Sut mae trethi busnes yn gweithio yng Nghymru?

06 Gorffennaf 2016

Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Trethi busnes, a elwir weithiau yn drethi annomestig, yw un o brif ffynonellau cyllid llywodraeth leol, ac maent wedi cael eu datganoli’n llawn i Gymru ers 1 Ebrill 2015.  Mae’r blog hwn yn ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn derbyn amdanynt. 

Nifer yr eiddo sy'n gymwys ar gyfer trethi busnes

Business Rate 2-cy

Mae swm y trethi busnes y mae’n rhaid eu talu ar eiddo annomestig yn cael ei gyfrifo yn y ffordd ganlynol yng Nghymru.


Sut y caiff trethi busnes eu cyfrifo

Gwerth ardrethol eiddo yw amcangyfrif o faint o rent y gallai ei ddenu y flwyddyn ar y farchnad agored ar bwynt penodol mewn amser. Caiff hwn ei luosi gan y ‘geiniog yn y bunt’ o’r gwerth ardrethol a delir mewn trethi busnes, a elwir yn lluosydd, i gyfrifo’r rhwymedigaeth trethi busnes ar gyfer yr eiddo.  Yna mae unrhyw ostyngiadau y mae’r eiddo yn gymwys ar eu cyfer yn cael eu tynnu o’r rhwymedigaeth yn y bil trethi busnes terfynol.

Yng Nghymru, mae trethi busnes yn cael eu casglu gan awdurdodau lleol a’u talu i mewn i ‘gronfa’ genedlaethol a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Yna cânt eu hailddosbarthu i awdurdodau lleol a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru fel rhan o’r setliad llywodraeth leol blynyddol a setliad yr heddlu.

Pwy sy’n gwneud beth?

Mae’r Asiantaeth Swyddfa Brisio (VOA), corff Llywodraeth y DU, yn asesu gwerth ardrethol pob eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr. Dyma hefyd yw’r pwynt cyswllt cyntaf os yw busnes yn credu bod ei fil yn anghywir oherwydd bod y gwerth ardrethol yn anghywir.

Mae Llywodraeth Cymru yn gosod y lluosydd trethi busnes bob blwyddyn ariannol, ac yn penderfynu polisi trethi busnes cenedlaethol gan gynnwys pennu gostyngiadau. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol sy’n gyfrifol am bolisi a gweinyddu trethi busnes.

Mae awdurdodau lleol yn casglu trethi busnes o fewn eu hardal, a hefyd yn gallu dyfarnu gostyngiadau disgresiynol ar gyfer busnesau o fewn eu hawdurdod.

 Prif ostyngiadau ar drethi busnes

Pa help sydd ar gael ar gyfer busnesau bach i leihau eu biliau trethi busnes?

Mae cynllun gostyngiadau trethi i fusnesau bach presennol Llywodraeth Cymru  yn rhoi gostyngiad i fusnesau bach sy’n gymwys yn y modd canlynol tan fis Mawrth 2017:

  • Mae busnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael 100% o ostyngiad ac nid ydynt yn talu trethi busnes o gwbl; ac
  • Mae busnesau bach sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael gostyngiad sy’n cael ei ostwng yn raddol; gyda chanran y gostyngiad ar drethi a ddyfarnwyd yn gostwng 1% am bob £60 o werth trethiannol dros £6,000.

Roedd maniffesto Llafur Cymru yn addo cynyddu gostyngiadau trethi i fusnesau bach. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi datgan y bydd yn ystyried yr opsiynau ar gyfer gostyngiadau yn y dyfodol dros yr haf.

Mae rhai mathau o fusnesau bach, fel swyddfeydd post, safleoedd gofal plant cofrestredig a rhai adeiladau manwerthu yn gymwys am fwy o ostyngiad.

Pa fathau eraill o ostyngiad sydd ar gael?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfres o gynlluniau gostyngiadau ar drethi busnes ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy’n ehangu o fewn yr ardaloedd menter yng Nghymru. Mae cynllun ar gael ar hyn o bryd hyd at 30 Medi 2016 ar gyfer parth menter Glannau Port Talbot  sydd newydd ei sefydlu, er mwyn rhoi gostyngiadau mewn  trethi i fusnesau yn y flwyddyn ariannol 2016-17.

Mae adeiladau busnes a feddiannir gan elusen gofrestredig neu glwb chwaraeon amatur cymunedol sy’n cael eu defnyddio at ddibenion elusennol yn gymwys yn awtomatig i gael gostyngiad ar drethi busnes o 80%, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae awdurdodau lleol hefyd yn gallu defnyddio eu disgresiwn i ddyfarnu gostyngiad ychwanegol i elusennau a chlybiau chwaraeon am ran neu’r cyfan o’r 20% sy’n weddill o’u rhwymedigaethau trethi busnes.  Gall awdurdodau lleol hefyd benderfynu a ydynt yn dymuno dyfarnu gostyngiad ar drethi o hyd at 100% i sefydliadau nid-er-elw o fewn eu hardal.

Mae adeiladau busnes gwag wedi’u heithrio rhag talu trethi busnes ar gyfer y tri mis cyntaf ar ôl i’r eiddo ddod yn wag. Ar ôl hyn mae’r rhaid i’r rhan fwyaf o berchnogion dalu trethi busnes llawn.  Fodd bynnag, mae rhai mathau o safleoedd â rheolau gwahanol, megis y rhai sydd â gwerth ardrethol o dan £2,600, safleoedd diwydiannol ac eiddo sy’n eiddo i elusennau a chlybiau chwaraeon.

Mae’r cynllun Datblygiadau Newydd yn ostyngiad dros dro sy’n eithrio’r holl eiddo masnachol gwag sydd newydd gael eu hadeiladu rhag talu trethi busnes ar gyfer y 18 mis cyntaf wedi eu cwblhau. Mae’n rhaid i adeiladau gael eu cwblhau rhwng 1 Hydref 2013 ac 1 Hydref 2016.

Mae awdurdodau lleol yn gallu defnyddio eu disgresiwn i ganiatáu gostyngiad caledi o hyd at 100% i fusnesau yn eu hardal.  Gall awdurdod ddyfarnu gostyngiad caledi os yw’n fodlon y byddai’r trethdalwr yn dioddef caledi pe na bai’n gwneud hynny, a’i fod yn rhesymol iddo wneud hynny wedi ystyried buddiannau talwyr y dreth gyngor.

Yn ogystal, mae rhai mathau o safleoedd busnes wedi’u heithrio rhag talu trethi busnes o gwbl.

Beth fydd yn digwydd gyda’r ailbrisiad trethi busnes sydd ar ddod?

Mae ailbrisiio trethi busnes fel arfer yn digwydd bob pum mlynedd, a bydd y VOA yn cynnal ailbrisiad o’r holl eiddo annomestig yng Nghymru i ddod i rym o fis Ebrill 2017, yn seiliedig ar eu gwerth ardrethol ar 1 Ebrill 2015. Mae ailbrisio yn addasu gwerth ardrethol yr eiddo er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo ac i ailddosbarthu rhwymedigaethau trethi busnes, yn hytrach na cheisio cynyddu refeniw a godir o drethi busnes.  Bydd rhai eiddo yn gweld cynnydd yn eu bil trethi busnes, rhai yn gweld gostyngiad ac eraill yn gweld dim newid.

Mae’r VOA ar hyn o bryd yn ailbrisio eiddo ar draws Cymru. Disgwylir y bydd y gwerthoedd ardrethol drafft yn cael eu cyhoeddi ar-lein gan y VOA ar 30 Medi 2016, a gall busnesau gofrestru ar-lein gyda’r VOA i dderbyn hysbysiad e-bost pan fydd eu prisiad drafft ar gael ar-lein. Gall diwygiadau i werthoedd ardrethol drafft gael eu gwneud rhwng mis Hydref 2016 a mis Mawrth 2017, os oes camgymeriadau ffeithiol.  Yna bydd awdurdodau lleol yn anfon biliau trethi busnes allan ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18.  Gellir apelio yn erbyn prisiadau o fis Ebrill 2017.

 

 

Sut y gall Cymru wneud y gorau o gyfraniad menywod i’r economi?

09 Mehefin 2015

Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar 10 Mehefin, bydd y Cynulliad yn trafod sut y dylai Llywodraeth Cymru weithredu i hyrwyddo cyfranogiad economaidd llawnach gan fenywod.  Beth yw sefyllfa bresennol menywod yn economi Cymru, a sut y gellir cael y mwyaf o gyfraniad menywod i economi Cymru yn y dyfodol?

Beth yw sefyllfa bresennol menywod yn y gweithle yng Nghymru?

Yn ôl y data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), 67% o fenywod 16-64 oed yng Nghymru sydd mewn gwaith, ond 72% o ddynion sydd mewn gwaith.

Mae menywod deirgwaith yn fwy tebygol o fod mewn gwaith rhan amser na dynion, a 44% o fenywod oedd yn gweithio rhan amser yng Nghymru yn 2014, o gymharu â 14% o ddynion.

Mae hyn yn cyfrannu at y ffaith bod nifer y menywod sy’n ennill llai na’r cyflog byw yn fwy na nifer y dynion, gyda ffigurau 2014 yn dangos bod 29% o fenywod yn ennill llai na’r cyflog byw o gymharu â 19% o ddynion yng Nghymru.  Yn rhannol, mae hyn oherwydd bod cyfran y menywod sy’n gweithio rhan amser yn uwch na chyfran y dynion; enillodd 43% o fenywod a oedd yn gweithio rhan amser lai na’r cyflog byw yng Nghymru.

Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn llai yng Nghymru nag y mae ar gyfartaledd yn y DU.  Mae prif fesur yr ONS, yn ffigur 1, yn dangos mai 8.4% oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn yng Nghymru yn 2014, sy’n llai na ffigur y DU, sef 9.4%.  Fodd bynnag, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer bob gweithiwr yng Nghymru gryn dipyn yn uwch ar 16.2%, ond, unwaith eto, mae’n llai na’r ffigur o 19.1% ar gyfer y DU.

Ffigur 1: Bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn yn y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr yn 2014

Mae’r graff hwn yn dangos y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 2014 ar gyfer gweithwyr amser llawn yn y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr.   Mai 8.4% oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn yng Nghymru yn 2014, sy'n llai na ffigur y DU, sef 9.4%.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, 2014 (tabl 5.6a)

Daeth gwaith mapio galwedigaethol gan y prosiect Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE) i’r casgliad mai yn y rhannau hynny o’r economi lle mae cyflog ar ei isaf y cyflogir menywod yn bennaf. Mae’r gwahaniaeth hwn yn y gwaith yn cynnwys sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru.  Mae’r ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi buddsoddi yn dangos mai dim ond 28% o fenywod oedd yn cael eu cyflogi mewn sector blaenoriaeth yn 2013, o gymharu â 56% o ddynion.  Gellir casglu o hyn nad y sectorau y mae nifer o fenywod yn gweithio ynddynt yw’r sectorau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweld yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi.

Ffigur 2: Canran y menywod o’r bobl a gyflogwyd mewn sectorau blaenoriaeth yn 2013

Mae’r graff hwn yn dangos y canran y menywod o’r bobl a gyflogwyd mewn sectorau blaenoriaeth yn 2013.  Mae menywod yn tangynrychioli mewn 8 o’r 9 sectorau blaenoriaeth.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Ystadegau’r sector blaenoriaeth 2014 (tabl 3.6)

Beth yw’r sefyllfa i fenywod sy’n rhedeg eu busnes eu hunain?

Un o’r ffactorau a ysgogodd y cynnydd mewn cyflogaeth ers y dirywiad economaidd yw hunangyflogaeth.

Yng Nghymru, mae’r 58,400 o fenywod hunangyflogedig yn llai na thraean o’r bobl sy’n hunangyflogedig, ond mae’r bwlch rhwng y rhywiau wedi bod yn cau dros y blynyddoedd diwethaf.  Bu cynnydd o 22% yn nifer y menywod sy’n hunangyflogedig yn y pum mlynedd diwethaf, o gymharu â chynnydd o 7% ar gyfer dynion.

O ran dechrau busnes a pherchen busnes, mae Chwarae Teg yn nodi bod menywod yn y DU o hyd yn hanner mor debygol â dynion o sefydlu eu busnes eu hunain.  Canfu’r Cyngor Busnes Menywod, a sefydlwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU, mai menywod yw’r mwyafrif o’r rhai sy’n rhedeg 19% o fusnesau bach a chanolig yn y DU.

O edrych ar fusnesau’r dyfodol yng Nghymru, dengys ystadegau Monitor Entrepreneuriaeth Byd-eang diweddaraf ar gyfer Cymru yn 2013 mai 4.2% o fenywod oedran gweithio a oedd yn ymwneud â gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar, o gymharu â 6.5% o ddynion.  O ran pobl yng Nghymru a oedd yn disgwyl dechrau busnes yn y tair blynedd nesaf, dywedodd 3.1% o fenywod oedran gweithio a 4.7% o ddynion eu bod yn disgwyl gwneud hynny.

O ran rhoi cymorth a bod yn esiampl i fenywod sy’n dechrau busnes neu y mae ganddynt eu busnes eu hunain, canfu Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ddiweddar bod menywod yn cael eu tangynrychioli ar fyrddau Ardaloedd Menter Cymru y mae’r Llywodraeth yn penodi eu haelodau.

Beth y gellir ei wneud i helpu menywod i ateb heriau yn y gweithle?

O ran ffyrdd posibl o wneud y mwyaf o gyfraniad economaidd menywod yng Nghymru, mae Chwarae Teg yn nodi pum maes lle mae angen i amrywiaeth o randdeiliaid weithredu, gan gynnwys Llywodraethau Cymru a’r DU:

  • Mynd i’r afael â chyflog isel a thangyflogaeth;
  • Annog menywod i weithio mewn sectorau anhraddodiadol;
  • Codi nifer y menywod mewn swyddi arweinyddiaeth;
  • Cefnogi entrepreneuriaid benywaidd; a
  • Mynd i’r afael â’r cyfrifoldebau gofal gwahanol sy’n wynebu menywod a dynion

Mewn dadl yn y Cyfarfod Llawn ym mis Ionawr 2015, eglurodd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau yn y gweithle.  Dywedodd:

Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol hefyd yn cynnwys camau rydym yn eu cymryd i helpu menywod a merched i gael addysg, ac i gyflawni a chael uchelgeisiau mewn addysg a hyfforddiant ac yn eu gwaith.  Mae’n nodi’r hyn rydym yn ei wneud i fynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhyw, er mwyn galluogi menywod ddilyn gyrfaoedd o’u dewis, ac i gynyddu amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus drwy herio a newid y status quo.

Mae sefydliadau fel y prosiect WAVE a Chwarae Teg sy’n cefnogi cyfranogiad cynyddol menywod ym myd gwaith, yn y sectorau blaenoriaeth, ac o ran rhedeg eu busnesau eu hunain, wedi cael cyllid gan Ewrop a Llywodraeth Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu gwaith gan Sefydliad Bevan i archwilio effaith y dirywiad economaidd ar fenywod yn y gweithle.

Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad hefyd wedi bod yn edrych ar y materion sy’n wynebu menywod yn y gweithle a’r ffordd mae’r rheini’n cyfrannu at lefelau uwch o dlodi ymhlith menywod fel rhan o’i ymchwiliad eang i Dlodi

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg