A yw Deddf Trais yn erbyn Menywod (Cymru) 2015 yn gweithio?

10 Chwefror 2017

Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

A yw'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod (Cymru) yn gweithio?

Ar 15 Chwefror, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Nod y Ddeddf yw:

  • gwella ymateb y sector cyhoeddus i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • rhoi i awdurdodau cyhoeddus (fel cynghorau a byrddau iechyd) ffocws strategol ar y mater, a
  • sicrhau bod gwasanaethau ataliol, amddiffynnol a chefnogol yn cael eu darparu mewn ffordd gyson.

Amlygir prif ddarpariaethau’r ddeddfwriaeth isod, ochr yn ochr â chanfyddiadau’r Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru.

Pa mor gyflym yw’r broses o roi’r Ddeddf ar waith

Roedd y Pwyllgor yn pryderu bod y broses o roi’r Ddeddf ar waith yn araf, mewn rhai meysydd. Mae mwy na 18 mis ers i’r Ddeddf gael ei phasio, ac mae rhai rhannau allweddol o’r Ddeddf heb gael eu cyflawni eto.

Roedd y Pwyllgor yn arbennig o bryderus bod gwasanaethau’n cael eu comisiynu heb ganllawiau statudol gan Lywodraeth Cymru, ac y gallai hyn arwain at anghysondebau a fyddai’n groes i amcanion craidd y Ddeddf. Tynnodd sylw hefyd at bryderon nad oedd adnoddau digonol a chynaliadwy ar gael i gyd-fynd â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau o ganlyniad i’r Ddeddf.

Dyma rai o argymhellion y Pwyllgor:

  • Dylai Llywodraeth Cymru nodi dyddiadau cyflawni arfaethedig ar gyfer y cynllun cyflawni, canllawiau a rheoliadau, gan roi blaenoriaeth i ganllawiau comisiynu; a
  • Dylai Llywodraeth Cymru gael trafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU am y trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer cynghorwyr trais domestig annibynnol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru yn ei hymateb:

  • “Ystyrir Canllawiau Cydweithredu Amlasiantaeth yng ngoleuni[‘r] Papur Gwyn Llywodraeth Leol”;
  • “Caiff y cynllun ar gyfer cyflwyno Gofyn a Gweithredu ei ddatblygu o fis Gorffennaf 2017″;
  • y bwriad yw “ymgynghori ar ganllawiau comisiynu statudol, fel y bo’n briodol, erbyn Gorffennaf 2017”;
  • “Caiff canllawiau eu cyhoeddi mewn perthynas â strategaethau lleol ym mis Gorffennaf 2017″; ac
  • “ni fydd y dangosyddion cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi cyn mis Hydref 2017”.

Mae hefyd yn nodi bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda llywodraeth y DU, ac y bydd yn “cyflwyno dull cyllido rhanbarthol ledled y wlad ar gyfer y Grant Gwasanaethau Cam-drin Domestig o 1 Ebrill, 2018. [..] Bydd 2017-2018 yn flwyddyn bontio a [bydd yn] symud at fodel cyllido a chomisiynu rhanbarthol [yn y dyfodol].”

Strategaethau cenedlaethol a lleol

Mae Adrannau 3-4 y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru baratoi a chyhoeddi Strategaeth Genedlaethol i gyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf, a hynny heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl yr etholiad yng Nghymru (h.y. erbyn 6 Tachwedd 2016). Mae adrannau 5-8 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol baratoi a chyhoeddi strategaethau lleol erbyn mis Mai 2018.

Roedd y Pwyllgor yn “siomedig” bod y Ddeddf wedi cael ei phasio fwy na 18 mis cyn yr oedd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Strategaeth Genedlaethol, ond nad oedd wedi dechrau ymgynghori ar strategaeth ddrafft tan fis Awst, gan adael mis yn unig cyn y dyddiad cau i wneud diwygiadau a gwelliannau. Dywedodd nifer o dystion wrth y Pwyllgor nad oeddynt yn fodlon ar y drafft, ac yn arbennig nad oedd ystyriaeth wedi ei rhoi i farn pobl a oedd wedi cael eu cam-drin.

O ganlyniad, penderfynodd Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi strategaeth lefel uchel ym mis Tachwedd 2016,  a ‘chynllun cyflawni’ yn ddiweddarach a fyddai’n rhoi manylion ynglŷn â sut y bydd y strategaeth yn cael ei chyflawni. Roedd y Pwyllgor yn pryderu na fyddai modd gorfodi’r cynllun cyflawni o dan y gyfraith (yn wahanol i’r Strategaeth Genedlaethol), ac na ddarparwyd amserlenni ar gyfer ei gyhoeddi.

Yn ogystal, clywodd y Pwyllgor fod strategaethau lleol yn dechrau cael eu datblygu cyn cyhoeddi’r cynllun cyflawni, a allai arwain at anghysondebau o ran dulliau gweithredu strategol.

Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru:

  • egluro statws cyfreithiol y cynllun cyflawni arfaethedig, a’i gyhoeddi fel canllawiau statudol yn ddelfrydol, er mwyn sicrhau y gellir ei orfodi;
  • amlinellu pryd y bydd y cynllun cyflawni yn cael ei gyhoeddi, a sut y bwriedir ymgynghori yn ei gylch, a
  • sicrhau bod y deg argymhelliad ynglŷn â goroeswyr sydd yn yr adroddiad Are you listening, am I being heard? yn cael eu hystyried yn llawn wrth ddatblygu’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â goroeswyr.

Nodir yn ymateb Llywodraeth Cymru y caiff “statws cyfreithiol y Fframwaith Cyflawni ei ystyried gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a sefydlwyd gan y Grŵp Cynghori i ddatblygu’r cynllun, gyda mewnbwn gan y Grŵp Swyddogion Traws-lywodraethol. Bydd y Grŵp Cynghori’n craffu ar y fframwaith cyn ei gyhoeddi” ac “Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fydd yn penderfynu ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r Fframwaith”.

Addysg

Mae adran 9 o’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyflwyno adroddiad ar sut y maent yn mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu sefydliadau addysgol. Mae adran 10 yn rhoi i Weinidogion Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) y pŵer i gyhoeddi canllawiau i sefydliadau addysg bellach ac uwch.

Roedd addysg yn fater dadleuol yn ystod hynt y Ddeddf. Cynigiwyd, yn y Papur Gwyn cyntaf ar y ddeddfwriaeth yn 2012, y byddai’r Bil yn sicrhau ei bod yn orfodol i bob ysgol ddarparu addysg ar berthynas iach ag eraill.

Ni chafodd y cynnig hwn ei gynnwys yn y Bil drafft. Yn ôl y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am y Bil, roedd addysg ar berthnasoedd iach yn cael ei hystyried fel rhan o’r adolygiad o’r cwricwlwm dan arweiniad yr Athro Graham Donaldson, yn lle hynny. Byddai hwn yn cynnwys adolygiad o’r cwricwlwm sylfaenol gan gynnwys Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh).

Cyflwynwyd y ddyletswydd yn adran 9 fel gwelliant y Llywodraeth yn ystod hynt y Ddeddf.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wrth y Pwyllgor y byddai’r rheoliadau o dan adran 9 yn cael eu datblygu’n gynnar yn 2017. Nid yw’n eglur pryd y bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ddechrau cyflwyno adroddiadau.

Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru:

  • ymrwymo i gynnwys addysg am berthnasoedd iach yn y cwricwlwm newydd o dan y Maes Dysgu a Phrofiad ‘Iechyd a Lles’;
  • prysuro i baratoi rheoliadau sy’n ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol ynglŷn â sut y maent yn arfer eu swyddogaethau i hyrwyddo diben y Ddeddf. Dylai hefyd ymrwymo i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddechrau cyflwyno adroddiadau erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2017/18;
  • amlinellu sut y bydd addysg ar berthnasoedd iach a chydsynio yn cael sylw gan sefydliadau addysg bellach ac uwch.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r argymhellion hyn drwy ddweud ei bod yn bosibl “y bydd cyfleoedd i gael gwybodaeth a data ar yr hyn y mae lleoliadau addysg o fewn awdurdodau lleol yn ei gyflawni ar hyn o bryd o ran darpariaeth addysg sy’n deillio o’r Ddeddf, gan sefydliadau allanol sydd wrthi’n gwella’r broses o gyflwyno Addysg Perthnasoedd Iach mewn ysgolion”. Mae’n mynd ymlaen i nodi:

Bydd y gwaith o ddatblygu’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn cynnwys ystyried dulliau o gyflwyno Addysg Perthnasoedd Iach ac felly mae posibilrwydd y gellir ystyried hyn yn rhan o’r gwaith cyffredinol sy’n cael ei gyflawni.

Nododd Llywodraeth Cymru, o ran yr argymhelliad ynglŷn â chyrff addysg bellach ac uwch, “caiff hyn ei ystyried gyda chydweithwyr Addysg Uwch gan gyfeirio at brosiectau sydd eisoes ar waith o fewn Addysg Bellach ac Uwch.”

Cynghorydd Cenedlaethol

Mae adran 20 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benodi Cynghorydd Cenedlaethol i roi cyngor, monitro gweithrediad y Ddeddf a chynnal gwaith ymchwil.

Canfu’r Pwyllgor mai swydd ran-amser yw un y Cynghorydd Cenedlaethol, sy’n golygu bod ei dylanwad a’r baich gwaith y gall ymdopi ag ef yn gyfyngedig. Nododd hefyd nad oedd cynllun gwaith y Cynghorydd wedi’i baratoi mewn modd a oedd yn cyd-fynd â’r Strategaeth Genedlaethol, gan arwain unwaith eto at y posibilrwydd o anghysondebau.

Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru:

  • Adolygu capasiti swydd y Cynghorydd Cenedlaethol, gan ystyried dyrannu adnoddau ychwanegol iddi i gefnogi’r gwaith o ddatblygu strategaethau lleol a chynnal gwaith ymchwil;
  • Egluro pa gosbau sydd ar gael i Weinidogion Cymru os nad yw awdurdod cyhoeddus yn cyflawni gofynion y Ddeddf, a
  • Chyfeirio at y Cynghorydd Cenedlaethol, ei chyfrifoldebau a’i chynllun gwaith yn y cynllun cyflawni sydd i ddod ac unrhyw strategaethau yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod ac ystyried yr argymhellion hyn â’r Cynghorydd Cenedlaethol ac “wedi cytuno i’w adolygu’n barhaus”. O ran pwerau, mae’r ymateb yn nodi bod gan Weinidogion Cymru y grym i “gyfarwyddo” awdurdod i gymryd camau priodol, ond nid yw’n manylu pa bwerau i gosbi sydd ar gael.

Trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig–beth sy’n cael ei wneud yng Nghymru?

11 Chwefror 2014

Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mis Mehefin 2014, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn sail i strategaeth ‘Yr Hawl i fod yn Ddiogel’, a gyhoeddwyd yn 2010.

Diffiniadau
Trais yn erbyn menywod: Mae Datganiad y Cenhedloedd Unedig (1993) ar Ddiddymu Trais yn erbyn Menywod yn datgan bod trais yn erbyn menywod yn golygu unrhyw weithred o drais seiliedig ar ryw sy’n arwain at, neu sy’n debygol o arwain at, niwed neu ddioddefaint corfforol, rhywiol neu seicolegol i fenywod.
Gall y term hwn gynnwys:
 cam-drin domestig
 treisio a thrais rhywiol, cam-drin a chamfanteisio;
 stelcio ac aflonyddu;
 masnachu mewn pobl;
 enwaedu benywod;
 priodasau dan orfod
 trais ar sail anrhydedd.

Cam-drin a thrais domestig: Nid oes diffiniad statudol o gam-drin a thrais domestig. Mae’r term yn cwmpasu ystod o ymddygiadau, ac nid yw pob un ohonynt yn drosedd. Yn hanesyddol, bu nifer o ddiffiniadau ‘swyddogol’ gwahanol.
Ers 2013, diffiniad traws-lywodraethol Llywodraeth y DU o ‘drais a cham-drin domestig’, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru yn y Papur Gwyn, yw “unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad, trais neu gam-drin sy’n rheoli, gorfodi, neu’n bygwth rhwng y rhai sy’n 16 mlwydd oed neu drosodd sy’n bartneriaid agos neu’n aelodau o’r teulu neu sydd wedi bod yn bartneriaid agos neu’n aelodau teulu waeth beth fo’u rhyw neu rywioldeb.
Gall y cam-drin ymgorffori’r mathau canlynol ond nid yw’n gyfyngedig iddynt: seicolegol; corfforol; rhywiol; ariannol; emosiynol.”

Nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod

  • Bob blwyddyn, mae hyd at 3 miliwn o fenywod  ar draws y DU yn profi trais rhywiol, trais domestig, priodas dan orfod, stelcio, camfanteisio a masnachu rhywiol, enwaedu benywod neu’r hyn a elwir yn ‘drais ar sail anrhydedd’.
  • Amcangyfrifwyd fod 7 y cant o fenywod a 5 y cant o ddynion wedi profi cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy’n cyfateb i tua 1.2 miliwn o ddioddefwyr benywaidd a 800,000 o ddioddefwyr gwrywaidd.
  • Mae 404,000 o fenywod yn dioddef troseddau rhywiol yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn (2.5% o fenywod).
  • Mae 85,000 o fenywod yn dioddef trais rhywiol yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn, sef tua 2,000 yr wythnos.
  • Mae tua un o bob 20 o fenywod (rhwng 16 a 59 oed) yn dweud eu bod wedi dioddef trosedd rhywiol difrifol ers iddynt fod yn 16 oed.

Strategaeth ‘Yr Hawl i fod yn Ddiogel’

Er nad yw’r elfennau cyfiawnder troseddol sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig wedi’u datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am les cymdeithasol, llywodraeth leol, iechyd, tai, addysg a materion plant, yn ogystal â chydlynu gwaith aml-asiantaeth.

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru, sef ‘Yr Hawl i fod yn Ddiogel’, yn strategaeth chwe blynedd ar gyfer pob math o drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Cafodd ei chyflwyno yn 2010. Mae’r strategaeth yn ehangu’n sylweddol cwmpas y strategaeth cam-drin domestig a gyflwynwyd yn 2005, ac yn mynd i’r afael â phedwar maes allweddol:

  • atal trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig a chodi ymwybyddiaeth o’r materion hyn;
  • darparu cymorth i ddioddefwyr a phlant;
  •  gwella ymateb asiantaethau cyfiawnder troseddol;
  • gwella ymateb gwasanaethau iechyd ac asiantaethau eraill.

Deddfwriaeth

dawAr 26 Tachwedd, 2012, cyhoeddwyd ymgynghoriad Papur Gwyn ar ddeddfwriaeth ar gyfer rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a oedd yn amlinellu’r polisi a’r cynigion deddfwriaethol.

Mae’r cynigion yn canolbwyntio ar dri maes penodol:

  • arweinyddiaeth gryfach ar draws gwasanaethau’r sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n annibynnol, a all fonitro a herio, a darparu trosolwg strategol;
  • gwell addysg ac ymwybyddiaeth o’r ‘crud i’r bedd’, sy’n cynnwys y cyhoedd, staff rheng flaen a gweithwyr proffesiynol; ac
  • atgyfnerthu ac integreiddio gwasanaethau sy’n gyson, yn effeithiol ac o safon.

Yn benodol, mae’r Papur Gwyn yn cynnig:

– penodi ‘Cynghorydd Gweinidogol Arbenigol ar gyfer Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod’ a fydd yn meddu ar:

  • y pŵer i fynnu gwybodaeth a chynnal ymchwiliadau yn erbyn safonau ansawdd cytûn;
  • y gallu i gyfrannu at benderfyniadau a wneir ar ddefnyddio neu ddyrannu cyllid/adnoddau drwy ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru (h.y. darparu gwybodaeth am berfformiad i lywio penderfyniadau ariannu yn y dyfodol).

ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cyhoeddus gydweithio ar lefel leol a rhanbarthol i ddatblygu a gweithredu strategaethau i leihau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn seiliedig ar ddadansoddiad o’r asesiad o anghenion;

– comisiynu adolygiad annibynnol o wasanaethau i ddioddefwyr;

– sicrhau bod addysg ar ‘gydberthnasau iach’ yn cael ei chyflwyno ym mhob ysgol, a gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i nodi hyrwyddwr rhanbarthol i hyrwyddo’r mater hwn mewn lleoliadau addysgol;

– cyflwyno fframwaith hyfforddi cenedlaethol y bydd darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ac arbenigol allweddol yn rhoi ystyriaeth ddyledus iddo;

– gosod dyletswyddau gwahanol ar gyrff datganoledig yn y sector cyhoeddus:

  • gyfrannu at fforymau amlasiantaethol a gynullir i rannu gwybodaeth a hyrwyddo diogelwch unigolion sydd mewn perygl o ddioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol;
  • holi a gweithredu mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn enwedig mewn perthynas â thai;
  • darparu llety diogel;
  • cael polisïau o ran cam-drin domestig yn y gweithle ar gyfer eu gweithwyr.

 Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 22 Chwefror, 2013, a chyhoeddwyd crynodeb o’r 147 o ymatebion a gafwyd ym mis Medi 2013. Disgwylir i’r Bil gael ei gyflwyno ym mis Gorffennaf 2014.