Y Cynulliad i drafod egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

17 Mawrth 2017

Erthygl gan Helen Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg

Llun: o Flickr gan Adam Levine. Dan drwydded Creative Commons.

Gosodwyd y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2016, a chafodd ei gyflwyno yn y Cyfarfod Llawn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 29 Tachwedd 2016. Bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil ar 21 Mawrth 2017.

Mae’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yn ymwneud â sefydlu’r fframwaith cyfreithiol, gweinyddol a gweithredol i ddisodli’r Dreth Dirlenwi yng Nghymru ym mis Ebrill 2018. Mae’r Dreth Dirlenwi ar hyn o bryd yn dreth a godir gan y DU ar gael gwared ar ddeunydd fel gwastraff drwy ei roi mewn safleoedd tirlenwi a ganiateir o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol. Cyflwynwyd y dreth bresennol ym 1996 fel elfen allweddol i sbarduno newid mewn ymddygiad amgylcheddol drwy roi cymhelliant i ddargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi, gan ailgylchu, ailddefnyddio ac adennill mwy o wastraff. Ers i’r dreth gael ei chyflwyno, mae wedi cyfrannu at ostyngiad sylweddol yng nghyfran y gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi, a chynnydd mewn cyfraddau ailgylchu.

Y Bil hwn yw’r trydydd mewn cyfres o filiau sy’n ymwneud â datganoli’r pwerau treth yn Neddf Cymru 2014. Rhagflaenwyd y Bil hwn gan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a sefydlodd y fframwaith cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol a’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), a fydd yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp o fis Ebrill 2018.

Ceir rhagor o wybodaeth am gefndir y Bil, trosolwg o’i rannau, crynodeb o’i oblygiadau ariannol, a geirfa Gymraeg yn y Crynodeb o’r Bil (PDF, 844KB) a luniwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid adroddiad (PDF, 1MB) ar ei ystyriaeth o egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yng Nghyfnod Un ar 10 Mawrth 2017.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn pennu nifer o argymhellion gyda’r nod o gryfhau’r ddeddfwriaeth. Er enghraifft, byddai’r Pwyllgor yn hoffi gweld cyfraddau arfaethedig y trethi, rhestr o ddeunyddiau cymwys a darpariaethau ar gyfer rhyddhad ar ddyled ddrwg, wedi’u cynnwys ar wyneb y Bil.

Er bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â rhai o’r darpariaethau hyn, mae’r Pwyllgor yn parhau i fod yn bryderus nad yw is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i’r un faint o waith craffu â Bil.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn credu bod angen sicrwydd ar fusnesau pan ddaw i ddefnyddio deddfwriaeth treth newydd, ac y byddai cynnwys manylion o’r fath yn y gyfraith ei hun yn helpu i fynd i’r afael â phryderon.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth sylweddol mewn perthynas â phwysigrwydd Cynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Cynllun Cymunedol yn cael ei gynnwys ar wyneb y Bil i ddangos ymrwymiad i’r cynllun wrth symud ymlaen, ond mae’n derbyn y gallai rhai o’r manylion gael eu pennu mewn rheoliadau.

Trafododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol briodoldeb y darpariaethau yn y Bil o ran pwerau i greu is-ddeddfwriaeth. Hefyd, cyhoeddwyd ei adroddiad (PDF, 2MB) ar 10 Mawrth 2017.

Yn amodol ar y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), bydd y Bil yn symud ymlaen at drafodion Cyfnod Dau (sef trafodaeth fanwl ar y Bil ac unrhyw welliannau a gynigir gan Bwyllgor). Disgwylir y bydd trafodion Cyfnod Dau wedi dod i ben erbyn 26 Mai 2017.

Y Goblygiadau i Gymru yn sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi ei adroddiad cyntaf

16 Mawrth 2017

Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 30 Ionawr 2017 yn wreiddiol. Mae’n cael ei phostio eto cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Mawrth 2017.

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Fflagiau UEMae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad (@SeneddMADY) wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf ar y goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr UE. Adroddiad mewn dwy ran ydyw.

Mae Rhan 1 o’r adroddiad yn nodi casgliadau’r Pwyllgor ar y prif oblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr UE. Mae’r casgliadau hyn yn seiliedig ar y seminarau a sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd gan y Pwyllgor gydag arbenigwyr blaenllaw ar amrywiaeth o bynciau allweddol, gan gynnwys masnach, gwasanaethau cyhoeddus, cyllid yr UE, addysg uwch a’r amgylchedd.

Dyma rai o’r prif gasgliadau:

  • O ystyried pwysigrwydd gweithgynhyrchu i Gymru, byddai gosod tariffau yn peri risg sylweddol i’r sector hwn, yn enwedig i’r gweithgynhyrchwyr sy’n gysylltiedig â chadwyni gwerth byd-eang;
  • Mae risg sylweddol i’r fasnach mewn cynhyrchion amaethyddol;
  • Heb ystyriaeth ofalus, bydd cyfyngu ar allu dinasyddion yr UE i weithio yn y DU ar ôl Brexit yn cael effaith niweidiol ar lawer o wasanaethau cyhoeddus, ar rai busnesau ac ar brosiectau seilwaith yn y dyfodol yng Nghymru.
  • Mater o’r brys mwyaf i’r sector addysg uwch yng Nghymru yw cael eglurhad ar statws dinasyddion yr UE sy’n gweithio ac yn astudio yng Nghymru;
  • Dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau wrth baratoi gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau.

Mae Rhan 2 o’r adroddiad yn canolbwyntio ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r refferendwm, llais Cymru yn y trafodaethau a dyfodol cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU. Ar y pwnc hwn, yn ogystal â’i gasgliadau allweddol, mae’r Pwyllgor yn gwneud chwe argymhelliad.

Mae’r argymhellion allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae’n seilio ei Phapur Gwyn arni, gan gynnwys manylion y gwaith sydd wedi’i wneud ar fodelu senarios ym mhob sector.
  • Dylai Llywodraeth Cymru roi cofrestr risgiau i’r Pwyllgor ar gyfer pob maes lle y bydd Brexit yn effeithio ar ei gweithgarwch.
  • Dylai Llywodraeth Cymru nodi’r camau y mae wedi’u cymryd er 24 Mehefin 2016 i sicrhau ei bod yn cael gafael ar y swm mwyaf posibl o gyllid Ewropeaidd ac yn ei ddefnyddio cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
  • Dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i’w chynnwys yn llawn wrth lunio’i safbwynt ar gyfer y trafodaethau. Dylai gymryd rhan yn uniongyrchol yn y trafodaethau hynny sy’n ymwneud â phwerau datganoledig, neu â materion sy’n effeithio ar bwerau datganoledig.
  • Mae’r Pwyllgor hefyd yn dod i’r casgliad y byddai sicrhau priodoldeb cyfansoddiadol yn gofyn cael cydsyniad y Cynulliad ar gyfer yr holl Ddeddfau posibl sy’n gysylltiedig â Brexit a gyflwynid gan Senedd y DU.
  • Mae’r Pwyllgor yn nodi, petai’r Bil Diddymu yn tarfu ar y setliad datganoli, y byddai’n cefnogi egwyddor gwarchod y setliad datganoli drwy gyflwyno ‘Bil Parhad i Gymru’.

Byddai Bil Parhad yn ailddatgan bod y canlynol yn bodoli, yng nghyfraith Cymru:

  • pob cyfraith ddomestig sy’n gymwys i Gymru a wnaed at ddibenion gweithredu unrhyw rwymedigaeth UE-nghyfraith / disgresiwn, a
  • yr holl hawliau a’r rhwymedigaethau sy’n uniongyrchol berthnasol/uniongyrchol effeithiol sy’n deillio o gyfraith yr UE

sy’n dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor yn nodi ei obaith y bydd yr adroddiad yn gyfeirbwynt a fydd yn llywio’r drafodaeth ehangach yng Nghymru, a’r tu hwnt, o ran ymadawiad y DU â’r UE ac y bydd yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau eraill wrth iddynt ddechrau ystyried y goblygiadau i Gymru .

Mae rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor ar gael ar ei wefan.

Ffedereiddio ysgolion; yr ateb i osgoi cau ysgolion gwledig?

15 Mawrth 2017

Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Rhes o seddau ysgol.

Llun: o Pixnio gan Amanda Mills. Dan drwydded Creative Commons.

Ar 15 Tachwedd 2016, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, ei bwriad i wneud newidiadau i’r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Prif amcan y newidiadau fydd cyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, rhywbeth sydd eisoes ar waith yn yr Alban a Lloegr.

Gellir olrhain y rhagdybiaeth hon yn ôl i un o’r blaenoriaethau ym maes addysg a gyflwynodd Kirsty Williams i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, cyn ymuno â Llywodraeth Cymru. Un o’r rhesymau pam nad oes rhagdybiaeth o’r fath wedi bod ar waith yng Nghymru yw nad oes diffiniad swyddogol o ‘ysgol wledig’ yng Nghymru, ac mae hwn yn rhywbeth arall y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno’i newid yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion.

Byddai’r rhagdybiaeth arfaethedig hon yn golygu

  • bod yn rhaid i’r achos o blaid cau ysgolion gwledig fod yn gryf; ac
  • y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori’n fwy trylwyr ac ystyried mewn modd cydwybodol bob dewis arall yn hytrach na chau ysgolion, gan gynnwys creu cysylltiadau ag ysgolion eraill. Gelwir hyn yn ffedereiddio.

Yn ogystal â newidiadau i’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd i ddarparu £2.5 miliwn yn ychwanegol i’r ysgolion gwledig a bach, sydd i gael eu diffinio’n fuan, o fis Ebrill 2017. Bwriad yr arian ychwanegol hwn yw ‘cefnogi cydweithio rhwng ysgolion’ ac ar gyfer

datblygu ffederasiynau ar draws yr holl ysgolion a gynhelir, a gwybodaeth a chanllawiau gwell ar gyfer y rheiny sy’n ystyried cydweithio a ffedereiddio.

Gallai hyn fod yn arwydd o newid cyfeiriad ym mholisi Llywodraeth Cymru, sydd wedi canolbwyntio yn y gorffennol ar leihau nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion yng Nghymru. Roedd hyn yn aml yn golygu cau ysgolion yr ystyrid nad oedd ganddynt ddigon o ddisgyblion. O ganlyniad i Gwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad oddi wrth Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr, Darren Millar ym mis Gorffennaf 2016, daeth i’r amlwg fod y rhan fwyaf o’r ysgolion a gafodd eu cau yng nghefn gwlad Cymru.

Beth yw ffedereiddio ysgolion?

Mae ysgolion yng Nghymru wedi gallu ffedereiddio ers 2010 pan gyflwynwyd Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010. Diweddarwyd y rheolau ynghylch ffedereiddio trwy basio Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014. Yr ysgolion cyntaf i ffedereiddio oedd Coleg Cymunedol Michaelston ac Ysgol Uwchradd Glyn Derw yng Nghaerdydd yn 2011.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar ffedereiddio yn rhoi crynodeb o’r term:

Mae’r term ffederasiwn yn disgrifio cytundeb ffurfiol a chyfreithiol lle mae nifer o ysgolion (rhwng dwy a chwech) yn rhannu trefniadau llywodraethu ac yn meddu ar gorff llywodraethu sengl. Gall ffederasiynau gynnwys cymysgedd o ysgolion cymunedol a chymunedol arbennig sydd naill ai’n ysgolion meithrin, cynradd, arbennig neu uwchradd a gynhelir.

Fodd bynnag, o dan y Rheoliadau Ffedereiddio 2014 newydd, ni chaiff ysgolion a sefydlwyd ar sail ffydd a/neu ymddiriedolaeth, megis ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir neu ysgolion gwirfoddol a reolir, ffedereiddio ac eithrio gydag ysgolion o’r un categori neu gydag ysgolion o’r un statws ymddiriedolaeth elusennol a/neu’r un ethos crefyddol. Ni chaiff ysgolion sefydledig ffedereiddio ac eithrio gydag ysgolion sefydledig eraill.

Mae’r canllawiau hefyd yn nodi nad oes

unrhyw lasbrint penodol ar gyfer ffedereiddio a bydd cynllun neu weithrediad unrhyw ffederasiwn yn dibynnu’n llwyr ar amgylchiadau’r ysgolion unigol a ffocws neu ddiben eu hawydd i gydweithio.

Fodd bynnag, rhaid mai’r rheswm pwysicaf dros ystyried ffedereiddio yw’r manteision y byddai trefniant o’r fath yn eu cyflwyno i blant a phobl ifanc trwy gyfrwng gwell darpariaeth addysgol.

Pam ffedereiddio?

Nodwyd mewn adroddiad gan y Coleg Cenedlaethol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, o’r enw ‘A study of the impact of school federation on student outcomes’, fod ffedereiddio ysgolion:

  • wedi cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau myfyrwyr, er y gall gymryd dwy i bedair blynedd i’r effaith ddod i’r amlwg;
  • yn cynnig rhagor o adnoddau ac o ganlyniad gyfleoedd ar gyfer newid a darparu gwasanaethau ychwanegol; ac
  • yn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol i’r staff, yn aml am bris gostyngol, ar draws y ffederasiwn, ac ar adegau y tu hwnt i’r ffederasiwn. Mae strwythur ffederal hefyd yn hybu cyfleoedd i ysgolion gydweithredu, sy’n cael ei ystyried yn bwysig er mwyn gwella safonau yng Nghymru.

Er bod pob un o’r uchod yn berthnasol ac yn ganlyniadau dymunol yng Nghymru, mae ffactor arall sy’n sbarduno’r syniad o ffedereiddio, sef nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion yng Nghymru.

Lleoedd gwag mewn ysgolion yng Nghymru

Cefnogwyd yr ymgyrch i leihau nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion gan Lywodraeth flaenorol Cymru, a argymhellodd na ddylai fod gan awdurdodau lleol fwy na 10% o’u lleoedd yn wag ar draws yr holl ysgolion cynradd ac uwchradd yn eu hardaloedd. Ar lefel ysgol unigol, diffinnir lefel sylweddol o ddarpariaeth dros ben fel 25 y cant ac o leiaf 30 o leoedd heb eu llenwi.

Cefnogodd yr ymgyrch hon gyda’i Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a’i Chod Trefniadaeth Ysgolion. Roedd y Cod yn nodi ei bod yn ‘bwysig bod cyllid ar gyfer addysg yn gosteffeithiol‘. Dywedwyd yn y Cod hefyd y byddai’n rhaid i unrhyw benderfyniad i ad-drefnu neu gau ysgol fod ‘er budd y ddarpariaeth addysgol yn yr ardal.’

Yn 2012, cyhoeddodd Estyn adroddiad o’r enw Sut mae lleoedd dros ben yn effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael i wario ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion? Canfu’r adroddiad hwnnw fel a ganlyn:

bydd cau ysgol gynradd yn cynhyrchu arbedion posibl o £63,500 yn ogystal â £260 ar gyfer pob lle dros ben a ddiddymir. Bydd cau ysgol uwchradd yn cynhyrchu arbedion posibl o £113,000 a £510 ar gyfer pob lle dros ben a ddiddymir. [fy mhwyslais i]

Y canfyddiad yw bod y cyfuniad hwn o ffactorau wedi cyfrannu at gau 157 o ysgolion rhwng 2006/7 a 2015/16 yn bennaf, mae’n ymddangos, mewn rhannau gwledig o Gymru. Er gwaethaf yr ysgolion a gaewyd, nododd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mewn nodyn briffio i’w Bwyllgor Cydlynu, fod cyfradd y lleoedd gwag yn 19.6 y cant yn y sector uwchradd a 14.4 y cant yn y sector cynradd erbyn 2015, sef 3.2 y cant yn llai nag yn 2013 yn y sector cynradd. Roedd dros 40 y cant o’r lleoedd dros ben mewn ysgolion bach, sydd i’w cael yn bennaf mewn ardaloedd gwledig. [fy mhwyslais i]

Mae’n ymddangos nawr fod Llywodraeth newydd Cymru yn mynd i addasu ei hagwedd tuag at leoedd gwag, er ein bod yn dal i aros am y manylion a fydd yn sail i’r newid hwn. Efallai y daw’r manylion hyn i’r amlwg ar ôl cyhoeddi’r strategaeth a’r cynllun gweithredu ar gyfer ffedereiddio a chydweithredu yng Nghymru.

Cymru’n arwain y ffordd ar ailgylchu

10 Mawrth 2016

Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Caniau diod alwminiwm wedi'u didoli, yn barod i gael eu hailgylchu.

Llun: o Flickr gan Scott Mcpherson. Dan drwydded Creative Commons.

Ar 28 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr ystadegau ailgylchu diweddaraf ar gyfer Cymru, sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2016. Gan barhau â’r duedd ar i fyny, gwnaeth y gyfradd gyfunol o wastraff trefol awdurdodau lleol sy’n cael ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio gynyddu i 62 y cant ar gyfer y 12 mis hyd at ddiwedd mis Medi 2016, o’i gymharu â 58 y cant ar gyfer y 12 mis hyd at ddiwedd mis Medi 2015.

Yn y 12 mis hyd at ddiwedd mis Medi 2016:

  • Yr awdurdod lleol â’r gyfradd ailgylchu uchaf oedd Ceredigion (70%). Blaenau Gwent oedd a’r gyfradd isaf (52%);
  • Cafwyd gwelliant sylweddol mewn nifer o awdurdodau, yn benodol Merthyr Tudful (cynnydd o 13%) a Sir y Fflint, Wrecsam a Phowys (cynnydd o 10% ym mhob awdurdod);
  • Cafwyd dirywiad ym mherfformiad ailgylchu un awdurdod lleol, sef Caerdydd, lle gwelwyd gostyngiad o 2% yn y gyfradd ailgylchu i 57%; ac
  • Os yw’r awdurdodau gwledig yn cael eu grwpio gyda’i gilydd, maent yn parhau i ddangos y gyfradd ailgylchu uchaf.

Mae’r ystadegau ar wastraff a reolir gan awdurdodau lleol yn Lloegr, sydd i’w gweld ar wefan Llywodraeth y DU, yn dangos mai 44% oedd cyfanswm y cyfraddau ailgylchu ar gyfer 2015/16, sy’n is na’r gyfradd o 45% a gafwyd yn 2014/15.

Er bod y ffigurau ailgylchu yn dangos cynnydd boddhaol i Gymru, gwelwyd cynnydd yng nghyfanswm gwastraff trefol awdurdodau lleol a gynhyrchir yng Nghymru. Cynyddodd nifer y tunelli o 3 y cant o’i gymharu â’r chwarter cyfatebol yn 2015, o 411,000 i 425,000.

Tuag at Ddyfodol Diwastraff

Mae strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, yn pennu targed o ailgylchu/compostio 70% o’r gwastraff trefol a gynhyrchir erbyn 2024-25. Mae nifer o Dargedau Ailgylchu Statudol gofynnol ar gyfer y blynyddoedd interim (a bennwyd ym Mesur Gwastraff (Cymru) 2010): 58% erbyn 2015-16 a 64% erbyn 2020. Mewn perthynas â’r targed presennol o 58%, yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae Caerdydd a Blaenau Gwent wedi methu â bodloni’r safon ofynnol. Gallai methu â bodloni’r targedau hyn arwain at ddirwy o £200 y dunnell am bob tunnell o wastraff y mae’r awdurdod lleol yn methu ei hailgylchu. Fodd bynnag, hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi codi dirwyon ar awdurdodau sy’n tanberfformio.

Mewn ymateb i gwestiwn yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mawrth, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ei bod wrthi’n adolygu’r targedau ailgylchu er mwyn eu gwneud yn fwy uchelgeisiol. Dywedodd mai ei nod oedd i Gymru arwain y byd o ran ei pherfformiad ailgylchu.

Y ‘Glasbrint Casglu’

Fel rhan o’i chynllun gwastraff trefol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei glasbrint casglu, a gafodd ei adolygu’n annibynnol gan gwmni Eunomia Research and Consulting yn 2016. Mae’r glasbrint yn disgrifio’r dull gweithredu a argymhellir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer casglu gwastraff o gartrefi, gyda’r nod o sicrhau cyfraddau ailgylchu uwch yn ogystal ag arbedion cost. Canfu’r adolygiad fod y glasbrint yn parhau i gynnig manteision clir o ran cost ac ansawdd deunydd, yn ogystal â’i effaith ar berfformiad ailgylchu.  Mae’r model a argymhellir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer casglu gwastraff o gartrefi yn cynnwys:

  • Casglu deunyddiau ailgylchu sych ar wahân bob wythnos drwy ‘ddidoli ar garreg y drws’, casglu deunyddiau ar wahân mewn blychau a/neu sachau eildro, gyda dau neu fwy o flychau’n cael eu rhoi i bob cartref, a staff casglu’n rhoi’r deunyddiau ailgylchu mewn rhannau gwahanol o’r cerbyd casglu;
  • Casglu gwastraff bwyd bob wythnos ar wahân;
  • Defnyddio cerbydau modern ysgafn â rhannau gwahanol i allu casglu deunyddiau ailgylchu sych a gwastraff bwyd ar yr un pryd; a
  • Chasglu gwastraff gweddilliol bob yn ail wythnos, o gasgliadau â biniau du llai o faint, a lle na chaniateir rhoi gwastraff y tu allan i’r bin.

Nid oes gofyn i awdurdodau lleol ddilyn y glasbrint, ond mae Llywodraeth Cymru yn argymell glynu wrtho er mwyn cyflawni’r cyfraddau ailgylchu gorau posibl. Mae amrywiaeth mawr ledled Cymru o ran arferion ailgylchu ac o ran pa mor aml y caiff gwastraff gweddilliol ei gasglu, er bod y mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol yn casglu gwastraff i’w ailgylchu yn wythnosol. Mae rhai awdurdodau lleol wedi symud i drefniant lle maent yn casglu sbwriel bob tair wythnos, a hynny er mwyn annog aelwydydd i ailgylchu mwy. Mae llawer o awdurdodau wedi gosod cyfyngiadau ar faint o wastraff gweddilliol y gellir ei roi allan i’w gasglu. Mae’r camau hyn wedi ennyn gwrthwynebiad mewn nifer o ardaloedd, gydag aelwydydd yn gwrthwynebu’r drefn o gasglu sbwriel yn llai aml.

Y Cynulliad i drafod Adroddiad Blynyddol 2015/16 Prif Arolygydd Estyn

02 Mawrth 2017

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun: o Flickr gan theilr. Dan drwydded Creative Commons.

Llun: o Flickr gan theilr. Dan drwydded Creative Commons.

Yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (7 Mawrth, 2017), bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod Adroddiad blynyddol 2015/16 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Meilyr Rowlands. Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol ar 24 Ionawr 2017, ac mae eisoes wedi bod yn destun craffu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 15 Chwefror 2017 .

Dwy o’r prif negeseuon yw bod safonau’r ddarpariaeth yn parhau i fod yn ‘amrywiol’, gyda’r bwlch rhwng perfformwyr gorau a gwaethaf Cymru’n dal ‘yn rhy eang’, ac mai addysgu yw’r ‘agwedd wannaf’ ar hyn o bryd ar draws y rhan fwyaf o feysydd addysg yng Nghymru. Mae hyn hyd yn oed yn fwy amlwg o gofio bod y Prif Arolygydd yn cytuno â’r rhan fwyaf o’r drafodaeth addysgol gyffredinol, sef mai safon yr addysgu yw’r ‘dylanwad mwyaf’ ar ba mor dda mae plant a phobl ifanc yn dysgu.

Amrywioldeb

Mae’r Prif Arolygydd yn adrodd bod ‘amrywioldeb’ o fewn ysgolion a rhyngddynt  yn parhau i fod yn nodwedd amlwg’ o system addysg Cymru. Mae Mr Rowlands yn nodi:

Ym mhob sector, mae darparwyr da a rhagorol, gan gynnwys mewn ardaloedd cymharol ddifreintiedig, ond mae’r bwlch rhwng darparwyr sy’n gwneud yn dda a’r rhai nad ydynt yn gwneud yn dda yn dal i fod yn rhy eang.

Mae hon yn neges debyg i’r llynedd pan amlygodd y Prif Arolygydd  amrywioldeb mewn safonau, gan ddweud mai dyma oedd ‘un o nodweddion mwyaf amlwg y system addysg yng Nghymru’. Yn ei adroddiad yn 2014/15, dywedodd hefyd fod y bwlch rhwng y perfformwyr gorau a’r gwaethaf ‘yn dal yn rhy eang’ a bod ‘angen mynd i’r afael ag ef’, gan awgrymu ei bod yn broblem yn y tymor hir sy’n ymestyn yn ôl cyn hynny. Yn wir, mae’r Prif Arolygydd yn adrodd bod y ‘darlun sylfaenol’ o arolygiadau yn 2015/16 yn ‘debyg’ i’r flwyddyn flaenorol.

Dywedodd y Prif Arolygydd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mai un o’r prif ffyrdd y gall yr amrywioldeb hwn gael ei weld yw yn lefel y cysondeb ar draws ysgol.

Mae pobl yn dweud, ‘Wel, pa un yw’r broblem fwyaf?’ Y gwir amdani yw mai’r un broblem yw hi, oherwydd pan fyddwn yn dweud bod ysgol yn perfformio’n dda, neu fod yr arweinyddiaeth yn gadarn mewn ysgol, neu fod yr addysg yn dda yn yr ysgol honno, yr hyn yr ydym yn ei ddweud mewn gwirionedd yw bod yr addysg, neu’r arweinyddiaeth, neu’r ysgol, yn gyson dda. Yr hyn sy’n gwneud darpariaeth yn ddarpariaeth ddigonol yn unig yw ei bod yn anghyson. Felly, mae’r anghysondeb hwnnw-. Mewn ysgolion a darparwyr eraill lle rydym yn nodi eu bod yn ddigonol, mae pocedi o arfer da ond nid yw hyn yn gyson ar draws y system. Dyna beth sy’n arwain at yr amrywioldeb hwn yr ydym yn ei weld ar lefel system, sef bod gennych amrywioldeb o fewn y pocedi hynny gan ddarparwyr.

Safonau addysgu

Ansawdd yr addysgu yw’r dylanwad mwyaf ar ba mor dda y mae dysgwyr yn dysgu, ond dyma’r agwedd wannaf o’r ddarpariaeth ar draws y rhan fwyaf o feysydd addysg yng Nghymru.

Dyma sut y gwnaeth datganiad i’r wasg Estyn adrodd am gyhoeddi adroddiad blynyddol ei Brif Arolygydd ar gyfer 2015/16.  Ymddengos ei fod yn atgyfnerthu’r angen am y diwygiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol athrawon.

Yn wir, mae yna ffocws arbennig yn adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd eleni ar  well dysgu proffesiynol a datblygiad staff, y  mae’r Prif Arolygydd yn ei ddisgrifio fel ‘gofyniad strwythurol ar gyfer gwell addysgu’. Mae ei adroddiad yn cynnwys deg set o gwestiynau ar gyfer ysgolion, sydd wedi’u cynllunio i gynorthwyo â’u cefnogaeth ar gyfer dysgu proffesiynol athrawon.

Dywed y Prif Arolygydd bod gan ychydig dros dri chwarter yr ysgolion cynradd a arolygwyd yn 2015/16 safonau addysgu oedd yn dda neu’n well. Fodd bynnag, mae hyn yn wir mewn dim ond lleiafrif o ysgolion uwchradd. Mae’r addysgu yn rhagorol yn ‘ychydig iawn’ yn unig o ysgolion cynradd ac uwchradd.

Mae Llywodraeth Cymru yn diwygio’r cyfleoedd datblygu sydd ar gael i athrawon. Mae’n gweithio gydag ‘ysgolion sy’n arloesi’ tuag at sefydlu cynnig dysgu proffesiynol sengl newydd erbyn Gorffennaf 2018, mewn pryd ar gyfer argaeledd y cwricwlwm newydd ym Medi 2018. Mae safonau proffesiynol newydd hefyd yn cael eu datblygu ynghyd ag  adnewyddu rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon (yn dilyn Adolygiad Furlong) gyda fersiynau ‘trawsnewidiol’ newydd i’w  cyflwyno ym mis Medi 2019. Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar hyn o bryd yn cynnal Ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon.

Arsylwadau allweddol eraill

  • Mae mwy o fwlch rhwng y perfformiad gorau a’r perfformiad gwaethaf ar lefel ysgol uwchradd nag ar lefel ysgol gynradd. Mae gan fwy o ysgolion uwchradd berfformiad a rhagolygon ar gyfer gwella sy’n Rhagorol neu’n Anfoddhaol, tra bod ysgolion cynradd yn tueddu i gael eu clystyru yn bennaf o amgylch y ddwy farn ganol, sef Da a Digonol. Mae hwn yn batrwm parhaus o flynyddoedd blaenorol.
  • Mae yna duedd gynyddol o gyflwyno disgyblion yn gynnar ar gyfer arholiadau. Mae Estyn yn gweld y gall fod yn fuddiol mewn rhai pynciau, yn enwedig Mathemateg ond os caiff ei gymhwyso’n ehangach i garfanau mwy o ddisgyblion gall fod yn niweidiol. Gallai helpu disgyblion i ennill graddau C a helpu data perfformiad trothwy Lefel 2 ysgolion (5 neu fwy TGAU ar raddau A* -C), ond mae Estyn yn dweud bod iddo ‘anfanteision’.
  • Nid yw dysgwyr mwy galluog yn cyflawni cystal ag y dylent. Mae hyn yn awgrymu nad yw’r system yn gwneud digon i alluogi disgyblion mwy galluog a thalentog i gyflawni eu potensial. Mae’r OECD wedi nodi bod gan Gymru system gymharol gynhwysol ond nid yw’n ymestyn disgyblion mwy galluog a thalentog cystal ag y gallai.
  • Mae cyfran y disgyblion sy’n ennill 5 TGAU ar raddau A*-C wedi cynyddu o 51.1% yn 2012 i 57.9% yn 2015 a 60.3% yn 2016, er bod y gyfran sy’n ennill 5 TGAU ar raddau A* -A wedi lleihau o 17.1% yn 2012 i 16.6% yn 2015 a 15.9% yn 2016. (Sylwer bod Llywodraeth Cymru wedi dechrau defnyddio dull ystadegol ychydig yn wahanol yn 2016, gan fesur y garfan o ddisgyblion ym Mlwyddyn 11 yn hytrach na’r rhai 15 oed ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.)
  • Y bwlch rhwng y gyfran o ddisgyblion oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ennill trothwy Lefel 2 cynhwysol (5 TGAU graddau A* -C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg) a disgyblion eraill oedd 31 pwynt canran yn 2016. Dyma’r culaf y mae’r bwlch wedi bod mewn deng mlynedd.
  • Arolygwyd pob consortia rhanbarthol gan Estyn yn 2015/16. Mae’r Prif Arolygydd yn adrodd nad yw’rconsortia yn dadansoddi yn ddigonol cynnydd grwpiau o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai mwy galluog, yn ddigon manwl. Nid ydynt chwaith yn gwneud digon i fynd i’r afael ag amrywioldeb mewn safonau, yn enwedig rhwng ysgolion uwchradd.
  • Parhaodd y broblem tymor hir o berfformiad a chanlyniadau gwael mewn unedau cyfeirio disgyblion yn 2015/16. Mae adroddiadau blynyddol dros nifer o flynyddoedd wedi amlygu hwn yn faes sy’n peri pryder.

Beth y mae Estyn yn edrych arno wrth arolygu ysgolion a lleoliadau eraill?

Mae Estyn yn defnyddio Fframwaith Arolygu Cyffredin a gyflwynwyd ar ddechrau’r cylch arolygu cyfredol ym mis Medi 2010. Mae’r Fframwaith yn cynnwys tri chwestiwn allweddol ynghylch ‘pa mor dda’ yw’r deilliannau, y ddarpariaeth, a’r arweinyddiaeth a rheolaeth. Yn dilyn hynny, mae Estyn yn ffurfio dwy farn gyffredinol am berfformiad cyfredol a rhagolygon ar gyfer gwella ym mhob lleoliad yn ôl graddfa â phedwar pwynt iddi: Rhagorol, Da, Digonol ac Anfoddhaol.

Mae Estyn yn cyhoeddi data ar ei ganlyniadau arolygu. Mae hyn yn darparu manylion yr holl farnau arolygu ers dechrau’r cylch fframwaith arolygu presennol ym mis Medi 2010. Gall hyn gael ei hidlo yn ôl sectorau penodol.

Bydd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (7 Mawrth, 2017) yn cael ei darlledu ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar Gofnod y Trafodion y Cynulliad.