Arweinyddiaeth mewn Addysg

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Y prynhawn yma (16 Mai 2017), bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn gwneud datganiad yn y Senedd ynghylch arweinyddiaeth mewn addysg.

Mae adroddiadau Estyn un ar ôl y llall wedi nodi pwysigrwydd arweinyddiaeth gref ac effeithiol i wella safonau addysg. Yn ei adroddiad blynyddol diweddaraf (2015/2016), nododd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru mai arweinyddiaeth yw’r ‘ffactor pwysicaf’ yng ngwelliant ysgolion. Yn flaenorol, mae Estyn hefyd wedi adrodd:

Parhau i Ddarllen

Cyhoeddiad Newydd: Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) – Crynodeb o’r Fil

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyflwynwyd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ar 12 Rhagfyr 2016.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud yn bendant bod angen newid. Mae’n dweud bod y Bil hwn yn ‘gweddnewid’ system ‘nad yw bellach yn addas i’w diben’.

Parhau i Ddarllen

Ffedereiddio ysgolion; yr ateb i osgoi cau ysgolion gwledig?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 15 Tachwedd 2016, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, ei bwriad i wneud newidiadau i’r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Prif amcan y newidiadau fydd cyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, rhywbeth sydd eisoes ar waith yn yr Alban a Lloegr.

Parhau i Ddarllen

Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth

08 Chwefror 2017

Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

violin_landscape

Llun: o Flickr gan Jason Hollinger. Dan drwydded Creative Commons.

Ar 14 Chwefror 2017 bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar sefydlu’r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth.

Cefndir

Cafwyd pryderon hirsefydlog am y pwysau ariannu mewn perthynas â gwasanaethau addysg cerddoriaeth awdurdodau lleol, anstatudol. Ym mis Mawrth 2015, sefydlodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ar y pryd, Huw Lewis, Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gwasanaethau Cerddoriaeth.   Edrychodd y Grŵp ar gyflenwi gwasanaethau cerddoriaeth; polisïau codi tâl, cyflenwi offerynnau cerdd a gwaith partneriaeth.  Ystyriodd y Grŵp hefyd faterion yn ymwneud ag adnoddau ar gyfer datblygu addysg cerddoriaeth yng Nghymru yn y dyfodol, a’r potensial ar gyfer Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth.  Argymhellodd y Grŵp y canlynol:

Dylai Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth, a’r cyfyngiadau ar hynny, er mwyn datblygu cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio sgiliau a doniau cerddorol i wireddu eu posibiliadau Dylai’r ymchwil edrych ar y model ar gyfer gwaddol o’r fath a’r adnoddau ar ei gyfer, gan gynnwys y posibilrwydd o gael ardoll tocynnau wirfoddol, a dylai Gweinidogion gael adroddiad ar ddichonoldeb cychwynnol y cynllun o fewn chwe mis.

Derbyniodd y Gweinidog ar y pryd yr argymhellion ym mis Hydref 2015. Cafodd Trio Consulting ei gomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gynnal astudiaeth ddichonoldeb ar sefydlu’r gwaddol. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Gweinidog blaenorol dros Addysg a Sgiliau a’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ym mis Rhagfyr 2015.

Beth allwn ni ei ddisgwyl?

Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar 14 Medi 2016, [PDF 241KB] dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith fod Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn ystyried sefydlu cronfa waddol barhaol ar gyfer cerddoriaeth.

Y nod yw creu cronfa o £20 miliwn neu fwy. Ymhen amser, gallai ddarparu hyd at £1 filiwn y flwyddyn i helpu pobl ifanc i feithrin eu sgiliau a’u doniau ym maes cerddoriaeth. Gallwn gyrraedd y targed hwn, er y bydd yn gryn her, felly bydd angen denu cyllid o amryfal ffynonellau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Rydym wrthi’n ymgynghori ag amryw o bartneriaid a buddiolwyr posibl er mwyn sicrhau bod gennym gynllun effeithiol ar gyfer creu a chynnal y corff newydd hwn.

Ym mis Mawrth 2015, comisiynwyd ar y cyd gan Huw Lewis a Ken Skates, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y pryd, grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar ddyfodol yr Ensemblau Cenedlaethol. Gwnaeth adroddiad y grŵp, Sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer ensemblau celfyddydau cenedlaethol ieuenctid Cymru  [PDF 825KB] (Ionawr 2016) argymhellion i Lywodraeth Cymru, Cyngor y Celfyddydau, awdurdodau lleol, a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) – y corff ymbarél ar gyfer yr ensemblau.

Un argymhelliad oedd y dylai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar ei newydd wedd a Llywodraeth Cymru archwilio’n llawn y potensial i CCIC ddod yn fuddiolwr allweddol y Gwaddol Cenedlaethol.

Bydd y cyhoeddiad yn amlwg o ddiddordeb i bawb sy’n ymwneud â cherddoriaeth yng Nghymru ac i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu sy’n cynnal ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a mynediad ati.

Diwallu anghenion iechyd plant a phobl ifanc mewn ysgolion. A oes angen newid y gyfraith yng Nghymru?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae pryder nad yw hawliau plant a phobl ifanc Cymru sydd ag anghenion gofal iechyd yn cael eu diogelu o dan y gyfraith yn ystod y diwrnod ysgol i’r un graddau â phlant yn Lloegr, gan eu rhoi mewn perygl o anfantais academaidd ac o ran iechyd.

Rhoi’r cymorth angenrheidiol i blant i gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd ysgol

Llun: o flickr gan alishavargas. Dan drwydded Creative Commons

Llun: o flickr gan alishavargas. Dan drwydded Creative Commons

Bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion, ar ryw adeg, yn dioddef o gyflwr meddygol a all effeithio ar eu gallu i gymryd rhan yng ngweithgareddau eu hysgol. I lawer, cyflwr byrdymor fydd hwnnw; gorffen cwrs o feddyginiaeth efallai. Ond mae gan ddisgyblion eraill anhwylderau meddygol cronig hirdymor a all gyfyngu ar eu gallu i gael addysg oni chânt eu rheoli’n briodol. Bernir bod gan ddisgyblion o’r fath anghenion gofal iechyd. Gall y rhan fwyaf o blant ag anghenion gofal iechyd fynd i’r ysgol yn rheolaidd gan gymryd rhan yn y diwrnod ysgol arferol gyda rhywfaint o gymorth gan yr ysgol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu bod y gefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd yn yr ysgol yn anghyson ledled Cymru.

Ym mis Chwefror 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau drafft ‘Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd’ a oedd yn disodli’r canllawiau blaenorol a gyhoeddwyd yn 2010: ‘Mynediad i Addysg a Chymorth i Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Meddygol’. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dogfen ymgynghori yr un pryd â’r canllawiau drafft a gofynnodd am safbwyntiau rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2016. Caiff y fersiwn ddiwygiedig ei chyhoeddi ddechrau 2017, ond a fydd yn mynd yn ddigon pell i sicrhau bod plant â chyflyrau iechyd yn cael y gofal a’r cymorth sydd ei angen arnynt yn yr ysgol?

Mae canllawiau 2010 yn rhoi cyngor ac arweiniad ar ddiwallu anghenion addysgol plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd mewn lleoliad addysg. Mae’r canllawiau yn rhoi cyngor ar y ffordd y gall ysgolion lunio polisïau i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd. Er bod rhanddeiliaid wedi croesawu’r fersiwn ddiweddaraf o’r canllawiau, nid yw’n rhan o fframwaith deddfwriaethol ac mae llawer yn dadlau na fydd y canllawiau newydd yn ddigonol.

Mae dros 15 o sefydliadau iechyd a phlant (gan gynnwys Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a Diabetes UK) yn cydweithio i gasglu tystiolaeth am y problemau sy’n wynebu teuluoedd ac i ddylanwadu ar newidiadau deddfwriaethol yng Nghymru. Mae teimlad cryf ymhlith y rhanddeiliaid hyn a’u cefnogwyr fod angen newid y ddeddfwriaeth yng Nghymru a chyflwyno dyletswydd gofal statudol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd. Mae’r grŵp hwn yn credu na fydd diweddaru’r canllawiau’n mynd i’r afael â’r problemau cyffredin sy’n wynebu teuluoedd yng Nghymru yn rheolaidd, ac y bydd yr anghysondeb cynyddol mewn canlyniadau yn parhau ymhlith y plant yn y grŵp hwn sydd mor agored i niwed.

Mae’r fframweithiau presennol sy’n cynnwys canllawiau ar gyfer rheoli anghenion gofal iechyd plant mewn lleoliad ysgol yn wahanol yng Nghymru i’r hyn ydynt yn Lloegr. Yn Lloegr, daeth Deddf Plant a Theuluoedd 2014 i rym ar 1 Medi 2014. Mae adran 100 yn cynnwys dyletswydd statudol i gefnogi disgyblion sydd â chyflyrau meddygol. Yn ymarferol, golyga hyn fod yn rhaid i ysgolion wneud trefniadau ychwanegol i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd mewn ysgolion. Nid yw’r ddeddfwriaeth hon yn gymwys i ysgolion yng Nghymru.

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i ysgolion Lloegr fod â pholisi ar gyfer cyflyrau meddygol, yn ogystal â Chynllun Iechyd Unigol i bob plentyn sydd ag anghenion meddygol. Dylai’r polisi gydnabod y gall rhai cyflyrau iechyd fygwth bywyd ac y gallant hefyd effeithio ar y ffordd y mae plentyn yn dysgu. Rhaid i ysgolion adolygu ac archwilio’u polisi a’u Cynlluniau Iechyd Unigol yn rheolaidd i sicrhau bod y trefniadau ar gyfer plant ag anghenion gofal iechyd yn gweithio. Gyda’i gilydd, mae’r dogfennau’n esbonio sut y bydd yr ysgol yn gofalu am blant â chyflyrau meddygol, y gweithdrefnau ar gyfer sicrhau bod y gofal a’r hyfforddiant priodol yn cael eu darparu, a phwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod y polisi yn cael ei weithredu.

Mae pryderon yng Nghymru nad oes polisi gofal iechyd / cyflyrau meddygol gan nifer o ysgolion a bod llawer o blant ag anghenion gofal iechyd yn cael eu heithrio o’r diwrnod ysgol oherwydd hynny, a hynny am hyd at nifer o wythnosau ar y tro weithiau. Mae rhanddeiliaid am weld pob plentyn a pherson ifanc ag anghenion gofal iechyd yng Nghymru – o ran iechyd corfforol a meddyliol – yn cael eu cefnogi’n briodol yn yr ysgol fel y gallant chwarae rhan lawn ac egnïol ym mywyd yr ysgol. Mae hefyd yn bwysig bod rhieni yn teimlo bod eu plant yn ddiogel.

Bu rhywfaint o ddadlau ynghylch a ddylai Llywodraeth Cymru ehangu’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i gynnwys anghenion gofal iechyd plant a phobl ifanc yn yr ysgol, neu mewn lleoliad addysgol arall. Fodd bynnag, nid yw’r diffiniad a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), y mae’r Bil yn ei gadw ar gyfer y term newydd, Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn cynnwys dysgwyr ag anghenion gofal iechyd. Mae gan 4% o blant yng Nghymru anghenion meddygol ac mae gan 22% o blant anghenion dysgu ychwanegol.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Cyflwynwyd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, i’r Cynulliad gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ar 12 Rhagfyr 2016. Yn ei ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar y Bil ar 13 Rhagfyr 2016, esboniodd y Gweinidog fod y fframwaith deddfwriaethol presennol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn seiliedig ar fodel a gyflwynwyd dros 30 mlynedd yn ôl. Esboniodd y bydd y Bil yn creu un system ddeddfwriaethol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol o’u genedigaeth hyd nes eu bod yn 25 oed.

Yn ystod y ddadl, gofynnwyd yn benodol i’r Gweinidog am ddysgwyr ag anghenion gofal iechyd. Dywedodd Darren Millar AC efallai nad oes gan rai plant a phobl ifanc anghenion dysgu ychwanegol, ond gall fod ganddynt anghenion gofal iechyd sydd angen rhai ymyriadau yn y dosbarth neu eu man dysgu er mwyn sicrhau y gallant barhau i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Mewn ymateb i bryderon a amlygwyd gan Aelodau’r Cynulliad fod “y canllawiau yn rhy aml yn cael eu gweithredu mewn ffordd anghyson, ac weithiau’n cael eu hanwybyddu” (Cofnod y Trafodion), atebodd y Gweinidog fel a ganlyn:

Rydym yn credu bod gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu eisoes gyfrifoldebau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal iechyd. Rydym yn darparu ac yn adolygu canllawiau penodol ar y materion hyn, a gyhoeddir yn y flwyddyn newydd. Os yw Aelodau, ar ôl darllen drwy’r canllawiau hynny, yn credu bod angen eu gwella neu eu cryfhau, cawn gyfle i wneud hynny yn y flwyddyn newydd.

Aeth rhagddo i ddweud:

Dewch imi ddweud hyn: nid yw’r Bil yn sôn am y materion hynny, ond mae ein meddyliau’n agored i sgyrsiau am y materion hynny. Os na fydd y canllawiau a gyhoeddir yn darparu’r math o sicrwydd yr hoffai pobl ei weld, fe wnawn ni ystyried hynny yng Nghyfnod 2.

Mae’n amlwg bod rhanddeiliaid fel Diabetes UK a’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn pryderu nad yw plant a phobl ifanc, na’u rhieni, yn teimlo’n hyderus ar hyn o bryd fod ysgolion yn gwneud trefniadau i ddarparu cymorth effeithiol ar gyfer anghenion gofal iechyd y dysgwyr hyn. Maent yn dweud na ddylai asthma, epilepsi, diabetes nac amryw o gyflyrau meddygol eraill atal plant a phobl ifanc rhag manteisio ar addysg lawn. Mae’r sefydliadau hyn am weld ysgolion yn gwneud rhagor i ddiogelu plant a chanddynt gyflyrau meddygol a allai beryglu eu bywydau ac maent yn galw am i’r grŵp hwn gael yr un diogelwch â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig cyn bo hir, ac mae o’r farn y bydd y rhain yn cryfhau’r trefniadau presennol ac yn lleddfu pryderon o’r fath.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.