A yw cynllun Llywodraeth Cymru i ganiatáu i bobl ifanc deithio ar fysiau’n rhatach yn newid cyfeiriad?

13 Chwefror 2017

Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

flikr_micolo_j

Llun an Flickr gan Micolo J. Trwydded Creative Commons.

Mae adroddiadau yn y cyfryngau wedi awgrymu bod cynllun fyngherdynteithio Llywodraeth Cymru, sy’n cynnig gostyngiadau i bobl ifanc 18-16 oed i deithio ar fysiau yng Nghymru, ar fin cael ei ddileu. Fodd bynnag, mae datganiadau a wnaed yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn dangos nad yw wedi cyrraedd diwedd y daith eto, o bosibl.

Mae’r erthygl hon yn esbonio cefndir y cynllun a sut y mae’n gweithredu, ac yn trafod datganiadau diweddaraf Ysgrifennydd y Cabinet.

Pam y cafodd y cynllun ei gyflwyno?

Yn nhymor yr hydref 2014, daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad er mwyn iddynt gefnogi cyllideb ddrafft y Llywodraeth. Un agwedd ar y cytundeb oedd cyflwyno cynllun teithio rhatach i bobl ifanc.

Felly, lansiwyd fynghynllunteithio ym mis Medi 2015,  fel cynllun peilot am18 mis a dyrannwyd cyllid o £15m i’w roi ar waith.

Daw’r cynllun peilot presennol i ben ar 31 Mawrth, 2017.

Sut y mae’r cynllun yn gweithio ar hyn o bryd?

Mae fyngherdynteithio yn cynnig gostyngiad o draean pris tocynnau bws arferol, er y gall rhai gweithredwyr gynnig gostyngiadau ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau bws lleol sy’n gweithredu dim ond yng Nghymru neu os yw’r daith yn cychwyn neu’n gorffen yng Nghymru. Mae gwasanaeth siwrneiau hir TrawsCymru yn rhan o’r cynllun hefyd.

I fod yn gymwys ar gyfer y cerdyn, rhaid i ymgeiswyr:

  • fod rhwng 16 a 18 oed, gan gynnwys y ddau oedran; a rhaid i’w
  • prif gartref fod yng Nghymru (gan gynnwys y rhai sy’n astudio yng Nghymru, ar yr amod eu bod yn byw yma).

Traveline Cymru, y gwasanaeth sy’n rhoi gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ymdrin â’r ceisiadau, Rhoddir cerdyn â llun i’r defnyddwyr a rhaid iddynt ei ddangos wrth brynu tocyn.

Mae manylion ynghylch sut i wneud cais am gerdyn ar gael ar wefan fyngherdynteithio.  Gellir gwneud ceisiadau ar-lein, drwy’r post neu dros y ffôn.  Nid yw’r cardiau a ddosbarthwyd yn ystod y cyfnod peilot wedi costio dim i’r defnyddwyr, ar wahân i’r gost o ddarparu llun maint pasbort at ddibenion adnabod.  Nid oes angen iddynt ddangos prawf o’u hoedran na’u cyfeiriad wrth wneud cais, ond mae’n bosibl y caiff eu manylion eu cadarnhau gan drydydd parti ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae gwefan fyngherdynteithio yn cynnwys cwestiynau cyffredin sy’n rhoi rhagor o wybodaeth.

Felly, beth sy’n digwydd i’r cynllun yn awr?

Ychydig iawn sydd wedi ymuno â’r cynllun. Amcangyfrifir y gallai tua 110,000 o bobl ifanc fanteisio ar y cynllun, ond erbyn canol mis Ionawr 2017 cyfanswm y cardiau a ddosbarthwyd  ers lansio’r cynllun oedd tua 8,300.

Ar 18 Hydref 2016, ar ôl iddo wneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn am ddyfodol gwasanaethau bysiau yng Nghymru, bu Ysgrifennydd y Cabinet yn ateb cwestiynau a dywedodd mai nifer gyfyngedig oedd wedi ymuno â’r cynllun. Dywedodd y dylid manteisio ar bob cyfle i dynnu sylw ato. Tynnodd sylw hefyd at rôl y sector bws ei hun yn y gwaith o farchnata cyfleoedd i deithio’n rhatach

Dri mis yn ddiweddarach, ym mis Ionawr 2017, roedd adroddiadau yn y cyfryngau yn awgrymu na fydd y cynllun yn parhau ar ôl i’r cyfnod peilot ddod i ben. Yn ôl ffynonellau Lywodraeth Cymru, penderfynwyd gwneud hyn ar ôl dadansoddi ffigurau a oedd yn dangos nad oedd pobl ifanc yn defnyddio’r cerdyn i deithio’r tu hwnt i’w hardal leol.

Fodd bynnag, wrth ymateb i gwestiwn yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Ionawr 2017,  dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno “cynllun olynol”:

I remain very keen that there should be a legacy scheme after the current mytravelpass ends on 31 March. My officials have had encouraging discussions with representatives of local authorities and with the confederation of bus operators. I’m optimistic that I will be able to confirm the details of the successor programme very soon.

….this was a pilot scheme, and therefore something that we can learn from. And we have learnt from it. The fact of the matter is that uptake was not as high as we would’ve wished, which is why I’m very keen for the successor programme to reach more young people across Wales. I believe it’s something in the region of 10,000 young people who took advantage of the mytravelpass scheme; I would wish to see that number grow far more with the scheme that will emerge, which I’m hoping to announce within the coming weeks.

Mae pobl ifanc yng Nghymru a gweithredwyr bysiau yn aros yn eiddgar am gyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet.

A yw Deddf Trais yn erbyn Menywod (Cymru) 2015 yn gweithio?

10 Chwefror 2017

Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

A yw'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod (Cymru) yn gweithio?

Ar 15 Chwefror, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Nod y Ddeddf yw:

  • gwella ymateb y sector cyhoeddus i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • rhoi i awdurdodau cyhoeddus (fel cynghorau a byrddau iechyd) ffocws strategol ar y mater, a
  • sicrhau bod gwasanaethau ataliol, amddiffynnol a chefnogol yn cael eu darparu mewn ffordd gyson.

Amlygir prif ddarpariaethau’r ddeddfwriaeth isod, ochr yn ochr â chanfyddiadau’r Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru.

Pa mor gyflym yw’r broses o roi’r Ddeddf ar waith

Roedd y Pwyllgor yn pryderu bod y broses o roi’r Ddeddf ar waith yn araf, mewn rhai meysydd. Mae mwy na 18 mis ers i’r Ddeddf gael ei phasio, ac mae rhai rhannau allweddol o’r Ddeddf heb gael eu cyflawni eto.

Roedd y Pwyllgor yn arbennig o bryderus bod gwasanaethau’n cael eu comisiynu heb ganllawiau statudol gan Lywodraeth Cymru, ac y gallai hyn arwain at anghysondebau a fyddai’n groes i amcanion craidd y Ddeddf. Tynnodd sylw hefyd at bryderon nad oedd adnoddau digonol a chynaliadwy ar gael i gyd-fynd â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau o ganlyniad i’r Ddeddf.

Dyma rai o argymhellion y Pwyllgor:

  • Dylai Llywodraeth Cymru nodi dyddiadau cyflawni arfaethedig ar gyfer y cynllun cyflawni, canllawiau a rheoliadau, gan roi blaenoriaeth i ganllawiau comisiynu; a
  • Dylai Llywodraeth Cymru gael trafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU am y trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer cynghorwyr trais domestig annibynnol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru yn ei hymateb:

  • “Ystyrir Canllawiau Cydweithredu Amlasiantaeth yng ngoleuni[‘r] Papur Gwyn Llywodraeth Leol”;
  • “Caiff y cynllun ar gyfer cyflwyno Gofyn a Gweithredu ei ddatblygu o fis Gorffennaf 2017″;
  • y bwriad yw “ymgynghori ar ganllawiau comisiynu statudol, fel y bo’n briodol, erbyn Gorffennaf 2017”;
  • “Caiff canllawiau eu cyhoeddi mewn perthynas â strategaethau lleol ym mis Gorffennaf 2017″; ac
  • “ni fydd y dangosyddion cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi cyn mis Hydref 2017”.

Mae hefyd yn nodi bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda llywodraeth y DU, ac y bydd yn “cyflwyno dull cyllido rhanbarthol ledled y wlad ar gyfer y Grant Gwasanaethau Cam-drin Domestig o 1 Ebrill, 2018. [..] Bydd 2017-2018 yn flwyddyn bontio a [bydd yn] symud at fodel cyllido a chomisiynu rhanbarthol [yn y dyfodol].”

Strategaethau cenedlaethol a lleol

Mae Adrannau 3-4 y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru baratoi a chyhoeddi Strategaeth Genedlaethol i gyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf, a hynny heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl yr etholiad yng Nghymru (h.y. erbyn 6 Tachwedd 2016). Mae adrannau 5-8 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol baratoi a chyhoeddi strategaethau lleol erbyn mis Mai 2018.

Roedd y Pwyllgor yn “siomedig” bod y Ddeddf wedi cael ei phasio fwy na 18 mis cyn yr oedd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Strategaeth Genedlaethol, ond nad oedd wedi dechrau ymgynghori ar strategaeth ddrafft tan fis Awst, gan adael mis yn unig cyn y dyddiad cau i wneud diwygiadau a gwelliannau. Dywedodd nifer o dystion wrth y Pwyllgor nad oeddynt yn fodlon ar y drafft, ac yn arbennig nad oedd ystyriaeth wedi ei rhoi i farn pobl a oedd wedi cael eu cam-drin.

O ganlyniad, penderfynodd Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi strategaeth lefel uchel ym mis Tachwedd 2016,  a ‘chynllun cyflawni’ yn ddiweddarach a fyddai’n rhoi manylion ynglŷn â sut y bydd y strategaeth yn cael ei chyflawni. Roedd y Pwyllgor yn pryderu na fyddai modd gorfodi’r cynllun cyflawni o dan y gyfraith (yn wahanol i’r Strategaeth Genedlaethol), ac na ddarparwyd amserlenni ar gyfer ei gyhoeddi.

Yn ogystal, clywodd y Pwyllgor fod strategaethau lleol yn dechrau cael eu datblygu cyn cyhoeddi’r cynllun cyflawni, a allai arwain at anghysondebau o ran dulliau gweithredu strategol.

Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru:

  • egluro statws cyfreithiol y cynllun cyflawni arfaethedig, a’i gyhoeddi fel canllawiau statudol yn ddelfrydol, er mwyn sicrhau y gellir ei orfodi;
  • amlinellu pryd y bydd y cynllun cyflawni yn cael ei gyhoeddi, a sut y bwriedir ymgynghori yn ei gylch, a
  • sicrhau bod y deg argymhelliad ynglŷn â goroeswyr sydd yn yr adroddiad Are you listening, am I being heard? yn cael eu hystyried yn llawn wrth ddatblygu’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â goroeswyr.

Nodir yn ymateb Llywodraeth Cymru y caiff “statws cyfreithiol y Fframwaith Cyflawni ei ystyried gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a sefydlwyd gan y Grŵp Cynghori i ddatblygu’r cynllun, gyda mewnbwn gan y Grŵp Swyddogion Traws-lywodraethol. Bydd y Grŵp Cynghori’n craffu ar y fframwaith cyn ei gyhoeddi” ac “Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fydd yn penderfynu ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r Fframwaith”.

Addysg

Mae adran 9 o’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyflwyno adroddiad ar sut y maent yn mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu sefydliadau addysgol. Mae adran 10 yn rhoi i Weinidogion Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) y pŵer i gyhoeddi canllawiau i sefydliadau addysg bellach ac uwch.

Roedd addysg yn fater dadleuol yn ystod hynt y Ddeddf. Cynigiwyd, yn y Papur Gwyn cyntaf ar y ddeddfwriaeth yn 2012, y byddai’r Bil yn sicrhau ei bod yn orfodol i bob ysgol ddarparu addysg ar berthynas iach ag eraill.

Ni chafodd y cynnig hwn ei gynnwys yn y Bil drafft. Yn ôl y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am y Bil, roedd addysg ar berthnasoedd iach yn cael ei hystyried fel rhan o’r adolygiad o’r cwricwlwm dan arweiniad yr Athro Graham Donaldson, yn lle hynny. Byddai hwn yn cynnwys adolygiad o’r cwricwlwm sylfaenol gan gynnwys Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh).

Cyflwynwyd y ddyletswydd yn adran 9 fel gwelliant y Llywodraeth yn ystod hynt y Ddeddf.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wrth y Pwyllgor y byddai’r rheoliadau o dan adran 9 yn cael eu datblygu’n gynnar yn 2017. Nid yw’n eglur pryd y bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ddechrau cyflwyno adroddiadau.

Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru:

  • ymrwymo i gynnwys addysg am berthnasoedd iach yn y cwricwlwm newydd o dan y Maes Dysgu a Phrofiad ‘Iechyd a Lles’;
  • prysuro i baratoi rheoliadau sy’n ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol ynglŷn â sut y maent yn arfer eu swyddogaethau i hyrwyddo diben y Ddeddf. Dylai hefyd ymrwymo i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddechrau cyflwyno adroddiadau erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2017/18;
  • amlinellu sut y bydd addysg ar berthnasoedd iach a chydsynio yn cael sylw gan sefydliadau addysg bellach ac uwch.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r argymhellion hyn drwy ddweud ei bod yn bosibl “y bydd cyfleoedd i gael gwybodaeth a data ar yr hyn y mae lleoliadau addysg o fewn awdurdodau lleol yn ei gyflawni ar hyn o bryd o ran darpariaeth addysg sy’n deillio o’r Ddeddf, gan sefydliadau allanol sydd wrthi’n gwella’r broses o gyflwyno Addysg Perthnasoedd Iach mewn ysgolion”. Mae’n mynd ymlaen i nodi:

Bydd y gwaith o ddatblygu’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn cynnwys ystyried dulliau o gyflwyno Addysg Perthnasoedd Iach ac felly mae posibilrwydd y gellir ystyried hyn yn rhan o’r gwaith cyffredinol sy’n cael ei gyflawni.

Nododd Llywodraeth Cymru, o ran yr argymhelliad ynglŷn â chyrff addysg bellach ac uwch, “caiff hyn ei ystyried gyda chydweithwyr Addysg Uwch gan gyfeirio at brosiectau sydd eisoes ar waith o fewn Addysg Bellach ac Uwch.”

Cynghorydd Cenedlaethol

Mae adran 20 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benodi Cynghorydd Cenedlaethol i roi cyngor, monitro gweithrediad y Ddeddf a chynnal gwaith ymchwil.

Canfu’r Pwyllgor mai swydd ran-amser yw un y Cynghorydd Cenedlaethol, sy’n golygu bod ei dylanwad a’r baich gwaith y gall ymdopi ag ef yn gyfyngedig. Nododd hefyd nad oedd cynllun gwaith y Cynghorydd wedi’i baratoi mewn modd a oedd yn cyd-fynd â’r Strategaeth Genedlaethol, gan arwain unwaith eto at y posibilrwydd o anghysondebau.

Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru:

  • Adolygu capasiti swydd y Cynghorydd Cenedlaethol, gan ystyried dyrannu adnoddau ychwanegol iddi i gefnogi’r gwaith o ddatblygu strategaethau lleol a chynnal gwaith ymchwil;
  • Egluro pa gosbau sydd ar gael i Weinidogion Cymru os nad yw awdurdod cyhoeddus yn cyflawni gofynion y Ddeddf, a
  • Chyfeirio at y Cynghorydd Cenedlaethol, ei chyfrifoldebau a’i chynllun gwaith yn y cynllun cyflawni sydd i ddod ac unrhyw strategaethau yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod ac ystyried yr argymhellion hyn â’r Cynghorydd Cenedlaethol ac “wedi cytuno i’w adolygu’n barhaus”. O ran pwerau, mae’r ymateb yn nodi bod gan Weinidogion Cymru y grym i “gyfarwyddo” awdurdod i gymryd camau priodol, ond nid yw’n manylu pa bwerau i gosbi sydd ar gael.

Dadl ar Setliad Terfynol yr Heddlu 2017-18

10 Chwefror 2017

Erthygl gan Sarah Hatherley ac Owen Holzinger Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

flikr_jon_candy

Llun: Flikr gan Jon Candy. Dan drwydded Creative Commons

Nid yw polisi plismona wedi’i ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn darparu elfen o’r cyllid blynyddol fel rhan o system tair ffordd sydd hefyd yn cynnwys y Swyddfa Gartref a’r dreth gyngor. Gall heddluoedd wneud cais am grantiau arbennig a phenodol hefyd a ffynonellau eraill o incwm.

O dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 gwnaeth Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Comisiynwyr) ddisodli awdurdodau’r heddlu ym mhob ardal heddlu (y tu allan i Lundain), a chynhaliwyd yr etholiadau cyntaf ym mis Tachwedd 2012. Yn fwy diweddar, cynhaliwyd etholiadau’r Comisiynwyr ochr yn ochr ag Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2016. Mae’r Comisiynwyr yn penodi’r prif gwnstabl, yn pennu blaenoriaethau plismona lleol ac yn gosod y gyllideb a phraesept y dreth gyngor.

Mae dau gam ynghlwm â setliad yr Heddlu, gyda setliad dros dro yn cael ei ryddhau yn unol â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a setliad terfynol yn unol â’r gyllideb derfynol. Ymgynghorir â’r pedwar heddlu yng Nghymru ynghylch setliad dros dro yr heddlu, cyn cytuno ar y setliad terfynol. Yna mae’n rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo’r cyllid hwn. Fel rhan o’r broses hon, trafodir y setliad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 14 Chwefror 2017.

Setliad Terfynol yr Heddlu 2017-18

Ar gyfer 2017-18, y swm cyffredinol a ddyrennir i Gomisiynwyr yng Nghymru yw £349.9 miliwn. Mae hyn yn ostyngiad o 1.4% ers setliad 2016-17 ac yn ostyngiad o 1.4% ar gyfer pob un o’r pedwar Comisiynydd. Amlinellir y cyllid cyffredinol yn nhabl 1 isod:

Tabl 1: Cyllid Refeniw yr Heddlu – Cyfanswm Cymorth Canolog

2014-15 2015-16 2016-17 2017-18
Dyfed-Powys 53.0 50.3 50.0 49.3
Gwent 76.8 72.9 72.5 71.5
Gogledd Cymru 77.1 73.2 72.7 71.7
De Cymru 169.2 160.6 159.6 157.4
Cyfanswm   376.2   356.9   354.9   349.9

O fewn y dyraniad o £349.9 miliwn, £138.7 miliwn yw elfen Llywodraeth Cymru. Gellir torri hyn lawr ymhellach a chynnwys cyllid o’r Grant Cynnal Refeniw (£85.8 miliwn) ac ardrethi annomestig (£53 miliwn). Darperir y £211.2 miliwn sy’n weddill drwy’r Swyddfa Gartref. Amlinellir y ffynonellau o gyllid yr Heddlu isod:

Grant Heddlu y Swyddfa Gartref

Yng Nghymru a Lloegr, prif ffynhonnell incwm ar gyfer heddluoedd yw grant canolog Llywodraeth y DU sydd ar gael drwy Adroddiad Blynyddol Grant Heddlu y Swyddfa Gartref. Cyllid refeniw cyffredinol yw Grant Heddlu y Swyddfa Gartref ac nid yw wedi’i neilltuo. Caiff ei dalu’n uniongyrchol i Gomisiynwyr yr Heddlu. Mae Fformiwla Dyrannu yr Heddlu yn penderfynu ar ddyraniad cronfeydd y llywodraeth ganolog rhwng 43 ardal heddlu Cymru a Lloegr. Mae’n seiliedig ar amcangyfrif o lwyth gwaith pob ardal yr heddlu, gan gynnwys gweithgarwch trosedd, digwyddiadau plismona arbennig, plismona ardaloedd tenau eu poblogaeth a ffactorau economaidd-gymdeithasol. Mae’r Swyddfa Gartref wedi adolygu ei fformiwla ariannu i’r heddluoedd yn ddiweddar, a fydd yn parhau i fod yn fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion. Fel y bu’r achos yn y blynyddoedd diweddar, mae’r Swyddfa Gartref wedi penderfynu unwaith eto i droshaenu ei fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith llawr. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael yr un gostyngiad mewn canran, sef 1.4% eleni.

Mae’r cyllid o’r prif grant yn amodol ar “leddfu”, a fydd yn ailddosbarthu £12.2 miliwn yn 2017-18 o Dde Cymru a £417k o Gwent i Ddyfed Powys (sef £5.1 miliwn ychwanegol) a Gogledd Cymru (sef £7.4 miliwn ychwanegol). Cafodd Comisiynwyr Dyfed-Powys (£3.6 miliwn) a Gogledd Cymru (2.4 miliwn) grant atodol hefyd.

Grant fformiwla Llywodraeth Cymru/Setliad Refeniw yr Heddlu

Yng Nghymru, mae’r cyllid cyfatebol a ddarparwyd yn flaenorol gan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol y DU yn Lloegr wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Mae cyllid Llywodraeth Cymru i’r Comisiynwyr yn dal i fod yn rhan o setliad cyllid llywodraeth leol ac yn cael ei dalu o dan ddarpariaethau Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac mae’n rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Praesept y dreth gyngor

Gall pob heddlu godi refeniw ychwanegol hefyd drwy braeseptau’r dreth gyngor. Y Comisiynydd a etholir ym mhob ardal heddlu sy’n penderfynu ar lefel flynyddol praesept yr heddlu, a gaiff ei ychwanegu at filiau treth gyngor preswyl. Daw cyfran fwy o gyllid yr heddlu o’r dreth gyngor yng Nghymru o gymharu â Lloegr; 37% o gymharu â chyfartaledd o 24% yn Lloegr yn 2015-16. Mae hefyd llawer llai o amrywiad rhwng yr heddluoedd yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Mae Comisiynwyr yn brif awdurdodau praesept. Er eu bod yn gosod y praesept, awdurdodau lleol sy’n casglu’r arian ar eu rhan. Yn 2016-17 roedd elfen yr heddlu o’r dreth gyngor yn cyfrif am tua 16% o gyfanswm bil treth gyngor, ar gyfartaledd, yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i gyfyngu ar gynnydd gormodol yn y dreth gyngor (a ystyrir ar y cyfan yn unrhyw beth dros 5%).

Grantiau penodol ac arbennig

Mae hefyd nifer llai o grantiau arbennig a phenodol sydd wedi’u neilltuo ar gyfer blaenoriaethau plismona cenedlaethol. Mae’r Swyddfa Gartref yn darparu cyfres o grantiau penodol ac arbennig yn ogystal â Phrif Grant yr Heddlu. Daw’r arian hwn o grŵp trosedd a phlismona terfyn gwariant adrannol y Swyddfa Gartref. Caiff rhai o’r grantiau eu hariannu drwy frigdorri Prif Grant yr Heddlu, sy’n lleihau’r arian sydd ar gael ar gyfer ariannu refeniw cyffredinol drwy Brif Grant yr Heddlu i dalu am rai grantiau penodol. Yr elfen fwyaf yw Grant Heddlu Gwrth-derfysgaeth. Mae grantiau eraill yn cynnwys Grant Arbennig yr Heddlu a Chronfa Arloesi’r Heddlu.

Incwm arall

Gall heddluoedd godi tâl am rai o’u gwasanaethau hefyd. Ceir y brif ffynhonnell incwm o ffioedd a thaliadau drwy godi tâl am wasanaethau heddlu arbennig. Gwasanaethau’r heddlu a ddarperir yn ychwanegol at blismona craidd ar gais person neu sefydliadau yw’r rhain, fel cyngherddau pêl-droed a chyngherddau. Nodir y pwerau sylfaenol i godi tâl am wasanaethau yn Neddf yr Heddlu 1996. Caiff heddluoedd eu hatal rhag gwneud elw o wasanaethau heddlu arbennig a’u hatal rhag adennill 100% o’r costau ar gyfer rhai mathau o ddigwyddiadau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut y caiff pob elfen o arian yr heddlu ei chyfrifo yn Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2017-18 (Y Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r tablau ariannol a gwybodaeth arall yn ymwneud â setliad yr heddlu ar ei gwefan.

Ynni morlyn llanw yng Nghymru

10 Chwefror 2017

Erthygl gan Jack Miller, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

foam

Cyhoeddwyd adroddiad yn cynnal adolygiad annibynnol o ynni morlyn llanw yn y DU ar 12 Ionawr 2017 gan Charles Hendry, cyn Weinidog dros Ynni Llywodraeth y DU. Mae’r adroddiad yn canmol y cynllun braenaru arfaethedig ar gyfer morlyn llanw ym Mae Abertawe ac yn dweud iddo fod yn opsiwn na ellid mo’i ddifaru, gan wneud yr achos o blaid cefnogi datblygu’r sector.

Comisiynwyd adolygiad Hendry ym mis Chwefror 2016 gan Lywodraeth y DU i asesu’r achos strategol dros greu diwydiant newydd yn y DU ar ffurf ynni morlyn llanw. Roedd hyn yn dilyn cynnig cynllunio llwyddiannus gan gwmni Tidal Lagoon Power i ddatblygu’r morlyn llanw cyntaf yn y byd, a hwnnw ym Mae Abertawe, ynghyd â chynllun dilynol ar gyfer pum prosiect ar raddfa fwy, gan gynnwys tri yn nyfroedd Cymru (yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bae Colwyn).

Er i brosiect Bae Abertawe ymddangos ym maniffesto Plaid Geidwadol y DU yn 2015, ac i’r prosiect gael caniatâd datblygu ym mis Mehefin 2015, achosodd ansicrwydd ynghylch costau a chymhorthdal i Lywodraeth y DU gomisiynu adolygiad annibynnol. Amcan yr adolygiad oedd archwilio’r cyfraniad y gallai ynni morlyn llanw ei wneud i gymysgedd ynni’r DU, ynghyd â pha mor gosteffeithiol y gallai wneud hynny a faint o gymhorthdal y byddai ei angen i’w gynnal.

Mae môr-lynnoedd llanw yn cynhyrchu trydan drwy amgáu ardal o’r môr sydd ar lefel yr arfordir â wal, a harneisio’r ynni o symudiadau’r llanw gan ddefnyddio tyrbinau. Mae nifer o brosiectau môr-lynnoedd wedi cael eu cynnig yng Nghymru oherwydd yr ystod o lefelau’r llanw ar draws yr arfordir – yn enwedig yn Aber Afon Hafren, sydd â’i ystod llanw yr ail mwyaf yn y byd.

Yr achos o blaid ynni morlyn llanw yng Nghymru

Nododd adroddiad Hendry (PDF 2.72MB) ddau brif fantais môr-lynnoedd llanw, sef mor debygol y byddai’r allbwn trydan a’r allyriadau carbon isel iawn (llai nag 20 gram o CO2 am bob kW awr – yn debyg iawn i ynni gwynt ar y tir ac ynni niwclear). At hynny, disgwylir i forlyn weithio am 120 mlynedd neu ragor, sy’n fwy nag unrhyw dechnoleg ynni arall. O’i ddefnyddio gyda ffynhonnell arall, nododd yr adolygiad y gallai môr-lynnoedd llanw gyfrannu’n helaeth at gyflawni targedau diogelu a datgarboneiddio ynni. Mae Tidal Lagoon Power yn amcangyfrif y gallai eu môr-lynnoedd nhw gyflenwi 8 y cant o’r trydan y mae ar y DU ei angen.

Yn ôl yr adroddiad, mae’r buddiannau posibl i economi Cymru yn sylweddol, ac mae llawer o Aelodau’r Cynulliad wedi mynegi eu cefnogaeth yn drawsbleidiol. Nododd yr adolygiad y byddai prosiect Bae Abertawe yn dod â buddiannau economaidd a buddiannau o ran hamdden a fyddai’n rhai gwirioneddol a sylweddol yn yr ardal (t.37) – gan ddisgwyl denu dros 70,000 o dwristiaid y flwyddyn (t.51), ynghyd â buddiannau economaidd ledled y wlad.

Credir y bydd y cyfleoedd o ran datblygu cadwyni cyflenwi a chyfleoedd cyflogi yn sylweddol; dywedodd Tidal Lagoon Power yn yr adroddiad fod dros 1000 o fusnesau yn y DU wedi dangos diddordeb mewn cyflenwi rhannau a sgiliau i’r prosiect ym Mae Abertawe, ac mae’r cwmni’n amcanu at gael 50 y cant o’r elfennau a’r deunyddiau o Gymru. Bu i nifer o gwmnïau – gan gynnwys sawl cwmni o’r sector dur – ddisgrifio’r rhaglen arfaethedig gan Tidal Lagoon Power fel ‘lifeline’ i’w busnes (t.47).

Codi a gostwng: costau’r prosiect

 chostau adeiladu o £1.3 biliwn, bu pryderon na fyddai’r prosiect 320 megawatt ym Mae Abertawe yn gosteffeithiol i’r sawl sy’n talu’r bil. Yn gychwynnol, yn y cynllun Contractau Gwahaniaeth, amcangyfrifwyd y byddai’r pris y byddai’n rhaid ei warantu er mwyn gwerthu’r trydan yn ddrytach na phŵer niwclear o Hinkley Point C, er enghraifft, ac y byddai hyn yn golygu bod biliau defnyddwyr yn cynyddu.

Fodd bynnag, cyfrifwyd y costau hyn ar sail model 30 mlynedd. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, un o brif nodweddion economaidd môr-lynnoedd yw eu costau cynnal isel, a’r modd y gellir rhannu cyfanswm y costau ar draws oes hir y môr-lynnoedd. Wrth brisio ar gyfer model Contractau Gwahaniaeth dros oes o 60 mlynedd neu 90 mlynedd, mae ynni morlyn llanw yn llawer mwy cystadleuol. Daw i’r casgliad y byddai morlyn Bae Abertawe yn costio 30 ceiniog y flwyddyn i bob tŷ yng Nghymru am 30 mlynedd, a’i bod yn bosibl na fyddai angen unrhyw gymhorthdal ar ôl 60 mlynedd (t.75). Am ei fod yn forlyn braenaru, disgwylir iddo gynnig costau gostyngol i unrhyw brosiectau dilynol, gan eu gwneud yn gystadleuol iawn â thechnolegau carbon-isel dros oes y prosiectau.

Edrych tua’r dyfodol

Mae’r adolygiad yn gwbl eglur wrth iddo gefnogi datblygu prosiect ar raddfa fach ym Mae Abertawe cyn gynted â bo modd (t.91), gan alw hynny’n ‘bolisi na ellid mo’i ddifaru’ (p.89), ac mae’n annog Llywodraeth y DU i adeiladu ar y cynnydd y mae wedi ei wneud â Tidal Lagoon Power wrth symud at y cyfnod olaf o’r broses negodi. Mae Tidal Lagoon Power hefyd yn disgwyl am drwydded forol gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Un o brif argymhellion yr adroddiad yw i forlyn Bae Abertawe fod yn weithredol am gyfnod rhesymol cyn dechrau ar y gwaith adeiladu ar gyfer unrhyw brosiectau graddfa fawr. Golyga hyn y gellid monitro’r ystod lawn o effeithiau dros gyfnod o amser. Ymateb yw hyn i raddau i’r pryderon ynghylch yr amgylchedd yn sgil effeithiau posibl y morlyn ar fywyd yn y môr, sy’n aneglur iawn ar hyn o bryd gan nad yw’r dechnoleg wedi’i datblygu’n llawn.

Er mwyn helpu cynnal y gadwyn gyflenwi yn ystod y cyfnod hwn, mae’r adroddiad yn galw i ddatblygu cyfres o fôr-lynnoedd graddfa fach eraill rhwng y prosiectau ar raddfa fwy. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn y cyfarfod llawn ar 25 Ionawr 2017 fod Llywodraeth Cymru yn cydweithio â llywodraeth leol, darparwyr sgiliau a busnesau er mwyn canfod cyfleoedd i gynnal cyfres gyson o brosiectau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos diddordeb mewn bod yn rhanddeiliad o brosiect Bae Abertawe, ac mae Plaid Cymru wedi cynnig cwmni ynni cyhoeddus nid er elw i fod yn addas i gynnal y gwaith. Bydd Dadl Llywodraeth Cymru yn cael ei chynnal ar 14 Chwefror 2017 i drafod y cynigion hyn yn fanwl, yn ogystal â chanfyddiadau’r Adolygiad.

Bydd Llywodraeth y DU yn ymateb i ganfyddiadau’r adolygiad ar ôl asesu’r argymhellion.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jack Miller gan Brifysgol Sussex, a alluogodd i’r blog hwn gael ei gwblhau.