Dyfodol Tirweddau Dynodedig yng Nghymru

24 Mawrth 2017

Erthygl gan Dr Dr Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 28 Mawrth 2017, cynhelir dadl yn y cyfarfod llawn ar yr adolygiad o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae’r blog hwn yn amlinellu’r adolygiad o dirweddau dynodedig a gynhaliwyd yn 2015 a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i benderfynu ar rôl a gweledigaeth tirweddau Cymru yn y dyfodol.

Tirweddau Dynodedig yng Nghymru

Tirwedd Bryniau Clwyd

Llun o Flickr gan Andrew. Dan drwydded Creative Commons.

Mae tirweddau sydd o bwysigrwydd cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu dynodi fel Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) o dan y Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad at Gefn Gwlad 1949.

Mae tua 25 y cant o dir Cymru yn Dirwedd Dynodedig. Mae Cymru yn gartref i bedwar AHNE (Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Pen Llŷn a Gŵyr – ac at hynny, mae AHNE Dyffryn Gwy yn rhychwantu Cymru a Lloegr) a thri Pharc Cenedlaethol (Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri). Ym 1952, dynodwyd Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn Barc Cenedlaethol arfordirol cyntaf y DU, ac ym 1956 cafodd Gŵyr ei ddynodi fel AHNE cyntaf y DU.

Trefniadau rheoli cyfredol a diben Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

Ar hyn o bryd, caiff Parciau Cenedlaethol Cymru eu rheoli gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, sef yr awdurdod cynllunio statudol. Mae’r tirweddau hyn, sydd o bwysigrwydd cenedlaethol, yn cael eu gwarchod gan gyfraith cynllunio. Mae gan Barciau Cenedlaethol ddau ddiben statudol:

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol eu hardaloedd; a
  • Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig eu hardaloedd.

Os bydd gwrthdaro rhwng y ddau ddiben statudol hyn, rhaid i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol roi blaenoriaeth i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal, yn unol ag ‘Egwyddor Sandford’.

Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ardaloedd a ddynodir er mwyn gwarchod a gwella eu harddwch naturiol, ac maent yn wahanol i’r Parciau Cenedlaethol gan nad oes diben statudol iddynt hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd fwynhau a deall yr ardal. Mae gan ddynodiad AHNE yr un statws o safbwynt cynllunio â Pharc Cenedlaethol, ond tra bo Parc Cenedlaethol yn gyfrifol am ei swyddogaethau cynllunio’i hun, yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol sy’n gyfrifol am hyn yn achos AHNE.

Adolygiad o Dirweddau Dynodedig

Yn 2014, bu i Carl Sargeant, sef Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd, gomisiynu grŵp o arbenigwyr (yr Athro Terry Marsden, John Lloyd-Jones a Dr Ruth Williams) i gynnal Adolygiad o Dirweddau Dynodedig. Wrth lansio’r adolygiad, tynnodd y Gweinidog sylw at y ffaith bod yr amseriad yn addas gan fod saith deg o flynyddoedd bron ers i ddibenion statudol y Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol gael eu nodi am y tro cyntaf mewn deddfwriaeth. Diben yr adolygiad o dirweddau dynodedig oedd ‘sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll yr heriau sy’n eu hwynebu heddiw a’r hyn a ddaw yn y dyfodol, a datblygu hefyd ar eu statws yn rhyngwladol’. Un o’r newidiadau a ystyriwyd oedd p’un a ddylid symud i gael un dynodiad yn unig.

Roedd y prif argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig (2015) i Lywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • Ni ddylid cael un dynodiad yn unig fel bod y dynodiad AHNE a Pharc Cenedlaethol yn cael ei gadw yn y dyfodol;
  • Dylid cadw enwau “Parciau Cenedlaethol” ac “Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol”, a chyfeirio atynt gyda’i gilydd fel “Tirweddau Cenedlaethol Cymru”;
  • Dylai fod tri diben statudol cydgloedig ar gyfer y Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol fel ei gilydd; sef:
    • Gwarchod a gwella’r dirwedd unigryw a rhinweddau morweddol yr ardal (Diben Gwarchod);
    • Hybu lles ffisegol a meddyliol drwy fwynhau a deall tirwedd yr ardal (Diben Lles Dynol); a
    • Hybu ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad economaidd a chymunedol yn seiliedig ar reoli adnoddau naturiol a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal (Diben Rheoli Adnoddau Cynaliadwy)
  • Dylid cael Dyletswydd Statudol newydd, sef i gyfrannu at ddiwallu tri diben Tirweddau Cenedlaethol;
  • Dylai Egwyddor Sandford, sy’n cadarnhau blaenoriaeth y diben cadwraeth, yn cael ei defnyddio ar draws yr holl dirweddau dynodedig; a
  • Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth iddo esblygu ei bensaernïaeth fewnol ei hun, ystyried y berthynas rhyngddo a Thirweddau Cenedlaethol Cymru i sicrhau y cynhelir cymaint o graffu ac atebolrwydd ag y bo modd.

Mae blogiau blaenorol yn amlinellu’r adolygiad ymhellach a’r argymhellion o ganlyniad; Adolygiad o Dirweddau Dynodedig Cymru: Parciau Cenedlaethol ac AHNE, Adolygiad o Dirweddau Dynodedig: Argymhellion o Gyfnod 1 a Beth nesaf ar gyfer Tirweddau Cenedlaethol Cymru?.

Yn dilyn yr adolygiad, bu i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol ffurfio Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol. Mae’r grŵp, o dan arweiniad yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Barciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, grwpiau amgylcheddol, busnesau a llywodraeth leol i archwilio’r argymhellion. At hynny, byddai’n caniatáu ystyriaeth o’r argymhellion hyn yng nghyd-destun deddfwriaeth newydd; Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (a gafodd eu gweithredu o ganlyniad i’r adolygiad).

Mae’r Cylch Gorchwyl (PDF 195.4KB) ar gyfer Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol yn nodi’r aelodaeth ynghyd â bwriad y grŵp i gynghori ynghylch y themâu sy’n codi yn yr adroddiad. Mae disgwyl i’r adroddiad, sydd i’w gyhoeddi cyn bo hir, ddisgrifio rôl a gweledigaeth tirweddau dynodedig Cymru yn y dyfodol. Mewn llythyr interim (PDF 62.6KB) at y Gweinidog ar y pryd ym mis Mai 2016, cyn etholiadau’r Cynulliad, nododd y Cadeirydd ei bod yn glir y bydd angen mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio.

 

Gwneud y gorau o’r môr

21 Mawrth 2017

Erthygl gan Wendy Dodds Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg

Mae dadl ar 22 Mawrth 2017 yn galw ar “Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a’i gwneud yn elfen ganolog o’i strategaeth economaidd newydd.” Mae’r blog hwn yn edrych yn gryno ar ddatblygu Cynllun Morol ar gyfer Cymru, ac yn ystyried potensial yr economi las ar gyfer Cymru.

traeth yng Nghymru Cynllunio Morol

Mae ymgynghoriad ar Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru (WNMP ) i fod i gael ei gynnal ganol 2017. Bydd yn cynnwys ardaloedd glannau Cymru a rhanbarth môr mawr Cymru – sydd bron yn dyblu maint Cymru. Hwn fydd y cynllun cyntaf o’i fath yng Nghymru i ganolbwyntio ar foroedd Cymru, ac yn bwysig, i fynegi sut y gallant gefnogi llesiant y cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Bydd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno dull a arweinir gan gynllun traws-sector integredig o wneud penderfyniadau, a bydd yn llywio systemau rheoleiddio fel trwyddedu morol.

Mae ymgynghoriad ar Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru (WNMP ) i fod i gael ei gynnal ganol 2017. Bydd yn cynnwys ardaloedd glannau Cymru a rhanbarth môr mawr Cymru – sydd bron yn dyblu maint Cymru. Hwn fydd y cynllun cyntaf o’i fath yng Nghymru i ganolbwyntio ar foroedd Cymru, ac yn bwysig, i fynegi sut y gallant gefnogi llesiant y cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Bydd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno dull a arweinir gan gynllun traws-sector integredig o wneud penderfyniadau, a bydd yn llywio systemau rheoleiddio fel trwyddedu morol.

Caiff gweithgaredd cynllunio morol yng Nghymru ei arwain gan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a Datganiad Polisi Morol y DU, a lofnodwyd gan yr holl weinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2011. Yn sail i hyn mae ymrwymiad i bum Amcan Forol Lefel Uchel a gweledigaeth ar gyfer cefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol.

Mae awdurdodau cynllunio morol eraill, fel y Sefydliad Rheoli Morol, yn gweithio i ddatblygu cynlluniau morol mewn ardaloedd yn Lloegr, fel y de-orllewin a’r gogledd-orllewin, sy’n ffinio â dyfroedd Cymru yn aberoedd Hafren a Dyfrdwy. Cyhoeddodd yr Alban ei chynllun morol cenedlaethol yn 2015 ac mae’n gweithio gyda phartneriaethau cynllunio morol i gynllunio’n rhanbarthol.

Economi las (neu wyrdd)

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried twf gwyrdd yng Nghymru fel:

meithrin twf economaidd, datblygiad a thegwch cymdeithasol a hefyd sicrhau bod modd i’n hasedau naturiol barhau i ddarparu’r adnoddau a’r gwasanaethau amgylcheddol o safbwynt ein llesiant.

Yng nghyd-destun Cymru, mae twf gwyrdd felly’n cynnwys yr amgylchedd morol ac arfordirol.

Mae Bargen Las Newydd y Sefydliad Economeg Newydd yn nodi gweledigaeth ar gyfer adfywio cymunedau arfordirol a diogelu adnoddau naturiol. Ei nod yw cydbwyso anghenion economaidd a chymdeithasol cymunedau gyda rhai ein hamgylchedd morol er mwyn sicrhau eu bod yn ffynnu eto.

Yn ôl Y Comisiwn Ewropeaidd, mae’r economi las yn werth tua 5.4 miliwn o swyddi ac yn creu Gwerth Ychwanegol Crynswth o bron i €500 biliwn y flwyddyn ar draws Ewrop. Mae Cynllun Gweithredu’r Comisiwn ar gyfer Strategaeth Forol yn Ardal yr Iwerydd yn canolbwyntio’n gryf ar yr ‘economi las’ ac mae’n pennu blaenoriaethau morol ar gyfer 2013-2020, sy’n cynnwys agweddau fel ynni adnewyddadwy’r môr, pysgodfeydd a dyframaeth, ymchwil a buddsoddiad.

Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i Botensial yr Economi Forwrol yng Nghymru (adroddiad terfynol Chwefror 2016 (PDF: 952 KB)). Clywodd y Pwyllgor gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth yr Iwerddon, am eu dull o gynllunio morol. Mae Harnessing Our Ocean Wealth – An Integrated Marine Plan for Ireland (PDF 2.05 MB), a gyhoeddwyd yn 2012, yn rhoi pwyslais cryf ar hybu’r economi morol ac mae’n cynnwys targedau fel cynyddu’r trosiant o economi’r cefnfor i fwy na €6.4 biliwn erbyn 2020. Un o brif ganfyddiadau’r Pwyllgor oedd y dylai Llywodraeth Cymru:

sicrhau bod Cynllun Morol Cymru yn darparu fframwaith cynhwysfawr a chyffredinol ar gyfer datblygu adnoddau morol Cymru a’i chymunedau arfordirol yn gynaliadwy. Dylai gynnwys amcanion a thargedau mesuradwy – gan gynnwys perfformiad economaidd – a dylid ei roi ar waith gan ddefnyddio dull ‘Llywodraeth gyfan’, wedi’i fodelu ar Gynllun Morol Integredig Iwerddon.

Mae amrywiaeth o ddiwydiannau morol yng Nghymru yn ceisio gwneud y gorau o’r cyfraniad y gall moroedd Cymru ei wneud i ddatblygu cynaliadwy. Mae Strategaeth Bwyd Môr Cymru (PDF 56 KB) yn strategaeth sy’n eiddo diwydiant ac sy’n cael ei harwain gan ddiwydiant, a gyhoeddwyd gan Seafish, sy’n ceisio cynnydd o 30 y cant yng nghynnyrch pysgodfeydd a dyframaeth erbyn 2025 a chynnydd o 10 y cant mewn cyflogaeth o fewn yr un amserlen. Gallai sectorau eraill, fel ynni adnewyddadwy’r môr, weld Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn fyd-eang o ran ynni morol. Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae dau Barth Arddangos tonnau a ffrwd llanw, cytundebau gwely’r môr ar gyfer tri phrosiect tonnau a ffrwd llanw a chwmnïau fel Tidal Lagooon Power yn cynllunio prosiectau ynni môr-lynnoedd llanw sylweddol yng Nghymru, gan gynnwys Morlyn Llanw Bae Abertawe.

Canfu gwaith gan y Celtic Seas Partnership (Prosiect a ariannwyd gan EU LIFE + dan arweiniad WWF) fod y Môr Celtaidd yn darparu swyddi ar gyfer 400,000 o bobl, gan wneud cyfraniad blynyddol i’r economi o tua £15 biliwn. Canfu ei waith ar dueddiadau yn y dyfodol dros yr ugain mlynedd nesaf y bydd y dyfroedd hyn yn brysurach, gan greu cystadleuaeth am le a heriau o ran sicrhau ein bod yn byw o fewn cyfyngiadau amgylcheddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu dull sy’n seiliedig ar ecosystem o reoli’r amgylchedd morol. Er enghraifft, mae Cyfarwyddeb Fframwaith Strategaeth Forol yr UE (MSFD) yn ei gwneud yn ofynnol i sicrhau Statws Amgylcheddol Da (GES) erbyn 2020 ym moroedd Cymru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru reoli moroedd Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

 

Y Cynulliad i drafod egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

17 Mawrth 2017

Erthygl gan Helen Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg

Llun: o Flickr gan Adam Levine. Dan drwydded Creative Commons.

Gosodwyd y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2016, a chafodd ei gyflwyno yn y Cyfarfod Llawn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 29 Tachwedd 2016. Bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil ar 21 Mawrth 2017.

Mae’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yn ymwneud â sefydlu’r fframwaith cyfreithiol, gweinyddol a gweithredol i ddisodli’r Dreth Dirlenwi yng Nghymru ym mis Ebrill 2018. Mae’r Dreth Dirlenwi ar hyn o bryd yn dreth a godir gan y DU ar gael gwared ar ddeunydd fel gwastraff drwy ei roi mewn safleoedd tirlenwi a ganiateir o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol. Cyflwynwyd y dreth bresennol ym 1996 fel elfen allweddol i sbarduno newid mewn ymddygiad amgylcheddol drwy roi cymhelliant i ddargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi, gan ailgylchu, ailddefnyddio ac adennill mwy o wastraff. Ers i’r dreth gael ei chyflwyno, mae wedi cyfrannu at ostyngiad sylweddol yng nghyfran y gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi, a chynnydd mewn cyfraddau ailgylchu.

Y Bil hwn yw’r trydydd mewn cyfres o filiau sy’n ymwneud â datganoli’r pwerau treth yn Neddf Cymru 2014. Rhagflaenwyd y Bil hwn gan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a sefydlodd y fframwaith cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol a’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), a fydd yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp o fis Ebrill 2018.

Ceir rhagor o wybodaeth am gefndir y Bil, trosolwg o’i rannau, crynodeb o’i oblygiadau ariannol, a geirfa Gymraeg yn y Crynodeb o’r Bil (PDF, 844KB) a luniwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid adroddiad (PDF, 1MB) ar ei ystyriaeth o egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yng Nghyfnod Un ar 10 Mawrth 2017.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn pennu nifer o argymhellion gyda’r nod o gryfhau’r ddeddfwriaeth. Er enghraifft, byddai’r Pwyllgor yn hoffi gweld cyfraddau arfaethedig y trethi, rhestr o ddeunyddiau cymwys a darpariaethau ar gyfer rhyddhad ar ddyled ddrwg, wedi’u cynnwys ar wyneb y Bil.

Er bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â rhai o’r darpariaethau hyn, mae’r Pwyllgor yn parhau i fod yn bryderus nad yw is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i’r un faint o waith craffu â Bil.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn credu bod angen sicrwydd ar fusnesau pan ddaw i ddefnyddio deddfwriaeth treth newydd, ac y byddai cynnwys manylion o’r fath yn y gyfraith ei hun yn helpu i fynd i’r afael â phryderon.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth sylweddol mewn perthynas â phwysigrwydd Cynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Cynllun Cymunedol yn cael ei gynnwys ar wyneb y Bil i ddangos ymrwymiad i’r cynllun wrth symud ymlaen, ond mae’n derbyn y gallai rhai o’r manylion gael eu pennu mewn rheoliadau.

Trafododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol briodoldeb y darpariaethau yn y Bil o ran pwerau i greu is-ddeddfwriaeth. Hefyd, cyhoeddwyd ei adroddiad (PDF, 2MB) ar 10 Mawrth 2017.

Yn amodol ar y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), bydd y Bil yn symud ymlaen at drafodion Cyfnod Dau (sef trafodaeth fanwl ar y Bil ac unrhyw welliannau a gynigir gan Bwyllgor). Disgwylir y bydd trafodion Cyfnod Dau wedi dod i ben erbyn 26 Mai 2017.

Datganoli pwerau ym maes ynni a’r amgylchedd: a yw’r setliad newydd yn un parhaol yn wyneb Brexit?

14 Mawrth 2017

Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cennin Pedr

Mae’r setliad datganoli yn newid o dan Ddeddf Cymru 2017 a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 31 Ionawr 2017. Mae’r erthygl hon yn trafod beth y mae hyn yn ei olygu i bwerau ym maes ynni a’r amgylchedd yng Nghymru, ac mae hefyd yn tynnu sylw at y gwahanol agweddau ar ddatganoli pwerau ar ôl gadael yr UE.

Datganoli – y model ‘rhoi pwerau’ presennol

Mae’r setliad datganoli presennol yn seiliedig ar fodel ‘rhoi pwerau’. Yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae 21 maes datganoledig y caiff y Cynulliad ddeddfu yn eu cylch. Cyfrifoldeb y DU neu Senedd Ewrop yw popeth arall. Mae’r meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, yr amgylchedd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, cynllunio ac ynni. Er enghraifft, pasiodd y Cynulliad dri darn allweddol o ddeddfwriaeth yn ddiweddar sy’n ymwneud â’r amgylchedd, sef Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Ar hyn o bryd, rhaid i’r holl ddeddfau a basiwyd gan y Cynulliad gydymffurfio â chyfraith yr UE sydd yn arbennig o berthnasol ar gyfer yr amgylchedd gan fod cynifer o feysydd polisi yn cael eu rhannu â’r UE, gan gynnwys amaethyddiaeth, drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, a chadwraeth natur, drwy’r Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd.

Datganoli – y model ‘cadw pwerau’

Mae Deddf Cymru 2017 yn cyflwyno model o ddatganoli sy’n seiliedig ar gadw pwerau. Mae’r Ddeddf yn troi’r sefyllfa i’r gwrthwyneb; mae’n pennu’r meysydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, gan adael popeth arall  wedi’i ddatganoli i Gymru. Mae hyn yn debycach i’r sefyllfa yn yr Alban. Bydd y model cadw pwerau yn dod i rym ym mis Ebrill 2018, a bydd y model yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gymwys hyd at y dyddiad hwnnw.

Pwerau newydd i Gymru ym maes ynni a’r amgylchedd

Yn ogystal â chyflwyno’r model cadw pwerau newydd, mae Deddf Cymru 2017 yn dod â phwerau newydd i Gymru ym maes ynni a’r amgylchedd. Ni fydd y rhan fwyaf o’r newidiadau hyn yn dod i rym tan y flwyddyn nesaf, gan fod angen deddfwriaeth ychwanegol ar gyfer llawer ohonynt. Bydd Deddf Cymru 2017 yn rhoi’r canlynol i Gymru:

  • Cyfrifoldeb am drwyddedu morol yn ‘rhanbarth môr mawr’ Cymru – 12 milltir forol allan i’r llinell ganolig (sydd wedi’i gyfyngu ar hyn o bryd i ‘ranbarth y glannau’ – 0-12 milltir forol);
  • Pŵer i ddynodi ardaloedd yn rhanbarth môr mawr Cymru fel Parthau Cadwraeth Morol (sydd wedi’i gyfyngu ar hyn o bryd i ranbarth y glannau – Sgomer yw’r unig barth cadwraeth morol yng Nghymru ar hyn o bryd);
  • Pŵer i gydsynio i brosiectau ynni sy’n gallu cynhyrchu hyd at 350MW ar gyfer ynni ar y tir ac ar y glannau, gan ymestyn y terfyn 50MW presennol ar gyfer y tir ac 1MW ar gyfer y glannau. Byddai hyn yn cynnwys y morlyn llanw a gynlluniwyd ym Mae Abertawe. Ni fydd terfyn uchaf ar gyfer prosiectau ynni gwynt ar y tir;
  • Cyfrifoldeb am drwyddedu olew a nwy ar y tir, gan gynnwys echdynnu nwy siâl, ac ar gyfer pyllau glo newydd;
  • Pŵer i gydsynio i ‘ddatblygiadau cysylltiedig’ ar gyfer prosiectau ynni, er enghraifft cysylltiadau trafnidiaeth a llinellau pŵer uwchben i’r un corff sy’n gyfrifol am y prif brosiect;
  • Pŵer i wneud rheoliadau adeiladu mewn perthynas ag ‘adeiladau ynni eithriedig’ – adeiladau sy’n rhan o’r seilwaith ynni; a hefyd
  • Pŵer ychwanegol i ddeddfu dros gyflenwadau dŵr a charthffosiaeth.

Goblygiadau Brexit ar gyfer y setliad datganoli

Mae Deddf Cymru 2017 wedi dod ar adeg ddiddorol gan fod Llywodraeth y DU yn paratoi i sbarduno Erthygl 50 a dechrau’r broses ffurfiol o adael yr UE. Gan fod Cymru’n rhannu pwerau gyda’r UE, yn enwedig mewn meysydd amgylcheddol, mae cwestiynau ynghylch a fydd y setliad yn newid o ganlyniad i Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi mynegi gwahanol ddehongliadau o ran dyfodol y pwerau a rennir ar hyn o bryd rhwng Cymru a’r UE. Cyfeiriodd Llywodraeth y DU yn ei phapur gwyn ar Brexit at ddychwelyd i’r DU bwerau presennol yr UE i osod fframweithiau rheoleiddio cyffredin:

[…] even in areas where the devolved legislatures and administrations currently have some competence, such as agriculture, environment and some transport issues, most rules are set through common EU legal and regulatory frameworks, devised and agreed in Brussels. When the UK leaves the EU, these rules will be set here in the UK by democratically elected representatives.

As the powers to make these rules are repatriated to the UK from the EU, we have an opportunity to determine the level best placed to make new laws and policies on these issues, ensuring power sits closer to the people of the UK than ever before.

Mae’r safbwynt ym mhapur gwyn Llywodraeth Cymru / Plaid Cymru ar Brexit yn hollol wahanol oherwydd bydd y pwerau sy’n dychwelyd o’r UE, os ydynt mewn meysydd datganoledig, yn dod i Gymru yn hytrach nag i San Steffan:

Ar hyn o bryd, mae amrywiol bwerau sydd eisoes wedi’u datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn cael eu gweithredu o fewn fframwaith rheoleiddiol yr UE. Mae hyn yn cynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, yr amgylchedd a datblygu economaidd. Wrth i’r DU ymadael â’r UE, pan fydd fframweithiau rheoleiddiol a gweinyddol yr UE yn peidio â bod yn berthnasol bellach, bydd y pwerau hyn yn parhau i fod wedi’u datganoli i Gymru.

Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru / Plaid Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod y goblygiadau cyfansoddiadol a’r heriau o ymadael â’r UE yn arbennig o ddwys ym maes yr amgylchedd a materion gwledig:

Mae’r meysydd polisi hyn wedi’u datganoli’n sylweddol a dros y 17 mlynedd ers cychwyn datganoli gwelwyd gwahaniaethau sylweddol yng nghyfeiriad polisi gwahanol rannau’r DU.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi cyfeiriodd Prif Weinidog y DU at ddatganoli a phwysigrwydd fframweithiau’r DU a marchnad sengl fewnol:

… we are discussing with the devolved Administrations the whole question of the UK framework and devolution of issues as they come back from Brussels. The overriding aim for everything that we do when we make those decisions is to ensure that we do not damage the important single market of the United Kingdom, a market which I remind the right hon.

Mae Cymru heddiw’n wynebu cwestiwn allweddol sef a fydd her i ethos Papur Gorchymyn Llywodraeth y DU, Pwerau at Bwrpas: Tuag at setliad datganoli sy’n para i Gymru, pan fydd y DU yn gadael yr UE.

Cymru’n arwain y ffordd ar ailgylchu

10 Mawrth 2016

Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Caniau diod alwminiwm wedi'u didoli, yn barod i gael eu hailgylchu.

Llun: o Flickr gan Scott Mcpherson. Dan drwydded Creative Commons.

Ar 28 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr ystadegau ailgylchu diweddaraf ar gyfer Cymru, sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2016. Gan barhau â’r duedd ar i fyny, gwnaeth y gyfradd gyfunol o wastraff trefol awdurdodau lleol sy’n cael ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio gynyddu i 62 y cant ar gyfer y 12 mis hyd at ddiwedd mis Medi 2016, o’i gymharu â 58 y cant ar gyfer y 12 mis hyd at ddiwedd mis Medi 2015.

Yn y 12 mis hyd at ddiwedd mis Medi 2016:

  • Yr awdurdod lleol â’r gyfradd ailgylchu uchaf oedd Ceredigion (70%). Blaenau Gwent oedd a’r gyfradd isaf (52%);
  • Cafwyd gwelliant sylweddol mewn nifer o awdurdodau, yn benodol Merthyr Tudful (cynnydd o 13%) a Sir y Fflint, Wrecsam a Phowys (cynnydd o 10% ym mhob awdurdod);
  • Cafwyd dirywiad ym mherfformiad ailgylchu un awdurdod lleol, sef Caerdydd, lle gwelwyd gostyngiad o 2% yn y gyfradd ailgylchu i 57%; ac
  • Os yw’r awdurdodau gwledig yn cael eu grwpio gyda’i gilydd, maent yn parhau i ddangos y gyfradd ailgylchu uchaf.

Mae’r ystadegau ar wastraff a reolir gan awdurdodau lleol yn Lloegr, sydd i’w gweld ar wefan Llywodraeth y DU, yn dangos mai 44% oedd cyfanswm y cyfraddau ailgylchu ar gyfer 2015/16, sy’n is na’r gyfradd o 45% a gafwyd yn 2014/15.

Er bod y ffigurau ailgylchu yn dangos cynnydd boddhaol i Gymru, gwelwyd cynnydd yng nghyfanswm gwastraff trefol awdurdodau lleol a gynhyrchir yng Nghymru. Cynyddodd nifer y tunelli o 3 y cant o’i gymharu â’r chwarter cyfatebol yn 2015, o 411,000 i 425,000.

Tuag at Ddyfodol Diwastraff

Mae strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, yn pennu targed o ailgylchu/compostio 70% o’r gwastraff trefol a gynhyrchir erbyn 2024-25. Mae nifer o Dargedau Ailgylchu Statudol gofynnol ar gyfer y blynyddoedd interim (a bennwyd ym Mesur Gwastraff (Cymru) 2010): 58% erbyn 2015-16 a 64% erbyn 2020. Mewn perthynas â’r targed presennol o 58%, yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae Caerdydd a Blaenau Gwent wedi methu â bodloni’r safon ofynnol. Gallai methu â bodloni’r targedau hyn arwain at ddirwy o £200 y dunnell am bob tunnell o wastraff y mae’r awdurdod lleol yn methu ei hailgylchu. Fodd bynnag, hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi codi dirwyon ar awdurdodau sy’n tanberfformio.

Mewn ymateb i gwestiwn yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mawrth, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ei bod wrthi’n adolygu’r targedau ailgylchu er mwyn eu gwneud yn fwy uchelgeisiol. Dywedodd mai ei nod oedd i Gymru arwain y byd o ran ei pherfformiad ailgylchu.

Y ‘Glasbrint Casglu’

Fel rhan o’i chynllun gwastraff trefol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei glasbrint casglu, a gafodd ei adolygu’n annibynnol gan gwmni Eunomia Research and Consulting yn 2016. Mae’r glasbrint yn disgrifio’r dull gweithredu a argymhellir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer casglu gwastraff o gartrefi, gyda’r nod o sicrhau cyfraddau ailgylchu uwch yn ogystal ag arbedion cost. Canfu’r adolygiad fod y glasbrint yn parhau i gynnig manteision clir o ran cost ac ansawdd deunydd, yn ogystal â’i effaith ar berfformiad ailgylchu.  Mae’r model a argymhellir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer casglu gwastraff o gartrefi yn cynnwys:

  • Casglu deunyddiau ailgylchu sych ar wahân bob wythnos drwy ‘ddidoli ar garreg y drws’, casglu deunyddiau ar wahân mewn blychau a/neu sachau eildro, gyda dau neu fwy o flychau’n cael eu rhoi i bob cartref, a staff casglu’n rhoi’r deunyddiau ailgylchu mewn rhannau gwahanol o’r cerbyd casglu;
  • Casglu gwastraff bwyd bob wythnos ar wahân;
  • Defnyddio cerbydau modern ysgafn â rhannau gwahanol i allu casglu deunyddiau ailgylchu sych a gwastraff bwyd ar yr un pryd; a
  • Chasglu gwastraff gweddilliol bob yn ail wythnos, o gasgliadau â biniau du llai o faint, a lle na chaniateir rhoi gwastraff y tu allan i’r bin.

Nid oes gofyn i awdurdodau lleol ddilyn y glasbrint, ond mae Llywodraeth Cymru yn argymell glynu wrtho er mwyn cyflawni’r cyfraddau ailgylchu gorau posibl. Mae amrywiaeth mawr ledled Cymru o ran arferion ailgylchu ac o ran pa mor aml y caiff gwastraff gweddilliol ei gasglu, er bod y mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol yn casglu gwastraff i’w ailgylchu yn wythnosol. Mae rhai awdurdodau lleol wedi symud i drefniant lle maent yn casglu sbwriel bob tair wythnos, a hynny er mwyn annog aelwydydd i ailgylchu mwy. Mae llawer o awdurdodau wedi gosod cyfyngiadau ar faint o wastraff gweddilliol y gellir ei roi allan i’w gasglu. Mae’r camau hyn wedi ennyn gwrthwynebiad mewn nifer o ardaloedd, gydag aelwydydd yn gwrthwynebu’r drefn o gasglu sbwriel yn llai aml.