Blog gwadd gan Cymwysterau Cymru: Newidiadau i gymwysterau TGAU

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn y blog gwadd hwn, mae Jo Richards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio Cymwysterau Cymru, yn egluro’r newidiadau a wnaed i arholiadau TGAU eleni, a’r goblygiadau posibl o ran y canlyniadau a gaiff eu cyhoeddi ym mis Awst.

Parhau i Ddarllen

Blaenoriaeth addysgol sy’n dod i’r amlwg – ymestyn cyflawnwyr uchel potensial Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ddoe, postiwyd erthygl am ganlyniadau Cymru yn PISA a thargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer cylchoedd yn y dyfodol. Roedd yn cyfeirio at ddatganiadau diweddar gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch targedau ar gyfer PISA, a oedd yn rhoi sylw i’r her benodol o wella safonau cyflawnwyr uchaf Cymru.

Parhau i Ddarllen

Sut mae Cymru yn perfformio yn PISA a beth yw targed Llywodraeth Cymru?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae datganiadau diweddar gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi troi sylw eto at ddull Llywodraeth Cymru o ran y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) a’i dyheadau ar gyfer perfformiad Cymru mewn cylchoedd yn y dyfodol. Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres dwy ran sy’n edrych ar ganlyniadau PISA Cymru a thargedau Llywodraeth Cymru er mwyn gwella. Fory, byddwn yn canolbwyntio ar y canlyniadau i ddysgwyr mwy galluog a thalentog, sy’n dod i’r amlwg fel her benodol ac sy’n arbennig o bwysig i wella statws rhyngwladol Cymru.

Parhau i Ddarllen

Diwrnod canlyniadau TGAU

25 Awst 2016

Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ffotograff o ganlyniadau arholiadau

Llun: o Flickr. Dan drwydded Creative Commons.

Heddiw mae myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau TGAU. Yn yr un modd â chanlyniadau Safon Uwch yr wythnos diwethaf, mae’r Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy’n cynnwys saith darparwr cymwysterau mwyaf y DU) yn cyhoeddi crynodebau o’r canlyniadau [PDF 668KB]. Mae data’r Cyd-gyngor Cymwysterau yn dangos canlyniadau cyfunol y rhai a gofrestrodd gyda’r cyrff dyfarnu sy’n aelodau.

Mae’r canlyniadau hyn ar gyfer y dysgwyr hynny a safodd arholiadau ym mis Mehefin 2016. Mae newidiadau polisi yn Lloegr wedi golygu bod llai o ddysgwyr yn sefyll arholiadau cyn yr Haf. Er i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau blaenorol, Huw Lewis, fynegi pryder am y cynnydd y niferoedd y disgyblion a oedd yn sefyll eu harholiadau’n gynnar, ni fu newid yn y polisi hwn yng Nghymru.

Canlyniadau

Mae’r data yn y tablau isod yn cymharu’r canlyniadau ar gyfer 2015 a 2016. Mae’r gymhariaeth hon yn seiliedig ar y data a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ar ddiwrnod canlyniadau 2015. Mae’r data yn rhai dros dro ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi’r canlyniadau. Caiff y data eu gwirio cyn i’r data terfynol gael eu cyhoeddi ar lefel Cymru, ac ar lefel awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae’r canlyniadau a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau yn ymwneud â nifer y ‘cofrestriadau’ ac nid yr ‘ymgeiswyr’. Felly, er enghraifft, gall y data ddangos bod perfformiad wedi gwella neu waethygu ar lefel TGAU neu o fewn graddau. Ni allant ddangos a oes mwy o fechgyn neu ferched wedi cael pum gradd A-C* neu fwy yn eu harholiadau TGAU. Mae’r data’n ymwneud â chanlyniadau y meysydd pwnc unigol ar gyfer pawb beth bynnag eu hoedran.

Cymharu 2015 a 2016

  • Yng Nghymru, mae nifer y bechgyn sy’n cael graddau A*-C wedi gostwng 0.5 pwynt canran tra bod canran y merched sy’n cael graddau A*-C wedi cynyddu 0.3 phwynt canran. Arhosodd canran yr holl ddysgwyr sy’n cael graddau A*-C yr un fath â 2015 ac mae bellach yr un fath â Lloegr .
  • Gwelwyd cynnydd o 0.2 y cant yn y gyfradd lwyddo gyffredinol (A*-G) ymhlith merched. Gwelwyd gostyngiad o 0.1 y cant yn y gyfradd lwyddo gyffredinol ymhlith bechgyn. Mae’r gyfradd yr un fath â’r llynedd ar gyfer yr holl ddysgwyr;
  • Gwelwyd cynnydd o 0.3 phwynt canran yn nifer y bechgyn a gyflawnodd raddau A*, a gostyngiad bach o 0.1 pwynt canran ymhlith y merched. Gwelwyd cynnydd o 0.1 pwynt canran yn y radd hon ar gyfer yr holl ddysgwyr;
  • Eleni gwelwyd cynnydd o 0.1 pwynt canran ymysg y bechgyn a gyflawnodd raddau A*-A, cynnydd o 0.4 pwynt canran ymysg y merched a chynnydd o 0.2 y cant ar gyfer yr holl ddysgwyr;
  • Yn Lloegr, gwelwyd gostyngiadau ar gyfer yr holl raddau. Ar gyfer graddau A*, gwelwyd gostyngiadau o 0.2 pwynt canran ar gyfer bechgyn, 0.1 pwynt canran ar gyfer merched a 0.2 pwynt canran ar gyfer yr holl ddysgwyr;
  • Ar gyfer graddau A*-C, gwelwyd gostyngiadau o 2.4 pwynt canran ar gyfer bechgyn, 2 bwynt canran ar gyfer merched a 2.2 pwynt canran ar gyfer yr holl ddysgwyr.

Bechgyn a merched

  • Mae merched yn parhau i gael canlyniadau gwell na bechgyn ar bob lefel yng Nghymru a Lloegr;
  • Yng Nghymru, mae’r bwlch wedi lleihau ar gyfer y radd A* ond wedi ehangu ar gyfer pob gradd arall. Yn Lloegr, mae’r Bwlch wedi cynyddu ar gyfer pob gradd.

Cymru a Lloegr

Mae tablau 1 a 2 yn dangos y ganran a gofrestrodd ym mhob pwnc fesul gradd ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2015 a 2016.

Dylid trin cymariaethau rhwng canlyniadau yng Nghymru a Lloegr yn ofalus iawn gan fod gwyriad cynyddol mewn polisi yn gwneud cymariaethau o’r fath yn anodd. (Gweler nodyn cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.)  Yn ogystal â’r newid mewn polisi yn Lloegr yn annog ysgolion i beidio â chofrestru plant yn gynnar pan nad ydynt yn gwbl barod, bu newidiadau eraill mewn patrymau cofrestru yn Lloegr gan gynnwys ei gwneud yn orfodol i fyfyrwyr ailsefyll TGAU Mathemateg a Saesneg pan fyddant wedi cael gradd llai nag C. Dylid nodi hefyd bod canlyniadau’r JCQ ond yn cynnwys cyfres yr haf. Nid ydynt yn cynnwys rhai sydd wedi cofrestru’n gynnar yn y gaeaf neu rai sy’n ailsefyll a gallant wyrdroi’r cymariaethau, yn enwedig mewn sefyllfa lle mae disgyblion mwy abl yn cael eu cofrestru’n gynnar.

O ran graddau A* ac A*-A, roedd perfformiad dysgwyr yn Lloegr yn well na pherfformiad dysgwyr yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r bwlch mewn perfformiad wedi lleihau ers 2015. Ar gyfer graddau A*-C, cafodd bechgyn yn Lloegr ganlyniadau gwell na’r rhai yng Nghymru (0.2 pwynt canran yn well) ond cafodd y merched a’r holl ddysgwyr yr un canlyniadau (71 y cant a 66.6 y cant) yng Nghymru a Lloegr.  Ar gyfer graddau A*-G, roedd perfformiad y bechgyn, y merched a’r holl ddysgwyr ychydig yn well yng Nghymru o gymharu â Lloegr (0.4 pwynt canran, 0.2 pwynt canran a 0.3 pwynt canran yn y drefn honno).

GCSE-cy

Bagloriaeth Cymru

Cafodd canlyniadau Diploma Canolradd a Diploma Sylfaen Bagloriaeth Cymru eu cyhoeddi heddiw hefyd. Ar y Lefel Sylfaen, dyfarnwyd y Dystysgrif Graidd i 92.5 y cant o’r ymgeiswyr, o’i gymharu ag 86.7 y cant yn 2015.  Dyfarnwyd y Diploma i 90.3 y cant o’r ymgeiswyr o’i gymharu ag 85 y cant y llynedd.

Ar y Lefel Ganolradd, dyfarnwyd y Dystysgrif Graidd i 93.8 y cant o’r ymgeiswyr o’i gymharu ag 89.4 y cant yn 2015, a dyfarnwyd y Diploma i 82.6 y cant o’r ymgeiswyr o’i gymharu ag 82.2 y cant yn 2015.

Canlyniadau Refferendwm yr UE yng Nghymru

24 Mehefin 2016

Erthygl gan Gregg Jones, Helen Jones and David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn dilyn y bleidlais i adael yn refferendwm yr UE a gynhaliwyd ar 23 Mehefin, rydym wedi paratoi’r Papur Ymchwil (PDF, 1780KB) hwn i drafod goblygiadau hyn ar gyfer Cymru ac ar gyfer gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dyma’r cyntaf yn yr hyn rydym yn disgwyl y bydd yn gyfres reolaidd o ddiweddariadau wrth i’r broses o dynnu allan ddatblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

Mae’r ffeithlun isod yn rhoi dadansoddiad manwl o’r bleidlais ledled y DU, gan gynnwys canlyniadau Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Rydym hefyd wedi cynnwys ffeithlun yn dangos dadansoddiad o’r bleidlais fesul awdurdod lleol yng Nghymru.

Pleidleisiodd y DU yn ei chyfanrwydd gan 51.9% i adael yr UE. Yng Nghymru, roedd y bleidlais i adael yn 52.5%.

Lloegr oedd y rhan o’r DU â’r bleidlais adael uchaf (53.4%), tra mai’r Alban  oedd â’r bleidlais adael isaf (38.0%). Yng Nghymru, Blaenau Gwent oedd â’r bleidlais adael uchaf (62.0%) tra mai Caerdydd oedd â’r bleidlais adael isaf (40.0%).

Roedd y ganran a bleidleisiodd yng Nghymru yn 71.7%, o’i gymharu â 72.2 ledled y DU. Yng Nghymru, Sir Fynwy oedd â’r ganran uchaf a bleidleisiodd (77.7%) a Merthyr Tudful oedd â’r ganran isaf a bleidleisiodd (67.4%).

Ffeithlun sy’n dangos canlyniadau refferendwm yr UE fesul awdurdod lleol