Rheoli’r perygl o lifogydd

20 Mai 2016

Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Daw’r erthygl hon o Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Mae llifogydd yn fygythiad cyson i lawer o gymunedau ledled Cymru. Sut fydd Llywodraeth newydd Cymru yn amddiffyn pobl ac eiddo rhag y difrod y mae llifogydd ac erydu arfordirol yn ei achosi?

Mae rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yn her barhaus. Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu ein bod yn debygol o gael tywydd difrifol yn amlach, a’i bod hefyd yn fwy anodd darogan hwnnw. Mae hyn yn cynyddu’r perygl o lifogydd mewn nifer o gymunedau ledled Cymru.

Y polisi

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am reoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol, ac i raddau helaeth, hi sydd hefyd yn ariannu’r awdurdodau rheoli perygl i wneud gwaith i atal llifogydd ac erydu arfordirol. Yng Nghymru, yr awdurdodau hynny’n bennaf yw Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdodau lleol.

Mae pedwar prif amcan i strategaeth genedlaethol y Llywodraeth flaenorol ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol:

Llun o ffordd dan ddŵr

Llun o Flickr gan http://www.MorienJones.com. Dan drwydded Creative Commons.

  • lleihau effaith llifogydd ac erydu arfordirol ar unigolion, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd;
  • codi ymwybyddiaeth am y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol, a thynnu sylw pobl at hyn;
  • ymateb yn effeithiol ac yn barhaus i achosion o lifogydd ac erydu arfordirol; a
  • blaenoriaethu buddsoddiad yn y cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

Mae’r strategaeth yn cyfuno dulliau traddodiadol, fel draenio ac amddiffyn, gyda dulliau sy’n ceisio rheoli’r perygl.

Mae rheoli’r perygl yn golygu cydnabod nad yw’n bosibl atal pob achos o lifogydd ac erydu arfordirol, ond bod modd defnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau i reoli effaith hyn, yn aml drwy weithio gyda natur, yn hytrach nag yn ei erbyn. Er enghraifft, mae’r strategaeth yn awgrymu y dylid gwneud mwy o ddefnydd o ardaloedd fel gwlyptiroedd neu forfeydd heli a chanfod ardaloedd sy’n addas i’w gorlifo ac i storio dŵr. Mae hefyd yn golygu y dylai datblygiadau adeiladu gael eu cynllunio i wrthsefyll llifogydd ac erydu arfordirol, ac y dylid gwneud mwy o ddefnydd o systemau draenio cynaliadwy.

Gall rheoli’r perygl mewn ardaloedd arfordirol hefyd olygu peidio ag ymyrryd yn rhagweithiol neu adlinio’r traethlin drwy reoli’r broses honno. Ystyr adlinio o’r fath yw caniatáu i’r traethlin symud yn ôl neu ymlaen yn naturiol, ond gan reoli’r broses drwy gyfeirio’r modd y mae’n symud mewn ardaloedd penodol. Yn amlwg, gall fod yn anodd i gymunedau ac unigolion dderbyn polisïau o’r fath. Ym mis Hydref 2015, dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, wrth y Pedwerydd Cynulliad:

Bydd newid yn yr hinsawdd yn golygu y bydd angen cefnogaeth tymor hir ar rai o’n cymunedau arfordirol … wrth iddynt wynebu addasiadau sylweddol pan fydd lefel y môr yn codi ac wrth i’r risgiau sy’n gysylltiedig â bywyd ac eiddo ddod yn anghynaladwy.

Mae’r dull strategol o reoli traethlin Cymru wedi’i amlinellu yn y pedwar Cynllun Rheoli Traethlin, un ar gyfer pob rhan wahanol o’r wlad.

Adolygu llifogydd arfordirol 2014

Achosodd stormydd mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014 ddifrod difrifol i lawer o arfordir Cymru, ac ni fydd y bobl sy’n byw yn y cymunedau a ddioddefodd waethaf fyth yn eu hanghofio. Bu llifogydd mewn dros 300 o dai ac amcangyfrifwyd bod gwerth £8.1 miliwn o ddifrod wedi’i achosi i amddiffynfeydd llifogydd ac amddiffynfeydd arfordirol.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, fodd bynnag, ni fu llifogydd mewn 74,000 o gartrefi ac adeiladau, er bod y potensial yno i hynny ddigwydd. Mae’n golygu bod llifogydd wedi effeithio ar lai nag 1 y cant o’r eiddo a oedd mewn perygl. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod hynny oherwydd y blynyddoedd o fuddsoddi blaenorol mewn amddiffynfeydd arfordirol a’r gwaith a wnaed i’w cynnal a’u cadw.

Aeth Cyfoeth Naturiol Cymru ati i wneud gwaith sylweddol i adolygu’r amddiffynfeydd yn dilyn y stormydd. Roedd yr adolygiad mewn dau gam – yn gyntaf, aseswyd effaith y llifogydd; yn ail, gwnaed 47 o argymhellion gyda’r nod o wella gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd arfordirol mewn chwe maes:

  • buddsoddi parhaus er mwyn rheoli’r perygl mewn ardaloedd arfordirol;
  • gwybodaeth well am systemau sy’n amddiffyn rhag llifogydd arfordirol;
  • mwy o eglurder ynghylch gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau asiantaethau ac awdurdodau;
  • asesu sgiliau a chapasiti;
  • mwy o gymorth i helpu cymunedau i wrthsefyll llifogydd yn well; a
  • chyflwyno cynlluniau sydd wedi’u datblygu’n lleol ar gyfer cymunedau arfordirol.

Dywedodd y Gweinidog ar y pryd y byddai 42 o’r 47 argymhelliad wedi’u rhoi ar waith erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2015-16 (mae’r pum argymhelliad sy’n weddill yn ymwneud â gwaith parhaus sydd heb derfyn amser penodol).

Ni fyddwn yn gwybod yn iawn pa mor effeithiol yw’r newidiadau hyn tan y tro nesaf y bydd tywydd garw yn taro’r amddiffynfeydd arfordirol o amgylch Cymru.

Y cyllid

Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, buddsoddodd Llywodraeth flaenorol Cymru tua £245 miliwn er mwyn rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Fodd bynnag, cwtogwyd y cyllid ar gyfer hyn yn ogystal â chyllideb waith Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Pan holwyd ef gan Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad ym mis Ionawr 2016, dywedodd y Gweinidog ar y pryd ei fod yn cydnabod y byddai’r toriadau yn rhoi pwysau ar Cyfoeth Naturiol Cymru ac y byddai mwy o berygl i gymunedau gan fod llai o arian ar gael yn y system. Awgrymodd hefyd y byddai toriadau pellach i’r gyllideb yn gallu gwthio Cyfoeth Naturiol Cymru i fan lle y byddai’n rhaid iddo roi’r gorau i wneud gwaith penodol. Dywedodd:

I think there will come a time when NRW are pressured and they are unable to continue with some of the duties that they currently do. I don’t believe it’s now.

Yn ddiweddarach, ysgrifennodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, at y Pwyllgor yn cadarnhau bod rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yn faes lle y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gorfod gwneud arbedion a newidiadau i’w ffordd o weithio.

Rhaglen newydd i reoli’r perygl

Yn 2014, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru raglen newydd gwerth £150 miliwn i reoli’r perygl o erydu arfordirol – rhaglen sydd i fod i’w rhoi ar waith yn 2018. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac mae £3 miliwn eisoes wedi’i neilltuo i wneud gwaith paratoi. Ym mis Mawrth 2016, nododd Llywodraeth Cymru y gallai Banc Buddsoddi Ewrop fod yn ffynhonnell bosibl o gyllid ar gyfer y rhaglen.

Er bod y ffocws ar leihau’r perygl i gartrefi a busnesau, dywedodd y Gweinidog ar y pryd y bydd y rhaglen hefyd yn ceisio sicrhau manteision eraill yn ymwneud â’r economi, yr amgylchedd a lles.

Nid ydym yn gwybod llawer mwy o fanylion am y rhaglen ar hyn o bryd. Ni wyddom chwaith sut y bydd yn cael ei hariannu na sut fath o brosiectau y bydd yn eu cefnogi.

Ffynonellau allweddol

Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Y Cynulliad i bleidleisio ynghylch cynnwys caniatadau amddiffyn rhag llifogydd yn y gyfundrefn Trwyddedu Amgylcheddol

25 Chwefror 2016

Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Peiriant tyrchu ar waith mewn afon

Llun o Flickr gan Jeremy Atkinson. Trwydded Creative Commons. Tynnwyd manylion y cwmni o’r peiriant tyrchu gan ddefnyddio Photoshop.

Bydd y Cynulliad yn pleidleisio ar 1 Mawrth 2016 ynghylch is-ddeddfwriaeth (PDF 509KB) a fydd yn symleiddio’r broses o gael caniatâd i gynnal gwaith adeiladu yn agos at amddiffynfeydd môr a phrif afonydd.

Bydd y Rheoliadau arfaethedig yn ehangu’r gyfundrefn Trwyddedu Amgylcheddol i gynnwys caniatadau amddiffyn rhag llifogydd. Byddant hefyd yn eithrio rhai gweithgareddau risg isel fel nad oes angen trwydded ar eu cyfer.

Y prif afonydd yw’r cyrsiau dŵr a ddiffinnir ar y map o brif afonydd.

Ar hyn o bryd, mae angen caniatadau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer gweithgareddau fel y rhai a ganlyn:

  • Adeiladu gollyngfeydd;
  • Adeiladu ac atgyweirio pontydd;
  • Gwaith i atal erydu glannau afonydd a cholli tir;
  • Darparu mannau croesi afonydd ar gyfer cyfleustodau; a
  • Chreu ceuffosydd ar gyrsiau dŵr.

Mae amrywiaeth o Ddeddfau ac is-ddeddfau gwahanol yn gwneud caniatadau’n ofynnol, ac mae’r cosbau, y cyfnodau ymgeisio a’r prosesau apelio yn wahanol ar gyfer pob cyfundrefn. Bydd y Rheoliadau yn caniatáu rhoi trwydded unigol ar gyfer gweithgareddau y mae angen trwyddedau ar wahân o dan fwy nag un cynllun ar eu cyfer ar hyn o bryd.

Lluniwyd y Rheoliadau ar sail Cymru a Lloegr ar y cyd ac mae angen i’r Cynulliad a Senedd y DU eu cymeradwyo cyn iddynt ddod i rym yn y ddwy wlad.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dweud y bydd y newidiadau yn creu system symlach, mwy tryloyw ac yn lleihau biwrocratiaeth. Maent yn dweud y bydd y dull newydd yn galluogi rheoleiddwyr i ganolbwyntio ar y gweithgareddau sy’n peri’r risg fwyaf wrth ddyrannu adnoddau. Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r rheoleiddiwr yng Nghymru. Asiantaeth yr Amgylchedd yw’r rheoleiddiwr yn Lloegr.

Ymgynghorodd y ddwy Lywodraeth ar y cynigion rhwng 10 Rhagfyr 2014 a 17 Chwefror 2015 ac maent wedi cyhoeddi ymateb ar y cyd i’r sylwadau a gafwyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi Memorandwm Esboniadol (PDF 704KB) i gyd-fynd â’r Rheoliadau.

Teitl llawn y Rheoliadau yw: The Environmental Permitting (England & Wales) (Amendment) (No2) Regulations 2016 (PDF 509KM)

 

View this post in English

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

 

 

 

 

Teitl llawn y Rheoliadau yw: The Environmental Permitting (England & Wales) (Amendment) (No2) Regulations 2016 (PDF 509KM)

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru

2 Hydref 2015

Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

'Dengys y darlun hwn ton yn torri dros y wal môr

Llun: o Flickr gan Ben Salter. Dan drwydded Creative Commons.

Ddydd Mawrth 6 Hydref, bydd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar y ‘Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol’.

Diben yr erthygl hon yw rhoi peth gwybodaeth am yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar y rhaglen, ac mae’n rhoi peth cefndir ar y gwaith cyffredinol i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.

Y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ei chynigion i sefydlu Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol newydd rhwng mis Rhagfyr 2014 a mis Mawrth 2015. Yr enw arall ar y rhaglen hon yw’r ‘Rhaglen Fuddsoddi mewn Llifogydd ac Erydu Arfordirol’ neu ‘FaCIP’.

Mae’r cynigion yn canolbwyntio ar ffordd newydd o ddyrannu cyllid er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y mannau lle mae’r perygl mwyaf. Byddai hyn yn cynnwys creu ‘Mynegai Perygl Llifogydd’ cenedlaethol i gymharu’r perygl mewn gwahanol ardaloedd.

Byddai’r Mynegai Perygl Llifogydd yn ystyried y tebygolrwydd o lifogydd a’r sgil-effeithiau pe bai hyn yn digwydd; byddai hefyd yn ystyried y tri phrif ffynhonnell o lifogydd – y môr, afonydd a dŵr wyneb.

Mae’r cynigion llawn i’w gweld yn Nogfen Ymgynghori y Rhaglen Fuddsoddi mewn Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FaCIP).

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad wedi mynegi ‘cefnogaeth dda yn gyffredinol’ i’w chynigion. Yn benodol mewn perthynas â’r Mynegai Perygl Llifogydd, gwnaeth yr ymatebwyr y pwyntiau canlynol:

  • Pryder y gallai mynegai sy’n cyfuno llifogydd y môr, afonydd a dŵr wyneb wyro buddsoddiad tuag at awdurdodau lleol arfordirol lle mae perygl posibl o’r tair ffynhonnell, gan roi awdurdodau lleol mewndirol o dan anfantais.
  • Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn credu na ddylid trin erydu arfordirol a pherygl llifogydd gyda’i gilydd. Gallai cyfuno’r ddau fath o berygl wyro pethau yn bellach o blaid ardaloedd arfordirol.
  • Dylid cynnwys data am amddiffynfeydd presennol yn y mynegai er mwyn osgoi targedu buddsoddiad at ardaloedd sydd eisoes yn elwa o fod ag amddiffynfeydd.
  • Dylai’r mynegai ystyried crebwyll lleol.
  • Rhai pryderon y gallai rhai cynlluniau lleol bach gael eu rhoi i’r neilltu o blaid cynlluniau mawr o bwysigrwydd rhanbarthol neu genedlaethol.
  • Mae angen esbonio a chyfleu’r meini prawf ar gyfer asesu perygl i’r cyhoedd mewn ffordd eglur.

Gweler dogfen Llywodraeth Cymru Ymgynghoriad y Rhaglen Fuddsoddi mewn Llifogydd ac Erydu Arfordirol – crynodeb o’r ymatebion am fwy o wybodaeth.

Cefndir

Polisi a chyllid

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddatblygu polisi rheoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol i Gymru ac mae’n ariannu’n bennaf y gweithgareddau llifogydd ac erydu arfordirol y mae ‘awdurdodau gweithredol’ yn gyfrifol amdanynt, sef Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac awdurdodau lleol yn bennaf yng Nghymru.

Mae’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru yn darparu fframwaith cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi oddeutu £245 miliwn i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ystod y Cynulliad hwn. Ym mis Rhagfyr 2014, cyhoeddodd ei bwriad i fuddsoddi £150 miliwn pellach mewn cynlluniau allweddol o 2018.

Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gyflwyno adroddiad i’r Gweinidog ar y cynnydd o ran rhoi’r strategaeth ar waith. Mae adroddiad CNC Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, 2011-2014, yn nodi:

  • Buddsoddwyd £165 miliwn mewn cynlluniau llifogydd ac amddiffyn arfordirol yng Nghymru rhwng mis Tachwedd 2011 a mis Mawrth 2014.
  • Er gwaethaf hyn, amcangyfrifir bod llifogydd wedi achosi difrod o fwy na £71 miliwn ers mis Tachwedd 2011, gan effeithio ar gymunedau, yr economi a seilwaith trafnidiaeth.
  • Gwnaed cynnydd mewn nifer o feysydd o ran rheoli llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hyn yn cynnwys nodi perygl llifogydd, ymdrin â digwyddiadau wrth iddynt godi a chodi ymwybyddiaeth cymunedau am faterion llifogydd.

Mae mwy o wybodaeth gefndirol ar gael yn Nodyn Ymchwil Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu ArfordiroL (PDF 231KB) y Gwasanaeth Ymchwil.

Stormydd gaeaf 2013 – 2014

Mae llifogydd yn fygythiad parhaol i lawer o gymunedau ledled Cymru. Cafodd stormydd mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014 effaith ofnadwy ar nifer o rannau o arfordir Cymru a byddant yn byw yn hir yng nghof y bobl sy’n byw yn y cymunedau a ddioddefodd waethaf.

Cafodd oddeutu 315 o gartrefi eu taro gan lifogydd ac amcangyfrifwyd difrod o £8.1 miliwn i amddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol.

Fodd bynnag, mae CNC yn amcangyfrif, na fu llifogydd mewn oddeutu 24,000 a 50,000 o eiddo a oedd mewn perygl o lifogydd ym mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014 yn y drefn honno, sy’n golygu mai llai nag 1% o’r eiddo oedd mewn perygl a gafodd eu taro gan lifogydd mewn gwirionedd. Mae CNC yn nodi mai buddsoddiad dros nifer o flynyddoedd yn yr amddiffynfeydd arfordirol a’r gwaith cynnal a chadw arnynt oedd yn gyfrifol am hyn.

Adolygiad llifogydd arfordirol 2014

Yn dilyn y stormydd, gofynnodd Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ar y pryd, i CNC gynnal adolygiad mawr o amddiffynfeydd arfordirol.

Roedd dau gam i’r adolygiad – roedd y cam cyntaf yn asesu effaith y llifogydd, a’r ail yn gwneud cyfres o argymhellion i wella gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd arfordirol.

Roedd yr ail adroddiad yn argymell camau i’w cymryd mewn chwe maes:

  • Buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl erydu arfordirol.
  • Gwybodaeth well am systemau amddiffynfeydd llifogydd arfordirol.
  • Mwy o eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau asiantaethau ac awdurdodau.
  • Asesu sgiliau a chapasiti.
  • Mwy o gymorth i helpu cymunedau i wrthsefyll llifogydd yn well.
  • Datblygu a chyflwyno cynlluniau lleol ar gyfer cymunedau arfordirol.

Gallwch weld adroddiadau adolygu llawn CNC yma:

Adroddiad Cam 1 Adolygu Llifogydd Arfordirol Cymru

Adroddiad Cam 2 Adolygu Llifogydd Arfordirol Cymru

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyhoeddiad Newydd: Phytophthora ramorum

16 Medi 2015

Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r nodyn ymchwil hwn yn rhoi crynodeb o hyd a lled yr haint Phytophthora ramorum (P. ramorum) yng Nghymru a’r camau sy’n cael eu cymryd i fonitro a rheoli lledaeniad y clefyd.

Phytophthora ramorum (PDF, 501.2KB)

Dyma ddelwedd o glawr y cyhoeddiad: Phytophthora ramorum – Nodyn Ymchwil

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bil yr Amgylchedd (Cymru) – gosodwyd heddiw

11 Mai 2015

Erthygl gan Katy Orford a Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru

Llun o bili-pala glas cyffredin

Llun o Flickr gan Matt Clark. Trwydded Creative Commons.

Mae Bil yr Amgylchedd (Cymru) (PDF, 344KB) a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig wedi’u gosod heddiw a chânt eu cyflwyno yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth gan Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol.

Mae cynnwys y Bil yn eang ac yn cwmpasu o leiaf wyth maes gwahanol, gan gynnwys rheoli adnoddau naturiol, targedau newid yn yr hinsawdd, rheoli gwastraff a chodi tâl ar fagiau plastig, rheoli pysgodfeydd pysgod cregyn, trwyddedu morol, draenio tir a sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi mai ei nod ar gyfer y Bil yw rhoi deddfwriaeth ar waith a fydd yn golygu y gellir rheoli adnoddau Cymru mewn ffordd sy’n fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig a sefydlu’r fframwaith deddfwriaethol sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Mae’r Bil y trydydd mewn cyfres o ddarnau arwyddocaol o ddeddfwriaeth newydd yng Nghymru a fydd yn cael effaith ar reoli’r amgylchedd yng Nghymru. Y darnau eraill o ddeddfwriaeth yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a’r Bil Cynllunio (Cymru).

Dyma ddelwedd o Amserlen Bil yr Amgylchedd (CymruPrif ddarpariaethau Bil yr Amgylchedd (Cymru) yw:

  1. Hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol

Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fabwysiadu Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno datganiadau ardal sy’n nodi’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol ar lefel ardal. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol a fydd yn nodi tystiolaeth ar gynnydd Cymru tuag at ei nodau o ran rheoli adnoddau naturiol a’r amgylchedd.

Bydd yn diwygio diben statudol Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn rhoi pwerau gwell iddo gyflawni cytundebau rheoli tir a chynlluniau arbrofol.

Bydd hefyd yn cryfhau’r dyletswyddau cyfredol sydd ar awdurdodau cyhoeddus i ystyried bioamrywiaeth.

  1. Sefydlu targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

Bydd y Bil yn cyflwyno targedau statudol i leihau allyriadau a chyllidebu carbon mewn ymgais i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.

  1. Diwygio’r gyfraith sy’n ymwneud â chodi tâl am fagiau plastig

Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn cynnig rhoi pwerau ehangach i Weinidogion Cymru godi tâl am fagiau plastig, nid dim ond bagiau untro, a byddai’n golygu y gallai Gweinidogion Cymru ond ei gwneud yn ddyletswydd ar werthwyr i roi unrhyw enillion net o’r taliadau i achosion da. Ar hyn o bryd, gall Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod enillion net yn cael eu cyfeirio at achosion amgylcheddol.

  1. Darparu ar gyfer casglu gwastraff ar wahân, atal gwastraff bwyd rhag cael ei waredu i garthffosydd a darparu ar gyfer atal neu reoleiddio gwastraff a waredir drwy ei losgi

Byddai Gweinidogion Cymru yn cael pwerau ehangach i’w gwneud yn ofynnol bod mathau gwahanol o wastraff yn cael eu casglu ar wahân. Byddai’r Bil yn gwahardd eiddo annomestig rhag gwaredu gwastraff bwyd i garthffosydd ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru atal y broses o losgi rhai mathau o wastraff y gellir ei ailgylchu.

  1. Gwneud darpariaeth ynghylch pysgodfeydd unigol a rheoleiddiedig ar gyfer pysgod cregyn

Bydd y Bil yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 er mwyn rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru sicrhau bod Gorchmynion Unigol a Rheoleiddiedig ar gyfer pysgod cregyn yn ystyried yr angen i warchod amgylchedd y môr.

  1. Gwneud darpariaeth ynghylch ffioedd ar gyfer trwyddedau morol

Byddai Gweinidogion Cymru neu gorff sy’n gweithredu ar eu rhan, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gallu cyflwyno taliadau newydd ar gyfer rhai gwasanaethau sy’n gysylltiedig â chyflwyno trwyddedau morol. Byddai’r rhain yn cynnwys taliadau am gyngor cyn gwneud cais a roddir i ddatblygwyr sydd am wneud gweithgareddau morol.

  1. Sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi mai diben y cynnig hwn yw dileu a newid rhai o swyddogaethau statudol y pwyllgor cyfredol, Rheoli Perygl Llifogydd Cymru, er mwyn sefydlu pwyllgor sydd â rôl cynghori/ymgynghori ehangach.

  1. Gwneud mân newidiadau i’r gyfraith ynghylch draenio tir ac is-ddeddfau a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Nod y Bil yw diwygio pob adran berthnasol yn Neddf Draenio Tir 1991 er mwyn caniatáu ar gyfer dosbarthiad ehangach sydd wedi’i dargedu’n well ar gyfer hysbysiadau a gweithdrefnau gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar faterion draenio mewnol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer dull apelio fel y gall awdurdodau lleol herio ardollau arbennig a gyflwynir gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â’i swyddogaethau draenio mewnol ac yn ymestyn pwerau Gweinidogion Cymru i fynd ar dir i sicrhau bod perchennog tir wedi cydymffurfio â Gorchymyn i wella problemau gyda draenio ar y tir.

Papur Gwyn 2013

Roedd Papur Gwyn a gyhoeddwyd ar 23 Hydref 2013 yn gofyn am sylwadau ar nifer o gynigion ac mae hyn yn sail i’r Bil newydd. Fodd bynnag, mae nifer o newidiadau arwyddocaol wedi’u gwneud hefyd, gan gynnwys ychwanegu targedau statudol mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd a’r ddyletswydd o ran cryfhau’r fioamrywiaeth a roddir ar awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod cynnwys y targedau newid yn yr hinsawdd yn adlewyrchu’r sylwadau a fynegwyd yn adroddiad terfynol Y Gymru a Garem ym mis Mawrth 2015 a ganfu yr ystyriwyd mai newid yn yr hinsawdd oedd y mater mwyaf critigol a oedd yn wynebu cenedlaethau’r dyfodol yn ôl pobl Cymru.

Caiff y Bil ei ystyried nawr gan Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad a fydd yn lansio ymgynghoriad ar y Bil ar 15 Mai.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg