Y Cynulliad i drafod egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

17 Mawrth 2017

Erthygl gan Helen Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg

Llun: o Flickr gan Adam Levine. Dan drwydded Creative Commons.

Gosodwyd y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2016, a chafodd ei gyflwyno yn y Cyfarfod Llawn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 29 Tachwedd 2016. Bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil ar 21 Mawrth 2017.

Mae’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yn ymwneud â sefydlu’r fframwaith cyfreithiol, gweinyddol a gweithredol i ddisodli’r Dreth Dirlenwi yng Nghymru ym mis Ebrill 2018. Mae’r Dreth Dirlenwi ar hyn o bryd yn dreth a godir gan y DU ar gael gwared ar ddeunydd fel gwastraff drwy ei roi mewn safleoedd tirlenwi a ganiateir o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol. Cyflwynwyd y dreth bresennol ym 1996 fel elfen allweddol i sbarduno newid mewn ymddygiad amgylcheddol drwy roi cymhelliant i ddargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi, gan ailgylchu, ailddefnyddio ac adennill mwy o wastraff. Ers i’r dreth gael ei chyflwyno, mae wedi cyfrannu at ostyngiad sylweddol yng nghyfran y gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi, a chynnydd mewn cyfraddau ailgylchu.

Y Bil hwn yw’r trydydd mewn cyfres o filiau sy’n ymwneud â datganoli’r pwerau treth yn Neddf Cymru 2014. Rhagflaenwyd y Bil hwn gan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a sefydlodd y fframwaith cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol a’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), a fydd yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp o fis Ebrill 2018.

Ceir rhagor o wybodaeth am gefndir y Bil, trosolwg o’i rannau, crynodeb o’i oblygiadau ariannol, a geirfa Gymraeg yn y Crynodeb o’r Bil (PDF, 844KB) a luniwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid adroddiad (PDF, 1MB) ar ei ystyriaeth o egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yng Nghyfnod Un ar 10 Mawrth 2017.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn pennu nifer o argymhellion gyda’r nod o gryfhau’r ddeddfwriaeth. Er enghraifft, byddai’r Pwyllgor yn hoffi gweld cyfraddau arfaethedig y trethi, rhestr o ddeunyddiau cymwys a darpariaethau ar gyfer rhyddhad ar ddyled ddrwg, wedi’u cynnwys ar wyneb y Bil.

Er bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â rhai o’r darpariaethau hyn, mae’r Pwyllgor yn parhau i fod yn bryderus nad yw is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i’r un faint o waith craffu â Bil.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn credu bod angen sicrwydd ar fusnesau pan ddaw i ddefnyddio deddfwriaeth treth newydd, ac y byddai cynnwys manylion o’r fath yn y gyfraith ei hun yn helpu i fynd i’r afael â phryderon.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth sylweddol mewn perthynas â phwysigrwydd Cynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Cynllun Cymunedol yn cael ei gynnwys ar wyneb y Bil i ddangos ymrwymiad i’r cynllun wrth symud ymlaen, ond mae’n derbyn y gallai rhai o’r manylion gael eu pennu mewn rheoliadau.

Trafododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol briodoldeb y darpariaethau yn y Bil o ran pwerau i greu is-ddeddfwriaeth. Hefyd, cyhoeddwyd ei adroddiad (PDF, 2MB) ar 10 Mawrth 2017.

Yn amodol ar y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), bydd y Bil yn symud ymlaen at drafodion Cyfnod Dau (sef trafodaeth fanwl ar y Bil ac unrhyw welliannau a gynigir gan Bwyllgor). Disgwylir y bydd trafodion Cyfnod Dau wedi dod i ben erbyn 26 Mai 2017.

Datganoli pwerau ym maes ynni a’r amgylchedd: a yw’r setliad newydd yn un parhaol yn wyneb Brexit?

14 Mawrth 2017

Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cennin Pedr

Mae’r setliad datganoli yn newid o dan Ddeddf Cymru 2017 a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 31 Ionawr 2017. Mae’r erthygl hon yn trafod beth y mae hyn yn ei olygu i bwerau ym maes ynni a’r amgylchedd yng Nghymru, ac mae hefyd yn tynnu sylw at y gwahanol agweddau ar ddatganoli pwerau ar ôl gadael yr UE.

Datganoli – y model ‘rhoi pwerau’ presennol

Mae’r setliad datganoli presennol yn seiliedig ar fodel ‘rhoi pwerau’. Yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae 21 maes datganoledig y caiff y Cynulliad ddeddfu yn eu cylch. Cyfrifoldeb y DU neu Senedd Ewrop yw popeth arall. Mae’r meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, yr amgylchedd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, cynllunio ac ynni. Er enghraifft, pasiodd y Cynulliad dri darn allweddol o ddeddfwriaeth yn ddiweddar sy’n ymwneud â’r amgylchedd, sef Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Ar hyn o bryd, rhaid i’r holl ddeddfau a basiwyd gan y Cynulliad gydymffurfio â chyfraith yr UE sydd yn arbennig o berthnasol ar gyfer yr amgylchedd gan fod cynifer o feysydd polisi yn cael eu rhannu â’r UE, gan gynnwys amaethyddiaeth, drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, a chadwraeth natur, drwy’r Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd.

Datganoli – y model ‘cadw pwerau’

Mae Deddf Cymru 2017 yn cyflwyno model o ddatganoli sy’n seiliedig ar gadw pwerau. Mae’r Ddeddf yn troi’r sefyllfa i’r gwrthwyneb; mae’n pennu’r meysydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, gan adael popeth arall  wedi’i ddatganoli i Gymru. Mae hyn yn debycach i’r sefyllfa yn yr Alban. Bydd y model cadw pwerau yn dod i rym ym mis Ebrill 2018, a bydd y model yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gymwys hyd at y dyddiad hwnnw.

Pwerau newydd i Gymru ym maes ynni a’r amgylchedd

Yn ogystal â chyflwyno’r model cadw pwerau newydd, mae Deddf Cymru 2017 yn dod â phwerau newydd i Gymru ym maes ynni a’r amgylchedd. Ni fydd y rhan fwyaf o’r newidiadau hyn yn dod i rym tan y flwyddyn nesaf, gan fod angen deddfwriaeth ychwanegol ar gyfer llawer ohonynt. Bydd Deddf Cymru 2017 yn rhoi’r canlynol i Gymru:

  • Cyfrifoldeb am drwyddedu morol yn ‘rhanbarth môr mawr’ Cymru – 12 milltir forol allan i’r llinell ganolig (sydd wedi’i gyfyngu ar hyn o bryd i ‘ranbarth y glannau’ – 0-12 milltir forol);
  • Pŵer i ddynodi ardaloedd yn rhanbarth môr mawr Cymru fel Parthau Cadwraeth Morol (sydd wedi’i gyfyngu ar hyn o bryd i ranbarth y glannau – Sgomer yw’r unig barth cadwraeth morol yng Nghymru ar hyn o bryd);
  • Pŵer i gydsynio i brosiectau ynni sy’n gallu cynhyrchu hyd at 350MW ar gyfer ynni ar y tir ac ar y glannau, gan ymestyn y terfyn 50MW presennol ar gyfer y tir ac 1MW ar gyfer y glannau. Byddai hyn yn cynnwys y morlyn llanw a gynlluniwyd ym Mae Abertawe. Ni fydd terfyn uchaf ar gyfer prosiectau ynni gwynt ar y tir;
  • Cyfrifoldeb am drwyddedu olew a nwy ar y tir, gan gynnwys echdynnu nwy siâl, ac ar gyfer pyllau glo newydd;
  • Pŵer i gydsynio i ‘ddatblygiadau cysylltiedig’ ar gyfer prosiectau ynni, er enghraifft cysylltiadau trafnidiaeth a llinellau pŵer uwchben i’r un corff sy’n gyfrifol am y prif brosiect;
  • Pŵer i wneud rheoliadau adeiladu mewn perthynas ag ‘adeiladau ynni eithriedig’ – adeiladau sy’n rhan o’r seilwaith ynni; a hefyd
  • Pŵer ychwanegol i ddeddfu dros gyflenwadau dŵr a charthffosiaeth.

Goblygiadau Brexit ar gyfer y setliad datganoli

Mae Deddf Cymru 2017 wedi dod ar adeg ddiddorol gan fod Llywodraeth y DU yn paratoi i sbarduno Erthygl 50 a dechrau’r broses ffurfiol o adael yr UE. Gan fod Cymru’n rhannu pwerau gyda’r UE, yn enwedig mewn meysydd amgylcheddol, mae cwestiynau ynghylch a fydd y setliad yn newid o ganlyniad i Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi mynegi gwahanol ddehongliadau o ran dyfodol y pwerau a rennir ar hyn o bryd rhwng Cymru a’r UE. Cyfeiriodd Llywodraeth y DU yn ei phapur gwyn ar Brexit at ddychwelyd i’r DU bwerau presennol yr UE i osod fframweithiau rheoleiddio cyffredin:

[…] even in areas where the devolved legislatures and administrations currently have some competence, such as agriculture, environment and some transport issues, most rules are set through common EU legal and regulatory frameworks, devised and agreed in Brussels. When the UK leaves the EU, these rules will be set here in the UK by democratically elected representatives.

As the powers to make these rules are repatriated to the UK from the EU, we have an opportunity to determine the level best placed to make new laws and policies on these issues, ensuring power sits closer to the people of the UK than ever before.

Mae’r safbwynt ym mhapur gwyn Llywodraeth Cymru / Plaid Cymru ar Brexit yn hollol wahanol oherwydd bydd y pwerau sy’n dychwelyd o’r UE, os ydynt mewn meysydd datganoledig, yn dod i Gymru yn hytrach nag i San Steffan:

Ar hyn o bryd, mae amrywiol bwerau sydd eisoes wedi’u datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn cael eu gweithredu o fewn fframwaith rheoleiddiol yr UE. Mae hyn yn cynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, yr amgylchedd a datblygu economaidd. Wrth i’r DU ymadael â’r UE, pan fydd fframweithiau rheoleiddiol a gweinyddol yr UE yn peidio â bod yn berthnasol bellach, bydd y pwerau hyn yn parhau i fod wedi’u datganoli i Gymru.

Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru / Plaid Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod y goblygiadau cyfansoddiadol a’r heriau o ymadael â’r UE yn arbennig o ddwys ym maes yr amgylchedd a materion gwledig:

Mae’r meysydd polisi hyn wedi’u datganoli’n sylweddol a dros y 17 mlynedd ers cychwyn datganoli gwelwyd gwahaniaethau sylweddol yng nghyfeiriad polisi gwahanol rannau’r DU.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi cyfeiriodd Prif Weinidog y DU at ddatganoli a phwysigrwydd fframweithiau’r DU a marchnad sengl fewnol:

… we are discussing with the devolved Administrations the whole question of the UK framework and devolution of issues as they come back from Brussels. The overriding aim for everything that we do when we make those decisions is to ensure that we do not damage the important single market of the United Kingdom, a market which I remind the right hon.

Mae Cymru heddiw’n wynebu cwestiwn allweddol sef a fydd her i ethos Papur Gorchymyn Llywodraeth y DU, Pwerau at Bwrpas: Tuag at setliad datganoli sy’n para i Gymru, pan fydd y DU yn gadael yr UE.

Y Cynulliad i drafod egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

23 Chwefror 2017

Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cafodd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Tachwedd 2016, a’i gyflwyno yn y cyfarfod llawn gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 8 Tachwedd 2016. Bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil ar 28 Chwefror 2017.

Cyflwynodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon adroddiad yn nhrafodion Cyfnod 1 ar egwyddorion sylfaenol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ar 10 Chwefror 2017.

Mae’r Bil yn gosod cyfres o gynigion mewn meysydd penodol o bolisi iechyd y cyhoedd: tybaco a chynhyrchion nicotin; ‘triniaethau arbennig’ (aciwbigo, rhoi twll mewn rhan o’r corff, electrolysis a thatŵio); rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff; asesu’r effaith ar iechyd; gwasanaethau fferyllol; a darparu toiledau.

Ceir rhagor o wybodaeth am gefndir y Bil, trosolwg o’i rannau, crynodeb o’i oblygiadau ariannol, a geirfa Gymraeg yn y Crynodeb o’r Bil (PDF, 1,175KB) a luniwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil.

Mae Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) wedi cael ei groesawu ar y cyfan, ond mae nifer o randdeiliaid wedi ei ddisgrifio fel cyfle wedi’i golli i gyflwyno mesurau a fyddai’n mynd i’r afael â rhai o’r materion mwyaf sylweddol o ran iechyd y cyhoedd, gan gynnwys gordewdra a segurdod corfforol, ynghyd ag unigrwydd ac unigedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio y bydd Bil Iechyd y Cyhoedd yn canolbwyntio ar feysydd penodol lle mae deddfwriaeth yn briodol, ynghyd ag ystod o gamau gweithredu eraill i wella iechyd (gan gynnwys camau deddfwriaethol eraill, yn ogystal â gwasanaethau, rhaglenni ac ymgyrchoedd ym maes iechyd y cyhoedd).

Mae adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r holl ddulliau sydd ar gael, gan gynnwys unrhyw gyfleoedd a ddaw yn sgil deddfwriaeth a phwerau sydd eisoes yn bodoli, er mwyn mynd i’r afael â gordewdra a materion iechyd eraill sy’n flaenoriaeth ymysg y cyhoedd. Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r cynigion penodol a gaiff eu cynnwys yn y Bil ar y cyfan. Mae adroddiad y Pwyllgor yn gosod nifer o argymhellion gyda’r nod o gryfhau’r ddeddfwriaeth. Er enghraifft, mae’r Pwyllgor am weld y ddarpariaeth ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff yn cael ei chryfhau i gynnwys gwarchod pobl ifanc hyd at 18 oed (mae’r Bil fel y’i cyflwynir yn gosod cyfyngiad oedran o 16 oed ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff).

Cyflwynodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad adroddiad ar oblygiadau ariannol y Bil ar 10 Chwefror 2017. Trafododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol briodoldeb y darpariaethau yn y Bil ar gyfer creu is-ddeddfwriaeth. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw ar 10 Chwefror 2017 hefyd.

Yn amodol ar y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), bydd y Bil yn symud ymlaen at drafodion Cyfnod Dau (sef trafodaeth fanwl ar y Bil ac unrhyw welliannau a gynigir gan Bwyllgor). Disgwylir y bydd trafodion Cyfnod Dau wedi dod i ben erbyn 7 Ebrill 2017.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (PDF, 1,175KB)

blog-cy

Bil Cymru yn pasio yn y Cynulliad a’r Senedd

27 Ionawr 2017

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Siambr gwag

Ar ddydd Mawrth 17 Ionawr 2017, cynhaliodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddadl ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru. Yn ôl y confensiwn (sef “confensiwn Sewel”) ni fyddai Llywodraeth y DU fel arfer yn cyflwyno na chefnogi cynigion i ddeddfu mewn perthynas â Chymru ar y pynciau y mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol yn eu cylch heb ganiatâd y Cynulliad. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol sy’n cael ei ddefnyddio i gael caniatâd y Cynulliad. Mae Bil Cymru yn newid pwerau’r Cynulliad, felly roedd angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.

Mae’r cynnig, a gynigiwyd gan y Prif Weinidog, yn nodi:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau ym Mil Cymru, i’r graddau eu bod yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu yn ei addasu, barhau i gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Y Prif Weinidog a agorodd y ddadl. Eglurodd fod grŵp Llafur wedi penderfynu ystyried y Bil “fel pecyn” ac, ar y cyfan, er nad penderfyniad hawdd ydoedd, penderfynwyd cefnogi’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.

Pan ofynnwyd iddo ynghylch y ffactor allweddol wrth ddewis cefnogi’r Bil, atebodd:

Mae mater Brexit yr un fath â mater Sewel i mi. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun heddiw na chaiff unrhyw bwerau eu tynnu’n ôl, ac mae’n rhaid imi ei chredu, ond os yw wedi’i ymgorffori yn y gyfraith bod gofyniad o ganiatâd gan senedd neu gynulliad datganoledig, yn amlwg mae mwy o bwysau i hynny nag i gonfensiwn yn unig. Felly, mae’n bwysig ymgorffori hynny yn y gyfraith, nid yn unig o ran trafodaethau Brexit, ond o ran trafodaethau am nifer o faterion yn y dyfodol lle na fydd Llywodraeth y DU yn gallu dweud, ‘Wrth gwrs, yn yr Alban mae’n gyfraith, ond yng Nghymru, nid yw, felly nid oes rhaid inni dalu’r un sylw i Gymru ag i’r Alban.’

Dywedodd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

Mae pobl ddoethach na fi wedi awgrymu na fydd y Bil hwn yn rhoi’r setliad cydnerth, unwaith mewn cenhedlaeth a addawyd gan Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, a bod y cymhlethdod a’r amodoldeb sydd ynddo yn golygu y byddwn o bosibl yn ildio rhywfaint o dir. Ond nid oes unrhyw amheuaeth y byddwn yn sefyll ar dir mwy cadarn a mwy sicr o ganlyniad i symud at Fil cadw pwerau. Mae’n ein rhoi ni mewn sefyllfa dda wrth inni wynebu cyfnod pontio at Brexit a ffactorau sioc allanol eraill.

Gwrthwynebodd Plaid Cymru y Bil ar y sail ei fod yn tynnu pwerau’r Cynulliad yn ôl. Dywedodd Leanne Wood AC, arweinydd y blaid:

Dywedwyd wrthym y byddai model cadw pwerau yn cael ei ddarparu, ac mae hyn wedi bod yn un o ofynion allweddol Plaid Cymru ers blynyddoedd lawer, ac eto daeth i’r amlwg yn gyflym y byddai’r rhestr o bwerau a gadwyd yn ôl yn cynnwys mwy na 200 o faterion a gadwyd yn ôl, ac y gallai unrhyw beth sy’n ymwneud â’r rhestr honno fod yn waharddedig i’r Cynulliad hwn yn y dyfodol.   O’i gymharu â’r model rhoi pwerau, mae hynny’n gyfystyr â lleihau ein pwerau, ac yn ein barn ni byddai felly’n gyfystyr â throi’n ôl ar ganlyniad refferendwm 2011.

Mae gwleidyddiaeth hyn yn eglur imi. Ar ôl ei methiant yn y Goruchaf Lys ar y Bil cyflogau amaethyddol, roedd Llywodraeth y DU yn awyddus i ailfodelu cyfansoddiad Cymru i osgoi methiannau pellach.

Pleidleisiodd y Ceidwadwyr o blaid y Bil, gydag Andrew R.T. Davies AC, arweinydd y blaid, yn croesawu yn arbennig y ffaith “y bydd treth incwm yn dod i’r sefydliad hwn i wneud yn siŵr bod gennym fwy o atebolrwydd yn y ffordd y mae’r arian wedi cael ei wario yn y sefydliad hwn a chan y Llywodraeth.”

Pleidleisiodd UKIP yn erbyn y Bil gan eu bod yn gwrthwynebu dileu’r gofyniad i gynnal refferendwm ar gyfer datganoli pwerau treth incwm. Dywedodd Neil Hamilton AC, yr arweinydd:

rwy’n credu, er bod egwyddorion bras y Bil yn deilwng o gefnogaeth, bod y ffordd y cafodd hyn ei drin wedi bod yn bell iawn o fod yn berffaith, ac, o ran dileu darpariaeth refferendwm ar gyfer datganoli pwerau treth incwm, rwy’n credu bod hwnnw’n ddiffyg cyfansoddiadol na ddylem ei anwybyddu.

Yn y Cynulliad, pleidleisiodd 38 o blaid rhoi caniatâd i’r Bil barhau yn ei flaen, gyda 17 yn pleidleisio yn erbyn.

Drannoeth y bleidlais, cafodd Bil Cymru ei Drydydd Darlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi ac fe’i pasiwyd.

Ar 24 Ionawr, daeth y Bil yn ôl i Dŷ’r Cyffredin er mwyn trafod gwelliannau Tŷ’r Arglwyddi. Derbyniwyd y gwelliannau ac mae’r Bil bellach yn aros am Gydsyniad Brenhinol.

Hefyd ar 24 Ionawr, cafwyd y dyfarniad yn y Goruchaf Lys ar Erthygl 50, gyda dyfarniad hefyd ar gonfensiwn Sewel yn y deddfwrfeydd datganoledig. Daeth i’r casgliad canlynol:

[…] the Convention operates as a political constraint on the activity of the UK Parliament. It therefore plays an important role in the operation of the UK constitution. But the policing of its scope and operation is not within the constitutional remit of the courts. The devolved legislatures do not have a veto on the UK’s decision to withdraw from the EU.

Ymdrinnir â’r dyfarniad yn fwy manwl mewn erthygl arall cyn hir.

Diwallu anghenion iechyd plant a phobl ifanc mewn ysgolion. A oes angen newid y gyfraith yng Nghymru?

24 Ionawr 2017

Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae pryder nad yw hawliau plant a phobl ifanc Cymru sydd ag anghenion gofal iechyd yn cael eu diogelu o dan y gyfraith yn ystod y diwrnod ysgol i’r un graddau â phlant yn Lloegr, gan eu rhoi mewn perygl o anfantais academaidd ac o ran iechyd.

Rhoi’r cymorth angenrheidiol i blant i gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd ysgol

Llun: o flickr gan alishavargas. Dan drwydded Creative Commons

Llun: o flickr gan alishavargas. Dan drwydded Creative Commons

Bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion, ar ryw adeg, yn dioddef o gyflwr meddygol a all effeithio ar eu gallu i gymryd rhan yng ngweithgareddau eu hysgol. I lawer, cyflwr byrdymor fydd hwnnw; gorffen cwrs o feddyginiaeth efallai. Ond mae gan ddisgyblion eraill anhwylderau meddygol cronig hirdymor a all gyfyngu ar eu gallu i gael addysg oni chânt eu rheoli’n briodol. Bernir bod gan ddisgyblion o’r fath anghenion gofal iechyd. Gall y rhan fwyaf o blant ag anghenion gofal iechyd fynd i’r ysgol yn rheolaidd gan gymryd rhan yn y diwrnod ysgol arferol gyda rhywfaint o gymorth gan yr ysgol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu bod y gefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd yn yr ysgol yn anghyson ledled Cymru.

Ym mis Chwefror 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau drafft ‘Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd’ a oedd yn disodli’r canllawiau blaenorol a gyhoeddwyd yn 2010: ‘Mynediad i Addysg a Chymorth i Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Meddygol’. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dogfen ymgynghori yr un pryd â’r canllawiau drafft a gofynnodd am safbwyntiau rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2016. Caiff y fersiwn ddiwygiedig ei chyhoeddi ddechrau 2017, ond a fydd yn mynd yn ddigon pell i sicrhau bod plant â chyflyrau iechyd yn cael y gofal a’r cymorth sydd ei angen arnynt yn yr ysgol?

Mae canllawiau 2010 yn rhoi cyngor ac arweiniad ar ddiwallu anghenion addysgol plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd mewn lleoliad addysg. Mae’r canllawiau yn rhoi cyngor ar y ffordd y gall ysgolion lunio polisïau i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd. Er bod rhanddeiliaid wedi croesawu’r fersiwn ddiweddaraf o’r canllawiau, nid yw’n rhan o fframwaith deddfwriaethol ac mae llawer yn dadlau na fydd y canllawiau newydd yn ddigonol.

Mae dros 15 o sefydliadau iechyd a phlant (gan gynnwys Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a Diabetes UK) yn cydweithio i gasglu tystiolaeth am y problemau sy’n wynebu teuluoedd ac i ddylanwadu ar newidiadau deddfwriaethol yng Nghymru. Mae teimlad cryf ymhlith y rhanddeiliaid hyn a’u cefnogwyr fod angen newid y ddeddfwriaeth yng Nghymru a chyflwyno dyletswydd gofal statudol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd. Mae’r grŵp hwn yn credu na fydd diweddaru’r canllawiau’n mynd i’r afael â’r problemau cyffredin sy’n wynebu teuluoedd yng Nghymru yn rheolaidd, ac y bydd yr anghysondeb cynyddol mewn canlyniadau yn parhau ymhlith y plant yn y grŵp hwn sydd mor agored i niwed.

Mae’r fframweithiau presennol sy’n cynnwys canllawiau ar gyfer rheoli anghenion gofal iechyd plant mewn lleoliad ysgol yn wahanol yng Nghymru i’r hyn ydynt yn Lloegr. Yn Lloegr, daeth Deddf Plant a Theuluoedd 2014 i rym ar 1 Medi 2014. Mae adran 100 yn cynnwys dyletswydd statudol i gefnogi disgyblion sydd â chyflyrau meddygol. Yn ymarferol, golyga hyn fod yn rhaid i ysgolion wneud trefniadau ychwanegol i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd mewn ysgolion. Nid yw’r ddeddfwriaeth hon yn gymwys i ysgolion yng Nghymru.

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i ysgolion Lloegr fod â pholisi ar gyfer cyflyrau meddygol, yn ogystal â Chynllun Iechyd Unigol i bob plentyn sydd ag anghenion meddygol. Dylai’r polisi gydnabod y gall rhai cyflyrau iechyd fygwth bywyd ac y gallant hefyd effeithio ar y ffordd y mae plentyn yn dysgu. Rhaid i ysgolion adolygu ac archwilio’u polisi a’u Cynlluniau Iechyd Unigol yn rheolaidd i sicrhau bod y trefniadau ar gyfer plant ag anghenion gofal iechyd yn gweithio. Gyda’i gilydd, mae’r dogfennau’n esbonio sut y bydd yr ysgol yn gofalu am blant â chyflyrau meddygol, y gweithdrefnau ar gyfer sicrhau bod y gofal a’r hyfforddiant priodol yn cael eu darparu, a phwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod y polisi yn cael ei weithredu.

Mae pryderon yng Nghymru nad oes polisi gofal iechyd / cyflyrau meddygol gan nifer o ysgolion a bod llawer o blant ag anghenion gofal iechyd yn cael eu heithrio o’r diwrnod ysgol oherwydd hynny, a hynny am hyd at nifer o wythnosau ar y tro weithiau. Mae rhanddeiliaid am weld pob plentyn a pherson ifanc ag anghenion gofal iechyd yng Nghymru – o ran iechyd corfforol a meddyliol – yn cael eu cefnogi’n briodol yn yr ysgol fel y gallant chwarae rhan lawn ac egnïol ym mywyd yr ysgol. Mae hefyd yn bwysig bod rhieni yn teimlo bod eu plant yn ddiogel.

Bu rhywfaint o ddadlau ynghylch a ddylai Llywodraeth Cymru ehangu’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i gynnwys anghenion gofal iechyd plant a phobl ifanc yn yr ysgol, neu mewn lleoliad addysgol arall. Fodd bynnag, nid yw’r diffiniad a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), y mae’r Bil yn ei gadw ar gyfer y term newydd, Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn cynnwys dysgwyr ag anghenion gofal iechyd. Mae gan 4% o blant yng Nghymru anghenion meddygol ac mae gan 22% o blant anghenion dysgu ychwanegol.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Cyflwynwyd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, i’r Cynulliad gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ar 12 Rhagfyr 2016. Yn ei ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar y Bil ar 13 Rhagfyr 2016, esboniodd y Gweinidog fod y fframwaith deddfwriaethol presennol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn seiliedig ar fodel a gyflwynwyd dros 30 mlynedd yn ôl. Esboniodd y bydd y Bil yn creu un system ddeddfwriaethol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol o’u genedigaeth hyd nes eu bod yn 25 oed.

Yn ystod y ddadl, gofynnwyd yn benodol i’r Gweinidog am ddysgwyr ag anghenion gofal iechyd. Dywedodd Darren Millar AC efallai nad oes gan rai plant a phobl ifanc anghenion dysgu ychwanegol, ond gall fod ganddynt anghenion gofal iechyd sydd angen rhai ymyriadau yn y dosbarth neu eu man dysgu er mwyn sicrhau y gallant barhau i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Mewn ymateb i bryderon a amlygwyd gan Aelodau’r Cynulliad fod “y canllawiau yn rhy aml yn cael eu gweithredu mewn ffordd anghyson, ac weithiau’n cael eu hanwybyddu” (Cofnod y Trafodion), atebodd y Gweinidog fel a ganlyn:

Rydym yn credu bod gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu eisoes gyfrifoldebau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal iechyd. Rydym yn darparu ac yn adolygu canllawiau penodol ar y materion hyn, a gyhoeddir yn y flwyddyn newydd. Os yw Aelodau, ar ôl darllen drwy’r canllawiau hynny, yn credu bod angen eu gwella neu eu cryfhau, cawn gyfle i wneud hynny yn y flwyddyn newydd.

Aeth rhagddo i ddweud:

Dewch imi ddweud hyn: nid yw’r Bil yn sôn am y materion hynny, ond mae ein meddyliau’n agored i sgyrsiau am y materion hynny. Os na fydd y canllawiau a gyhoeddir yn darparu’r math o sicrwydd yr hoffai pobl ei weld, fe wnawn ni ystyried hynny yng Nghyfnod 2.

Mae’n amlwg bod rhanddeiliaid fel Diabetes UK a’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn pryderu nad yw plant a phobl ifanc, na’u rhieni, yn teimlo’n hyderus ar hyn o bryd fod ysgolion yn gwneud trefniadau i ddarparu cymorth effeithiol ar gyfer anghenion gofal iechyd y dysgwyr hyn. Maent yn dweud na ddylai asthma, epilepsi, diabetes nac amryw o gyflyrau meddygol eraill atal plant a phobl ifanc rhag manteisio ar addysg lawn. Mae’r sefydliadau hyn am weld ysgolion yn gwneud rhagor i ddiogelu plant a chanddynt gyflyrau meddygol a allai beryglu eu bywydau ac maent yn galw am i’r grŵp hwn gael yr un diogelwch â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig cyn bo hir, ac mae o’r farn y bydd y rhain yn cryfhau’r trefniadau presennol ac yn lleddfu pryderon o’r fath.