Sut y dylai Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru weithio?

14 Mawrth 2017

Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 15 Mawrth, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC)  Cafodd y Pwyllgor fod llawer i gytuno ag ef wrth graffu ar gynigion Llywodraeth Cymru, ond gwnaeth y Pwyllgor 10 argymhelliad i helpu i sicrhau bod anghenion seilwaith Cymru yn cael eu diwallu yn awr ac yn y dyfodol.

Beth yw Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a pham y dewisodd y Pwyllgor ei ystyried?

Adeiladu Pont y Werin, Caerdydd

Llun o Flickr gan Ben Salter. Dan drwydded Creative Commons.

Roedd y compact a luniwyd rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru ym mis Mai 2016 yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yng Nghymru.  Yn ôl cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y comisiwn, bydd yn gorff anstatudol sy’n darparu cyngor technegol a strategol annibynnol ac arbenigol i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith hirdymor Cymru dros gyfnod o bump i 30 mlynedd.  Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno adroddiadau rheolaidd i Lywodraeth Cymru ar seilwaith economaidd ac amgylcheddol.  Llywodraeth Cymru fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am benderfyniadau a pholisi seilwaith.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi dweud mai ei uchelgais ar gyfer CSCC yw dadwleidyddoli’r penderfyniadau dadleuol ynghylch seilwaith, a chyflymu’r gwaith o gyflwyno prosiectau allweddol.  Ym mis Hydref 2016, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai’n anelu at sefydlu CSCC erbyn haf 2017, ond mewn datganiad ysgrifenedig ar 8 Mawrth, dywedodd ei fod bellach yn anelu at ei sefydlu erbyn diwedd 2017.

Roed craffu ar y cynlluniau i sefydlu CSCC yn un o’r prif flaenoriaethau i nifer o’r rhanddeiliaid a ymatebodd i ymgynghoriad y cynhaliodd y Pwyllgor ynghylch ei flaenoriaethau yr haf diwethaf.  Roedd y prif faterion a godwyd gan randdeiliaid yn cynnwys yr angen am weledigaeth hirdymor ar gyfer seilwaith, rôl a chylch gwaith CSCC, sut y bydd yn effeithio ar brosiectau allweddol, dysgu o arfer gorau rhyngwladol, a sut y gall wella’r trefniadau cyfredol ar gyfer cyflwyno seilwaith.

Sut yr ychwanegodd gwaith y Pwyllgor at gynigion Llywodraeth Cymru?

Derbyniodd Llywodraeth Cymru chwech o argymhellion y Pwyllgor, gan dderbyn tri mewn egwyddor a gwrthod un.  Felly, dyma’r ffyrdd y mae’r Pwyllgor wedi dylanwadu ar y model ar gyfer CSCC:

  • Bydd un o Bwyllgorau’r Cynulliad yn craffu ar yr ymgeisydd a ffafrir i gadeirio CSCC mewn gwrandawiad cyn penodi, fel y gwnaeth Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar yn achos yr ymgeisydd a ffafriwyd i gadeirio Awdurdod Refeniw Cymru.
  • Bydd CSCC yn cynhyrchu adroddiad ‘Cyflwr y Genedl’ ar anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol bob tair blynedd fel na fydd cysylltiad rhwng ei waith a’r cylch gwleidyddol, a bydd yn cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n canolbwyntio ar lywodraethu, ac ar waith a fu a gwaith sydd ar y gweill. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i bob un o’r argymhellion o fewn chwe mis.
  • Bydd ei lythyr cylch gwaith blynyddol yn darparu gwybodaeth am faint y bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl y gall ei wario o ran cyllid seilwaith dros yr amserlen hiraf posibl, a hynny er mwyn rhoi cyd-destun pwysig i’r argymhellion.
  • Bydd y llythyr cylch gwaith hefyd yn annog i CSCC feithrin perthynas gref â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU ac Ymddiriedolaeth Dyfodol yr Alban i fod mor effeithiol ag y bo modd.
  • Bydd angen i benodiadau i CSCC ystyried yr amrywiaeth yng nghymunedau Cymru, a nodir ymgysylltu ar y lefel ranbarthol yn ei gylch gorchwyl.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried mecanweithiau megis y Banc Datblygu i ganolbwyntio ar sut y gellir defnyddio mwy o arian preifat i gefnogi datblygiadau seilwaith.

A beth sydd ar ôl i’w drafod?

Un o brif argymhellion y Pwyllgor oedd y byddai deddfwriaeth yn gwneud CSCC yn gorff statudol ar ôl iddo gael ei sefydlu. 

Cafodd tystiolaeth gan gyrff sy’n cynghori ar seilwaith ar lefel ffederal a gwladwriaethol yn Awstralia ddylanwad ar hyn, a dywedwyd wrth y Pwyllgor fod eu statws statudol annibynnol wedi cryfhau eu statws fel llais arbenigol ar seilwaith, ac y byddai manteision y dull hwn yn berthnasol y tu hwnt i Awstralia.

Dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU wrth y Pwyllgor fod y ffaith ei fod yn gorff anstatudol yn golygu iddo gael ei sefydlu         yn gynt, ond bod anfantais hefyd gan ei fod yn llai parhaol yng ngolwg rhanddeiliaid.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan nad yw’n ystyried y byddai rhoi CSCC ar sail statudol yn gwella ei rôl na’i gylch gwaith.  Fodd bynnag, bydd yn ystyried hyn fel rhan o adolygiad ffurfiol a gynhelir cyn diwedd y Pumed Cynulliad.

Hefyd, derbyniodd Llywodraeth Cymru dri argymhelliad mewn egwyddor.  Argymhellodd y Pwyllgor y dylid ehangu cylch gwaith CSCC i gynnwys y cyflenwad o dir ar gyfer datblygiadau tai sy’n arwyddocaol yn strategol a seilwaith ategol cysylltiedig.  Er mai seilwaith economaidd ac amgylcheddol fydd cylch gwaith CSCC ar y dechrau, fe adolygir hyn erbyn diwedd y Pumed Cynulliad.

Hefyd, roeddy  Pwyllgor am i CSCC gael ei leoli y tu allan i Gaerdydd, ac iddo rannu llety â chorff cyhoeddus arall er mwyn sicrhau costau is.  Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn ystyried hyn, a derbyn yr angen i CSCC fod yn annibynnol ar y cyrff y bydd yn rhaid iddo weithio gyda hwy.

Yn olaf, ystyriodd y Pwyllgor y dylai CSCC gael ei ystyried yn gorff cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i hyrwyddo cydweithio, ymgysylltu â’r cyhoedd ac annibyniaeth.  Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd ei gylch gorchwyl yn sicrhau ei bod yn ofynnol i CSCC gadw at egwyddorion ac amcanion y Ddeddf.  Fodd bynnag, ni fydd yn ceisio newid y Ddeddf ar hyn o bryd.

Bright sparks/Menywod disglair: dathlu menywod Cymru sy’n ymwneud â meysydd STEM

13 Mawrth 2017

Erthygl gan Jeni Spragg, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun: o Flickr gan Jared Tarbell. Dan drwydded Creative Commons.

Yr wythnos diwethaf, bu pobl ledled y byd yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, sy’n galw ar arweinwyr ac unigolion i weithredu fel hyrwyddwyr cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Heddiw yn y Senedd, bydd yr ymgyrch Menywod Mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg (WISE) yn nodi’r achlysur drwy gynnal ddigwyddiad o’r enw Dathlu Menywod Talentog yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad yn dathlu cyfraniad menywod i Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Bydd noddwr sefydliad WISE, sef Ei Huchelder Brenhinol, y Dywysoges Frenhinol, yn bresennol yn y digwyddiad. Noddir y digwyddiad gan Julie James AC, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Fe’i cynhelir flwyddyn ar ôl lansio’r adroddiad Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus.

Mae rhagor o wybodaeth am y dangosyddion sy’n ymwneud â chydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi’i chynnwys yn ein blog blaenorol.

Beth yw’r agenda STEM?

Yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaed ymdrechion sylweddol i greu gweithlu mwy cydnerth ym meysydd STEM. Cydnabyddir bod sgiliau STEM yn cynnig cyfleoedd nid yn unig i unigolion ond i’r economi yn ei chyfanrwydd hefyd.

Mae strategaeth berthnasol Llywodraeth Cymru, sef Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg mewn addysg a hyfforddiant: Cynllun Cyflawni i Gymru, yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr agenda STEM yng Nghymru.

Beth yw’r agenda STEM?

Yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaed ymdrechion sylweddol i greu gweithlu mwy cydnerth ym meysydd STEM. Cydnabyddir bod sgiliau STEM yn cynnig cyfleoedd nid yn unig i unigolion ond i’r economi yn ei chyfanrwydd hefyd.

Mae strategaeth berthnasol Llywodraeth Cymru, sef Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg mewn addysg a hyfforddiant: Cynllun Cyflawni i Gymru, yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr agenda STEM yng Nghymru.

  • Mae talent STEM yn werthfawr i economi Cymru: roedd y sector peirianneg yn gyfrifol am gyfrannu 27.1% o gynnyrch domestig gros (GDP) y DU yn 2014. Mae’n bosibl y byddai cynyddu nifer y menywod sy’n ymwneud â meysydd STEM werth £2 filiwn i economi Cymru;
  • Mae galw mawr am sgiliau STEM: mae amcangyfrifon yn awgrymu bod angen dyblu nifer y graddedigion peirianneg erbyn 2020. Mae diffyg o tua 600 o academyddion STEM yng Nghymru;
  • Mae menywod yn cael eu tangynrychioli drwy holl amrediad y gyrfaoedd sydd ar gael ym meysydd STEM: Mae 12% o fyfyrwyr prifysgol sy’n astudio peirianneg a thechnoleg yng Nghymru yn fenywaidd. Mae llai na 10% o weithwyr peirianneg a gweithwyr proffesiynol STEM yn y DU yn fenywod, ac mae menywod yn cael eu tangynrychioli ym mhob math o rolau arweinyddiaeth perthnasol; ac
  • Mae sgiliau STEM yn cynnig cyfleoedd: mae galw mawr am sgiliau STEM, sy’n gallu arwain at swyddi sy’n talu’n dda. Ar gyfartaledd, mae’r rhai sy’n gweithio ym mhroffesiynau STEM yn ennill 20% yn fwy na gweithwyr mewn sectorau eraill.

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi STEM?

Drwy archwilio enghreifftiau o arfer gorau, mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion sydd wedi’u grwpio o dan bedair thema allweddol: addysg, recriwtio, cadw gweithwyr a dyrchafu gweithwyr i rolau arweinyddiaeth. Gyda’i gilydd, nod yr argymhellion hyn yw datblygu a chynnal talent STEM, a hynny er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i fenywod ac i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o’r 33 o argymhellion; mae dau ohonynt yn gamau penodol i’w cymryd gan Lywodraeth Cymru. Mae argymhellion eraill yn galw ar gyflogwyr, addysgwyr ac unigolion i chwarae rôl yn y maes hwn.  Bydd y dathliad a gynhelir heddiw yn y Senedd yn dod â rhai o’r partneriaid hyn ynghyd.

Beth arall sy’n cael ei wneud i hyrwyddo rôl menywod ym meysydd STEM?

Mae amrywiaeth enfawr o fentrau STEM yn cael eu cynnig gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan gynnwys sefydliadau addysg, cyrff proffesiynol a busnesau.

Gall y mentrau hyn fod ar ffurf gweithdai a ‘dyddiau herio’, ffeiriau gwyddoniaeth, adnoddau ar-lein, cyrsiau blasu mewn prifysgolion, a phrosiectau. Mae hyd yn oed cystadleuaeth ar-lein sy’n dilyn arddull yr X-Factor, lle mae myfyrwyr yn pleidleisio dros eu hoff fodel rôl STEM.

Mae’r cynllun Llysgenhadon STEM yn dod â gwirfoddolwyr, darparwyr ac addysgwyr STEM ynghyd mewn un rhwydwaith. Mae dros 30,000 o lysgenhadon STEM wedi’u cofrestru yn y DU, ac mae dros 40% ohonynt yn fenywod. Yng Nghymru, mae’r cynllun yn cael ei reoli gan sefydliad Gweld Gwyddoniaeth. Mae gwefan y sefydliad yn cynnwys mynegai o ddarparwyr STEM yng Nghymru.

Mae’r ymgyrch WISE, sy’n cynnal y digwyddiad yn y Senedd heddiw, yn gweithio i hyrwyddo gyrfaoedd STEM ymhlith merched a menywod, ac i gynghori sefydliadau. Bydd y fenter People Like Me yn sail ar gyfer gweithdy i ddisgyblion ysgol yn y digwyddiad.

Mae’r adroddiad Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus yn cynnwys manylion am rai o’r mentrau sy’n bodoli yng Nghymru.  Mae enghreifftiau eraill o fentrau sy’n ymwneud â rôl menywod ym meysydd STEM yn cynnwys:

Mae adroddiad gan yr Academi Frenhinol, sef The UK STEM education landscape, yn crynhoi ac yn trafod amrediad ac effaith mentrau STEM yn y DU, gan gynnwys y rhai sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth.

Sut beth yw’r profiad o fod yn fenyw sy’n ymwneud ag un o feysydd STEM?

Rwyf ar ganol gwneud doethurieth mewn peirianneg gemegol, ond ar hyn o bryd rwy’n gwneud interniaeth tri mis yng Ngwasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol.

Hyd yn hyn, mae gyrfa STEM wedi ateb fy ngofynion i’r dim, ond byddwn yn dweud celwydd pe bawn yn dweud bod fy rhyw wedi bod yn ddibwys. Wrth ddewis cwrs yn y brifysgol, nodais y gymhareb rhyw. Rwyf wedi bod yn bresennol mewn cyfarfodydd lle  byddai’r siaradwr, yn ôl yr arfer, yn annerch y bobl yn yr ystafell fel ‘boneddigion’. Rwyf wedi gwisgo oferôls a oedd yn rhy fawr o lawer gan mai dyna’r rhai lleiaf a oedd ar gael, gan achosi peth miri.

Mae’r pethau bychain hyn yn tueddu i wneud imi wenu, ond gwn fod menywod eraill yn wynebu rhwystrau llawer mwy. Fel y mae’r adroddiad yn ei amlygu, er bod gwahaniaethu yn llai o broblem, mae tuedd anymwybodol yn parhau i fod yn broblem.  Mae rhwystrau strwythurol hefyd, fel yr heriau sy’n codi mewn perthynas â chyfrifoldebau teuluol a seibiannau gyrfa.

Ar ochr arall y geiniog, mae cydweithwyr a chyfoedion wedi awgrymu y bydd fy rhyw yn fy helpu i sicrhau cynnydd yn fy mhroffesiwn. Mae angen taro cydbwysedd bob amser rhwng annog amrywiaeth a chreu amheuaeth sy’n tanseilio gallu.

Mae taith yrfa pob person yn unigryw, ond yn sicr mae’r themâu sy’n codi yn yr adroddiad ar Fenywod Dawnus yn taro deuddeg i mi. Fodd bynnag, mae’r sector yn esblygu, ac mae’n amser cyffrous i fod yn gweithio ym meysydd STEM.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jeni Spragg gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17

03 Mawrth 2017

Erthygl gan Martin Jennings a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gosodwyd ail gyllideb atodol 2016-17 gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar 7 Chwefror 2017.  Yn ogystal, cyflwynwyd nodyn esboniadol a thablau yn dangos y dyraniadau i’r adrannau.  Mae’r gyllideb atodol hon yn diwygio’r gyllideb atodol gyntaf ar gyfer 2016-17, a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2016. Mae Pwyllgor Cyllid wedi cyhoeddi ei adroddiad Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2016-2017 ar 2 Mawrth.

Mae dros ddeuparth y dyraniadau cyllid yn y gyllideb hon yn gyllid ychwanegol i’r GIG, gan gynnwys £75.9 miliwn i fynd i’r afael â gorwariant disgwyliedig Byrddau Iechyd Lleol (â £7.5 miliwn o hwnnw yn ychwanegol at y £68.4 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016), £50 miliwn i fynd i’r afael â phwysau’r gaeaf, £27 miliwn i ariannu’r diffyg incwm yn sgil y Cynllun Rheoleiddio Prisiau Fferyllol, ac £16 miliwn i gefnogi lansiad y Gronfa Triniaethau newydd

At hynny, mae £20 miliwn wedi cael ei ddyrannu i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddiwallu anghenion ariannol argymhellion Adroddiad Diamond, £8.5 miliwn i sefydlu Trafnidiaeth Cymru er mwyn dylunio a gosod masnachfreintiau’r rheilffordd a Metro De Cymru, a £4 miliwn i Tata Steel i gefnogi anghenion sgiliau.

Y prif ddyraniadau ariannol a wnaed oedd £47 miliwn at y prosiect cefnffyrdd (gan gynnwys £22 miliwn ar gyfer datblygu heol yr M4), £33.4 miliwn mewn grantiau a benthyciadau i gwblhau’r blaenoriaethau datblygu economaidd, a £30 miliwn at yr ymrwymiad a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu i adeiladu 20,000 yn rhagor o dai fforddiadwy.

Ariennir y buddsoddiadau hyn trwy gymysgedd o ddyraniadau o’r cronfeydd wrth gefn a chronfeydd a gariwyd drosodd o’r flwyddyn ariannol flaenorol ac maent hefyd yn ystyried newidiadau yn y cyllid gan Lywodraeth y DU.

Mae’r siart yn crynhoi’r newidiadau i’r dyraniadau ariannol yn gyffredinol, ynghyd â’r dyraniadau o ran refeniw cyllidol a gwariant cyfalaf rhwng gwahanol adrannau Llywodraeth Cymru, gan gymharu’r gyllideb atodol flaenorol â’r un gyfredol.

 

Yr economi sylfaenol

02 Mawrth 2017

Erthygl gan Jack Miller, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Nenfwd Siambr y Senedd

Mae ymchwilwyr y Ganolfan Ymchwil ar Newid Cymdeithasol-Ddiwylliannol (CRESC) yn dadlau, fel yn y DU, bod Cymru wedi colli llawer o’i sylfaen gweithgynhyrchu ond yn cadw ei ‘heconomi sylfaenol’. Er bod y maes ‘cyffredin’ ond hanfodol hwn o’r economi yn darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n hanfodol i lesiant dinasyddion, maent yn awgrymu ei fod yn cael ei gamreoli drwyddi draw.

Ar 8 Mawrth, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod yr economi sylfaenol yn ystod Dadl gan Aelodau Unigol. Daw hyn yng nghyd-destun ehangach y gwaith gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth economaidd newydd ar gyfer Cymru yn ddiweddarach eleni. Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn clywed gan ymchwilydd CRESC, yr Athro Karel Williams, ar 15 Mawrth i drafod yr economi sylfaenol yn ystod sesiwn ar safbwyntiau amgen ynghylch cynnwys posibl y strategaeth.

Yr economi sylfaenol: yr hanfodion

Mae’r economi sylfaenol yn seiliedig ar y gweithgareddau sy’n darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd, ni waeth beth yw statws cymdeithasol y defnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft: isadeiledd, cyfleustodau, prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu, ac iechyd, addysg a lles.

Maent fel arfer yn cael eu darparu gan gyfuniad o’r wladwriaeth (yn uniongyrchol neu drwy ariannu gweithgareddau allanol), busnesau bach a chanolig gwmnïau, a chwmnïau llawer mwy fel cyfleustodau preifat neu ganghennau o gwmnïau symudol fel y prif archfarchnadoedd, sy’n aml yn dod o’r tu allan i Gymru.

Pwysigrwydd yr economi sylfaenol i Gymru

Yn wahanol i sectorau gweithgynhyrchu, lle mae gwaith cynhyrchu wedi’i grynhoi mewn ardaloedd penodol, mae’r economi sylfaenol yn cael ei dosbarthu’n genedlaethol yn ôl y boblogaeth. Fel y mae’r ‘Manifesto for the Foundational Economy’ (PDF, 435KB) gan CRESC yn ei nodi, yr economi sylfaenol yw’r unig beth sydd ar ôl mewn llawer o’r hen ardaloedd diwydiant trwm ledled Ewrop. Felly mae’n hanfodol i lawer o bobl yng Nghymru, nid yn unig er mwyn darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt, ond hefyd fel cyflogwr.

Mae’r adroddiad yn amcangyfrif bod 37.8 y cant o weithlu Cymru wedi’i gyflogi mewn gweithgareddau sy’n cyfrannu at yr economi sylfaenol yn 2013, o’i gymharu â 10.3 y cant ym maes gweithgynhyrchu. Yn Lloegr, roedd 33.2 y cant o’r gweithlu wedi’i gyflogi yn yr economi sylfaenol yn yr un flwyddyn. Mae adroddiad mwy diweddar gan ymchwilwyr CRESC ar gyfer y Ffederasiwn Busnesau Bach, sef ‘What Wales Could Be‘, yn awgrymu bod busnesau bach a chanolig lleoledig a chyflogwyr sylfaenol mawr ar unrhyw gyfrif yn cyfrif am o leiaf 40 y cant o’r gweithlu yng Nghymru (tud.32).

Mae llawer o sectorau’r economi sylfaenol yn cael eu ‘cysgodi’, oherwydd eu bod yn lleol yn eu hanfod, bod y gystadleuaeth ryngwladol yn gyfyngedig a’i bod yn anodd symud dramor. Mae nwyddau a gwasanaethau sylfaenol hefyd yn anystwyth, h.y. nid yw’r galw am yr hanfodion hyn yn newid yn sylweddol pan fydd newid yn eu prisiau neu yn incwm defnyddwyr. Gyda’i gilydd, mae’r effeithiau hyn yn golygu ei bod yn haws i’r economi sylfaenol wrthsefyll ergydion economaidd allanol, o’i gymharu â gweithgynhyrchu er enghraifft, lle gall allbwn y maes hwn ostwng yn sylweddol yn ystod dirwasgiad.

Yr heriau i economi sylfaenol Cymru

Mae ymchwilwyr CRESC wedi dadlau bod polisi diwydiannol ac economaidd Cymru a’r DU wedi anwybyddu’r ddarpariaeth o nwyddau a gwasanaethau sylfaenol, gan dueddu i ganolbwyntio ar brosesau a sectorau technoleg uwch. Mae’r rhain yn aml yn dechnoleg-ddwys, ac yn cynhyrchu nwyddau at ddibenion masnachu ac allforio, ac eto maent yn rhan fach iawn o economïau Cymru a’r DU. Er enghraifft, dim ond tri o naw sector blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twf – adeiladu, ynni a’r amgylchedd a bwyd a ffermio – sy’n cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau sylfaenol.

Ar ben hynny, maent yn tynnu sylw at y ffaith bod cyflogaeth technoleg isel a chyflog isel yn nodweddu’r economi sylfaenol, a bod hyn yn dod yn fwy cyffredin. Maent yn tynnu sylw at y ffaith bod sectorau fel lletygarwch a manwerthu – sy’n cael eu nodweddu gan waith cyflog isel a rhan amser – yn cyfrif am fwy na hanner y swyddi a grëwyd yn y sector preifat yn y DU ers 2010.

Mater pwysig arall yw ‘gwahanu galwedigaethol’ yn y sectorau hyn, lle caiff menywod eu gorgynrychioli ac felly eu bod yn aml yn gaeth mewn gwaith cyflog isel neu ran amser. Mae’n hysbys bod hyn yn cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng dynion a menywod yng Nghymru.

Mae adroddiad y Ffederasiwn Busnes Bach yn tynnu sylw at rai o’r materion penodol sy’n wynebu’r sectorau sylfaenol yng Nghymru. Ym maes bwyd, mae’n awgrymu bod archfarchnadoedd mawr cystadleuol wedi cymryd elw proseswyr bwyd ac wedi gadael ffermwyr llaeth a defaid Cymru yn agored i brisiau cyfnewidiol y farchnad. Mae’n mynd ymlaen i ddweud bod mentrau preifat â llawer o adnoddau ym maes gofal i oedolion yn gosod llety pwrpasol mawr yn lle cartrefi llai o faint sy’n cael eu rhedeg gan deuluoedd, gan fodloni galw cyfranddalwyr am gyfraddau uchel o elw. Mae’n dadlau bod hyn wedi arwain at gynnydd mewn gweithlu gofal cymdeithasol sy’n cael tâl annigonol, gwariant mawr gan awdurdodau lleol a gwaethygu o ran ansawdd gofal.

Rhoi ffocws penodol ar yr economi sylfaenol

Mae ymchwilwyr CRESC yn galw am ail-lunio’r economi mewn ffordd radical er mwyn cyfrif yn well am ddarparu nwyddau a gwasanaethau sylfaenol, gan ystyried hunaniaethau lluosog dinasyddion fel cynhyrchwyr, trethdalwyr a defnyddwyr (tud.70). Mae byrdwn y neges hon yn mynd y tu hwnt i edrych ar sectorau allweddol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ddeinameg y sectorau (er enghraifft, rhwng cwmnïau o wahanol feintiau), yn ogystal ag ymddygiad sefydliadau yn y sectorau hyn.

O ystyried eu harwyddocâd fel darparwyr a chyflogwyr, drwy ganolbwyntio ar ansawdd y gwaith yn y sectorau sylfaenol, maent yn dadlau y gallai Llywodraeth Cymru gael dylanwad sylweddol ar ganlyniadau economaidd a chymdeithasol. Yn benodol, maent yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru roi’r gorau i’r syniad o greu amgylchedd generig sy’n hwylus i fusnesau, gan ddefnyddio polisïau ansafonol sy’n cael eu haddasu i nodweddion sectoraidd a gofynion busnesau penodol.

Er enghraifft, ym maes bwyd gallai hyn olygu trafod gyda chyflenwyr ynghylch ymrwymiadau ffurfiol ar gyfer cyrchu, hyfforddiant a chyflogau byw (tud.70). Yn anad dim, mae’r ymchwilwyr yn dadlau y dylai Llywodraeth Cymru annog busnes cyfrifol drwy hyrwyddo parhad o berchnogaeth ar gyfer busnesau bach a chanolig a chodi’r gofyniadau cymdeithasol ar sefydliadau busnes mawr yn yr economi sylfaenol (tud.7).

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jack Miller gan Brifysgol Sussex, a alluogodd i’r blog hwn gael ei gwblhau.