,000) a oedd yn gweithio yng Nghymru yn 2016 yn ennill cyflog a oedd yn is na’r cyflog byw, o’i gymharu â 20.5 y cant (113,000) o ddynion. Mae gweithwyr rhan-amser yn llawer mwy tebygol o ennill llai na’r cyflog byw na gweithwyr amser llawn. Yn 2016, roedd 43.2 y cant o weithwyr rhan-amser benywaidd (109,000) yn ennill llai na’r cyflog byw, o’i gymharu â 53.2 y cant o ddynion sy’n gweithio’n rhan-amser (39,000).

Mae menywod a dynion yn tueddu i weithio mewn gwahanol sectorau o economi Cymru, ac mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sectorau yn effeithio arnynt yn wahanol.

Mae cyflogaeth ymhlith dynion a menywod wedi’i chrynhoi mewn gwahanol sectorau o economi Cymru. Yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2016, roedd hanner yr holl fenywod a oedd yn gweithio wedi’u cyflogi mewn gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd, gan gynrychioli 72 y cant o weithwyr yn y grŵp hwn. Mewn cyferbyniad, caiff dynion eu cyflogi ar draws gwahanol ddiwydiannau, gan gynrychioli mwy na 70 y cant o weithwyr yn y sector amaethyddiaeth a physgota, ynni a dŵr, gweithgynhyrchu, adeiladu, trafnidiaeth a chyfathrebu.

Mae menywod yn llai tebygol na dynion o weithio mewn sector sydd wedi’i flaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru, gan gynrychioli traean o’r gweithwyr a gyflogir yn y sectorau hyn. Gwnaeth strategaeth economaidd bresennol Llywodraeth Cymru, sef Adnewyddu’r Economi: Cyfeiriad Newydd, ddatblygu dull sy’n seiliedig ar sectorau i dargedu cymorth busnes mewn chwe sector allweddol, a gynyddwyd i naw yn ddiweddarach. Mae canran y gweithwyr benywaidd yn y sectorau hyn wedi ei nodi yn y graff isod.

graphcy

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Ystadegau’r sector blaenoriaeth 2016 (tabl 3.6)

Mae menywod yn llai tebygol o ddechrau neu redeg busnes na dynion.

Canfu Arolwg o Fusnesau Bach 2015 gan Lywodraeth y DU fod 23 y cant o fusnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru yn fusnesau a arweinir gan fenywod. Mae menywod hunangyflogedig yn cynrychioli 31 y cant o’r holl bobl hunangyflogedig yng Nghymru, ac mae dynion ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn hunangyflogedig na menywod. Yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2016, roedd 63,600 o fenywod (9.4 y cant o fenywod sy’n gweithio) 16+ oed yng Nghymru yn hunangyflogedig, o’i gymharu â 138,400 o ddynion (18.6 y cant o ddynion sy’n gweithio).

Mae nifer o’r heriau sy’n wynebu menywod sy’n ceisio dechrau busnesau wedi’u nodi gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, Chwarae Teg a’r Cyngor Busnes Menywod:

  • Mynediad at gymorth busnes a chyllid: Cred y Ffederasiwn Busnesau Bach fod busnesau bach a arweinir gan fenywod yn llai tebygol o gael mynediad at gyllid na busnesau cyfatebol a arweinir gan ddynion. Ar gyfartaledd, mae menywod yn dechrau eu busnesau gyda thraean yn llai o gyfalaf.
  • Hunanganfyddiad a sgiliau: Canfu’r Ffederasiwn Busnesau Bach a Chyngor Busnes Menywod fod menywod yn llai tebygol na dynion o feddwl bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddechrau busnes, a bod nifer o rwystrau posibl rhag ymdrin â hyn.
  • Canfyddiadau a gwahaniaethu: Dywedodd 33 y cant o ymatebwyr i arolwg y Ffederasiwn Busnesau Bach eu bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail rhywedd.

Gallwch wylio cyfarfod y Pwyllgor yn fyw ar Senedd TV am 2yp ar 2 Chwefror.

Banc datblygu i fusnesau

24 Mai 2016

Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Daw’r erthygl hon o Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Mae’r syniad o greu banc datblygu i roi cyllid i fusnesau wedi bod yn bwnc trafod ers tro. Gan y bydd banc o’r fath yn cael ei sefydlu yn y Pumed Cynulliad, beth fydd yn ei wneud ac a allai wneud busnesau Cymru yn fwy cystadleuol?

Mae’r modd y mae busnesau Cymru yn cael gafael ar gyllid wedi bod yn fater o bwys yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r trafodaethau ar y pwnc wedi canolbwyntio ar gyllid i fusnesau bach a chanolig, ac i ba raddau y gall y rhain gael gafael ar gyllid o ffynonellau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Roedd y cytundeb rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn cynnwys ymrwymiad i greu banc datblygu.

Pam y gallai fod angen banc datblygu ar Gymru?

Er bod y marchnadoedd sy’n rhoi cyllid i fusnesau bach a chanolig yn gwella, mae rhai’n dadlau bod angen cynyddu’r cyllid sydd ar gael ledled y DU i gydbwyso twf economaidd. Mae’r ffaith mai cwmnïau yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr sy’n cyfrif am 71 y cant o gyfanswm yr ecwiti a fuddsoddir mewn busnesau bach a chanolig yn brawf o hynny.Small and Medium Enterprises-Welsh-01

Yn ôl yr Athro Dylan Jones-Evans, mae busnesau yng Nghymru yn wynebu anfanteision penodol wrth geisio cael gafael ar gyllid o gymharu â busnesau yn Lloegr a’r Alban. Mae’n dadlau y gallai fod bwlch cyllido o gymaint â £500 miliwn ym mhob blwyddyn ariannol rhwng y cyllid sydd ei angen ar fusnesau bach a chanolig yng Nghymru a’r cyllid y mae modd iddynt gael gafael arno o’r sector preifat.

Er bod sefydliadau’r llywodraeth fel Cyllid Cymru a Banc Busnes Prydain yn helpu i lenwi rhywfaint o’r bwlch hwn, mae’r rhai sy’n galw am sefydlu banc datblygu yn dweud y gallai busnesau bach a chanolig fod yn fwy cystadleuol a chyfrannu mwy at ddatblygu economi Cymru pe bai’r bwlch yn lleihau rhagor.

Fodd bynnag, mae gwaith a wnaed ar gyfer Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn rhybuddio na fydd gwella’r cyllid sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig yn datrys popeth, oherwydd mae’n bosibl na ddaw mwy o alw am gyllid nes bod cadwyni cyflenwi’r busnesau hynny yn sicrach. Gallai gwella’r cyllid sydd ar gael hefyd arwain yn anfwriadol at werthu busnesau bach a chanolig yn gynt, gan rwystro cwmnïau canolig eu maint rhag datblygu’n rhai sydd wedi’u hen sefydlu yng Nghymru.

Pa fath o fusnesau y byddai banc datblygu yn gallu’u helpu?

Tynnwyd sylw at y trafferthion a wynebir gan lawer o gwmnïau llai o faint wrth gael gafael ar gyllid yn yr astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer banc datblygu a gynhaliwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru. Mae angen mwy o symiau cymharol fach o arian ar ficrofusnesau sy’n cyflogi llai na 10 o bobl nag y gall y sector preifat ei gynnig iddynt.

Ym marn CBI Cymru, mae anghenion busnesau canolig eu maint yn syrthio rhwng dwy stôl, sef rhwng y cymorth sydd wedi’i anelu naill ai at fusnesau bach neu at gorfforaethau mawr. Mae cael gafael ar gyllid yn fater o bwys allweddol i’r busnesau hyn, yn enwedig cyllid ecwiti drwy ‘angylion busnes’ a chyfalaf menter.

Beth yw’r trefniadau ar hyn o bryd ar gyfer rhoi cymorth i fusnesau yng Nghymru?

Cyllid Cymru sy’n rhoi’r rhan fwyaf o’r cymorth ariannol drwy’r sector cyhoeddus i ficrofusnesau hyd at rai canolig eu maint yng Nghymru. Mae Busnes Cymru wedyn yn helpu busnesau i gael gafael ar gyllid ac yn cynnig arweiniad a gwybodaeth gyffredinol.

Mae Chwarae Teg wedi galw am gymorth busnes penodol i fenywod, gan gynnwys cyllid, a hynny gan eu bod o’r farn bod gan fenywod anghenion neilltuol yn y maes hwn. Dywedir bod entrepreneuriaid benywaidd yn teimlo’n ansicr am eu gallu i gael gafael ar gyllid, a gall hynny eu rhwystro rhag sefydlu eu busnesau eu hunain. Ystyrir bod hynny’n un o’r prif resymau pam y mae busnesau bach a chanolig sy’n cael eu harwain gan fenywod yn llai tebygol o ddefnyddio cyllid allanol na’r busnesau y mae dynion yn eu harwain.

Sut y gallai banc datblygu weithio?

Mae llawer o benderfyniadau i’w gwneud o hyd ynglŷn â strwythur y banc a beth yn union y gallai ei gyflawni. Fodd bynnag, mae Llywodraeth flaenorol Cymru a Cyllid Cymru wedi edrych ar atebion posibl ac wedi dechrau datblygu cynllun busnes. Mae sawl model posibl y gellid ei fabwysiadu. Mae’r rhain yn cynnwys y ‘model hybrid’ a ffafriwyd gan y Llywodraeth flaenorol, lle byddai’r banc datblygu yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill i fynd i’r afael â methiannau yn y farchnad gyllid mewn sectorau pwysig.

Beth yw banc datblygu a beth mae’n ei wneud?

Sefydliad sy’n eiddo i’r wladwriaeth yw banc datblygu cyhoeddus, yn gweithio mewn meysydd lle mae’r farchnad yn methu er mwyn ychwanegu at y cyllid y gall busnesau bach gael gafael arno o’r sector preifat. Mae’n datrys rhai o’r problemau y mae busnesau bach yn eu hwynebu wrth gael gafael ar gyllid, oherwydd gall fod yn fwy o risg i arianwyr yn y sector preifat roi’r cyllid hwn.

Gallai swyddogaethau newydd banc datblygu gynnwys:

  • darparu ystod ehangach o gynhyrchion a gwasanaethau dyled ac ariannu ecwiti i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch cyllido;
  • targedu sectorau a mathau arbennig o fusnesau sy’n cael trafferthion penodol wrth gael gafael ar gyllid, fel microfusnesau a busnesau newydd;
  • bod yn fanc sy’n ei ariannu ei hun ac, o bosibl, yn peidio â dibynnu ar gyllid grant na chymorth gan Lywodraeth Cymru i ariannu’r cronfeydd sydd ganddo;
  • gweithio gyda’r byd academaidd i wella’r data am fusnesau ac i wella dealltwriaeth o’r sector; a
  • sicrhau bod busnesau yn cael y cyfuniad cywir o gymorth ariannol ac anariannol gan ystyried argymhellion yr Adolygiad Parod i Fenthyca.

Beth fyddai amcanion y banc datblygu?

Mae gobaith y gallai’r banc datblygu ddyblu lefelau buddsoddi blynyddol Cyllid Cymru mewn busnesau bach a chanolig, denu buddsoddiad ychwanegol sylweddol o’r sector preifat, a chynyddu nifer y swyddi a gaiff eu creu a’u diogelu o ganlyniad i fuddsoddi. Byddai hyn yn gam mawr ymlaen o ran rhoi cymorth ariannol i fusnesau Cymru.

Er bod bwlch o hyd yn y cyllid sydd ar gael, bydd ymateb Llywodraeth newydd Cymru o’r pwys mwyaf wrth iddi edrych ar effaith busnesau bach a chanolig ar economi Cymru. Bydd yn ffactor allweddol hefyd wrth iddi edrych ar pa mor gystadleuol y gall y busnesau hyn fod. A fydd y banc datblygu yn cyflawni’r amcanion hyn ac yn helpu i annog twf economaidd?

Ffynonellau allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyhoeddiad Newydd: Y diwydiant dur: golwg fanwl

19 Mai 2016

Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant dur yw un o’r materion sydd wedi cael y sylw mwyaf yn 2016. Mae’r papur hwn yn rhoi crynodeb o’r diwydiant yng Nghymru a’r DU, datblygiadau diweddar o ran safleoedd Tata Steel a’r wynebau allweddol sy’n wynebu’r diwydiant.

Y diwydiant dur: golwg fanwl (PDF, 1MB)

blog-W

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dyfodol y diwydiant dur

19 Mai 2016

Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Daw’r erthygl hon o Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Datblygiadau yn y diwydiant dur oedd un o’r materion gwleidyddol amlycaf yn 2016. Beth yw’r prif bwysau sy’n wynebu’r diwydiant a sut all Llywodraeth newydd Cymru helpu i sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy iddo?

Penderfyniad Tata Steel ym mis Mawrth 2016 i werthu ei asedau yn y DU oedd y datblygiad diweddaraf mewn ‘storm berffaith’ o heriau diweddar i’r diwydiant dur yng Nghymru a’r DU.

Yn ogystal â’r gweithfeydd dur ym Mhort Talbot, mae gan Tata nifer o weithfeydd eraill yng Nghymru: Llanwern, yr Orb yng Nghasnewydd, Shotton, a Throstre ger Llanelli. Ymhlith y cynhyrchwyr eraill sydd â gweithfeydd yng Nghymru mae Celsa Steel a Liberty House Steel UK. Ledled Cymru, roedd 6,420 o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiannau haearn a dur yn 2015, ac roedd y diwydiant dur sylfaenol a’r gadwyn gyflenwi yn cyfrif am yn agos at 20,000 o swyddi.

Canfu’r Uned Ymchwil i Economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd mai £3.2 biliwn yw cyfanswm effaith economaidd Tata yng Nghymru bob blwyddyn, a’i fod yn cefnogi Gwerth Ychwanegol Gros o £1.6 biliwn. Mae Tata yn cyfrannu £200 miliwn mewn cyflogau i economi Cymru bob blwyddyn, ac mae pob swydd yn Tata yn cefnogi 1.22 o swyddi eraill yn economi Cymru.

steelworks-cy

Beth yw’r opsiynau i sicrhau dyfodol gweithfeydd Tata Steel?

Cymerodd naw mis i gael y cytundeb gwerthiant amodol ar gyfer gweithfa Tata yn Scunthorpe ym mis Ebrill 2016, ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi annog Tata i ganiatáu digon o amser ar gyfer gwerthu. Ym mis Mawrth 2016, prynodd Llywodraeth yr Alban ddau o weithfeydd dur Tata cyn eu gwerthu ymlaen i Liberty Steel ar yr un diwrnod.

Mae’r opsiynau posibl ar gyfer safleoedd Tata yn cynnwys: gwerthu’r holl weithfeydd; rheolwyr yn prynu safleoedd penodol; gwladoli; cyd-fuddsoddi rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat; rhewi’r safleoedd dros dro yn eu cyflwr presennol i alluogi eu hailagor yn y dyfodol; neu gau’r cyfan.

Cynigiodd Llywodraeth flaenorol Cymru becyn gwerth dros £60 miliwn i Tata, a oedd yn cynnwys cyllid ar gyfer cynnyrch amgylcheddol a sgiliau a hyfforddiant, a benthyciad masnachol i ddatblygu llinell galfaneiddio ar gyfer gorchuddio dur. Trafodwyd hefyd gyd-fuddsoddi mewn gorsaf bŵer ar safle Port Talbot, a fyddai’n arwain at gostau ynni is ac at ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon.

O ystyried maint y buddsoddiad sydd ei angen yng ngweithfeydd Tata, byddai hefyd angen cymorth gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y byddai’n ystyried cyd-fuddsoddi â phrynwr ar delerau masnachol, gan gynnwys, o bosibl, derbyn y cyfrifoldeb am rai o’r dyledion sy’n gysylltiedig â’r gweithfeydd. Gallai Llywodraeth y DU hefyd helpu gyda’r cyflenwad pŵer, drwy Gynllun Pensiwn Dur Prydain, ac o ran y seilwaith.

Sut mae mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r sector?

Ar ddechrau’r argyfwng, roedd y diwydiant o’r farn ei fod yn wynebu pum prif her, ac mae pedwar ohonynt yn bryderon mawr i’r sector o hyd. Mae rhai o’r rhain yn feysydd sydd heb eu datganoli, sy’n golygu y bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Beth yw dympio, a pha fesurau sy’n cael eu defnyddio i’w atal ar hyn o bryd?

Ystyr dympio yw pan fydd pris allforio cynnyrch fel dur yn is na phris y farchnad yng ngwlad yr allforiwr, neu efallai hyd yn oed yn is na’r pris cost. Mae’r UE yn ymchwilio i’r achosion hyn, ac mae’n gallu gosod tariffau ar lefel y dympio, oni bai y byddai tariff is yn gwneud iawn am y golled i gynhyrchwyr yn yr UE. Y rheol ‘dyletswydd leiaf’ yw’r enw ar hyn.

Mae ‘dympio’ dur yn cael sylw ar lefel yr UE, ac mae’r pryderon yn ymwneud â gallu dur Ewropeaidd i gystadlu’n fyd-eang ag allforion Tsieina a Rwsia. Lansiodd y Comisiwn Ewropeaidd gynigion i fynd i’r afael â’r heriau hyn ym mis Mawrth 2016, gan gynnwys lleihau faint o amser y mae ymchwiliadau gwrth-ddympio yn ei gymryd a newid y ffordd y mae tariffau gwrth-ddympio yn cael eu cyfrifo mewn rhai amgylchiadau. Pryder arall yw’r effaith y byddai dyfarnu Statws Economi’r Farchnad i Tsieina yn ei chael ar gamau y gellid eu cymryd yn erbyn ‘dympio’.

Mae prisiau ynni ar gyfer cynhyrchwyr dur yn y DU yn uwch na gwledydd eraill Ewrop, er bod Llywodraeth y DU yn digolledu diwydiannau sy’n defnyddio llawer o ynni. Er bod cynhyrchwyr dur wedi croesawu’r pecyn digolledu, maent yn dal i dalu llawer mwy am drydan na’u cystadleuwyr yn Ewrop ac maent am weld rhagor yn cael ei wneud

Mae’n debyg bod ardrethi busnes sy’n cael eu talu gan gynhyrchwyr yn y DU rhwng pump a deg gwaith yn uwch na’r rhai mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Yng Nghymru, mae pwerau dros ardrethi busnes wedi’u datganoli’n llwyr i Lywodraeth Cymru. Mae’r sector wedi galw am beidio â chynnwys gwerth peiriannau a pheirianwaith wrth gyfrifo biliau ardrethi busnes, gan fod hynny’n cymell cwmnïau i beidio â buddsoddi. Ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad, roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn dal i ystyried sut i fynd i’r afael â’r mater hwn ar gyfer holl ddiwydiant gweithgynhyrchu Cymru.

Mae’r diwydiant dur hefyd am i sector cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddefnyddio’r broses gaffael ar gyfer prosiectau seilwaith mawr i roi mwy o gefnogaeth i ddur y DU. Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru o’r farn bod ei pholisïau caffael yn cefnogi egwyddorion y Siarter ar gyfer Dur Cynaliadwy Prydeinig, er bod y diwydiant wedi galw am fonitro a gweithredu polisïau caffael yn agosach. Mae Tasglu Tata, a sefydlwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, yn datblygu rhestr o brosiectau seilwaith a allai fod o gymorth i’r diwydiant dur, ac yn edrych ar sut y mae prosiectau cyfalaf mawr yn gosod meini prawf ar gyfer caffael dur.

Mae’r diwydiant dur hefyd wedi nodi y byddai cyd-fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn ymchwil a datblygu yn ffordd i ddatblygu’r sector dur.

Bydd penderfyniadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn effeithio ar ddyfodol agos a dyfodol hirdymor y diwydiant. Gan fod miloedd o swyddi a dyfodol diwydiant cyfan yn y fantol, un o’r heriau mawr cyntaf i Lywodraeth nesaf Cymru fydd gweithio â phartneriaid i leddfu’r pwysau sy’n wynebu’r sector hwn.

Ers i’r erthygl hon gael ei hysgrifennu ar gyfer copi caled y cyhoeddiad Materion o Bwys, bu nifer o ddatblygiadau:

  • Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno manylion pellach am gymorth a allai fod ar gael i’r prynwr llwyddiannus, gan gynnwys y posibilrwydd y bydd yn cymryd cyfran ecwiti o hyd at 25%;
  • Mae Tata wedi cyhoeddi bod saith ymgeisydd wedi cyrraedd cam nesaf y broses ymgeisio. Mae’r rhain yn cynnwys Liberty Steel ac Excalibur Steel UK, a’r sôn yw eu bod hefyd yn cynnwys Greybull Capital, JSW Steel a Nucor; ac
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod wedi cynnig cymorth ariannol i gynnig Excalibur Steel UK, ond nid yw’n hysbys eto beth yw gwerth y cymorth hwn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gefnogaeth ffurfiol o gais Excalibur gan fod cymorth ar gael i ymgeiswyr eraill os byddant yn gofyn amdano.

Ffynonellau allweddol

Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg