Cyhoeddiad newydd: Cyfres Cynllunio: 10 – Asesu Effeithiau Amgylcheddol

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r hysbysiad hwylus hwn yn rhoi trosolwg o’r Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA). Mae asesiad effaith amgylcheddol yn weithdrefn sy’n sicrhau y caiff goblygiadau amgylcheddol penderfyniadau cynllunio eu hystyried cyn gwneud y penderfyniadau hynny. Mae’r papur hwn yn amlinellu beth yw’r Asesiadau, pryd y byddant yn ofynnol, beth sy’n digwydd i geisiadau cynllunio nad oes ganddynt Ddatganiad Amgylcheddol, yr hyn y mae’n ofynnol i Asesiadau Effaith Amgylcheddol eu cynnwys, Datganiadau Amgylcheddol a sut y cânt eu hystyried a’r diwygiadau i’r Gyfarwyddeb arnynt.

Parhau i Ddarllen

Cyhoeddiad Newydd: Cyfres Cynllunio: 07 – Gorfodi

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r papur briffio hwn yn rhoi trosolwg o’r system gorfodi cynllunio. Mae’n nodi beth yw gorfodi, pryd y gall camau gorfodi ddigwydd, y mathau o gamau gorfodi, terfynau amser, gorfodi Llywodraeth Cymru, ac apeliadau yn erbyn camau gorfodi. Mae hefyd yn nodi sut y mae  Deddf Cynllunio (Cymru) 2015  wedi newid y system gorfodi cynllunio.

Parhau i Ddarllen

Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru: Aelodau’r Cynulliad i drafod deiseb

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun aneglur o fand roc ar lwyfan

Ddydd Mercher 12 Gorffennaf, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod deiseb yn galw am ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw. Mae’r ddeiseb wedi dal dychymyg pobl sy’n caru cerddoriaeth fyw yng Nghymru a chasglodd dros 5,000 o lofnodion.

Dyma’r tro cyntaf i ddeiseb y Cynulliad gasglu dros 5,000 o lofnodion ers i’r broses ddeisebu newydd gael ei chyflwyno ym mis Mawrth. Mae’r newidiadau yn caniatáu i’r Pwyllgor Deisebau ofyn am ddadl y Cynulliad ar unrhyw ddeiseb sy’n casglu mwy na 5,000 o lofnodion.

Parhau I Ddarllen

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru: beth ydyw a phryd y bydd ar gael?

24 Chwefror 2017

Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun o Bont Britannia ar draws culfor y Fenai

Mae’r dull o ran cynllunio defnydd tir strategol yng Nghymru yn newid. Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn cyflwyno dwy lefel newydd o gynllun datblygu, a fydd yn eistedd uwchben y Cynlluniau Datblygu Lleol presennol:

  • Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sy’n cwmpasu Cymru gyfan. Bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn nodi polisïau Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a defnyddio tir mewn cyd-destun gofodol, ac yn disodli Cynllun Gofodol Cymru; a
  • Chynlluniau Datblygu Strategol – mae’r rhain yn gynlluniau rhanbarthol a fydd yn eistedd rhwng y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a Chynlluniau Datblygu Lleol mewn rhai rhannau o Gymru, a byddant yn ymdrin â materion sy’n torri ar draws nifer o ardaloedd awdurdod cynllunio lleol (ond nad ydynt o arwyddocâd cenedlaethol).

Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol; gellir darllen mwy am Gynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol yn ein papur briffio ar bolisi cynllunio lleol (PDF 1MB) ac ym Mhrosbectws Cynlluniau Datblygu Llywodraeth Cymru.

Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn nodi fframwaith defnydd tir 20 mlynedd ac yn cael ei adolygu o leiaf bob pum mlynedd. Yn wahanol i Gynllun Gofodol Cymru, bydd y Fframwaith yn cael statws cynllun datblygu, sy’n golygu bod yn rhaid i bob Cynllun Datblygu Strategol a Chynllun Datblygu Lleol gydymffurfio ag ef. Mae Llywodraeth Cymru yn crynhoi diben y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol fel a ganlyn;

  • yn nodi lle y mae angen twf a seilwaith o bwysigrwydd cenedlaethol a sut y gall y system gynllunio gyflawni hyn;
  • yn creu cyfeiriad ar gyfer Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol;
  • yn cefnogi penderfyniadau ceisiadau o dan drefn Datblygiadau o Arwyddocâd Bwysigrwydd Cenedlaethol; gellir darllen mwy am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn ein papur briffio ar Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (PDF 614KB);
  • yn ategu Polisi Cynllunio Cymru, sy’n disgrifio polisïau cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru a bydd yn parhau i osod y cyd-destun ar gyfer cynllunio defnydd tir; ac
  • yn cyd-fynd â strategaethau economaidd, trafnidiaeth, amgylcheddol, tai, ynni a diwylliannol cenedlaethol ac yn sicrhau y gall y rhain gael eu cyflawni drwy’r system gynllunio.

Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft gael ei ystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn cyhoeddi’r Fframwaith terfynol.

Bydd gan y Cynulliad 60 diwrnod (heb gynnwys y toriad) i ystyried y Fframwaith drafft. Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried unrhyw benderfyniad neu argymhellion a wneir gan y Cynulliad, neu unrhyw un o’i bwyllgorau, wrth benderfynu a ddylai’r Fframwaith drafft gael ei ddiwygio.

Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad ochr yn ochr â’r Fframwaith terfynol yn amlinellu sut y mae wedi ystyried penderfyniadau neu argymhellion y Cynulliad.

Mae’r amserlen bresennol (isod) yn dangos y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft yn cael ei ystyried gan y Cynulliad ym mis Hydref – Rhagfyr 2019. Disgwylir i’r Fframwaith terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2020.

Galw am dystiolaeth a phrosiectau

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn galw am dystiolaeth a phrosiectau (7 Rhagfyr 2016 i 7 Mawrth 2017) er mwyn helpu i lywio datblygiad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am brosiectau a thystiolaeth ar lefel genedlaethol a fydd yn helpu Cymru i gyrraedd ei hamcanion cenedlaethol amrywiol. Mae’n rhoi’r canlynol fel enghreifftiau a allai fod yn berthnasol i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol:

  • astudiaethau Cymreig sy’n edrych ar y potensial i greu ynni adnewyddadwy, materion cysylltedd rhwng gwahanol rannau o Gymru neu faterion amgylcheddol sy’n berthnasol i sawl rhanbarth; a
  • materion sy’n ymwneud ag ardal lai ond sy’n bwysig i’r genedl, megis gorsafoedd pŵer neu gynefinoedd sy’n bwysig i’r genedl.

Caiff tystiolaeth a phrosiectau a gyflwynir eu hystyried yng nghyd-destun y system cynllunio datblygiad ac yn erbyn y saith nod llesiant, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r ddogfen ymgynghori yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion am y dystiolaeth a’r prosiectau a gyflwynir, a hefyd yn cyhoeddi crynodeb o’i hasesiad ohonynt. Fodd bynnag, ni cheir amserlen ar gyfer pryd y bwriedir i hyn gael ei wneud.

Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd

Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd yn nodi sut y bydd yn ymgynghori â’r cyhoedd wrth ddatblygu’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Cyhoeddwyd y ddogfen hon ym mis Tachwedd 2016 yn dilyn ymgynghoriad yn nechrau 2016.

Mae’r Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd yn dangos y bydd dau gyfnod 12 wythnos arall o ymgynghori cyhoeddus, cyn i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft gael ei ystyried gan y Cynulliad.

Mae’r amserlen lawn ar gyfer y Fframwaith fel a ganlyn:

ndf-table_welsh

Hanner miliwn o leisiau: ymateb uwch nag erioed yn amddiffyn Cyfarwyddebau Natur yr UE

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Delwedd o fritheg y gors, rhywogaeth iâr fach yr haf brin a geir yng Nghymru.

Llun: o Flickr gan Steve Childs. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r Cyfarwyddebau Natur yn ddau ddarn allweddol o ddeddfwriaeth yr UE sy’n sail i ddiogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd – cânt eu hystyried yn aml yn gonglfeini cyfraith amgylcheddol yn Ewrop.

Pan gyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd yn 2014 ei fod yn gwerthuso’r Cyfarwyddebau hyn trwy ‘wiriad ffitrwydd‘, cafwyd ymateb digynsail: derbyniwyd dros 550,000 o ymatebion gan y cyhoedd.

Daeth barn ar y Cyfarwyddebau Natur o bob cwr o’r UE. Felly beth yn union yw’r Cyfarwyddebau hyn? A beth oedd y canlyniad y gwerthusiad?

Y Cyfarwyddebau Natur

Canolbwyntiodd y Gwiriad Ffitrwydd ar Gyfarwyddeb Adar yr UE a Chyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE, a elwir ar y cyd yn y ‘Cyfarwyddebau Natur’. Maent yn diogelu mwy na 1,400 o rywogaethau dan fygythiad a bron 1.15 cilomedr sgwâr o gynefin yn Ewrop.

Y Gyfarwyddeb Adar (2009/147/EC) yw’r darn hynaf o ddeddfwriaeth amgylcheddol yr UE, a grëwyd yn gyntaf yn 1979. Ei ddiben yw amddiffyn y 500 o rywogaethau o adar gwyllt sy’n frodorol i’r UE, eu hwyau, nythod a chynefinoedd. Mae mesurau yn cynnwys dynodi Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) i warchod cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau sydd mewn perygl neu rywogaethau mudol.

Cafodd y Gyfarwyddeb Cynefinoedd (92/43 / EEC) ei mabwysiadu yn 1992. Mae’n darparu gwarchodaeth i dros 1000 o rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion a 200 o fathau o gynefinoedd. Rhan allweddol yw dynodi cynefinoedd pwysig fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).

Mae’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn dwyn ynghyd ACA ac AGA i mewn i’r  Rhwydwaith Natura 2000, sef rhwydwaith ecolegol cydlynol o safleoedd gwarchodedig.

Er gwaethaf y mesurau gwarchod hyn, mae colli bioamrywiaeth yn yr UE yn parhau i achosi pryder. Cafodd yr Adroddiad State of Nature 2016, er enghraifft, fod un o bob 14 o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddifodiant. Gellir cael mwy o wybodaeth am yr adroddiad mewn erthygl blog Pigion flaenorol.

Y Cyfarwyddebau Natur yng Nghymru

Mae darpariaethau’r Cyfarwyddebau yn cael eu gweithredu trwy ystod o ddeddfwriaeth yn cynnwys Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd), a’r Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 a’r Rheoliadau Cadwraeth Morol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol, & c.) 2007 (fel y’i diwygiwyd) .

Yn 2015, roedd gan y DU 924 o safleoedd Natura 2000, yn cwmpasu 95,106 cilomedr sgwâr (8.54%) o dir daearol a morol. Ar hyn o bryd mae gan Gymru 20 o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a 92 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Gellir cael mwy o wybodaeth ar wefannau Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Y Gwiriad Ffitrwydd

Mae’r Gwiriad Ffitrwydd yn rhan o ymdrech ehangach a elwir yn REFIT – Rhaglen Ffitrwydd a Pherfformiad Rheoleiddiol. Nod REFIT yw adolygu’r stoc gyfan o ddeddfwriaeth yr UE er mwyn sicrhau ei bod yn syml, yn addas i’r diben, a’i bod yn cyflawni’r manteision a fwriadwyd.

Asesodd y Gwiriad Ffitrwydd y Cyfarwyddebau Natur yn erbyn 5 prif faen prawf:

  • Effeithiolrwydd – a yw’r amcanion y ddeddfwriaeth wedi’u bodloni?
  • Effeithlonrwydd – a oedd y costau oedd ynghlwm yn rhesymol?
  • Cydlyniad – a yw’r ddeddfwriaeth yn gwrth-ddweud neu’n ategu polisïau a deddfwriaeth eraill?
  • Perthnasedd – a yw gweithredu gan yr UE yn dal i fod yn angenrheidiol?
  • Gwerth ychwanegol yr UE – a ellid fod wedi cyflawni newidiadau tebyg ar lefel genedlaethol neu ranbarthol, neu a wnaeth camau gweithredu gan yr UE roi gwerth ychwanegol clir?

Roedd yr ymateb cyhoeddus sylweddol yn bennaf oherwydd ymgyrchu gan gyrff anllywodraethol amgylcheddol. Daeth y gynghrair ‘Nature Alert’, er enghraifft, â thros 120 o gyrff anllywodraethol Ewropeaidd ynghyd, a oedd yn gyfrifol am 90% o’r ymatebion gan y cyhoedd. Cafodd ymgyrchoedd hefyd eu cynnal gan gynghreiriau mewn sectorau eraill megis tirfeddianwyr, coedwigaeth a hela. Cyflwynwyd ymatebion hefyd gan y sector preifat, gan gynnwys masnach a chwmnïau ynni.

Llywiwyd y gwerthusiad hefyd gan allbynnau blaenorol megis adolygiad canol tymor Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE ac adroddiad y Comisiwn yn 2015 ‘State of Nature in the EU’.

Ffeithiau a Ffigurau Allweddol

Yn Adroddiad Gwerthuso’r Gwiriad Ffitrwydd (PDF 1.98MB) mae’r ffigurau allweddol yn cynnwys:

  • 552,472 o ymatebion i’r ymgynghoriad
  • Daeth 105,033 (19.0%) o’r rhain o’r DU, a oedd yn golygu mai ymateb y Du oedd yr ail uchaf ar ôl yr Almaen (sef 106,357);
  • Yn 2011, cefnogodd rhwydwaith Natura 2000 yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol rhwng 4.5 ac 8 miliwn o swyddi ledled yr UE; ac
  • amcangyfrifir mai cost gweithredu Natura 2000 ledled yr UE yw €5.8 biliwn (£5.1 biliwn) o leiaf bob blwyddyn, tra bod y budd-ion yn cael eu prisio yn €200-300 biliwn (£173-260 biliwn) y flwyddyn.

Y canlyniad

Ym mis Rhagfyr 2016, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ganlyniad y Gwiriad Ffitrwydd. Wrth ddod i’r casgliad bod y Cyfarwyddebau yn addas i’r diben, nododd hefyd fod lle i wella wrth weithredu:

Within the framework of broader biodiversity policy the Nature Directives are fit for purpose but fully achieving their objectives and realising their full potential will depend on substantial improvement in their implementation in relation to both effectiveness and efficiency, working in partnership with different stakeholder communities in the Member States and across the EU, to deliver practical results on the ground.

Cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ar 7 Rhagfyr 2016 y byddai’n cynnal y Cyfarwyddebau ac yn datblygu Cynllun Gweithredu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau gweithredu a oedd wedi eu nodi.

Brexit a chadwraeth natur

Mae’r Gwiriad Ffitrwydd wedi amlygu’r rôl bwysig sydd gan y Cyfarwyddebau Natur mewn cadwraeth natur. Yng nghyd-destun y cynnig i dynnu’r DU allan o’r UE, beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig ar gyfer cadwraeth natur yng Nghymru?

Er mwyn helpu i ateb y cwestiwn hwn, mae Pwyllgorau’r Cynulliad wedi bod yn archwilio goblygiadau posibl Brexit ar gyfer yr amgylchedd. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn erthygl blog Pigion ‘Brexit a’r amgylchedd: paratoadau deddfwrfeydd y DU ar gyfer gadael yr UE’.


Erthygl gan Jeni Spragg, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jeni Spragg gan Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau