Arweinyddiaeth mewn Addysg

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Y prynhawn yma (16 Mai 2017), bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn gwneud datganiad yn y Senedd ynghylch arweinyddiaeth mewn addysg.

Mae adroddiadau Estyn un ar ôl y llall wedi nodi pwysigrwydd arweinyddiaeth gref ac effeithiol i wella safonau addysg. Yn ei adroddiad blynyddol diweddaraf (2015/2016), nododd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru mai arweinyddiaeth yw’r ‘ffactor pwysicaf’ yng ngwelliant ysgolion. Yn flaenorol, mae Estyn hefyd wedi adrodd:

Parhau i Ddarllen

Mae Addysg Gychwynnol i Athrawon yn newid: Bydd y Cynulliad yn pleidleisio dros roi’r cyfrifoldeb ar gyfer achredu athrawon i Gyngor y Gweithlu Addysg.

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn ddiweddar, pleidleisiodd Aelodau’r Cynulliad o blaid cynyddu nifer y proffesiynau yr oedd yn rhaid iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a phennu’r ffioedd ar gyfer y cofrestriad hwnnw. Ar ôl cymeradwyo’r rheoliadau hynny, bydd yr Aelodau yn awr yn pleidleisio ar  Orchymyn  Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol)  (Cymru) 2017 (y Gorchymyn) ar 14 Chwefror 2017 .

Parhau i Ddarllen

Beth fydd y ffioedd newydd ar gyfer cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu pleidleisio ar Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr 2017. Mae’r cofnod blog hwn yn sôn am gefndir Cyngor y Gweithlu Addysg a’r hyn y mae’r rheoliadau’n ei gynnwys.

Parhau i Ddarllen

Addysgu Athrawon Yfory – trobwynt allweddol

22 June 2015

Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun yw hwn o fformiwla fathamategol mewn sialc ar fwrdd du.

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Yfory (23 Mehefin 2015), bydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn cyhoeddi ei ymateb i adroddiad yr Athro John Furlong, ar Addysgu Athrawon Yfory [PDF1.76MB] (Mawrth 2015).

Penodwyd yr Athro Furlong yn dilyn cyhoeddi Adolygiad o Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Nghymru [PDF619KB] (Gorffennaf 2013) gan yr Athro Ralph Tabberer. Roedd Adolygiad Tabberer yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn penodi cynghorydd uwch a fyddai â chyfrifoldeb penodol am Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA), ac a fyddai’n chwarae rhan allweddol wrth ddarparu arweinyddiaeth o ran cyngor ar bolisi ac o ran codi safonau gyda phob darparwr.

Yn ei adroddiad, mae’r Athro Furlong yn nodi pam mae angen newidiadau mewn addysg athrawon yng Nghymru, gan ei ddisgrifio fel ‘trobwynt allweddol’. Mae’n tynnu sylw at bryderon gan yr Athro Tabberer, Estyn [PDF 5.31MB] a’r OECD [PDF 3.75MB] am ansawdd Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon. Ochr yn ochr â’r pryderon, mae gan argymhellion Adolygiad Donaldson [PDF 1.53MB] (os cânt eu derbyn yn llawn) oblygiadau enfawr ar gyfer y gweithlu addysgu. Dywed yr Athro Furlong bod angen hyfforddiant athrawon ar ffurf fwy ‘eang’ er mwyn cyflawni o ran agenda Donaldson.

Mae’r Athro Furlong yn cymharu darpariaeth bresennol Cymru ag ymchwil ryngwladol [PDF 1.97MB] ac mae’n awgrymu bod gwendidau ar y lefel genedlaethol, y lefel sefydliadol ac ar lefel rhaglenni. Dywed bod angen gwneud newidiadau ar y tair lefel.

Mae’n gwneud naw argymhelliad. Y ddau argymhelliad mwyaf arwyddocaol yw darparu Safonau Statws Athro Cymwysedig (Safonau SAC) newydd a gweithdrefnau achredu newydd ar gyfer darparwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon.

Mae’r Safonau SAC yn ddatganiadau canlyniadau, sy’n nodi’r hyn y mae’n rhaid i athrawon dan hyfforddiant ei wybod, ei ddeall, a gallu ei wneud ar ddiwedd eu hyfforddiant cychwynnol athrawon. Mae’r Athro Furlong yn dweud bod y rhain yn ‘gul o ran bod yn seiliedig ar gymhwysedd’ ac nad ydynt yn ‘cysyniadu fel rhan o ddatblygiad proffesiynol gydol oes’.

Mae gan y Safonau rôl hanfodol hefyd wrth lunio darpariaeth Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn achredu holl ddarparwyr addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru. Mae’r meini prawf yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion, ond mewn perthynas â chynnwys y rhaglen addysg, rhaid i ddarparwyr gynllunio eu hyfforddiant i alluogi athrawon dan hyfforddiant ddangos eu bod yn cyrraedd y Safonau.

Mae’r Athro Furlong yn awgrymu pedwar dewis ar gyfer adolygu’r broses achredu, gan gynnwys systemau tebyg i’r rhai sydd ar waith yn yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon ar hyn o bryd . Yn Iwerddon, mae’r Cyngor Addysgu yn amlinellu cynnwys y cyrsiau yn fras, ac mae’n cynnwys safonau gofynnol lleiaf ar gyfer staff sy’n darparu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (er enghraifft, bod yn rhaid iddynt fod yn weithredol o ran eu gwaith ymchwil neu’n dal cymwysterau i lefel benodol). Y dewis a ffefrir ganddo yw achrediad, tebyg i’r achrediad a geir yn Iwerddon, ond gydag ysgolion â rhan flaenllaw mewn rhannau allweddol o raglenni ac yn gweithio mewn cydweithrediad agos â phartneriaid mewn prifysgolion.

Mae’r Athro Furlong yn argymell y dylid sefydlu corff newydd i achredu darparwyr HCA. Mae’n ystyried gwahanol opsiynau (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, y corff sy’n gyfrifol ar hyn o bryd, Llywodraeth Cymru, corff annibynnol newydd, neu Fwrdd Achredu Addysg Athrawon o fewn y Cyngor Gweithlu Addysg), gyda’r olaf yn cael ei ystyried fel y dewis gorau. Mae’n dadlau y dylai hwn gynnwys cynrychiolaeth o’r proffesiwn addysgu ei hun; a fyddai mewn sefyllfa dda i ddarparu arweinyddiaeth ac i gydlynu; ac i gadw hyd braich oddi wrth y Llywodraeth.

Mae’r Athro Furlong hefyd yn argymell y dylid adolygu rôl Estyn yn y dyfodol o ran Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, ar ôl i’r broses achredu ddiwygiedig ddechrau. Ar hyn o bryd mae gan Estyn rôl wrth arolygu darpariaeth Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, ac mae’r Athro Furlong yn dadlau, os yw’r achrediad yn ddigon cadarn, efallai na fydd hyn yn angenrheidiol, a bod y rôl yn tanseilio awdurdod y corff proffesiynol o bosibl, hyd yn oed. Mae hefyd yn argymell y dylid diwygio arweiniad arolygu Estyn ar gyfer ysgolion, er mwyn cynnwys cydnabyddiaeth benodol o gyfraniad ysgol at addysg gychwynnol athrawon.

Yr argymhellion eraill yn yr adroddiad yw:

  • Dylai’r prif gymhwyster BAdd tair blynedd gael ei ddiddymu’n raddol a chael ei ddisodli gan radd pedair blynedd (yn unol â’r rhai sy’n cyflawni Safonau Statws Athro Cymwysedig drwy ennill gradd ac yna Tystysgrif Addysg i Raddedigion am un flwyddyn) a bod 50 y cant o amser myfyriwr i gael ei dreulio ym mhrif adrannau pwnc ysgolion;
  • Bod Llywodraeth Cymru yn monitro effaith cymhellion ariannol Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ar recriwtio, oherwydd mewn rhai achosion, efallai bod cymhellion a gynigir yn Lloegr yn fwy hael nag yng Nghymru;
  • Dylid datblygu a chynnal gallu ymchwil o fewn y system addysg athrawon drwy ymestyn y Rhaglen Addysg WISERD i gynnwys dimensiwn addysgol sy’n gysylltiedig â rhwydwaith o bump o ganolfannau rhagoriaeth addysgol ar draws Cymru (mae Addysg WISERD yn fenter rhwydweithio dan arweiniad Prifysgol Caerdydd gyda staff Addysg WISERD yn gweithio gyda chydweithwyr addysg ledled Cymru);
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddatrys y ddarpariaeth Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yn y dyfodol drwy broses o dendro cystadleuol gyda’r Bwrdd Achredu Addysg Athrawon yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch sut y dylai llawer o brifysgolion ddod yn ddarparwyr achrededig.

Ar adeg cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau bod yr adroddiad yn darparu achos cryf o blaid newid, ac nad oedd dim yn yr argymhellion nad oedd ef yn cytuno ag ef mewn egwyddor. Fodd bynnag, byddai angen ystyried yr opsiynau ar gyfer diwygio yn fanylach, a sut i roi’r opsiynau ar waith.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bil Addysg (Cymru) yn amlygu’r gwahaniaethau rhwng tymhorau ysgol Cymru a Lloegr

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar yr un diwrnod (1 Gorffennaf 2013) y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun i sicrhau bod dyddiadau tymhorau (a gwyliau) ysgolion yr un peth ledled Cymru, drwy gyflwyno’r Bil Addysg (Cymru) i’r Cynulliad, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y Bil Dadreoleiddio Drafft, gyda’r bwriad o wneud bron yn union i’r gwrthwyneb yn Lloegr.

O dan y Bil Addysg (Cymru), caiff awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig eu hannog i gyd-weithio i gysoni dyddiadau tymhorau ysgolion fel y maent yn bresennol. Fodd bynnag, yn hollbwysig, byddai gan Lywodraeth Cymru y pŵer i gamu mewn a phennu dyddiadau tymhorau ar eu rhan, os byddant wedi methu â chytuno arnynt.

Parhau i Ddarllen