Dyfodol ynni Cymru

25 Tachwedd 2016

Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r byd datblygedig yn symud oddi wrth ffynonellau ynni ‘budr’ a thuag at greu ynni mewn ffyrdd mwy amrywiol. Gyda chyfreithiau newydd a chytundebau rhyngwladol ar newid yn yr hinsawdd yn gefndir, sut y gall Cymru ymateb i’r her?

Mae cyfyngu ar newid yn yr hinsawdd drwy leihau’n sylweddol faint o garbon a gaiff ei ryddhau i’r atmosffer yn un o’r heriau mawr sy’n wynebu’r byd.

Y sector cyflenwi ynni yw un o’r allyrwyr nwyon tŷ gwydr mwyaf yng Nghymru. Os ydym am gyflawni ymrwymiadau rhyngwladol a domestig i leihau allyriadau (gweler yr erthygl ar newid yn yr hinsawdd), un ffordd o symud i’r cyfeiriad cywir yw ystyried sut y caiff ynni ei gynhyrchu, ei gyflenwi a’i drosglwyddo. Mae hyn yn elfen allweddol wrth fynd i’r afael â’r broblem driphlyg sy’n ein hwynebu, sef beth sy’n fforddiadwy, sicrhau cyflenwad digonol, a sut mae rhyddhau llai o garbon.

Cyd-destun Cymru

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ymrwymo Cymru i allyrru 80 y cant yn llai o nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Roedd y rhestr ddiweddaraf o nwyon tŷ gwydr yng Nghymru yn dangos bod cyflenwi ynni wedi cyfrannu 42% at gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr 2013. Prif ffynonellau yr allyriadau oedd gorsafoedd pŵer (76%) a phurfeydd olew (16%).

Os yw Cymru am newid i ddyfodol ynni glanach, gwyrddach a chynaliadwy, mae’n rhaid i ynni adnewyddadwy fod yn fwy blaenllaw. Mae’r Bil Cymru arfaethedig yn debygol o roi rhagor o bwerau cydsynio i Lywodraeth Cymru ar brosiectau ynni. Ar adeg pan fo llawer o brosiectau ynni mawr ar y gorwel, a rhai ohonynt yn destun cryn ddadlau, gallai’r Pumed Cynulliad fod yn drobwynt yn ein hagweddau tuag at ddatblygiadau ynni.

Mater o gydbwysedd

Mae’r model ynni cyfredol yng Nghymru yn defnyddio cyfuniad o ffynonellau adnewyddadwy ac anadnewyddadwy. Nid yw dibynnu ar danwydd ffosil yn gynaliadwy yn y tymor hir, a bydd angen datblygu ffynonellau adnewyddadwy er mwyn cyrraedd targedau Llywodraeth y DU a’r UE ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn ogystal ag er mwyn sicrhau bod cyflenwad digonol o danwydd ar gael.

Mae gan Gymru adnoddau naturiol helaeth, gan gynnwys daearyddiaeth a thopograffeg sy’n addas ar gyfer amrywiaeth eang o dechnolegau ynni adnewyddadwy. Fodd bynnag, mae gwahanol safbwyntiau ynghylch i ba raddau y bydd angen denu mewnfuddsoddiad ar gyfer prosiectau ynni mwy yn y dyfodol, ynteu a fydd atebion lleol, ynghyd â chamau i arbed ynni, yn ddigon er mwyn i Gymru i gael y rhan fwyaf o’r ynni sydd ei angen arni.

Bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru wneud ei safbwynt yn glir tuag at gefnogi ar y naill law brosiectau mawr fel datblygiadau niwclear newydd, morlynnoedd llanw, ffermydd gwynt, gwelliannau i’r grid a rhyngysylltyddion, ac ar y llaw arall gynlluniau lleol a chymunedol fel prosiectau micro-hydro, ynni biomas, ynni haul a gwynt.

Y fframwaith deddfwriaethol

Bydd sicrhau’r cyfuniad cywir o ynni yn y dyfodol yn allweddol i gyflawni’r ymrwymiadau ar newid yn yr hinsawdd a geir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn ogystal ag i gyflawni’r uchelgais ar gyfer datblygu cynaliadwy sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

O dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, un newid pwysig yw cyflwyno categori newydd o ganiatâd cynllunio ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol. Yn y dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu’n uniongyrchol ar geisiadau ar gyfer y datblygiadau hyn os ydynt yn brosiectau cynhyrchu ynni rhwng 10MW a 50MW. Yn sgil newidiadau cyfreithiol diweddar a wnaed yn Lloegr, gall Llywodraeth Cymru benderfynu ar bob cais sy’n ymwneud â ffermydd gwynt ar y tir, waeth beth yw ei faint.

Disgwylir y bydd y Bil Cymru arfaethedig yn rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ar bob prosiect ynni mawr arall hyd at 350MW ar y tir ac ar y môr (Llywodraeth y DU sy’n penderfynu ar y rhain ar hyn o bryd).

Polisïau Llywodraeth ddiwethaf Cymru

Yn 2012, amlinellodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru ei gweledigaeth ar gyfer ynni yn Ynni Cymru: Newid carbon isel. Yn 2015, cyhoeddwyd Twf Gwyrdd Cymru: Ynni Lleol, yn amlinellu agwedd y Llywodraeth at ynni lleol. Yn fwy diweddar, lansiodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd, y Gwasanaeth Ynni Lleol. Nod y gwasanaeth hwn yw rhoi cymorth technegol ac ariannol i fentrau bach a chanolig, yn ogystal â mentrau cymdeithasol, i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy.

Trawsnewid y sefyllfa ynni

Cynhaliodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad ddau ymchwiliad mawr yn ymwneud ag ynni. Roedd y cyntaf, Polisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru, yn ystyried sut mae trefniadau datganoli ar gyfer polisi ynni a chynllunio yn effeithio ar y gallu i gael y cyfuniad o ynni y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno’i weld yn y dyfodol. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod y sector ynni yn hanfodol bwysig i Gymru, a bod potensial enfawr ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy yma.

Roedd yr ail ymchwiliad, Dyfodol Ynni Craffach i Gymru?  yn adeiladu ar y gwaith hwn. Roedd ei argymhellion ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru yn cynnwys y canlynol:

  • mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth, a dylai’r polisi helpu Cymru i gael ei holl ynni domestig o ffynonellau adnewyddadwy;
  • dylid rhoi pwys ar arbed ynni, ar leihau’r galw, ac ar ddefnyddio rheoliadau adeiladu wrth annog newid;
  • dylai Cymru achub ar gyfleoedd i ddylunio lleoedd mwy craff sy’n integreiddio seilwaith trafnidiaeth, ynni a chyfathrebu mewn ffyrdd arloesol, a hynny’n gwella lles ac yn lleihau allyriadau carbon;
  • gallai gosod mesurau i arbed ynni yn y stoc dai bresennol wneud cyfraniad mawr, a bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru fel Nyth ac Arbed yn allweddol;
  • dylid sefydlu Cwmni Cyflenwi Ynni di-elw yng Nghymru; a
  • dylid sicrhau bod polisïau cynllunio a’r broses o wneud penderfyniadau yn cyd-fynd â’r weledigaeth ar gyfer polisi ynni’r dyfodol. Mae angen i bolisïau cynllunio cenedlaethol a lleol hefyd annog gostyngiadau mewn allyriadau carbon.

Barn y Pwyllgor oedd fod pawb yng Nghymru yn rhannu’r cyfrifoldeb dros newid i ddyfodol ynni craffach. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y fframwaith deddfwriaethol eisoes gennym er mwyn lleihau allyriadau carbon, annog cyflenwadau ynni lleol a chynyddu cyflenwadau ynni adnewyddadwy. Roedd y Pwyllgor o’r farn bod yn rhaid i Gymru, o fewn y polisi a’r fframwaith deddfwriaethol ffafriol hwn, a chyda hwb gan y Llywodraeth a phob sector arall, achub ar y cyfleoedd i newid ein hagwedd tuag at ynni unwaith ac am byth.

Ffynonellau allweddol

Trethi datganoledig a’r fframwaith cyllidol

4 Gorffennaf 2016

Erthygl gan Christian Tipples, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Money

Llun gan Pixabay. Trwydded Creative Commons.

Trethi datganoledig yng Nghymru

Ar 1 Ebrill 2018, bydd treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi yn cael eu datganoli’n llwyr i Gymru (PDF, 693KB). Enwau’r trethi newydd hyn i Gymru fydd y dreth trafodiadau tir (PDF, 760KB) a’r dreth gwarediadau tirlenwi (PDF, 1.03MB).

Mae’n fwriad gan Lywodraeth y DU hefyd i ddatganoli’r ardoll agregau a datganoli treth incwm yn rhannol (PDF, 322KB) i Gymru er nad yw’n glir beth yw’r amserlenni. Pan fydd y trethi i gyd wedi cael eu datganoli, rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn codi tua 25% o’i chyllideb ei hun yn uniongyrchol, gyda’r 75% sy’n weddill yn dod trwy grant bloc Cymru, sef cyllid a ddyrennir i Gymru gan Lywodraeth y DU.

Mae hon yn gyfran sylweddol o’i chymharu â’r 6.6% a godir gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Bydd angen addasu grant bloc Cymru o ganlyniad i ddatganoli pwerau i godi trethi. Rhan hanfodol o’r broses o ddatganoli pwerau newydd i godi trethi ac o roi mwy o atebolrwydd ariannol i Lywodraeth Cymru fydd yr angen am fframwaith cyllidol i Gymru.

Mae’n hanfodol bod y system a gytunir ar gyfer Cymru yn deg, neu gellid cael effaith sylweddol ar gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Beth yw fframwaith cyllidol?

Mae’n cynnwys yr holl drefniadau, gweithdrefnau, rheolau a sefydliadau sy’n sail i gyflawni polisïau cyllidebol llywodraeth gyffredinol

Pam mae ar Gymru angen fframwaith cyllidol?

Fframwaith cyllidol yw’r rheolau a’r sefydliadau a ddefnyddir i osod a chydlynu polisi cyllidol. Mae’n cynnwys dwy elfen allweddol (PDF, 1MB)

  • rheolau cyllidol
  • sefydliadau cyllidol

Mae’n sefydlu rheoliadau yn ymwneud â materion fel:

  • y rhyngweithio rhwng polisi cyllidol Cymru a’r DU
  • addasiadau i’r grant bloc ar gyfer Cymru
  • lefelau diffyg a therfynau dyled Cymru
  • lefelau benthyca Llywodraeth Cymru
  • rhagolygon cyllidol.

Bydd fframwaith o’r fath yn sefydlu’r ffiniau y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithredu oddi mewn iddynt ar ôl datganoli trethi i Gymru.

Sut y bwriedir trafod a chytuno ar fframwaith cyllidol?

Mae hyn yn aneglur ar hyn o bryd o ystyried nad yw’r trafodaethau ond megis dechrau. Fodd bynnag, gallai’r Alban fod yn enghraifft dda i edrych arni o ystyried bod Llywodraeth yr Alban wedi cwblhau trafodaethau’n ddiweddar â Llywodraeth y DU ynglyn â’i fframwaith cyllidol ei hun. Cymerodd dros un mis ar ddeg i gwblhau’r trafodaethau, sy’n dangos pa mor gymhleth yw cytuno ar fframwaith cyllidol addas.

Beth yw’r heriau tebygol wrth gytuno ar fframwaith cyllidol?

Nodwyd amrywiaeth o bryderon gan Lywodraethau’r Alban a’r DU a bydd y rhain yn berthnasol i Lywodraeth Cymru wrth gynnal trafodaethau am fframwaith cyllidol i Gymru.

Yr egwyddorion

Arweiniwyd y trafodaethau gan gyfres o egwyddorion a amlinellir yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Smith (PDF, 399KB). Y Comisiwn hwn oedd yn gyfrifol am argymell rhagor o bwerau i’w datganoli i Senedd yr Alban. Dwy egwyddor allweddol y canolbwyntiwyd arnynt ystod y trafodaethau oedd yr egwyddor dim niwed a thegwch i drethdalwyr.

Ffaith allweddol

Roedd Llywodraeth yr Alban yn pwysleisio’r egwyddor dim niwed tra bod Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar degwch i drethdalwyr yn ystod y trafodaethau.

Yr egwyddor ‘dim niwed’

Cynigiodd Comisiwn Smith (PDF, 399KB) na ddylai cyllidebau Llywodraeth yr Alban na Llywodraeth y DU newid o ganlyniad i’r penderfyniad i ddatganoli rhagor o bwerau i Senedd yr Alban. Byddai angen i’r fframwaith cyllidol felly sicrhau canlyniadau sy’n gyson â’r egwyddor hon er mwyn gweithredu fframwaith teg i’r ddwy Lywodraeth.

Mae’n debygol y bydd trafodaethau ar fframwaith cyllidol Cymru yn dilyn yr un egwyddorion, gyda Llywodraethau Cymru a’r DU yn sicrhau nad oes yr un o’r ddwy ochr yn waeth eu byd o ganlyniad i ddatganoli trethi i Gymru.

Tegwch i drethdalwyr

Dywedodd Comisiwn Smith hefyd (PDF, 1MB) na ddylai newidiadau mewn trethi sy’n berthnasol i weddill y DU yn unig, ond effeithio ar wariant yng ngweddill y DU. Yn yr un modd, ni ddylai newidiadau mewn trethi sy’n berthnasol i’r Alban yn unig, ond effeithio ar wariant yn yr Alban. Pe byddai’r egwyddor hon yn cael ei thanseilio, byddai angen i Lywodraeth yr Alban neu’r DU ad-dalu’r llall yn dibynnu ar ba Lywodraeth sydd wedi gwneud y penderfyniad.

Addasiad i’r grant bloc

Un rhwystr mawr i’r ddwy Lywodraeth oedd yr addasiad i grant bloc yr Alban ac yn benodol sut y gellid mynegrifo addasiadau i gyfrif am dwf yn y boblogaeth yn y dyfodol. Daeth papur a baratowyd dan arweiniad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid i’r casgliad a ganlyn:

it is impossible to design a block grant adjustment system that satisfies the spirit of the ‘no detriment from the decision to devolve’ principle at the same time as fully achieving the ‘taxpayer fairness’ principle: at least while the Barnett Formula remains in place.

Daethpwyd o hyd i gyfaddawd gan fod y ddwy ochr yn anghytuno ynglŷn â’r model gorau ar gyfer addasu’r grant bloc. Byddai’r addasiad i’r grant bloc yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio ‘Model cymaradwy’ Llywodraeth y DU tra’n cyflawni canlyniad y model yr oedd Llywodraeth yr Alban yn ei ffafrio dros gyfnod trosiannol o bum mlynedd.

Bydd hwn yn faes allweddol i Lywodraeth Cymru yn y trafodaethau, o ystyried y bydd y model yn chwarae rôl hanfodol wrth benderfynu cyfran sylweddol o gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Y boblogaeth

Wrth ystyried model priodol ar gyfer addasu’r grant bloc, un testun pryder allweddol i Lywodraeth yr Alban oedd twf yn y boblogaeth (PDF, 503KB). O ystyried bod y boblogaeth yn tyfu’n arafach yn yr Alban nag yng ngweddill y DU, roedd Llywodraeth yr Alban yn ymwybodol o’r angen i gytuno ar fodel a oedd yn rhoi ystyriaeth i dwf cymharol yn y boblogaeth. Byddai hyn yn amddiffyn cyllideb yr Alban rhag effeithiau twf arafach yn y boblogaeth.

Ai’r addasiad i grant bloc yr Alban yw’r ateb ar gyfer Cymru?

Yn y gorffennol mae’r boblogaeth hefyd wedi tyfu’n arafach yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol. Fodd bynnag, yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r cynnydd mewn derbyniadau incwm wedi bod yn sylweddol arafach nag yn y DU.  Y prif reswm am hyn yw polisi Llywodraeth y DU o gynyddu’r lwfans personol sy’n golygu bod llawer o bobl sydd ar incwm is wedi rhoi’r gorau i dalu treth incwm.

Mae astudiaeth ddiweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru (PDF, 612KB) wedi dangos y byddai cyllideb Llywodraeth Cymru wedi gostwng dros £100 miliwn y flwyddyn erbyn 2013-14 pe byddai treth incwm wedi cael ei datganoli yn 2010-11. Bydd yn hanfodol, felly, cytuno ar fodel sy’n ystyried y sefyllfa unigryw yng Nghymru.

Cyllid gwaelodol

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn Natganiad yr hydref a’r Adolygiad o Wariant yn 2015 mai isafswm y cyllid i Gymru fyddai 115% o wariant cymharol y pen yn Lloegr. Bydd hyn mewn grym tan ddiwedd tymor seneddol presennol y DU. Un elfen bwysig o’r trafodaethau i Lywodraeth Cymru fydd y dull o integreiddio hyn â’r fframwaith cyllidol.

Dyfodol teithio ar y rheilffyrdd

16 Mehefin 2016

Erthygl gan Joseph Champion. Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn 2018, Llywodraeth newydd Cymru fydd yn gyfrifol am roi’r fasnachfraint nesaf ar gyfer rheilffordd Cymru a’r Gororau. Beth yw’r prif faterion sydd angen sylw?

Bydd y pwerau i roi masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a’r Gororau yn cael eu datganoli i Gymru yn 2017. Mae hyn yn golygu mai Llywodraeth newydd Cymru fydd yn dewis pwy fydd yn cael masnachfraint rheilffyrdd fwyaf Cymru.

Masnachfraint Cymru a’r Gororau

Ffynhonnell y Ddelwedd: Llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y Ddelwedd: Llywodraeth Cymru.

Gan Trenau Arriva Cymru y mae masnachfraint bresennol Cymru a’r Gororau, a hynny tan 2018 (mae opsiwn i ymestyn y fasnachfraint honno am gyfnod byr os oes angen).

Ddechrau 2016, cynhaliodd Llywodraeth flaenorol Cymru ymgynghoriad ar y fasnachfraint newydd. Roedd yr ymgynghoriad yn galw am farn pobl am yr hyn y dylai gwasanaeth Cymru a’r Gororau fod yn ei ddarparu, ac am y manylebau penodol y dylai gweithredwr y fasnachfraint eu bodloni. Nododd y ddogfen y byddai cynigion manylach yn cael eu datblygu yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad ac ar ôl holi barn y diwydiant rheilffyrdd a’r cyhoedd ymhellach.

Nid yw’n glir eto beth fydd hyd y fasnachfraint nesaf, a chymysg yw’r farn am yr hyd gorau. Cwestiynodd adolygiad gan Lywodraeth y DU pa mor fuddiol yw masnachfreintiau hir os mai annog buddsoddi a lleihau risg yw’r nod, gan rybuddio yn erbyn masnachfreintiau hwy na 15 mlynedd heb gymalau i’w terfynu. Ar y llaw arall, roedd y rhan fwyaf o’r rhai a ymatebodd i ymgynghoriad Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad i Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau o’r farn y byddai masnachfreintiau hwy yn annog mwy o fuddsoddi.

Mae ansicrwydd hefyd ynghylch union natur masnachfraint Cymru a’r Gororau yn y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn adolygu’r llwybrau rheilffyrdd sy’n croesi’r ffin, ac y bydd y rhai sy’n gwasanaethu marchnadoedd yn Lloegr yn bennaf yn debygol o gael eu trosglwyddo i fasnachfreintiau yn Lloegr. Mae hyn wedi achosi pryder oherwydd yr effaith bosibl ar deithwyr, a allai orfod newid trên ar y ffin. Mae pryderon hefyd a fydd y fasnachfraint yn fforddiadwy os caiff y gwasanaethau sy’n croesi’r ffin – gwasanaethau sy’n gwneud arian – eu colli.

Dywedodd Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU wrth y Pwyllgor Menter a Busnes ym mis Medi 2015 na fyddai Llywodraeth Cymru yn dioddef yn ariannol pe bai llwybrau’r masnachfreintiau yn cael eu newid. Roedd ansicrwydd ynghylch sut y byddai gwasanaethau Lloegr yn cael eu diffinio, yn ogystal â sut y byddai Llywodraeth Cymru’n cael ei digolledu’n ariannol pe bai gwasanaethau’n diflannu o’r fasnachfraint.

Bydd angen datrys yr ansicrwydd hwn yn fuan er mwyn lleddfu pryderon y cyhoedd ac er mwyn i Lywodraeth newydd Cymru symud ymlaen â’r broses o roi’r fasnachfraint nesaf.

Masnachfreintiau rheilffyrdd Cymru

Yn ogystal â masnachfraint Cymru a’r Gororau, mae gan dair masnachfraint arall wasanaethau yng Nghymru:

– de Cymru i Lundain ac arfordir de Lloegr (Great Western Railway);

– Caergybi i Birmingham neu Lundain (Virgin Trains); a

– Caerdydd i ganolbarth Lloegr (CrossCountry Trains).

Traffig teithwyr ar y rheilffyrdd yng Nghymru

Yn 2014-15, gwnaed 29.3 miliwn o deithiau ar draws y pedair masnachfraint rheilffyrdd yng Nghymru – 9.4 miliwn yn fwy nag yn 2004-5. Disgwylir i’r twf hwn barhau, gyda Network Rail yn rhagweld y bydd traffig cymudwyr i Ddinas-ranbarth Caerdydd yn cynyddu 68% erbyn 2023. Bydd yn rhaid i Lywodraeth newydd Cymru sicrhau bod y sawl sy’n cael y fasnachfraint nesaf yn gallu delio â’r cynnydd hwn mewn galw.

Y Metro

Bydd prosiect Metro’r De yn effeithio ar natur masnachfraint Cymru. Y Metro yw prosiect Llywodraeth flaenorol Cymru i ‘ddarparu gwasanaethau cyflymach, mwy cyson a mwy unedig gan ddefnyddio trenau, bysiau a rheilffyrdd ysgafn’. Erbyn 2030, y gobaith yw y bydd y Metro wedi cynorthwyo i greu 7,000 o swyddi a chyfrannu £4 biliwn ychwanegol i’r economi.

Roedd Cyfnod 1 prosiect y Metro yn cynnwys amrywiaeth o welliannau i ffyrdd a rheilffyrdd, gan gynnwys: ymestyn y rheilffordd i ganol Glynebwy ac adeiladu gorsaf newydd; gwella’r capasiti ar reilffordd Maesteg; ac adeiladu gorsaf newydd yn Pye Corner, Casnewydd.

Roedd costau Cyfnod 1 tua £75 miliwn. Erbyn 2016, roedd yr holl brosiectau a oedd yn rhan o’r Cyfnod hwn naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill. Disgwylir cwblhau Cyfnod 2 erbyn 2023, ac amcangyfrifir y bydd yn costio £500-600 miliwn. Bydd yn canolbwyntio ar foderneiddio Cledrau’r Cymoedd a rhwydwaith rheilffyrdd ehangach y de, yn bennaf drwy eu trydaneiddio. Mae’n aneglur o hyd ai cerbydau trwm neu ysgafn fydd yn cael eu defnyddio ar Gledrau’r Cymoedd. Bydd y penderfyniad hwn yn cael effaith ar raddfa a chwmpas Cyfnod 3, a fydd yn para y tu hwnt i 2023.

Mae Llywodraeth flaenorol Cymru wedi trafod, fel rhan o’r Metro, a fyddai modd i gwmni preifat reoli Cledrau’r Cymoedd fel consesiwn, a hynny yn rhan o fasnachfraint Cymru a’r Gororau. Trafodwyd hefyd ddull arloesol lle byddai seilwaith Cledrau’r Cymoedd hefyd yn cael ei bennu a’i weithredu gan ddeiliad y consesiwn.

Cerbydau

Mae’r cerbydau a ddefnyddir gan fasnachfraint bresennol Cymru a’r Gororau o safon isel, a bydd angen buddsoddi’n sylweddol ynddynt. Erbyn Ionawr 2020, bydd hefyd angen i gerbydau gydymffurfio â’r rheolau newydd ar fynediad i bobl anabl. Yn 2013, ni fyddai 73% o gerbydau Cymru a’r Gororau wedi cydymffurfio â’r rheolau hyn.

Mae sawl opsiwn ar gyfer cael cerbydau gwell, gan gynnwys prynu stoc newydd neu stoc wedi’i hadnewyddu, uwchraddio’r stoc bresennol, neu brydlesu stoc gan gwmnïau preifat. Dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru ei bod am i’r broses o wneud cais am y fasnachfraint nesaf gynnwys yr angen i gael strategaeth cerbydau.

Gall gymryd cryn amser i gael cerbydau newydd, gyda rhai’n awgrymu y dylid dechrau’r broses bedair blynedd cyn bod eu hangen. Bydd yn bwysig gwneud penderfyniadau cyflym, felly.

Trafnidiaeth Cymru

Yn 2014, creodd Llywodraeth flaenorol Cymru gwmni di-ddifidend o’r enw Trafnidiaeth Cymru. Ym mis Chwefror 2016, dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd, ei bod yn disgwyl i’r cwmni weithredu yn debyg i Transport for London.

Trafnidiaeth Cymru fydd y prif gorff strategol ar gyfer trafnidiaeth yn y wlad. Bydd yn rhoi consesiynau i gwmnïau sydd am redeg gwasanaethau, gan gynnwys rheilffyrdd, ac yn arwain y gwaith o roi masnachfreintiau. Mae disgwyl mai’r corff hwn felly fydd yn arwain y broses o roi masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a chonsesiwn Cledrau’r Cymoedd.

Ffynonellau Allweddol:

Mynd i’r afael â’r epidemig gordewdra

15 Mehefin 2016

Erthygl gan Rebekah James, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Traed rhywun sy’n sefyll ar dafol

Llun o Pixabay dan drwydded Creative Commons

A hithau’n wynebu epidemig gordewdra, a fydd Llywodraeth newydd Cymru yn barod i fynd i’r afael ag un o heriau iechyd cyhoeddus mwyaf ein hoes, ynteu a yw’n faes rhy gymhleth?

Mae gordewdra yn un o brif achosion marwolaethau y gellir eu hatal yng Nghymru. Ynghyd â’r cyflyrau iechyd sy’n dod law yn llaw â gordewdra, mae’n rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau iechyd ac yn costio £73 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru. Mae’r ffigur hwn yn codi i bron £86 miliwn os caiff pobl dros bwysau eu cynnwys hefyd.

Mae gordewdra yn cynyddu’r risg o gael clefyd y galon a gall gyfrannu at gyflyrau cronig fel diabetes math 2, rhai mathau o ganser, pwysedd gwaed uchel, dystroffi’r cyhyrau ac iselder. Gall gordewdra effeithio ar les unigolion, ar ansawdd bywyd ac ar y gallu i ennill cyflog. Gall plant gordew gael problemau iechyd ac maent yn fwy tebygol wedyn o fod yn oedolion gordew.

Er bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi cymryd camau i geisio mynd i’r afael â’r cyflwr, nid yw lefelau gordewdra i’w gweld yn gostwng ar hyn o bryd. Mae deiet gwael a diffyg ymarfer corff yn ffactorau pwysig, ond mae cysylltiad hefyd rhwng gordewdra ac amddifadedd: mae lefelau gordewdra yn uwch mewn ardaloedd difreintiedig gan gynnwys Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot.

CY-Obesity1

Nifer yr achosion o ordewdra

Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru 2014, roedd 22% o oedolion yng Nghymru yn cael eu hystyried yn ordew a 58% o oedolion yn cael eu hystyried dros bwysau neu’n ordew. Mae hyn yn uwch na’r ffigur o 54% pan gyhoeddwyd yr arolwg cyntaf yn 2003/04.

Mae nifer yr oedolion sydd dros bwysau ac yn ordew yn codi o 53% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig i 61% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Mae’r darlun ymhlith plant Cymru yr un mor heriol. Dengys Rhaglen Mesur Plant Cymru 2013/14 bod 27.3% o blant dros bwysau neu’n ordew.

Mae nifer yr achosion hyn yn codi yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig hefyd, o 22.2% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig i 28.5% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Y ffigur ar gyfer plant blwyddyn derbyn (4-5 oed) yng Nghymru oedd 26.5% – sy’n uwch nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr, lle’r oedd y nifer uchaf o achosion yn 24%.

CY-Obesity2

Mynd i’r afael â’r broblem

Yn 2010 lansiodd Llywodraeth Cymru Lwybr Gordewdra Cymru Gyfan, yn nodi sut y byddai’n ceisio atal a thrin gordewdra ymhlith plant ac oedolion:

CY-Obesity3

Mae achosion gordewdra yn gymhleth, a gall gynnwys ffactorau meddygol, cymdeithasol ac economaidd. Ceisiodd Llywodraeth flaenorol Cymru fynd i’r afael â’r gwahanol ffactorau gydag amrywiaeth o bolisïau a deddfwriaeth, gan ganolbwyntio ar fwyta’n iach a gweithgarwch corfforol. Roedd y rhain yn cynnwys: Ein Dyfodol Iach; Newid am Oes; MEND; Deddf Teithio Llesol Cymru (2013); Creu Cymru Egnïol; Blas am Oes a Dringo’n Uwch.

Mae camau diweddar sydd wedi’u crybwyll gan wleidyddion a gweithwyr iechyd fel atebion posibl yn cynnwys treth ar ddiodydd llawn siwgr a gwahardd hysbysebion bwyd a diod sy’n cynnwys llawer o fraster, halen a siwgr. Yn 2016 lansiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru restr 10 cam i fynd i’r afael â gordewdra ymysg plant.

Pryderon am y cynnydd

Mae pobl wedi beirniadu’r Llwybr Gordewdra, gan honni nad yw wedi cael ei weithredu’n gyflawn a bod diffyg gwasanaethau lefel 3. Bu galwadau hefyd am arweiniad cenedlaethol cliriach i fynd i’r afael â’r broblem.

Cynhaliodd pwyllgorau yn y Pedwerydd Cynulliad ymchwiliadau i wasanaethau bariatrig a gordewdra ymysg plant. Cododd y ddau ymchwiliad bryderon am lwyddiant y Llwybr Gordewdra a’r diffyg cysondeb wrth roi hwnnw ar waith. Yn 2014, canfu adolygiad o’r Llwybr bod holl fyrddau iechyd Cymru yn darparu gwasanaethau lefel 1 a 2, ond mai anghyson oedd darpariaeth lefel 3. Roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen gwneud mwy ac y byddai angen i’r Pumed Cynulliad sicrhau bod y pryderon hyn yn cael sylw.

Nid yw rhai meysydd lle y gellid gweithredu wedi’u datganoli’n llawn. Er enghraifft, cyfyngedig yw gallu Cymru i ddylanwadu ar y diwydiant bwyd a diod, ac efallai bod angen dull mwy cydlynol ar lefel y DU a’r UE i achub ar bob cyfle i fynd i’r afael â gordewdra.

Ystyriaethau ar gyfer y Pumed Cynulliad

Mae nifer o ffactorau yn effeithio ar ordewdra, gan gynnwys amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Mae pryderon hefyd bod gennym ddiwylliant o ‘normaleiddio’ gordewdra. Mae rhai’n awgrymu bod angen mwy o arweiniad cenedlaethol a bod angen i adrannau Llywodraeth Cymru weithio’n well â’i gilydd, yn enwedig o ran hyrwyddo bwyta’n iach ac ymarfer corff.

Nid yw rhai o’r camau a gymerwyd ers tro i leihau gordewdra yng Nghymru wedi cael unrhyw effaith. Bydd angen i Aelodau’r Pumed Cynulliad a Llywodraeth Cymru benderfynu pam nad oes digon o gynnydd, ac efallai ystyried dulliau newydd o geisio datrys y broblem.

Ers cyhoeddi’r erthygl uchod yn ‘Materion Allweddol ar gyfer y Pumed Cynulliad‘, mae prif ganlyniadau cychwynnol Arolwg Iechyd Cymru 2015 wedi cael eu cyhoeddi. Mae canlyniadau 2015 yn dangos bod lefelau gordewdra yng Nghymru wedi cynyddu: 24% o oedolion sy’n ordew a 59% o oedolion sydd dros eu pwysau neu’n ordew. Hefyd, gwelwyd cynnydd yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu sy’n ordew yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig; 54% yw’r ffigur yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a 63% yw’r ffigur yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Ffynonellau allweddol

Dyfodol ynni Cymru

14 Mehefin 2016