Cyhoeddiad Newydd: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Canllaw rhagarweiniol

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 13 Gorffennaf 2017 cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Mae’r Bil yn nodi’r gweithdrefnau a’r prosesau ar gyfer trosglwyddo corff cyfredol cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn gyfraith y Deyrnas Unedig wrth i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r papur hwn yn rhoi canllaw rhagarweiniol i ddarpariaethau allweddol y Bil, pam mae angen y Bil, y llinell amser ddisgwyliedig ar gyfer y Bil a sut bydd y Bil yn effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a phwerau Gweinidogion Cymru.

Parhau i Ddarllen

Beth mae Bil yr UE (Ymadael) yn ei olygu i Gymru a datganoli?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 13 Gorffennaf 2017 cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil yr UE (Ymadael) i Senedd y DU. Nod y Bil – y cyfeiriwyd ato gynt fel Bil y Diddymu Mawr neu Fil y Diddymu – yw gwneud y newidiadau y mae Llywodraeth y DU yn eu hystyried yn angenrheidiol i gyfraith yn y DU wrth baratoi ar gyfer y DU yn gadael yr UE.

Cafodd y Papur Gwyn a arweiniodd at y Bil, Legislating for the United Kingdom’s Withdrawal from the European Union, ei gyhoeddi ar 30 Mawrth 2017. Darllenwch fwy yn ein blog.

Parhau i Ddarllen