Sut y dylai Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru weithio?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 15 Mawrth, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC)  Cafodd y Pwyllgor fod llawer i gytuno ag ef wrth graffu ar gynigion Llywodraeth Cymru, ond gwnaeth y Pwyllgor 10 argymhelliad i helpu i sicrhau bod anghenion seilwaith Cymru yn cael eu diwallu yn awr ac yn y dyfodol.

Parhau i Ddallen

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru: beth ydyw a phryd y bydd ar gael?

24 Chwefror 2017

Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun o Bont Britannia ar draws culfor y Fenai

Mae’r dull o ran cynllunio defnydd tir strategol yng Nghymru yn newid. Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn cyflwyno dwy lefel newydd o gynllun datblygu, a fydd yn eistedd uwchben y Cynlluniau Datblygu Lleol presennol:

  • Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sy’n cwmpasu Cymru gyfan. Bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn nodi polisïau Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a defnyddio tir mewn cyd-destun gofodol, ac yn disodli Cynllun Gofodol Cymru; a
  • Chynlluniau Datblygu Strategol – mae’r rhain yn gynlluniau rhanbarthol a fydd yn eistedd rhwng y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a Chynlluniau Datblygu Lleol mewn rhai rhannau o Gymru, a byddant yn ymdrin â materion sy’n torri ar draws nifer o ardaloedd awdurdod cynllunio lleol (ond nad ydynt o arwyddocâd cenedlaethol).

Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol; gellir darllen mwy am Gynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol yn ein papur briffio ar bolisi cynllunio lleol (PDF 1MB) ac ym Mhrosbectws Cynlluniau Datblygu Llywodraeth Cymru.

Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn nodi fframwaith defnydd tir 20 mlynedd ac yn cael ei adolygu o leiaf bob pum mlynedd. Yn wahanol i Gynllun Gofodol Cymru, bydd y Fframwaith yn cael statws cynllun datblygu, sy’n golygu bod yn rhaid i bob Cynllun Datblygu Strategol a Chynllun Datblygu Lleol gydymffurfio ag ef. Mae Llywodraeth Cymru yn crynhoi diben y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol fel a ganlyn;

  • yn nodi lle y mae angen twf a seilwaith o bwysigrwydd cenedlaethol a sut y gall y system gynllunio gyflawni hyn;
  • yn creu cyfeiriad ar gyfer Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol;
  • yn cefnogi penderfyniadau ceisiadau o dan drefn Datblygiadau o Arwyddocâd Bwysigrwydd Cenedlaethol; gellir darllen mwy am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn ein papur briffio ar Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (PDF 614KB);
  • yn ategu Polisi Cynllunio Cymru, sy’n disgrifio polisïau cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru a bydd yn parhau i osod y cyd-destun ar gyfer cynllunio defnydd tir; ac
  • yn cyd-fynd â strategaethau economaidd, trafnidiaeth, amgylcheddol, tai, ynni a diwylliannol cenedlaethol ac yn sicrhau y gall y rhain gael eu cyflawni drwy’r system gynllunio.

Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft gael ei ystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn cyhoeddi’r Fframwaith terfynol.

Bydd gan y Cynulliad 60 diwrnod (heb gynnwys y toriad) i ystyried y Fframwaith drafft. Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried unrhyw benderfyniad neu argymhellion a wneir gan y Cynulliad, neu unrhyw un o’i bwyllgorau, wrth benderfynu a ddylai’r Fframwaith drafft gael ei ddiwygio.

Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad ochr yn ochr â’r Fframwaith terfynol yn amlinellu sut y mae wedi ystyried penderfyniadau neu argymhellion y Cynulliad.

Mae’r amserlen bresennol (isod) yn dangos y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft yn cael ei ystyried gan y Cynulliad ym mis Hydref – Rhagfyr 2019. Disgwylir i’r Fframwaith terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2020.

Galw am dystiolaeth a phrosiectau

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn galw am dystiolaeth a phrosiectau (7 Rhagfyr 2016 i 7 Mawrth 2017) er mwyn helpu i lywio datblygiad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am brosiectau a thystiolaeth ar lefel genedlaethol a fydd yn helpu Cymru i gyrraedd ei hamcanion cenedlaethol amrywiol. Mae’n rhoi’r canlynol fel enghreifftiau a allai fod yn berthnasol i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol:

  • astudiaethau Cymreig sy’n edrych ar y potensial i greu ynni adnewyddadwy, materion cysylltedd rhwng gwahanol rannau o Gymru neu faterion amgylcheddol sy’n berthnasol i sawl rhanbarth; a
  • materion sy’n ymwneud ag ardal lai ond sy’n bwysig i’r genedl, megis gorsafoedd pŵer neu gynefinoedd sy’n bwysig i’r genedl.

Caiff tystiolaeth a phrosiectau a gyflwynir eu hystyried yng nghyd-destun y system cynllunio datblygiad ac yn erbyn y saith nod llesiant, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r ddogfen ymgynghori yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion am y dystiolaeth a’r prosiectau a gyflwynir, a hefyd yn cyhoeddi crynodeb o’i hasesiad ohonynt. Fodd bynnag, ni cheir amserlen ar gyfer pryd y bwriedir i hyn gael ei wneud.

Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd

Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd yn nodi sut y bydd yn ymgynghori â’r cyhoedd wrth ddatblygu’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Cyhoeddwyd y ddogfen hon ym mis Tachwedd 2016 yn dilyn ymgynghoriad yn nechrau 2016.

Mae’r Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd yn dangos y bydd dau gyfnod 12 wythnos arall o ymgynghori cyhoeddus, cyn i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft gael ei ystyried gan y Cynulliad.

Mae’r amserlen lawn ar gyfer y Fframwaith fel a ganlyn:

ndf-table_welsh

A yw cynllun Llywodraeth Cymru i ganiatáu i bobl ifanc deithio ar fysiau’n rhatach yn newid cyfeiriad?

13 Chwefror 2017

Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

flikr_micolo_j

Llun an Flickr gan Micolo J. Trwydded Creative Commons.

Mae adroddiadau yn y cyfryngau wedi awgrymu bod cynllun fyngherdynteithio Llywodraeth Cymru, sy’n cynnig gostyngiadau i bobl ifanc 18-16 oed i deithio ar fysiau yng Nghymru, ar fin cael ei ddileu. Fodd bynnag, mae datganiadau a wnaed yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn dangos nad yw wedi cyrraedd diwedd y daith eto, o bosibl.

Mae’r erthygl hon yn esbonio cefndir y cynllun a sut y mae’n gweithredu, ac yn trafod datganiadau diweddaraf Ysgrifennydd y Cabinet.

Pam y cafodd y cynllun ei gyflwyno?

Yn nhymor yr hydref 2014, daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad er mwyn iddynt gefnogi cyllideb ddrafft y Llywodraeth. Un agwedd ar y cytundeb oedd cyflwyno cynllun teithio rhatach i bobl ifanc.

Felly, lansiwyd fynghynllunteithio ym mis Medi 2015,  fel cynllun peilot am18 mis a dyrannwyd cyllid o £15m i’w roi ar waith.

Daw’r cynllun peilot presennol i ben ar 31 Mawrth, 2017.

Sut y mae’r cynllun yn gweithio ar hyn o bryd?

Mae fyngherdynteithio yn cynnig gostyngiad o draean pris tocynnau bws arferol, er y gall rhai gweithredwyr gynnig gostyngiadau ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau bws lleol sy’n gweithredu dim ond yng Nghymru neu os yw’r daith yn cychwyn neu’n gorffen yng Nghymru. Mae gwasanaeth siwrneiau hir TrawsCymru yn rhan o’r cynllun hefyd.

I fod yn gymwys ar gyfer y cerdyn, rhaid i ymgeiswyr:

  • fod rhwng 16 a 18 oed, gan gynnwys y ddau oedran; a rhaid i’w
  • prif gartref fod yng Nghymru (gan gynnwys y rhai sy’n astudio yng Nghymru, ar yr amod eu bod yn byw yma).

Traveline Cymru, y gwasanaeth sy’n rhoi gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ymdrin â’r ceisiadau, Rhoddir cerdyn â llun i’r defnyddwyr a rhaid iddynt ei ddangos wrth brynu tocyn.

Mae manylion ynghylch sut i wneud cais am gerdyn ar gael ar wefan fyngherdynteithio.  Gellir gwneud ceisiadau ar-lein, drwy’r post neu dros y ffôn.  Nid yw’r cardiau a ddosbarthwyd yn ystod y cyfnod peilot wedi costio dim i’r defnyddwyr, ar wahân i’r gost o ddarparu llun maint pasbort at ddibenion adnabod.  Nid oes angen iddynt ddangos prawf o’u hoedran na’u cyfeiriad wrth wneud cais, ond mae’n bosibl y caiff eu manylion eu cadarnhau gan drydydd parti ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae gwefan fyngherdynteithio yn cynnwys cwestiynau cyffredin sy’n rhoi rhagor o wybodaeth.

Felly, beth sy’n digwydd i’r cynllun yn awr?

Ychydig iawn sydd wedi ymuno â’r cynllun. Amcangyfrifir y gallai tua 110,000 o bobl ifanc fanteisio ar y cynllun, ond erbyn canol mis Ionawr 2017 cyfanswm y cardiau a ddosbarthwyd  ers lansio’r cynllun oedd tua 8,300.

Ar 18 Hydref 2016, ar ôl iddo wneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn am ddyfodol gwasanaethau bysiau yng Nghymru, bu Ysgrifennydd y Cabinet yn ateb cwestiynau a dywedodd mai nifer gyfyngedig oedd wedi ymuno â’r cynllun. Dywedodd y dylid manteisio ar bob cyfle i dynnu sylw ato. Tynnodd sylw hefyd at rôl y sector bws ei hun yn y gwaith o farchnata cyfleoedd i deithio’n rhatach

Dri mis yn ddiweddarach, ym mis Ionawr 2017, roedd adroddiadau yn y cyfryngau yn awgrymu na fydd y cynllun yn parhau ar ôl i’r cyfnod peilot ddod i ben. Yn ôl ffynonellau Lywodraeth Cymru, penderfynwyd gwneud hyn ar ôl dadansoddi ffigurau a oedd yn dangos nad oedd pobl ifanc yn defnyddio’r cerdyn i deithio’r tu hwnt i’w hardal leol.

Fodd bynnag, wrth ymateb i gwestiwn yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Ionawr 2017,  dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno “cynllun olynol”:

I remain very keen that there should be a legacy scheme after the current mytravelpass ends on 31 March. My officials have had encouraging discussions with representatives of local authorities and with the confederation of bus operators. I’m optimistic that I will be able to confirm the details of the successor programme very soon.

….this was a pilot scheme, and therefore something that we can learn from. And we have learnt from it. The fact of the matter is that uptake was not as high as we would’ve wished, which is why I’m very keen for the successor programme to reach more young people across Wales. I believe it’s something in the region of 10,000 young people who took advantage of the mytravelpass scheme; I would wish to see that number grow far more with the scheme that will emerge, which I’m hoping to announce within the coming weeks.

Mae pobl ifanc yng Nghymru a gweithredwyr bysiau yn aros yn eiddgar am gyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet.

A fydd cynlluniau peilot a phrisiau tocynnau trên yn ffafriol i deithwyr o’r diwedd?

09 Chwefror 2017

Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

cc_train

Llun Flickr gan Elliot Brown. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.

Ar 1 Chwefror cyhoeddodd y Grŵp Cyflawni o ran Rheilffyrdd (RDG), corff y diwydiant rheilffyrdd sy’n cynnwys yr holl weithredwyr cludo teithwyr a nwyddau ym Mhrydain, ynghyd â Network Rail a HS2, gyfres o gynlluniau peilot ar brisiau tocynnau trên a gwelliannau eraill (Saesneg yn unig). Roedd y RDG yn awgrymu bod posibilrwydd y gallai’r rhain sicrhau prisiau symlach a’r fargen orau bosibl i gwsmeriaid bob tro y maent yn teithio.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddi cynllun gweithredu o ran gwybodaeth am brisiau a materion tocynnau trên (Saesneg yn unig) ar y cyd gan yr Adran Drafnidiaeth, RDG, Which? a Transport Focus (y corff gwarchod annibynnol dros ddefnyddwyr trafnidiaeth) ym mis Rhagfyr 2016.

Mae prisiau a materion tocynnau wedi achosi cur pen i deithwyr rheilffordd ledled Prydain ers tro byd. Er na fydd y cynlluniau peilot ynddynt eu hunain, o bosibl, yn effeithio ar Gymru yn uniongyrchol, os byddant yn llwyddiannus mae’n debygol y bydd y cynlluniau peilot hyn yn arwain at newidiadau ar draws y rhwydwaith yn y dyfodol, fel y caiff masnachfreintiau rheilffyrdd eu hadnewyddu. Disgwylir gwelliannau i beiriannau tocynnau a gwefannau hefyd yn ystod 2017, a all arwain at fanteision mwy uniongyrchol.

Felly beth yw’r broblem?

Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddyletswydd statudol o dan y Ddeddf Rheilffyrdd 1993 i wneud yn siŵr bod prisiau tocynnau trên yn rhesymol, i amddiffyn drwy faterion tocynnau ac i hyrwyddo’r defnydd o wasanaethau a ddarperir gan fwy nag un gweithredydd. Caiff hyn ei gyflawni drwy “reoleiddio prisiau tocynnau” drwy gytundebau masnachfraint, a “rheoleiddio materion tocynnau” drwy gytundebau ar draws y diwydiant a gaiff eu gorfodi gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR), rheoleiddiwr y diwydiant, fel amod o’r trwyddedau gweithredu.

Mae rhagor o fanylion am y trefniadau hyn ar gael yn atodiad A o ddogfen Adran Drafnidiaeth y DU a gyhoeddwyd yn 2012 Adolygiad o Brisiau a Materion Tocynnau Trên: Ymgynghoriad cychwynnol (Saesneg yn unig).

Mae’r RDG yn esbonio sut y bydd y treialon arfaethedig yn mynd i’r afael ag effeithiau’r rheoliadau hyn:

The trials will be designed to establish the changes needed to regulation and processes so that train companies can offer customers simpler, easy to use fares. Decades-old government rules covering rail fares, originally intended to protect customers but introduced before the internet and online booking, have prevented train companies from being more flexible in offering tickets that customers want.

Bu cymhlethdod prisiau a materion tocynnau rheilffordd yn achosi problemau ers blynyddoedd. Ym mis Mehefin 2012 cyhoeddodd Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd ddogfen ar Brisiau a materion tocynnau – gwybodaeth a chymhlethdod (Saesneg yn unig). Roedd canfyddiadau’r adroddiad hwn yn cynnwys, bod mwy na hanner y teithwyr a holwyd o’r farn bod cael y tocyn gwerth gorau “yn dipyn o loteri”, roedd 45 y cant yn meddwl bod y system yn rhy anodd i’w deall, tra bod 41 y cant wedi prynu tocynnau ac wedi darganfod yn ddiweddarach y gallent fod wedi gwneud yr un daith am gost is. Nid oedd bron dri-chwarter yr holl bobl a holwyd yn gwybod yn hyderus ynghylch beth oedd amseroedd y tocynnau ‘teithio ar adegau tawel’.

Yn yr un modd, canfu gwaith ymchwil ansoddol ar Ddefnyddioldeb peiriannau gwerthu tocynnau (TVM) (Saesneg yn unig), a gyhoeddwyd gan Transport Focus yn 2010, er bod y mwyafrif helaeth (72 y cant) o deithwyr “yn fodlon â chyfleusterau prynu tocynnau mewn gorsafoedd”, roedd rhai teithwyr yn parhau i gael problemau. Roedd y problemau hyn yn cynnwys cynllun gwael o ran sgrîn y peiriant, dilyniannu sgrîn dryslyd a chymhleth, a dryswch ynghylch dilysrwydd tocynnau a chyfyngiadau, ac felly bod teithwyr yn aneglur ynghylch pa opsiynau sy’n cynnig y tocyn gwerth gorau iddynt.

Ym mis Hydref 2016, cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol ar Drafnidiaeth, Tŷ’r Cyffredin, yr adroddiad Dyfodol y rheilffyrdd: Gwella profiad teithwyr rheilffyrdd (Saesneg yn unig), sef y diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau sy’n ystyried prisiau a materion tocynnau dros y degawd diwethaf.  Roedd yr adroddiad yn disgrifio rhwystredigaethau teithwyr ‘:

Particular bugbears include use of ambiguous terms such as “London Terminals” and “Any Permitted” in relation to destinations and routes; “split-ticketing”, by which cross-country journeys can often be made more cheaply by purchasing a series of tickets between intermediate stations on the journey; and ticket vending machines that do not always offer the full range of ticketing information or the cheapest available fares.

Mae llywodraethau olynol y DU wedi addo y byddant yn symleiddio prisiau tocynnau trên. Addawyd ym Mhapur Gwyn y llywodraeth Lafur, Darparu system Reilffordd Gynaliadwy (Saesneg yn unig), ym mis Gorffennaf 2007 i’w gwneud yn haws i deithwyr benderfynu pa bris yw’r un cywir ar gyfer eu taith, cael ymdeimlad o ran prisiau, ac i ddarganfod a oes yna ddewis rhatach ar gael. Cynhaliodd Llywodraeth ddiwethaf y DU adolygiad o brisiau a thocynnau, a chyhoeddi ei chanfyddiadau yn “Camau nesaf” (Saesneg yn unig) ym mis Hydref 2013.

Beth sy’n digwydd ar hyn o bryd?

Cyhoeddwyd gwybodaeth am dri chynllun peilot i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion:

  • Tocynnau hollt: Mae RDG yn dweud y bydd cynllun “pris gorau i ben y daith” yn cael ei brofi gyda Threnau CrossCountry sydd, ar hyn o bryd, oherwydd rheoliadau, yn gorfod prisio tocynnau i ben y daith ar gyfer cysylltiadau teithiau hir iawn, hyd yn oed ble y gall cwsmeriaid guro’r pris hwnnw drwy gyfuno gwahanol fathau o docynnau. Mae manylion ynghylch pa lwybrau penodol a gaiff eu cynnwys yn y treial yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd, a byddant yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir;
  • Prisio ar sail taith Sengl: Bydd yn cael ei brofi ar y llwybrau Llundain-Glasgow a Llundain-Caeredin. Ar hyn o bryd, mae llawer o docynnau sengl ar y llwybrau hyn yn costio llawer mwy na 50 y cant o bris tocyn dychwelyd. Dywed y RDG y bydd y cynllun peilot yn profi prisio taith sengl “fel bod cwsmeriaid bob amser yn gwybod beth yw’r pris rhataf ar gyfer eu taith o ddewis, i fynd a dod yn ôl”; a
  • Newidiadau o ran llwybrau: Bydd y llwybr Llundain-Sheffield yn cael ei “ail-wampio i adlewyrchu’r hyn sydd ar gael mewn gwirionedd”, lle, ar hyn o bryd y mae prisiau sy’n amlwg yn anaddas, ond rhaid iddynt barhau i gael eu cynnig, ac mae hyn yn creu dryswch ac yn cynnig gwerth gwael am arian. Dywed y RDG:

Regulations [on this route] date back to when the direct service was much less frequent and journeys often needed a change of train via a longer route. This means that tickets are required to be available which are not in step with actual options available now.

Yn ddiweddar, mewn erthygl ar y treialon roedd y cylchgrawn masnach Passenger Transport wedi nodi enghraifft o’r materion sydd i’w datrys gan y cynllun peilot o ran llwybr Llundain-Sheffield. Roedd yn tynnu sylw at y ffaith, er bod gwasanaeth uniongyrchol i Sheffield o orsaf St Pancras, gall gwasanaeth o orsaf Kings Cross, sy’n newid yn Doncaster, gynnig dewis arall. Ond er gwaetha’r ffaith ei bod yn cymryd mwy o amser ac fod angen newid trên ar y daith, mae rheoliadau o ran prisiau yn golygu bod y llwybr Kings Cross yn ddrutach.

Yn ychwanegol at y tri threial, mae’r RDG wedi amlygu camau a nodir yn y cynllun gweithredu ar y cyd i wneud peiriannau a gwefannau prynu tocynnau trên yn haws i’w defnyddio, drwy roi ‘gwell gwybodaeth i gwsmeriaid ac i’w gwneud yn symlach i ddod o hyd i’r tocyn cywir am y pris cywir’. Mae’r cynllun gweithredu yn egluro y bydd y newidiadau yn cynnwys enwau a diffiniadau clir ar docynnau, dull ar-lein i chwilio am esboniad ar gyfyngiadau, ac opsiynau ar gyfer dod o hyd i’r pris rhataf.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd y tri threial yn dechrau ym mis Mai 2017, gydag amrywiaeth o welliannau i beiriannau a gwefannau gwerthu tocynnau yn dechrau yn y gwanwyn 2017, ac a gaiff ei gyflwyno’n ehangach yn ystod y flwyddyn. Bydd gweithgor yn adolygu cynnydd yn erbyn y camau gweithredu yn fisol, a chyhoeddir adroddiad interim yn Adroddiad Defnyddwyr Blynyddol y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ym mis Gorffennaf 2017, ac adroddiad terfynol ym mis Rhagfyr 2017.

Heb amheuaeth, bydd teithwyr rheilffordd yn gobeithio gweld gwelliannau mawr yn dilyn y cynlluniau peilot. Ar ôl cymaint o drafod dros gynifer o flynyddoedd, bydd teithwyr a’r diwydiant fel ei gilydd yn gobeithio y bydd y cynllun gweithredu yn sicrhau y caiff teithwyr flwyddyn newydd dda yn 2018.

Y cynnig i ostwng y tollau ar gyfer Croesfannau’r Hafren

20 Ionawr 2017

Erthygl gan Sean Evans, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

severen

Llun o Flickr gan Ashley Coates. Trwydded Creative Commons.

Ar 13 Ionawr 2017, lansiodd Adran Drafnidiaeth y DU a Swyddfa Cymru ymgynghoriad ar gynigion i ostwng prisiau’r tollau ar Groesfannau’r Hafren. Mae’r ymgynghoriad yn casglu sylwadau ar y cynigion i gyflwyno tollau rhatach, newidiadau rheoleiddio, ffioedd gostyngol y tu allan i’r oriau brig a chodi tâl heb rwystro ar lif y traffig cyn i Groesfannau’r Hafren ddychwelyd i eiddo’r cyhoedd rywbryd ddiwedd 2017 neu ddechrau 2018.

Beth yw cefndir y cynigion hyn?

Dyfarnwyd cytundeb consesiwn i Severn River Crossing PLC (SRC) ym 1990 a gychwynnodd ym mis Ebrill 1992 ac sy’n gweithredu’n unol â darpariaethau Deddf Pontydd Hafren 1992. Mae’r cytundeb yn awdurdodi SRC i gasglu tollau o’r ddwy bont hyd nes y cesglir swm penodol o refeniw (£1,029 biliwn yw’r swm a nodwyd yn unol â phrisiau mis Gorffennaf 1989) yn cael ei gynhyrchu neu ar gyfer uchafswm o 30 mlynedd (pa un bynnag a ddaw gyntaf). Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn disgwyl i refeniw’r croesfannau gyrraedd y swm penodol ddiwedd 2017 neu ddechrau 2018, ac y bydd y pontydd yn dychwelyd i eiddo’r cyhoedd (Llywodraeth y DU) bryd hynny.

Beth sy’n cael ei gynnig?

Yn hytrach na chael gwared ar y tollau ar ddiwedd y cytundeb consesiwn, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu “dileu’r categori pris uchaf am faniau a bysiau bach, a haneru’r tollau i bob cerbyd”, sy’n “gam o bwys” a fydd yn “gwneud gwahaniaeth positif i gymudwyr, teithwyr, ac i berchenogion busnesau bach” ym marn Llywodraeth y DU.

Mae’r cynigion ymgynghori (PDF 559KB) yn cynnwys disodli’r doll bresennol o £6.70, ar gyfer ceir a cherbydau categori 1 eraill, a chodi ffi o £3.00 yn ei lle, yn ogystal â chynnwys bysiau a faniau bach yng nghategori 1, gan eu bod yng nghategori 2 ar hyn o bryd ac yn talu toll o £13.40. Cynigir gostwng y doll ar gyfer cerbydau mawr yng nghategori 3 o £20.00 i £10.00.

Mae’r newidiadau arfaethedig wedi’u nodi yn y tabl isod:

tollcy

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid talu toll sy’n cynyddu’n flynyddol yn unol â chwyddiant er mwyn defnyddio’r croesfannau. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno Gorchymyn Codi Tâl yn lle hyn, o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000, a fydd yn “newid statws cyfreithiol y taliad… o doll i dâl i ddefnyddwyr ffordd”. Mae’n awgrymu y bydd y newid hwn o ran statws yn ei gwneud yn haws iddi “leihau’r swm y bydd defnyddwyr yn ei dalu”. Yn ystod y trafodaethau yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2017, mynegodd Aelodau’r Cynulliad bryderon ynghylch y cynigion i godi tâl ar ddefnyddwyr y ffordd a’r sail gyfreithiol ar gyfer hynny. Nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, ei fod yn faes cyfreithiol cymhleth iawn a bod Llywodraeth Cymru o blaid diddymu’r tollau ar sail economaidd yn unig.

Pa effeithiau a ragwelir ar draffig yn sgil y cynigion?

Mae’r rhagolygon traffig a gomisiynwyd gan yr Adran Drafnidiaeth ac a ddisgrifir yn yr ymgynghoriad yn awgrymu y byddai gostwng y tollau yn cynyddu faint o draffig sy’n defnyddio’r Croesfannau hyd at 17 y cant erbyn 2028.

Gan ymateb i hyn, mae Llywodraeth y DU yn ystyried mesurau i leihau’r amser y mae’n ei gymryd i gasglu’r tollau a “ffyrdd o reoli’r effaith hwn, gan gynnwys… y dewisiadau ar gyfer codi tâl ar lif dirwystr a chodi tollau yn ystod y dydd yn unig”. Mae’r ystyriaethau pellach yn cynnwys talgrynnu prisiau’r tollau i rifau cyfan o bunnoedd a pharhau â system Severn TAG, sy’n rhoi gostyngiad o tua 50 y cant.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn tynnu sylw at bryderon Llywodraeth y DU ynghylch effaith y cynnydd mewn tagfeydd traffig ym Mryste ac ar hyd yr M4 yng Nghymru, ond mae’n awgrymu y “byddai gostwng y tollau o 50% yn rhoi cyfle i ni asesu’r effaith… y cynnydd yn llif y traffig.” Yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2017, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith am bryderon ynghylch effeithiau traffig sy’n cael ei fodelu gan nodi bod angen sicrhau bod y gwaith modelu a wneir ar gyfer llif traffig yn gywir ac y bydd ei farn ar y gwaith modelu a wnaed a’r effeithiau cymunedol ehangach yn cael ei chynnwys yn ei ymateb i’r ymgynghoriad.

Ar gyfer beth y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu defnyddio refeniw’r Croesfannau?

Mewn llythyr at Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol, dywedodd y Gweinidog Gwladol dros Drafnidiaeth, John Hayes AS, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS, na fydd taliadau a gesglir yn sgil y cynigion yn cael eu defnyddio at unrhyw ddiben ac eithrio cefnogi’r gwaith o weithredu a chynnal a chadw’r croesfannau, ac ad-dalu’r ddyled a ysgwyddwyd gan drethdalwyr y DU wrth atgyweirio diffygion ar y Croesfannau. Roedd y llythyr yn rhoi sicrwydd hefyd y bydd y Llywodraeth yn monitro prisiau’r tollau’n agos gyda’r bwriad o gyflwyno gostyngiadau pellach os oes modd yn y dyfodol. Ceir datganiad tebyg yn y ddogfen ymgynghori sy’n dweud y bydd refeniw’r tollau yn “cael ei adolygu i weld a ellir eu gostwng ymhellach.”

Beth am y syniad o ddiddymu’r tollau?

Cafwyd cefnogaeth i’r syniad o ddiddymu’r tollau’n llwyr pan fydd y Croesfannau’n dychwelyd i eiddo’r cyhoedd. Roedd Cynnig diweddar gan Mark Reckless AC yn nodi bod y Cynulliad yn cefnogi diddymu’r tollau, ac fe’i trafodwyd yn y Cynulliad ar 16 Tachwedd 2016. Cafodd y cynnig ei dderbyn fel y’i diwygiwyd gyda 45 o Aelodau’n pleidleisio o blaid y cynnig, 0 yn erbyn ac 1 yn ymatal.

Mae Llywodraeth y DU yn dadlau y byddai diddymu’r tollau yn peryglu dyfodol y Croesfannau ac yn amcangyfrif y bydd angen talu costau cynnal a chadw a chostau gweithredu blynyddol o tua £15 miliwn. Fodd bynnag, mae’r rhai sy’n ceisio diddymu’r tollau wedi beirniadu’r cynnig i barhau â’r tollau, gan awgrymu bod gwneud hynny’n gyfystyr â threthu Cymru mewn ffordd na fyddai’n cael ei chaniatáu o dan y ddeddfwriaeth bresennol.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Arup i ymchwilio i effaith tollau’r Hafren ar economi Cymru. Yn ôl adroddiad Arup (PDF 3.48MB) (2013), mae’r gwaith modelu economaidd yn awgrymu y gallai diddymu’r tollau roi hwb i economi de Cymru drwy sicrhau 0.48 y cant yn fwy o werth ychwanegol gros blynyddol, neu tua £107 miliwn. Er i’r adroddiad nodi y dylid bod yn ofalus wrth gyfrifo union werth y cynnydd mewn gwerth ychwanegol gros, dangosodd hefyd fod yr effeithiau anuniongyrchol yn golygu bod effaith gyffredinol y doll [atal y potensial o ran gwerth ychwanegol gros] yn fwy na chost uniongyrchol y doll [cynnal a chadw a chostau gweithredu]. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn awgrymu, er bod “y syniad gael gwared ar y tollau ac ariannu gweithredu a chynnal a chadw… trwy’r cynnydd dilynol mewn refeniw o drethiant cyffredinol yn ddamcaniaeth ddeniadol”, nid oes “unrhyw warant y byddai’r Llywodraeth yn adfer swm cyfatebol i’r refeniw tollau a gollir trwy drethiant cyffredinol”.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn nodi bod angen adennill costau o £63 miliwn a ysgwyddwyd ganddi yn ystod cyfnod y cytundeb consesiwn. Yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2017, mynegodd Ysgrifennydd y Cabinet siom nad yw Llywodraeth y DU yn ystyried dileu’r ddyled honno, fel y gwnaeth yn achos croesfan Humber, a dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn erbyn parhau â’r tollau. Yn y ddadl ynghylch y Cynnig ym mis Tachwedd 2016, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd y dylid diddymu’r tollau cyn gynted â phosibl, gan leddfu’r baich ar yr economi a dileu’r bygythiad sylweddol y maent yn ei gynrychioli o ran masnachu yn sgil y bleidlais i adael yr UE.

Roedd adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar doll Croesfannau’r Hafren (2010) yn awgrymu y gellid lleihau’r doll i un rhan o bump o’i lefel bresennol, i tua £1.50 a chaniatáu i’r croesfannau gyllido eu hunain ar yr un pryd. Roedd yr adroddiad yn argymell na ddylai Llywodraeth y DU gael ei themtio i ddefnyddio’r croesfannau fel ‘peiriant pres’. Mae ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i ymchwiliad presennol y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i ddyfodol croesfannau’r afon Hafren yn nodi y dylai’r tollau fod yn nwylo Llywodraeth Cymru ac y gallai caniatáu i gerbydau deithio heb godi unrhyw ffi arwain at hwb i gynhyrchiant o dros £100 miliwn y flwyddyn.