Dadl ar Setliad Terfynol yr Heddlu 2017-18

10 Chwefror 2017

Erthygl gan Sarah Hatherley ac Owen Holzinger Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

flikr_jon_candy

Llun: Flikr gan Jon Candy. Dan drwydded Creative Commons

Nid yw polisi plismona wedi’i ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn darparu elfen o’r cyllid blynyddol fel rhan o system tair ffordd sydd hefyd yn cynnwys y Swyddfa Gartref a’r dreth gyngor. Gall heddluoedd wneud cais am grantiau arbennig a phenodol hefyd a ffynonellau eraill o incwm.

O dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 gwnaeth Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Comisiynwyr) ddisodli awdurdodau’r heddlu ym mhob ardal heddlu (y tu allan i Lundain), a chynhaliwyd yr etholiadau cyntaf ym mis Tachwedd 2012. Yn fwy diweddar, cynhaliwyd etholiadau’r Comisiynwyr ochr yn ochr ag Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2016. Mae’r Comisiynwyr yn penodi’r prif gwnstabl, yn pennu blaenoriaethau plismona lleol ac yn gosod y gyllideb a phraesept y dreth gyngor.

Mae dau gam ynghlwm â setliad yr Heddlu, gyda setliad dros dro yn cael ei ryddhau yn unol â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a setliad terfynol yn unol â’r gyllideb derfynol. Ymgynghorir â’r pedwar heddlu yng Nghymru ynghylch setliad dros dro yr heddlu, cyn cytuno ar y setliad terfynol. Yna mae’n rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo’r cyllid hwn. Fel rhan o’r broses hon, trafodir y setliad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 14 Chwefror 2017.

Setliad Terfynol yr Heddlu 2017-18

Ar gyfer 2017-18, y swm cyffredinol a ddyrennir i Gomisiynwyr yng Nghymru yw £349.9 miliwn. Mae hyn yn ostyngiad o 1.4% ers setliad 2016-17 ac yn ostyngiad o 1.4% ar gyfer pob un o’r pedwar Comisiynydd. Amlinellir y cyllid cyffredinol yn nhabl 1 isod:

Tabl 1: Cyllid Refeniw yr Heddlu – Cyfanswm Cymorth Canolog

2014-15 2015-16 2016-17 2017-18
Dyfed-Powys 53.0 50.3 50.0 49.3
Gwent 76.8 72.9 72.5 71.5
Gogledd Cymru 77.1 73.2 72.7 71.7
De Cymru 169.2 160.6 159.6 157.4
Cyfanswm   376.2   356.9   354.9   349.9

O fewn y dyraniad o £349.9 miliwn, £138.7 miliwn yw elfen Llywodraeth Cymru. Gellir torri hyn lawr ymhellach a chynnwys cyllid o’r Grant Cynnal Refeniw (£85.8 miliwn) ac ardrethi annomestig (£53 miliwn). Darperir y £211.2 miliwn sy’n weddill drwy’r Swyddfa Gartref. Amlinellir y ffynonellau o gyllid yr Heddlu isod:

Grant Heddlu y Swyddfa Gartref

Yng Nghymru a Lloegr, prif ffynhonnell incwm ar gyfer heddluoedd yw grant canolog Llywodraeth y DU sydd ar gael drwy Adroddiad Blynyddol Grant Heddlu y Swyddfa Gartref. Cyllid refeniw cyffredinol yw Grant Heddlu y Swyddfa Gartref ac nid yw wedi’i neilltuo. Caiff ei dalu’n uniongyrchol i Gomisiynwyr yr Heddlu. Mae Fformiwla Dyrannu yr Heddlu yn penderfynu ar ddyraniad cronfeydd y llywodraeth ganolog rhwng 43 ardal heddlu Cymru a Lloegr. Mae’n seiliedig ar amcangyfrif o lwyth gwaith pob ardal yr heddlu, gan gynnwys gweithgarwch trosedd, digwyddiadau plismona arbennig, plismona ardaloedd tenau eu poblogaeth a ffactorau economaidd-gymdeithasol. Mae’r Swyddfa Gartref wedi adolygu ei fformiwla ariannu i’r heddluoedd yn ddiweddar, a fydd yn parhau i fod yn fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion. Fel y bu’r achos yn y blynyddoedd diweddar, mae’r Swyddfa Gartref wedi penderfynu unwaith eto i droshaenu ei fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith llawr. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael yr un gostyngiad mewn canran, sef 1.4% eleni.

Mae’r cyllid o’r prif grant yn amodol ar “leddfu”, a fydd yn ailddosbarthu £12.2 miliwn yn 2017-18 o Dde Cymru a £417k o Gwent i Ddyfed Powys (sef £5.1 miliwn ychwanegol) a Gogledd Cymru (sef £7.4 miliwn ychwanegol). Cafodd Comisiynwyr Dyfed-Powys (£3.6 miliwn) a Gogledd Cymru (2.4 miliwn) grant atodol hefyd.

Grant fformiwla Llywodraeth Cymru/Setliad Refeniw yr Heddlu

Yng Nghymru, mae’r cyllid cyfatebol a ddarparwyd yn flaenorol gan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol y DU yn Lloegr wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Mae cyllid Llywodraeth Cymru i’r Comisiynwyr yn dal i fod yn rhan o setliad cyllid llywodraeth leol ac yn cael ei dalu o dan ddarpariaethau Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac mae’n rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Praesept y dreth gyngor

Gall pob heddlu godi refeniw ychwanegol hefyd drwy braeseptau’r dreth gyngor. Y Comisiynydd a etholir ym mhob ardal heddlu sy’n penderfynu ar lefel flynyddol praesept yr heddlu, a gaiff ei ychwanegu at filiau treth gyngor preswyl. Daw cyfran fwy o gyllid yr heddlu o’r dreth gyngor yng Nghymru o gymharu â Lloegr; 37% o gymharu â chyfartaledd o 24% yn Lloegr yn 2015-16. Mae hefyd llawer llai o amrywiad rhwng yr heddluoedd yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Mae Comisiynwyr yn brif awdurdodau praesept. Er eu bod yn gosod y praesept, awdurdodau lleol sy’n casglu’r arian ar eu rhan. Yn 2016-17 roedd elfen yr heddlu o’r dreth gyngor yn cyfrif am tua 16% o gyfanswm bil treth gyngor, ar gyfartaledd, yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i gyfyngu ar gynnydd gormodol yn y dreth gyngor (a ystyrir ar y cyfan yn unrhyw beth dros 5%).

Grantiau penodol ac arbennig

Mae hefyd nifer llai o grantiau arbennig a phenodol sydd wedi’u neilltuo ar gyfer blaenoriaethau plismona cenedlaethol. Mae’r Swyddfa Gartref yn darparu cyfres o grantiau penodol ac arbennig yn ogystal â Phrif Grant yr Heddlu. Daw’r arian hwn o grŵp trosedd a phlismona terfyn gwariant adrannol y Swyddfa Gartref. Caiff rhai o’r grantiau eu hariannu drwy frigdorri Prif Grant yr Heddlu, sy’n lleihau’r arian sydd ar gael ar gyfer ariannu refeniw cyffredinol drwy Brif Grant yr Heddlu i dalu am rai grantiau penodol. Yr elfen fwyaf yw Grant Heddlu Gwrth-derfysgaeth. Mae grantiau eraill yn cynnwys Grant Arbennig yr Heddlu a Chronfa Arloesi’r Heddlu.

Incwm arall

Gall heddluoedd godi tâl am rai o’u gwasanaethau hefyd. Ceir y brif ffynhonnell incwm o ffioedd a thaliadau drwy godi tâl am wasanaethau heddlu arbennig. Gwasanaethau’r heddlu a ddarperir yn ychwanegol at blismona craidd ar gais person neu sefydliadau yw’r rhain, fel cyngherddau pêl-droed a chyngherddau. Nodir y pwerau sylfaenol i godi tâl am wasanaethau yn Neddf yr Heddlu 1996. Caiff heddluoedd eu hatal rhag gwneud elw o wasanaethau heddlu arbennig a’u hatal rhag adennill 100% o’r costau ar gyfer rhai mathau o ddigwyddiadau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut y caiff pob elfen o arian yr heddlu ei chyfrifo yn Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2017-18 (Y Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r tablau ariannol a gwybodaeth arall yn ymwneud â setliad yr heddlu ar ei gwefan.

Cyhoeddi setliad terfynol llywodraeth leol ar gyfer 2017-18

21 Rhagfyr 2016

Erthygl gan Martin Jennings a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn dilyn Cyllideb Derfynol 2017-18 Llywodraeth Cymru (a ryddhawyd ddydd Mawrth 20 Rhagfyr 2016), mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi Setliad Terfynol Llywodraeth Leol 2017-18 heddiw. Mae’r Setliad yn amlinellu’r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer pob un o 22 awdurdod lleol Cymru.

Mae’r Setliad yn gyfwerth â chyfanswm o £4.113 biliwn, sy’n gynnydd o £10 miliwn (0.2 y cant) o gymharu â Setliad Terfynol 2016-17. Dyma’r cynnydd cyntaf yn y setliad llywodraeth leol ers 2013-14.

Mae’r setliad dros dro yn cynnwys cynnydd a gostyngiadau yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol gwahanol. Y cynnydd mwyaf yw 1.1 y cant yng Ngwynedd a’r gostyngiad mwyaf yw -0.5 y cant ar gyfer tri awdurdod lleol (Wrecsam, Powys a Merthyr Tudful).

Mae’r ffeithlun isod yn rhoi dadansoddiad llawn o’r newid canrannol mewn cyllid yn ôl awdurdod lleol.

final-budget-2017-18-local-government-settlement-welsh-01

Eleni, ni fydd unrhyw awdurdod yn wynebu gostyngiad o fwy na -0.5 y cant. O’r tri awdurdod lle gwelir newid cyllid sy’n gyfwerth â -0.5 y cant, mae dau ohonynt wedi cael cyllid ychwanegol sy’n werth cyfanswm o £1.6 miliwn i sicrhau na fyddant yn wynebu gostyngiad sy’n fwy na -0.5 y cant. Nodir isod sut y dyrannwyd yr arian ychwanegol hwn:

  • Powys: £1.237 miliwn
  • Merthyr Tudful: £391,000

Y swm Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol yn 2017-18 yw £143 miliwn.

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at awdurdodau lleol, Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol 2017-18 a Setliad Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol  2017-18: Cymru gyfan – Tablau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddi setliad dros dro llywodraeth leol ar gyfer 2017-18

19 Hydref 2016

Erthygl gan Owen Holzinger a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn dilyn Cyllideb Ddrafft 2017-18 Llywodraeth Cymru (a rhyddhawyd ddydd Mawrth 18 Hydref 2016), mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol 2017-18 heddiw. Mae’r Setliad yn amlinellu’r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer pob un o 22 awdurdod lleol Cymru.

Mae’r Setliad yn gyfwerth â chyfanswm o £4.107 biliwn, sy’n gynnydd o £3.8 miliwn (0.1 y cant) o gymharu â Setliad Terfynol 2016-17. Dyma’r cynnydd cyntaf yn y setliad llywodraeth leol ers 2013-14.

Mae’r setliad dros dro yn cynnwys cynnydd a gostyngiadau yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol gwahanol. Y cynnydd mwyaf yw 0.9 y cant yng Ngwynedd a’r gostyngiad mwyaf yw -0.5 y cant ar gyfer pum awdurdod lleol (Wrecsam, Powys, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Thorfaen).

Mae’r ffeithlun isod yn rhoi dadansoddiad llawn o’r newid canrannol mewn cyllid yn ôl awdurdod lleol.

draft-budget-2017-18-local-government-settlement-welsh-01

Eleni, ni fydd unrhyw awdurdod yn wynebu gostyngiad o fwy na -0.5 y cant. O’r pum awdurdod lle gwelir newid cyllid sy’n gyfwerth â -0.5 y cant, mae pedwar ohonynt wedi cael cyllid ychwanegol sy’n werth cyfanswm o £2.3 miliwn i sicrhau na fyddant yn wynebu gostyngiad sy’n fwy na -0.5 y cant. Nodir isod sut y dyrannwyd yr arian ychwanegol hwn:

  • Wrecsam – £181,000
  • Powys – £1,374,000
  • Merthyr Tudful – £585,000
  • Blaenau Gwent – £147,000

Y swm Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol yn 2017-18 yw £143 miliwn.

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at awdurdodau lleol, Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol 2017-18 a Setliad Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol 2017-18 (Dros Dro): Cymru gyfan – Tablau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru – Y Wybodaeth Ddiweddaraf

19 Ionawr 2016

Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

'Dengys y darlun hwn ton yn torri dros y wal môr

Llun: o Flickr gan Ben Salter. Dan drwydded Creative Commons.

Ddydd Mercher, 20 Ionawr 2016, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod llifogydd yng Nghymru.

Ar 12 Ionawr 2016, traddododd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, ddatganiad llafar i’r Cynulliad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i reoli perygl llifogydd ac arfordiroedd. Daeth y datganiad yn sgil achosion o lifogydd yng ngogledd Cymru dros gyfnod y Nadolig.

Cyhoeddodd y Gweinidog becyn cyllid gwerth £3.3 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol, ar gyfer cynlluniau sy’n gwneud ‘a real difference to recovery, restoring resilience to flooded communities and reducing flood risk’. Rhaid i’r cynlluniau gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2016.

Mae’r pecyn cyllid yn cynnwys £1 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ar 29 Rhagfyr 2015, ac £2.3miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gan Carwyn Jones, y Prif Weinidog, ar 4 Ionawr 2016. Mae’r £2.3 miliwn yn gyllid canlyniadol o gyllideb Llywodraeth y DU.

Gallwch wylio datganiad y Gweinidog ar SeneddTV: Diweddariad am y gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar Lifogydd yng Nghymru, neu ddarllen Cofnod y Trafodion.

Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu pecyn o gyllid gwerth tua £200miliwn ar gyfer ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd a achoswyd gan stormydd y gaeaf. Mae’r pecyn yn cynnwys cymorth ar gyfer cartrefi, busnesau, ac elusennau, yn ogystal â chyllid ar gyfer seilwaith rhag llifogydd. Gallwch weld manylion y pecyn yma: Llifogydd gaeaf 2015 i 2016: ymateb y Llywodraeth

Rhaglen Rheoli Perygl Arfordiroedd

Ym mis Rhagfyr 2014, cyhoeddodd y Gweinidog, ar y cyd â Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, fod Llywodraeth Cymru yn ‘bwriadu rhoi buddsoddiad newydd o £150 miliwn mewn cynlluniau allweddol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.’ Bydd y rhaglen yn weithredol yn 2018 ac fe’i cyflwynir mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu 75% tuag at gostau prosiect, gydag awdurdodau lleol yn cyfrannu 25%.

Cefndir polisi a chyllid

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddatblygu polisi rheoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol i Gymru, a hi yn bennaf sy’n ariannu gweithgareddau arfordirol a gweithgareddau’n ymwneud â llifogydd y mae ‘awdurdodau gweithredol’ yn gyfrifol amdanynt, sef Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yn bennaf yng Nghymru.

Mae wedi buddsoddi tua £245 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ystod y Cynulliad hwn. Yn ogystal â’r arian hwn, mae £47 miliwn pellach o gyllid Ewropeaidd.

Mae’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru yn darparu fframwaith cenedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

O dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae’n ofynnol ar i Gyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno adroddiad i’r Gweinidog ar y cynnydd o ran rhoi’r strategaeth ar waith. Mae adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, yn nodi’r canlynol:

  • fod £165 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru rhwng mis Tachwedd 2011 a mis Mawrth 2014.
  • Er gwaethaf y buddsoddiad hwn, amcangyfrifir bod lifogydd yng Nghymru er mis Tachwedd 2011 wedi achosi dros £71 miliwn o ddifrod, gan effeithio ar gymunedau, yr economi, a’r seilwaith trafnidiaeth.
  • Gwnaed cynnydd mewn nifer o feysydd o ran rheoli llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hyn yn cynnwys nodi perygl o lifogydd, ymdrin â digwyddiadau pan ddigwyddant, a chodi ymwybyddiaeth gymunedol am faterion llifogydd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth gefndir yn Nodyn Ymchwil y Gwasanaeth Ymchwil, Llifogydd a Rheoli Per Erydu Arfordirol (PDF 231kb).

Yr adolygiad o lifogydd arfordirol 2014

Ar ôl y stormydd arfordirol difrifol ym mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014, gofynnodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnal adolygiad mawr o amddiffynfeydd arfordirol.

Roedd yr adolygiad mewn dau gam – yn y cyntaf, aseswyd effaith y llifogydd, ac yn yr ail, gwnaed cyfres o argymhellion gyda’r nod o wella gwytnwch Cymru i lifogydd arfordirol.

Yn yr ail adroddiad, argymhellwyd gweithredu mewn chwe maes:

  • Buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl erydu arfordirol.
  • Gwybodaeth well am systemau amddiffynfeydd llifogydd arfordirol.
  • Mwy o eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau asiantaethau ac awdurdodau.
  • Asesu sgiliau a chapasiti.
  • Mwy o gymorth i helpu cymunedau i wrthsefyll llifogydd yn well.
  • Datblygu a chyflwyno cynlluniau lleol ar gyfer cymunedau arfordirol.

Gallwch weld adroddiadau adolygu llawn CNC yma:

Adroddiad Cam 1 Adolygu Llifogydd Arfordirol Cymru

Adroddiad Cam 2 Adolygu Llifogydd Arfordirol Cymru

View this post in English

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ymchwiliad Newydd i Wasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru

20 Awst 2015

Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Wasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru. Mae’r blog-bost hwn yn gosod y cefndir i’r ymchwiliad gan fynd i’r afael â gostyngiad yn y ddarpariaeth o ran gwasanaethau bysiau a nifer y teithwyr yng Nghymru, newidiadau i bolisi bysiau, a chynigion ynghylch datganoli pwerau.

Mae tudalen yr ymchwiliad gyda’r cylch gorchwyl, y dystiolaeth a ddaeth i law ac ati, ar gael drwy dudalen yr ymchwiliad.

Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor Menter a Busnes, gan gynnwys yr ymchwiliad hwn ar Twitter: @SeneddBusnes

Gostyngiad yn y ddarpariaeth o ran gwasanaethau bysiau a nifer y teithwyr

Mae’r ddarpariaeth o ran gwasanaethau bysiau a nifer y teithwyr sy’n eu defnyddio wedi gostwng yng Nghymru (Ffigur 1). Mae Adroddiadau Blynyddol y Comisiynwyr Traffig yn dangos bod nifer y gwasanaethau bysiau oedd wedi’u cofrestru yng Nghymru wedi gostwng tua 25 y cant rhwng mis Mawrth 2005 a Mawrth 2014. Mae ystadegau chwarterol yr Adran Drafnidiaeth o ran bysiau yn dangos bod teithiau teithwyr bysiau hefyd wedi gostwng erbyn mis Mawrth 2015, tua 18 y cant o gymharu â’u nifer uchaf yn 2008-09. Mae’r gostyngiad hwn yn nifer y teithwyr yn fwy yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o Brydain. O’i gymharu, mae teithiau bws yn Lloegr y tu allan i Lundain wedi gostwng ychydig dros 6% yn yr un cyfnod, ac ychydig o dan 16% yn yr Alban.

Yn ystod ei ymchwiliad, mae’r Pwyllgor Menter a Busnes yn bwriadu edrych i mewn i sefyllfa bresennol y sector bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yng Nghymru, gan gynnwys y rhesymau dros y gostyngiad diweddar mewn gwasanaethau bysiau cofrestredig a nifer y teithwyr bysiau fel ei gilydd. Bydd hefyd yn edrych ar effaith gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y gostyngiad diweddar mewn gwasanaethau bysiau a nifer y teithwyr.

 

Bus Cym

Ffigur 1: Teithiau teithwyr ym Mhrydain ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad (Mynegai: 2004-05 = 100). Ffynhonnell: Cyfres Ystadegau Bysiau Yr Adran Drafnidiaeth,  niferoedd teithwyr yn BUS0106 (nodiadau a diffiniadau o’r ystadegau hyn)

Polisi bysiau yng Nghymru

Mae’r polisi bysiau yng Nghymru wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda newidiadau i fecanweithiau a lefelau ariannu Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, ym mis Ionawr 2014, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth y byddai’n disodli’r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol ac yn ei le yn rhoi Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau a fyddai wedi’i ddyrannu’n uniongyrchol i awdurdodau lleol. Mewn termau real arweiniodd hyn at doriadau yn yr arian. Am ragor o fanylion, gweler yr erthyglau blaenorol ar Ariannu gwasanaethau bysiau a Newidiadau i gynllunio ac ariannu trafnidiaeth yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, diddymwyd y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol y llynedd.

Comisiynodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth adolygiad o’r polisi bysiau a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar; fesurau i wella perfformiad masnachol gweithredwyr i leihau eu dibyniaeth ar gymhorthdal ​​cyhoeddus; hygyrchedd ar gyfer teithwyr anabl; ac opsiynau i gefnogi anghenion cludiant pobl ifanc. Mae’r adroddiad yn gwneud 29 o argymhellion, gan gynnwys argymhellion ar gyfer gweithredu gan awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill er mwyn cydweithio’n agosach i drefnu ac integreiddio gwasanaethau bysiau yn fwy effeithiol. Yn dilyn hyn mae’r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol newydd yn ymrwymo i weithredu’r ‘ymatebion i’r argymhellion sy’n codi o’r adolygiad polisi bysiau’.

Yn ystod ei ymchwiliad bydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn ymchwilio i’r camau y dylid eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yn diwallu anghenion Cymru.

Datganoli pwerau

Er mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gyllid a pholisïau bysiau yng Nghymru, cafodd y diwydiant bysiau ei ddadreoleiddio yn ystod yr 80au ac ni all y Cynulliad ddeddfu ar hyn o bryd i newid y trefniadau rheoleiddio bysiau yng Nghymru.

Gosododd Llywodraeth y DU gynigion i ddatganoli pwerau dros gofrestru bysiau yn ei Phapur Gorchymyn – ‘Powers for a Purpose: Towards a Lasting Devolution Settlement’ ym mis Chwefror 2015. Fodd bynnag, nid oes unrhyw gynigion i ddatganoli pwerau ehangach o ran rheoleiddio bysiau wedi’u gosod hyd yma, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y cred fod angen datganoli’r pwerau hyn.

Yn ystod ei ymchwiliad mae’r Pwyllgor Menter a Busnes yn bwriadu edrych ar fanteision posibl neu fel arall datganoli pwerau cofrestru bysiau, ac a fyddai pwerau pellach i reoleiddio’r diwydiant bysiau yn ddymunol.

Bydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn cymryd tystiolaeth gan randdeiliaid yn ystod y misoedd nesaf wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen.