Dadl ar Setliad Terfynol yr Heddlu 2017-18

10 Chwefror 2017

Erthygl gan Sarah Hatherley ac Owen Holzinger Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

flikr_jon_candy

Llun: Flikr gan Jon Candy. Dan drwydded Creative Commons

Nid yw polisi plismona wedi’i ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn darparu elfen o’r cyllid blynyddol fel rhan o system tair ffordd sydd hefyd yn cynnwys y Swyddfa Gartref a’r dreth gyngor. Gall heddluoedd wneud cais am grantiau arbennig a phenodol hefyd a ffynonellau eraill o incwm.

O dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 gwnaeth Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Comisiynwyr) ddisodli awdurdodau’r heddlu ym mhob ardal heddlu (y tu allan i Lundain), a chynhaliwyd yr etholiadau cyntaf ym mis Tachwedd 2012. Yn fwy diweddar, cynhaliwyd etholiadau’r Comisiynwyr ochr yn ochr ag Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2016. Mae’r Comisiynwyr yn penodi’r prif gwnstabl, yn pennu blaenoriaethau plismona lleol ac yn gosod y gyllideb a phraesept y dreth gyngor.

Mae dau gam ynghlwm â setliad yr Heddlu, gyda setliad dros dro yn cael ei ryddhau yn unol â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a setliad terfynol yn unol â’r gyllideb derfynol. Ymgynghorir â’r pedwar heddlu yng Nghymru ynghylch setliad dros dro yr heddlu, cyn cytuno ar y setliad terfynol. Yna mae’n rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo’r cyllid hwn. Fel rhan o’r broses hon, trafodir y setliad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 14 Chwefror 2017.

Setliad Terfynol yr Heddlu 2017-18

Ar gyfer 2017-18, y swm cyffredinol a ddyrennir i Gomisiynwyr yng Nghymru yw £349.9 miliwn. Mae hyn yn ostyngiad o 1.4% ers setliad 2016-17 ac yn ostyngiad o 1.4% ar gyfer pob un o’r pedwar Comisiynydd. Amlinellir y cyllid cyffredinol yn nhabl 1 isod:

Tabl 1: Cyllid Refeniw yr Heddlu – Cyfanswm Cymorth Canolog

2014-15 2015-16 2016-17 2017-18
Dyfed-Powys 53.0 50.3 50.0 49.3
Gwent 76.8 72.9 72.5 71.5
Gogledd Cymru 77.1 73.2 72.7 71.7
De Cymru 169.2 160.6 159.6 157.4
Cyfanswm   376.2   356.9   354.9   349.9

O fewn y dyraniad o £349.9 miliwn, £138.7 miliwn yw elfen Llywodraeth Cymru. Gellir torri hyn lawr ymhellach a chynnwys cyllid o’r Grant Cynnal Refeniw (£85.8 miliwn) ac ardrethi annomestig (£53 miliwn). Darperir y £211.2 miliwn sy’n weddill drwy’r Swyddfa Gartref. Amlinellir y ffynonellau o gyllid yr Heddlu isod:

Grant Heddlu y Swyddfa Gartref

Yng Nghymru a Lloegr, prif ffynhonnell incwm ar gyfer heddluoedd yw grant canolog Llywodraeth y DU sydd ar gael drwy Adroddiad Blynyddol Grant Heddlu y Swyddfa Gartref. Cyllid refeniw cyffredinol yw Grant Heddlu y Swyddfa Gartref ac nid yw wedi’i neilltuo. Caiff ei dalu’n uniongyrchol i Gomisiynwyr yr Heddlu. Mae Fformiwla Dyrannu yr Heddlu yn penderfynu ar ddyraniad cronfeydd y llywodraeth ganolog rhwng 43 ardal heddlu Cymru a Lloegr. Mae’n seiliedig ar amcangyfrif o lwyth gwaith pob ardal yr heddlu, gan gynnwys gweithgarwch trosedd, digwyddiadau plismona arbennig, plismona ardaloedd tenau eu poblogaeth a ffactorau economaidd-gymdeithasol. Mae’r Swyddfa Gartref wedi adolygu ei fformiwla ariannu i’r heddluoedd yn ddiweddar, a fydd yn parhau i fod yn fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion. Fel y bu’r achos yn y blynyddoedd diweddar, mae’r Swyddfa Gartref wedi penderfynu unwaith eto i droshaenu ei fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith llawr. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael yr un gostyngiad mewn canran, sef 1.4% eleni.

Mae’r cyllid o’r prif grant yn amodol ar “leddfu”, a fydd yn ailddosbarthu £12.2 miliwn yn 2017-18 o Dde Cymru a £417k o Gwent i Ddyfed Powys (sef £5.1 miliwn ychwanegol) a Gogledd Cymru (sef £7.4 miliwn ychwanegol). Cafodd Comisiynwyr Dyfed-Powys (£3.6 miliwn) a Gogledd Cymru (2.4 miliwn) grant atodol hefyd.

Grant fformiwla Llywodraeth Cymru/Setliad Refeniw yr Heddlu

Yng Nghymru, mae’r cyllid cyfatebol a ddarparwyd yn flaenorol gan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol y DU yn Lloegr wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Mae cyllid Llywodraeth Cymru i’r Comisiynwyr yn dal i fod yn rhan o setliad cyllid llywodraeth leol ac yn cael ei dalu o dan ddarpariaethau Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac mae’n rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Praesept y dreth gyngor

Gall pob heddlu godi refeniw ychwanegol hefyd drwy braeseptau’r dreth gyngor. Y Comisiynydd a etholir ym mhob ardal heddlu sy’n penderfynu ar lefel flynyddol praesept yr heddlu, a gaiff ei ychwanegu at filiau treth gyngor preswyl. Daw cyfran fwy o gyllid yr heddlu o’r dreth gyngor yng Nghymru o gymharu â Lloegr; 37% o gymharu â chyfartaledd o 24% yn Lloegr yn 2015-16. Mae hefyd llawer llai o amrywiad rhwng yr heddluoedd yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Mae Comisiynwyr yn brif awdurdodau praesept. Er eu bod yn gosod y praesept, awdurdodau lleol sy’n casglu’r arian ar eu rhan. Yn 2016-17 roedd elfen yr heddlu o’r dreth gyngor yn cyfrif am tua 16% o gyfanswm bil treth gyngor, ar gyfartaledd, yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i gyfyngu ar gynnydd gormodol yn y dreth gyngor (a ystyrir ar y cyfan yn unrhyw beth dros 5%).

Grantiau penodol ac arbennig

Mae hefyd nifer llai o grantiau arbennig a phenodol sydd wedi’u neilltuo ar gyfer blaenoriaethau plismona cenedlaethol. Mae’r Swyddfa Gartref yn darparu cyfres o grantiau penodol ac arbennig yn ogystal â Phrif Grant yr Heddlu. Daw’r arian hwn o grŵp trosedd a phlismona terfyn gwariant adrannol y Swyddfa Gartref. Caiff rhai o’r grantiau eu hariannu drwy frigdorri Prif Grant yr Heddlu, sy’n lleihau’r arian sydd ar gael ar gyfer ariannu refeniw cyffredinol drwy Brif Grant yr Heddlu i dalu am rai grantiau penodol. Yr elfen fwyaf yw Grant Heddlu Gwrth-derfysgaeth. Mae grantiau eraill yn cynnwys Grant Arbennig yr Heddlu a Chronfa Arloesi’r Heddlu.

Incwm arall

Gall heddluoedd godi tâl am rai o’u gwasanaethau hefyd. Ceir y brif ffynhonnell incwm o ffioedd a thaliadau drwy godi tâl am wasanaethau heddlu arbennig. Gwasanaethau’r heddlu a ddarperir yn ychwanegol at blismona craidd ar gais person neu sefydliadau yw’r rhain, fel cyngherddau pêl-droed a chyngherddau. Nodir y pwerau sylfaenol i godi tâl am wasanaethau yn Neddf yr Heddlu 1996. Caiff heddluoedd eu hatal rhag gwneud elw o wasanaethau heddlu arbennig a’u hatal rhag adennill 100% o’r costau ar gyfer rhai mathau o ddigwyddiadau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut y caiff pob elfen o arian yr heddlu ei chyfrifo yn Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2017-18 (Y Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r tablau ariannol a gwybodaeth arall yn ymwneud â setliad yr heddlu ar ei gwefan.

Cyhoeddi setliad terfynol llywodraeth leol ar gyfer 2017-18

21 Rhagfyr 2016

Erthygl gan Martin Jennings a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn dilyn Cyllideb Derfynol 2017-18 Llywodraeth Cymru (a ryddhawyd ddydd Mawrth 20 Rhagfyr 2016), mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi Setliad Terfynol Llywodraeth Leol 2017-18 heddiw. Mae’r Setliad yn amlinellu’r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer pob un o 22 awdurdod lleol Cymru.

Mae’r Setliad yn gyfwerth â chyfanswm o £4.113 biliwn, sy’n gynnydd o £10 miliwn (0.2 y cant) o gymharu â Setliad Terfynol 2016-17. Dyma’r cynnydd cyntaf yn y setliad llywodraeth leol ers 2013-14.

Mae’r setliad dros dro yn cynnwys cynnydd a gostyngiadau yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol gwahanol. Y cynnydd mwyaf yw 1.1 y cant yng Ngwynedd a’r gostyngiad mwyaf yw -0.5 y cant ar gyfer tri awdurdod lleol (Wrecsam, Powys a Merthyr Tudful).

Mae’r ffeithlun isod yn rhoi dadansoddiad llawn o’r newid canrannol mewn cyllid yn ôl awdurdod lleol.

final-budget-2017-18-local-government-settlement-welsh-01

Eleni, ni fydd unrhyw awdurdod yn wynebu gostyngiad o fwy na -0.5 y cant. O’r tri awdurdod lle gwelir newid cyllid sy’n gyfwerth â -0.5 y cant, mae dau ohonynt wedi cael cyllid ychwanegol sy’n werth cyfanswm o £1.6 miliwn i sicrhau na fyddant yn wynebu gostyngiad sy’n fwy na -0.5 y cant. Nodir isod sut y dyrannwyd yr arian ychwanegol hwn:

  • Powys: £1.237 miliwn
  • Merthyr Tudful: £391,000

Y swm Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol yn 2017-18 yw £143 miliwn.

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at awdurdodau lleol, Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol 2017-18 a Setliad Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol  2017-18: Cymru gyfan – Tablau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddiad newydd: Ffermydd Awdurdodau Lleol yng Nghymru

22 Mehefin 2016

Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae ffermydd awdurdod lleol wedi bod yn fynediad i’r diwydiant ffermio i bobl ifanc am dros ganrif, ers Deddf Tyddynnod a Rhandiroedd (1908). Mae’r papur briffio hwn yn trafod nifer y ffermydd awdurdod lleol yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn rhoi crynodeb o farn rhanddeiliaid ar y mater.

Ffermydd Awdurdodau Lleol yng Nghymru (PDF, 843KB)

Dyma ddelwedd o glawr y cyhoeddiad: Ffermydd Awdurdod Lleol yng Nghymru

Cyllido llywodraeth leol

27 Mai 2016

Erthygl gan Owen Holzinger, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cafodd cyllidebau llywodraeth leol eu cwtogi’n sylweddol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Os bydd y pwysau ariannol yn cynyddu yn ystod y Pumed Cynulliad, a fydd y model cyllido yn newid?

Rhwng 2010-11 a 2014-15, bu gostyngiad o £461 miliwn mewn termau real yn y cyllid refeniw a ddyrannwyd i lywodraeth leol. Mae’r pwysau ariannol hwn wedi arwain at gwestiynau ynghylch sut y dyrennir y cyllid, ac ar lefel fwy sylfaenol, a yw’r model ariannol presennol yn ddigon cadarn i ymdopi â rhagor o straen.

Toriadau llywodraeth leol

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua 80% o gyllid awdurdodau lleol. Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, bu cwtogi sylweddol ar y cyllid hwn wrth i’r gostyngiad yng ngrant bloc Cymru effeithio ar lywodraeth leol (amcangyfrifir bod y grant hwn £1.2 biliwn yn llai mewn termau real yn 2014-15 nag yn 2010-11).

Newidiadau demograffig

Er bod y cyllid yn lleihau, mae’r pwysau ar wasanaethau lleol yn cynyddu. Mae poblogaeth Cymru yn tyfu ac mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld cynnydd tebyg yn y grwpiau oedran mwyaf dibynnol (0-15 a 65+) o gymharu â’r boblogaeth oedran gweithio

Mae’r gostyngiadau wedi effeithio’n anghymesur ar rai gwasanaethau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif bod llyfrgelloedd, gwasanaethau diwylliannol a gwasanaethau trafnidiaeth (ymhlith pethau eraill) wedi ysgwyddo toriadau o rhwng 20% a 50%, gan newid y ffordd y darperir y gwasanaethau hyn yn sylweddol. Mae gwasanaethau eraill, fel gofal cymdeithasol ac ysgolion, wedi’u diogelu.

Mae awdurdodau lleol wedi ymateb i’r toriadau yn eu cyllidebau drwy sicrhau arbedion mewnol, neu drwy atal gwasanaethau, cyfyngu ar wasanaethau neu eu gwneud yn fwy masnachol. Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi cynyddu’r dreth gyngor bob blwyddyn ers 2011 (rhwng 2010-11 a 2015-2016, mae cost cyfartalog y dreth gyngor wedi cynyddu 18% ledled Cymru).

Mae awdurdodau lleol hefyd wedi bod yn ystyried defnyddio modelau cyflawni amgen a mentrau trosglwyddo asedau cymunedol i ddarparu’r gwasanaethau hyn, boed yn rhannol neu’n gyfan gwbl. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar fframwaith cenedlaethol er mwyn gwneud penderfyniadau ar fodelau cyflawni amgen, ac wedi llunio canllawiau arfer gorau ar drosglwyddo asedau cymunedol. Efallai y gwelwn ragor o ddefnydd o’r dulliau arbed arian hyn yn ystod y Pumed Cynulliad.

Yn 2014-15, roedd gan awdurdodau lleol £832 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi a £196 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn cyffredinol. Os bydd gostyngiadau cyllid mwy eithafol yn y dyfodol, efallai y gwelir rhagor o waith craffu ar sut y defnyddir y cronfeydd hyn.

Argymhellion y Pedwerydd Cynulliad

Wrth adolygu cyllideb 2016-17 a’r setliad llywodraeth leol, argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r fformiwla cyllido.

Cynnal y fformiwla

Oherwydd y toriadau mewn cyllidebau, mae llawer wedi cwestiynu’r dull a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i ddosbarthu cyllid i awdurdodau lleol. Yr is-grŵp dosbarthu sy’n cynnal y ‘fformiwla dyrannu’ a defnyddir 68 o ddangosyddion wrth bennu setliad. Er enghraifft, mae dangosyddion sy’n ymwneud â:

  • phoblogaeth;
  • nifer y plant ac oedolion hŷn;
  • hyd ffyrdd;
  • amddifadedd; a
  • natur wledig a theneurwydd poblogaeth.

Caiff elfennau o’r fformiwla eu diweddaru bob blwyddyn, a’r tro diwethaf i’r fformiwla gael ei adolygu’n llawn oedd cyn setliad 2001-02. Mae rhai o’r cyfrifiadau yn defnyddio data o Gyfrifiad 1991 neu Gyfrifiad 2001, a mynegwyd pryder ynghylch hynny.

Yn hanesyddol, defnyddiwyd terfynau ariannu isaf, terfynau ariannu uchaf a symiau atodol i gyfyngu ar ostyngiadau yn ôl yr angen. Yn fwyaf diweddar yn 2016-17, cafodd y tri awdurdod lleol â’r gostyngiadau mwyaf grant atodol, gan olygu nad oedd unrhyw ostyngiad yn fwy na 3%. Roedd angen dyrannu £2.5 miliwn ychwanegol o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud hynny.

Mae awdurdodau gwledig wedi dadlau nad yw’r fformiwla yn rhoi ystyriaeth ddigonol i’r gost ychwanegol sydd ynghlwm wrth ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd tenau eu poblogaeth. O’r holl ddangosyddion, dim ond 6% sy’n ymwneud â theneurwydd y boblogaeth, tra bod 69% yn seiliedig ar gleientiaid (e.e. poblogaeth, niferoedd disgyblion) a 25% ar amddifadedd.

Gallai newid sylweddol yn y data arwain at sefyllfaoedd ariannu gwahanol iawn i awdurdodau o un flwyddyn i’r nesaf a byddai angen i unrhyw adolygiad ystyried sut i gymedroli gostyngiadau mawr mewn cyllid.

Hyblygrwydd a’r elfen leol

Ochr yn ochr â diwygiadau eraill, nododd Llywodraeth flaenorol Cymru fod angen adolygu’r system ariannu ar gyfer llywodraeth leol, a bod y system bresennol yn gymhleth. Dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru y byddai’n ceisio creu system sy’n rhoi mwy o ryddid i wneud penderfyniadau lleol, ymhlith pethau eraill.

Mae cyrff llywodraeth leol wedi galw am newidiadau hefyd, gan ofyn am fwy o annibyniaeth ariannol a mwy o hyblygrwydd i benderfynu sut y mae awdurdodau’n gwario’u harian. Byddai hyn yn ei gwneud yn bosibl sicrhau atebion lleol a mwy o atebolrwydd, ac ym marn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, byddai’n ategu’r gwaith arbed a’r arloesi sydd ei angen yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Gyllid Llywodraeth Leol Cymru (2016) hefyd wedi galw am fwy o hyblygrwydd.

Gallai Bil Cymru drafft roi pwerau i’r Cynulliad gynllunio ei broses ei hun ar gyfer y gyllideb ac, o bosibl, gweithredu rhai o’r argymhellion hyn. Gallai cyllideb ar ei newydd wedd gynnwys pethau fel strategaethau ariannu amlflwyddyn, yn unol â’r argymhelliad yn ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i’r arferion gorau o ran y gyllideb a chais awdurdodau lleol.  

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Hydref 2015 y bydd cynghorau yn Lloegr yn cadw 100% o’r ardrethi busnes a gesglir erbyn 2020, gallai Llywodraeth Cymru, o bosibl, ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru gadw’r ardrethi hefyd. Byddai peidio â neilltuo grantiau hefyd yn rhoi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol wrth reoli’r arian a ddyrennir iddynt.

Pwysau yn y Pumed Cynulliad

Nododd yr Adolygiad o Wariant gan Lywodraeth y DU yn 2015 y bydd grant bloc Cymru yn parhau i leihau mewn termau real wrth symud i’r Pumed Cynulliad. Yn unol â hynny, efallai bod angen i awdurdodau lleol baratoi ar gyfer toriadau tebyg yn y gyllideb i’r hyn a gafwyd yn y Pedwerydd Cynulliad, o leiaf yn y dyfodol agos.

Mae newidiadau strwythurol, fel uno’r awdurdodau, yn cynnig ateb posibl (gweler yr erthygl ar ddiwygio llywodraeth leol) ond byddai hynny’n costio arian ac nid yw lefel yr arbedion yn sicr. Wrth i’r pwysau gynyddu, bydd penderfyniadau Llywodraeth Cymru ynghylch y model ariannu yn hollbwysig i ddyfodol hirdymor ein hawdurdodau lleol.

Ffynonellau allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Diwygio llywodraeth leol

27 Mai 2016

Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Drwy gydol y Pedwerydd Cynulliad bu cryn ddadlau am ailstrwythuro llywodraeth leol. A fydd Llywodraeth newydd Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau o’r fath?  

Ers 1996, bu gan Gymru 22 o gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol (neu ‘awdurdodau lleol’ a rhoi iddynt eu henw arall). Wrth i’r hinsawdd ariannol waethygu, mae ein gwleidyddion wedi cwestiynu fwyfwy a oes angen pob un o’r cynghorau hyn arnom. Maent hefyd wedi anghytuno am y nifer gorau os derbynnir bod 22 yn ormod. Mae cryn amheuaeth, felly, a fydd gennym yr un faint o awdurdodau lleol erbyn diwedd y Pumed Cynulliad.

Wyth awdurdod posibl

Wyth awdurdod posibl

Cynlluniau’r Llywodraeth ddiwethaf

Yn 2013, sefydlodd Llywodraeth Cymru Gomisiwn Williams i edrych drwyddi draw ar sut oedd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yng Nghymru. Roedd adroddiad y Comisiwn yn un eang, ond un o’i brif gasgliadau oedd bod llawer o’n hawdurdodau lleol yn rhy fach i berfformio’n llwyddiannus. Awgrymodd y Comisiwn y dylai Llywodraeth Cymru uno’r 22 cyngor i greu rhwng 10 a 12 o awdurdodau, a bwrw ati i wneud hynny yn ddiymdroi.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar y cychwyn drwy ddweud ei bod yn ffafrio model 12-awdurdod. Newidiodd hyn ym mis Mehefin 2015 pan gyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, fap yn dangos bod Llywodraeth Cymru bellach o blaid naill ai wyth neu naw o awdurdodau.

Ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft. Byddai’r Bil drafft hwn yn rhoi’r broses uno ar waith, yn ogystal â gwneud newidiadau mawr eraill i sut mae llywodraeth leol Cymru yn gweithio. Yn ôl y Gweinidog, roedd ‘pwysau ariannol difrifol ac anghynaliadwy’ ar wasanaethau cyhoeddus yn golygu nad oedd ‘gwneud dim yn opsiwn’. Er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai’r broses uno gostio hyd at £254 miliwn, honnai hefyd y gallai arbed hyd at £915 miliwn dros 10 mlynedd, pe bai’r cyfan yn cael ei gwblhau erbyn 2020-21.

Daeth ymgynghoriad ar y Bil drafft i ben ym mis Chwefror 2016, ac ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd y Gweinidog ei fod wrthi’n dadansoddi’r ymateb. Ar ôl cael ei ethol yn Brif Weinidog ym mis Mai 2016, awgrymodd Carwyn Jones mewn adroddiadau yn y cyfryngau y gallai fod yn anodd bwrw ymlaen â model wyth neu naw awdurdod, ond dywedodd hefyd ei fod yn dal yn awyddus i ddiwygio’r drefn mewn rhyw fodd.

Yr ymateb i’r cynlluniau uno

Local Authority Boundary-Welsh-09

Naw awdurdod posibl

Argymhellodd Comisiwn Williams uno’r 22 awdurdod gan ddefnyddio’u ffiniau presennol yn sail, yn hytrach nag ail-greu map newydd sbon. Cytunai Llywodraeth ddiwethaf Cymru fod hyn yn synhwyrol, gan fynnu y byddai’n arwain at greu awdurdodau mwy o faint, a mwy effeithlon, heb achosi’r strach a allai ddeillio o newid ffiniau’r cynghorau yn fwy sylfaenol.

Roedd eraill, fel Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Pedwerydd Cynulliad, yn honni bod angen edrych ar swyddogaethau’r awdurdodau cyn penderfynu ar eu ffurf. Byddai hyn yn golygu asesu – cyn dechrau ailstrwythuro – pa fath o wasanaethau y dylai llywodraeth leol fod yn eu darparu yn y Gymru ddatganoledig. Awgrymodd y Pwyllgor mai dim ond wedyn y gellid llunio map synhwyrol a phenderfynu sawl awdurdod sydd orau. Roedd y Pwyllgor hefyd yn honni y byddai hyn yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir nag asio’r blociau presennol o gynghorau at ei gilydd.

Atebolrwydd lleol

Mae rhai sylwebwyr yn pryderu y gallai cael wyth neu naw o awdurdodau mawr danseilio atebolrwydd lleol a’r berthynas rhwng y cynghorau a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Yn y Bil drafft, roedd yn fwriad gan y Llywodraeth greu ‘pwyllgorau ardal’ i roi llais i ardaloedd o fewn y cynghorau mwy, ond mae amheuon ynghylch pa mor effeithiol y gallai hyn fod.

Mewn dogfen drafod yn 2014, cynigiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ffordd wahanol o fynd ati. Awgrymodd barhau â’r 22 awdurdod presennol er mwyn cadw ymdeimlad lleol, ond creu pedwar corff rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau pwysig. Gallai’r cyrff rhanbarthol hyn fod yn seiliedig ar yr awdurdodau cyfunol sydd yn Lloegr. Byddai hynny’n caniatáu i rai gwasanaethau gael eu darparu’n fwy effeithiol ar raddfa fawr, heb amharu ar gysylltiadau lleol.

Os bydd llai o gynghorau sir, a rheini’n fwy o faint, mae sylwebwyr eraill wedi awgrymu cryfhau’r elfen leol drwy ddiwygio a grymuso cynghorau tref a chymuned – sef haen isaf llywodraeth leol yng Nghymru.

Y berthynas rhwng y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol

Er mai materion strwythurol a daearyddol sy’n dueddol o gipio’r penawdau, mae llywodraeth leol ei hun wedi galw am newid mwy sylfaenol yn y berthynas rhyngddi hi a Llywodraeth Cymru. Mae datganoli wedi newid y ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu, felly mae’r cynghorau yn credu bod angen ailddiffinio ac edrych o’r newydd ar rôl llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau.

Yn ei dogfen O blaid atebolrwydd lleol, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn feirniadol o Lywodraeth ddiwethaf Cymru am ‘[d]datblygu ymagwedd fwy canolog’ tuag at wasanaethau cyhoeddus. Awgrymodd y dylai llywodraeth leol gael ‘y rhyddid a’r hyblygrwydd i ddarparu gwasanaethau yn ôl yr amgylchiadau lleol’. Nid oes dwywaith y bydd yn parhau i alw am hyn.

Bydd gan Lywodraeth newydd Cymru benderfyniadau mawr i’w gwneud, felly, ynghylch nifer a maint ein hawdurdodau lleol. Ond bydd hefyd yn wynebu pwysau parhaus o du’r sector am newid mwy pellgyrhaeddol maes o law.

Ffynonellau allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg