Llais Cryfach i Gymru: Y Prif Weinidog i roi tystiolaeth

16 Mawrth 2017

Erthygl gan Dr Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Sut y mae pwyllgor y Cynulliad yn ymchwilio i gysylltiadau rhwng sefydliadau.

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cynnal ymchwiliad i waith rhyngsefydliadol er mwyn:

  • Llunio egwyddorion arfer gorau ar gyfer dulliau o weithio rhwng sefydliadau ar gyfer deddfwriaeth gyfansoddiadol.
  • Ystyried gwaith deddfwrfeydd eraill o ran eu dulliau o weithio rhwng sefydliadau ac adeiladu arno pan fo’n ymwneud â meysydd polisi ehangach.
  • Ceisio, sefydlu a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dulliau o weithio rhwng seneddau, gan gynnwys hyrwyddo’r broses o ymgysylltu â dinasyddion.

Mae’r ymchwiliad yn canolbwyntio ar ddwy ffrwd: Materion Cyfansoddiadol a Materion Polisi Mae’r Pwyllgor ar hyn o bryd yn ystyried Ffrwd I: Materion Cyfansoddiadol. Mae wrthi’n adolygu sut y mae cysylltiadau rhyngsefydliadol wedi dylanwadu ar ddatblygiad datganoli yng Nghymru ers 1999. Mae hyn yn cynnwys ystyried:

  • Sut y mae dulliau rhynglywodraethol wedi effeithio ar ddatblygiad y setliad datganoli.
  • Sut y mae cysylltiadau rhynglywodraethol wedi datblygu ac esblygu, yr hyn a oedd yn llwyddiannus, a sut y mae’r cysylltiadau hyn wedi effeithio ar y setliad datganoli.
  • Sut y mae cysylltiadau rhyngseneddol wedi esblygu, cyflwr presennol y cysylltiadau hyn, a sut y gellid eu datblygu ymhellach o ran y gwaith o ddatblygu deddfwriaeth gyfansoddiadol a chraffu arni.

Mae’r Pwyllgor wedi bod yn clywed gan ffigurau allweddol yn natblygiad datganoli yn ystod y 18 mlynedd ddiwethaf. Mae eisoes wedi clywed gan yr Arglwydd Murphy, a oedd yn Ysgrifenydd Gwladol ar ddau wahanol achlysur – gweler ein llun ar Lywodraethiant Cymru. Yn y cyfarfod diwethaf, clywodd y Pwyllgor gan y Farwnes Randerson, sydd wedi bod yn Weinidog yn Llywodraeth Cymru ac yn Swyddfa Cymru, ac Elfyn Llwyd, sy’n gyn arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi clywed tystiolaeth gan Syr Paul Silk a oedd yn arwain Comisiwn Silk, a fu ynghlwm wrth y ddeddf ddiweddaraf ynghylch datganoli, sef Deddf Cymru 2017.

Ddydd Llun 20 Mawrth, fel rhan o #SeneddCasnewydd, bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ym Mhrifysgol De Cymru, Casnewydd ac yn clywed tystiolaeth gan y Prif Weinidog Carwyn Jones AC fel rhan o’r ymchwiliad. Caiff ei gwestiynu hefyd am y papur gwyn sy’n ymdrin â Chymru’n gadael yr UE, sef Diogelu Dyfodol Cymru. Bydd y cyfarfod yn cychwyn am 2.30pm a bydd croeso i’r cyhoedd.

Mae’r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i ofyn barn ynghylch yr ymchwiliad. 5 Mehefin 2017 yw’r dyddiad cau ar gyfer ymatebion.

Datganoli pwerau ym maes ynni a’r amgylchedd: a yw’r setliad newydd yn un parhaol yn wyneb Brexit?

14 Mawrth 2017

Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cennin Pedr

Mae’r setliad datganoli yn newid o dan Ddeddf Cymru 2017 a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 31 Ionawr 2017. Mae’r erthygl hon yn trafod beth y mae hyn yn ei olygu i bwerau ym maes ynni a’r amgylchedd yng Nghymru, ac mae hefyd yn tynnu sylw at y gwahanol agweddau ar ddatganoli pwerau ar ôl gadael yr UE.

Datganoli – y model ‘rhoi pwerau’ presennol

Mae’r setliad datganoli presennol yn seiliedig ar fodel ‘rhoi pwerau’. Yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae 21 maes datganoledig y caiff y Cynulliad ddeddfu yn eu cylch. Cyfrifoldeb y DU neu Senedd Ewrop yw popeth arall. Mae’r meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, yr amgylchedd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, cynllunio ac ynni. Er enghraifft, pasiodd y Cynulliad dri darn allweddol o ddeddfwriaeth yn ddiweddar sy’n ymwneud â’r amgylchedd, sef Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Ar hyn o bryd, rhaid i’r holl ddeddfau a basiwyd gan y Cynulliad gydymffurfio â chyfraith yr UE sydd yn arbennig o berthnasol ar gyfer yr amgylchedd gan fod cynifer o feysydd polisi yn cael eu rhannu â’r UE, gan gynnwys amaethyddiaeth, drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, a chadwraeth natur, drwy’r Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd.

Datganoli – y model ‘cadw pwerau’

Mae Deddf Cymru 2017 yn cyflwyno model o ddatganoli sy’n seiliedig ar gadw pwerau. Mae’r Ddeddf yn troi’r sefyllfa i’r gwrthwyneb; mae’n pennu’r meysydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, gan adael popeth arall  wedi’i ddatganoli i Gymru. Mae hyn yn debycach i’r sefyllfa yn yr Alban. Bydd y model cadw pwerau yn dod i rym ym mis Ebrill 2018, a bydd y model yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gymwys hyd at y dyddiad hwnnw.

Pwerau newydd i Gymru ym maes ynni a’r amgylchedd

Yn ogystal â chyflwyno’r model cadw pwerau newydd, mae Deddf Cymru 2017 yn dod â phwerau newydd i Gymru ym maes ynni a’r amgylchedd. Ni fydd y rhan fwyaf o’r newidiadau hyn yn dod i rym tan y flwyddyn nesaf, gan fod angen deddfwriaeth ychwanegol ar gyfer llawer ohonynt. Bydd Deddf Cymru 2017 yn rhoi’r canlynol i Gymru:

  • Cyfrifoldeb am drwyddedu morol yn ‘rhanbarth môr mawr’ Cymru – 12 milltir forol allan i’r llinell ganolig (sydd wedi’i gyfyngu ar hyn o bryd i ‘ranbarth y glannau’ – 0-12 milltir forol);
  • Pŵer i ddynodi ardaloedd yn rhanbarth môr mawr Cymru fel Parthau Cadwraeth Morol (sydd wedi’i gyfyngu ar hyn o bryd i ranbarth y glannau – Sgomer yw’r unig barth cadwraeth morol yng Nghymru ar hyn o bryd);
  • Pŵer i gydsynio i brosiectau ynni sy’n gallu cynhyrchu hyd at 350MW ar gyfer ynni ar y tir ac ar y glannau, gan ymestyn y terfyn 50MW presennol ar gyfer y tir ac 1MW ar gyfer y glannau. Byddai hyn yn cynnwys y morlyn llanw a gynlluniwyd ym Mae Abertawe. Ni fydd terfyn uchaf ar gyfer prosiectau ynni gwynt ar y tir;
  • Cyfrifoldeb am drwyddedu olew a nwy ar y tir, gan gynnwys echdynnu nwy siâl, ac ar gyfer pyllau glo newydd;
  • Pŵer i gydsynio i ‘ddatblygiadau cysylltiedig’ ar gyfer prosiectau ynni, er enghraifft cysylltiadau trafnidiaeth a llinellau pŵer uwchben i’r un corff sy’n gyfrifol am y prif brosiect;
  • Pŵer i wneud rheoliadau adeiladu mewn perthynas ag ‘adeiladau ynni eithriedig’ – adeiladau sy’n rhan o’r seilwaith ynni; a hefyd
  • Pŵer ychwanegol i ddeddfu dros gyflenwadau dŵr a charthffosiaeth.

Goblygiadau Brexit ar gyfer y setliad datganoli

Mae Deddf Cymru 2017 wedi dod ar adeg ddiddorol gan fod Llywodraeth y DU yn paratoi i sbarduno Erthygl 50 a dechrau’r broses ffurfiol o adael yr UE. Gan fod Cymru’n rhannu pwerau gyda’r UE, yn enwedig mewn meysydd amgylcheddol, mae cwestiynau ynghylch a fydd y setliad yn newid o ganlyniad i Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi mynegi gwahanol ddehongliadau o ran dyfodol y pwerau a rennir ar hyn o bryd rhwng Cymru a’r UE. Cyfeiriodd Llywodraeth y DU yn ei phapur gwyn ar Brexit at ddychwelyd i’r DU bwerau presennol yr UE i osod fframweithiau rheoleiddio cyffredin:

[…] even in areas where the devolved legislatures and administrations currently have some competence, such as agriculture, environment and some transport issues, most rules are set through common EU legal and regulatory frameworks, devised and agreed in Brussels. When the UK leaves the EU, these rules will be set here in the UK by democratically elected representatives.

As the powers to make these rules are repatriated to the UK from the EU, we have an opportunity to determine the level best placed to make new laws and policies on these issues, ensuring power sits closer to the people of the UK than ever before.

Mae’r safbwynt ym mhapur gwyn Llywodraeth Cymru / Plaid Cymru ar Brexit yn hollol wahanol oherwydd bydd y pwerau sy’n dychwelyd o’r UE, os ydynt mewn meysydd datganoledig, yn dod i Gymru yn hytrach nag i San Steffan:

Ar hyn o bryd, mae amrywiol bwerau sydd eisoes wedi’u datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn cael eu gweithredu o fewn fframwaith rheoleiddiol yr UE. Mae hyn yn cynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, yr amgylchedd a datblygu economaidd. Wrth i’r DU ymadael â’r UE, pan fydd fframweithiau rheoleiddiol a gweinyddol yr UE yn peidio â bod yn berthnasol bellach, bydd y pwerau hyn yn parhau i fod wedi’u datganoli i Gymru.

Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru / Plaid Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod y goblygiadau cyfansoddiadol a’r heriau o ymadael â’r UE yn arbennig o ddwys ym maes yr amgylchedd a materion gwledig:

Mae’r meysydd polisi hyn wedi’u datganoli’n sylweddol a dros y 17 mlynedd ers cychwyn datganoli gwelwyd gwahaniaethau sylweddol yng nghyfeiriad polisi gwahanol rannau’r DU.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi cyfeiriodd Prif Weinidog y DU at ddatganoli a phwysigrwydd fframweithiau’r DU a marchnad sengl fewnol:

… we are discussing with the devolved Administrations the whole question of the UK framework and devolution of issues as they come back from Brussels. The overriding aim for everything that we do when we make those decisions is to ensure that we do not damage the important single market of the United Kingdom, a market which I remind the right hon.

Mae Cymru heddiw’n wynebu cwestiwn allweddol sef a fydd her i ethos Papur Gorchymyn Llywodraeth y DU, Pwerau at Bwrpas: Tuag at setliad datganoli sy’n para i Gymru, pan fydd y DU yn gadael yr UE.

Bil Cymru yn pasio yn y Cynulliad a’r Senedd

27 Ionawr 2017

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Siambr gwag

Ar ddydd Mawrth 17 Ionawr 2017, cynhaliodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddadl ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru. Yn ôl y confensiwn (sef “confensiwn Sewel”) ni fyddai Llywodraeth y DU fel arfer yn cyflwyno na chefnogi cynigion i ddeddfu mewn perthynas â Chymru ar y pynciau y mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol yn eu cylch heb ganiatâd y Cynulliad. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol sy’n cael ei ddefnyddio i gael caniatâd y Cynulliad. Mae Bil Cymru yn newid pwerau’r Cynulliad, felly roedd angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.

Mae’r cynnig, a gynigiwyd gan y Prif Weinidog, yn nodi:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau ym Mil Cymru, i’r graddau eu bod yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu yn ei addasu, barhau i gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Y Prif Weinidog a agorodd y ddadl. Eglurodd fod grŵp Llafur wedi penderfynu ystyried y Bil “fel pecyn” ac, ar y cyfan, er nad penderfyniad hawdd ydoedd, penderfynwyd cefnogi’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.

Pan ofynnwyd iddo ynghylch y ffactor allweddol wrth ddewis cefnogi’r Bil, atebodd:

Mae mater Brexit yr un fath â mater Sewel i mi. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun heddiw na chaiff unrhyw bwerau eu tynnu’n ôl, ac mae’n rhaid imi ei chredu, ond os yw wedi’i ymgorffori yn y gyfraith bod gofyniad o ganiatâd gan senedd neu gynulliad datganoledig, yn amlwg mae mwy o bwysau i hynny nag i gonfensiwn yn unig. Felly, mae’n bwysig ymgorffori hynny yn y gyfraith, nid yn unig o ran trafodaethau Brexit, ond o ran trafodaethau am nifer o faterion yn y dyfodol lle na fydd Llywodraeth y DU yn gallu dweud, ‘Wrth gwrs, yn yr Alban mae’n gyfraith, ond yng Nghymru, nid yw, felly nid oes rhaid inni dalu’r un sylw i Gymru ag i’r Alban.’

Dywedodd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

Mae pobl ddoethach na fi wedi awgrymu na fydd y Bil hwn yn rhoi’r setliad cydnerth, unwaith mewn cenhedlaeth a addawyd gan Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, a bod y cymhlethdod a’r amodoldeb sydd ynddo yn golygu y byddwn o bosibl yn ildio rhywfaint o dir. Ond nid oes unrhyw amheuaeth y byddwn yn sefyll ar dir mwy cadarn a mwy sicr o ganlyniad i symud at Fil cadw pwerau. Mae’n ein rhoi ni mewn sefyllfa dda wrth inni wynebu cyfnod pontio at Brexit a ffactorau sioc allanol eraill.

Gwrthwynebodd Plaid Cymru y Bil ar y sail ei fod yn tynnu pwerau’r Cynulliad yn ôl. Dywedodd Leanne Wood AC, arweinydd y blaid:

Dywedwyd wrthym y byddai model cadw pwerau yn cael ei ddarparu, ac mae hyn wedi bod yn un o ofynion allweddol Plaid Cymru ers blynyddoedd lawer, ac eto daeth i’r amlwg yn gyflym y byddai’r rhestr o bwerau a gadwyd yn ôl yn cynnwys mwy na 200 o faterion a gadwyd yn ôl, ac y gallai unrhyw beth sy’n ymwneud â’r rhestr honno fod yn waharddedig i’r Cynulliad hwn yn y dyfodol.   O’i gymharu â’r model rhoi pwerau, mae hynny’n gyfystyr â lleihau ein pwerau, ac yn ein barn ni byddai felly’n gyfystyr â throi’n ôl ar ganlyniad refferendwm 2011.

Mae gwleidyddiaeth hyn yn eglur imi. Ar ôl ei methiant yn y Goruchaf Lys ar y Bil cyflogau amaethyddol, roedd Llywodraeth y DU yn awyddus i ailfodelu cyfansoddiad Cymru i osgoi methiannau pellach.

Pleidleisiodd y Ceidwadwyr o blaid y Bil, gydag Andrew R.T. Davies AC, arweinydd y blaid, yn croesawu yn arbennig y ffaith “y bydd treth incwm yn dod i’r sefydliad hwn i wneud yn siŵr bod gennym fwy o atebolrwydd yn y ffordd y mae’r arian wedi cael ei wario yn y sefydliad hwn a chan y Llywodraeth.”

Pleidleisiodd UKIP yn erbyn y Bil gan eu bod yn gwrthwynebu dileu’r gofyniad i gynnal refferendwm ar gyfer datganoli pwerau treth incwm. Dywedodd Neil Hamilton AC, yr arweinydd:

rwy’n credu, er bod egwyddorion bras y Bil yn deilwng o gefnogaeth, bod y ffordd y cafodd hyn ei drin wedi bod yn bell iawn o fod yn berffaith, ac, o ran dileu darpariaeth refferendwm ar gyfer datganoli pwerau treth incwm, rwy’n credu bod hwnnw’n ddiffyg cyfansoddiadol na ddylem ei anwybyddu.

Yn y Cynulliad, pleidleisiodd 38 o blaid rhoi caniatâd i’r Bil barhau yn ei flaen, gyda 17 yn pleidleisio yn erbyn.

Drannoeth y bleidlais, cafodd Bil Cymru ei Drydydd Darlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi ac fe’i pasiwyd.

Ar 24 Ionawr, daeth y Bil yn ôl i Dŷ’r Cyffredin er mwyn trafod gwelliannau Tŷ’r Arglwyddi. Derbyniwyd y gwelliannau ac mae’r Bil bellach yn aros am Gydsyniad Brenhinol.

Hefyd ar 24 Ionawr, cafwyd y dyfarniad yn y Goruchaf Lys ar Erthygl 50, gyda dyfarniad hefyd ar gonfensiwn Sewel yn y deddfwrfeydd datganoledig. Daeth i’r casgliad canlynol:

[…] the Convention operates as a political constraint on the activity of the UK Parliament. It therefore plays an important role in the operation of the UK constitution. But the policing of its scope and operation is not within the constitutional remit of the courts. The devolved legislatures do not have a veto on the UK’s decision to withdraw from the EU.

Ymdrinnir â’r dyfarniad yn fwy manwl mewn erthygl arall cyn hir.

Bil yr Undebau Llafur

17 Ionawr 2017

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

trade_union_rally

Llun: o Wikimedia Commons gan Dean Molyneaux. Dan drwydded Creative Commons.

Ym mis Ionawr 2016, gwrthododd y Pedwerydd Cynulliad roi ei ganiatâd i Fil Undebau Llafur Llywodraeth y DU am fod rhannau o’r Bil yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Nid yw Llywodraeth y DU yn derbyn bod angen caniatâd y Cynulliad. Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, y byddai Llywodraeth Cymru, pe bai’r blaid Lafur yn ôl mewn grym, yn cyflwyno ei Bil ei hun i wrthdroi’r rhannau perthnasol o Fil y DU. Mae’n anghydfod a allai fynd i’r Goruchaf Lys.

Bil yr Undebau Llafur (Cymru) 2017

Cyhoeddwyd Bil yr Undebau Llafur (Cymru) gan Lywodraeth Cymru ar 16 Ionawr  2017. Mae’n Fil byr iawn gyda dim ond tri chymal. Mae’r Bil yn diwygio Deddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Undebau Llafur 2016.

Cafodd y Ddeddf Undebau Llafur 2016 Gydsyniad Brenhinol ar 4 Mai 2016. Mae ei darpariaethau yn cynnwys gofyniad bod 50 y cant o aelodau undeb yn cymryd rhan mewn unrhyw bleidlais ynghylch gweithredu cyn y gellid cynnal streic. Yn achos ‘gwasanaethau cyhoeddus pwysig’, mae’n rhaid i 40 y cant o’r rhai sy’n gymwys i bleidleisio (yn hytrach na’r rhai sy’n mynd ati i fwrw pleidlais) gefnogi’r cynnig i weithredu cyn y gellid cynnal streic. Mwyafrif syml o blith y rhai sy’n bwrw pleidlais sydd ei angen ar hyn o bryd. Byddai Bil Llywodraeth Cymru yn diddymu’r trothwy o 40 y cant yn achos awdurdodau cyhoeddus Cymru. Mae’r Bil hefyd yn cynnwys pwerau i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei chyhoeddi ynghylch amser cyfleuster ac i gyflwyno gofynion ar gyfer cyflogeion y sector cyhoeddus mewn perthynas ag amser cyfleuster â thâl. Mae hefyd yn cyflwyno cyfyngiadau ar ddidynnu tanysgrifiadau aelodaeth undebau llafur o daliadau cyflog cyflogwyr.

Y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol

Gwrthwynebodd Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth flaenorol Cymru Fil y DU. Am fod rhannau o’r Bil yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, gwnaethant ddadlau y dylai’r rhannau hynny fod yn amodol ar ganiatâd Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Parhaodd Llywodraeth y DU i ddadlau bod testun y Bil wedi’i gadw yn ôl yn gyfan gwbl gan Senedd y DU. Yn ystod un o ddadleuon Pwyllgor Biliau Cyhoeddus Senedd y DU ym mis Hydref 2015, dywedodd Nick Boles, Gweinidog Sgiliau y DU, nad oedd yn gweld unrhyw reswm pam y dylai Llywodraeth y DU geisio caniatâd cyn cymhwyso’r darpariaethau o dan sylw.

Cyflwynodd Llywodraeth yr Alban Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn gofyn i Senedd yr Alban wrthod caniatâd i’r Bil oherwydd y byddai’n effeithio ar swyddogaethau datganoledig. Fodd bynnag, dyfarnodd Llywydd Senedd yr Alban nad oedd angen caniatâd Senedd yr Alban. Golygai hynny nad oedd modd cynnal pleidlais ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth yr Alban. Mae pwnc Deddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 yn fater sydd wedi’i gadw yn ôl o dan Ddeddf yr Alban 1998. Ni cheir eithriad tebyg o ran cymhwysedd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.

Yng Nghymru, gosodwyd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ym mis Tachwedd 2015. Roedd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn nodi barn Llywodraeth flaenorol Cymru y byddai angen caniatâd y Cynulliad ar gyfer rhai o gymalau’r Bil gan eu bod yn ymwneud â materion datganoledig. Roedd Llywodraeth Cymru yn dadlau bod y cymalau hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad gan eu bod yn ymwneud â chyflogwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r cyflogwyr hynny’n darparu amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus datganoledig gan gynnwys addysg a hyfforddiant, gwasanaethau tân ac achub, gwasanaethau iechyd, llywodraeth leol a gwasanaethau trafnidiaeth.

Bu’r Cynulliad yn trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ym mis Ionawr 2016. Dywedodd Leighton Andrews, sef y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, fod rhannau sylweddol o’r Bil yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus sydd yn amlwg wedi’u datganoli, ac nad oedd yn dderbyniol i Lywodraeth y DU geisio ei orfodi ar Gymru.

Dyfarniad y Goruchaf Lys yn 2014

Ym mis Medi 2015, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru ddatganiad ysgrifenedig lle yr oedd yn dadlau bod dyfarniad y Goruchaf Lys yn 2014 ar y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) yn golygu bod y Cynulliad yn cadw’r hawl i beidio â rhoi caniatâd i Fil yr Undebau Llafur. Dyma a ddywedodd:

Fodd bynnag, mae’n amlwg bod elfennau sylweddol o’r Bil yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus, sy’n bendant yn gyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli i Gymru. Nid wyf felly’n derbyn yr awgrym bod y Bil yn ymwneud â materion sydd heb eu datganoli yn unig.

Yn ôl y dyfarniad yn 2014, er nad oedd cyflogaeth wedi’i rhestru fel pwnc datganoledig yn Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, roedd amaethyddiaeth wedi’i rhestru fel pwnc datganoledig ac roedd cynnwys y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) yn berthnasol i’r Ddeddf. Nid oes yn rhaid i rywbeth ymwneud yn gyfan gwbl â phynciau datganoledig er mwyn iddo fod o fewn cymhwysedd y Cynulliad.

Ym mis Ionawr 2016, daeth llythyr i’r goleuni gan Weinidog Sgiliau y DU at Weinidogion eraill y DU. Roedd y llythyr yn dangos bod cyngor cyfreithiol i Lywodraeth y DU yn awgrymu bod achos cryf bod darpariaethau ei Bil Undebau Llafur wedi’u cadw yn ôl mewn perthynas â’r Alban, ond bod yr achos yn wan iawn o ran Cymru oherwydd y cynsail a osodwyd gan ddyfarniad y Goruchaf Lys.

Pleidleisiodd y Cynulliad o blaid gwrthod caniatâd deddfwriaethol i’r Bil o 43 pleidlais i 13.

Effaith Bil Cymru

Bydd Bil Cymru, sydd ar ei ffordd drwy’r Senedd San Steffan, yn ad-drefnu’r broses ddatganoli yng Nghymru drwy gyflwyno model cadw pwerau. Bydd Bil Cymru yn cyflwyno model datganoli yng Nghymru sy’n debyg i fodel yr Alban gyda’r effaith debygol y penderfynir bod Bil yr Undebau Llafur y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad.

Fodd bynnag, ar yr amod bod y Bil Undebau Llafur (Cymru) yn cwblhau Cyfnod 1 o’r broses ddeddfwriaethol cyn y dyddiad penodedig pan ddaw’r rhannau perthnasol o Fil Cymru yn weithredol, gall y Bil Undebau Llafur (Cymru) fynd yn ei flaen. Mae’r trefniadau pontio hefyd yn nodi na fydd dim ym Mil Cymru yn effeithio ar Ddeddfau a Mesurau a basiwyd eisoes gan y Cynulliad. Serch hynny, mae yna bosibilrwydd y gallai Llywodraeth y DU herio’r drefn yn y Goruchaf Lys.

Cyhoeddiad Newydd: Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Crynodeb o Fil

10 Ionawr 2016

Erthygl gan Christian Tipples, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyflwyniad

Dyddiad cyflwyno: 12 Medi 2016

Yr Aelod sy’n gyfrifol: Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Pwyllgor y Cynulliad sy’n gyfrifol am waith craffu yng Nghyfnod 1: Y Pwyllgor Cyllid

Dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno adroddiad Cyfnod 1: 22 Rhagfyr 2016

Cyflwynwyd y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) (‘y Bil’) gerbron y Cynulliad ar 12 Medi 2016. Cyflwynwyd y Bil yn y Cyfarfod

Llawn gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar 13 Medi 2016.

Y Bil hwn yw’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud yn benodol â threthi i gael ei gyflwyno yn y Cynulliad. Mae’n cyflwyno darpariaethau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru, a fydd yn cymryd lle Treth Dir y Dreth Stamp ym mis Ebrill 2018. Y Bil yw’r ail mewn cyfres o dri Bil sy’n ymwneud â datganoli pwerau trethu i Gymru, fel y nodwyd yn Neddf Cymru 2014.

Mae’r Bil yn dilyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 25 Ebrill 2016. Roedd y Ddeddf honno’n darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol, ac yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), sef y corff sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli trethi datganoledig.

Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Crynodeb o Fil  (PDF, 421KB)

blog-cy