Y Cynulliad i drafod egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

17 Mawrth 2017

Erthygl gan Helen Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg

Llun: o Flickr gan Adam Levine. Dan drwydded Creative Commons.

Gosodwyd y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2016, a chafodd ei gyflwyno yn y Cyfarfod Llawn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 29 Tachwedd 2016. Bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil ar 21 Mawrth 2017.

Mae’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yn ymwneud â sefydlu’r fframwaith cyfreithiol, gweinyddol a gweithredol i ddisodli’r Dreth Dirlenwi yng Nghymru ym mis Ebrill 2018. Mae’r Dreth Dirlenwi ar hyn o bryd yn dreth a godir gan y DU ar gael gwared ar ddeunydd fel gwastraff drwy ei roi mewn safleoedd tirlenwi a ganiateir o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol. Cyflwynwyd y dreth bresennol ym 1996 fel elfen allweddol i sbarduno newid mewn ymddygiad amgylcheddol drwy roi cymhelliant i ddargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi, gan ailgylchu, ailddefnyddio ac adennill mwy o wastraff. Ers i’r dreth gael ei chyflwyno, mae wedi cyfrannu at ostyngiad sylweddol yng nghyfran y gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi, a chynnydd mewn cyfraddau ailgylchu.

Y Bil hwn yw’r trydydd mewn cyfres o filiau sy’n ymwneud â datganoli’r pwerau treth yn Neddf Cymru 2014. Rhagflaenwyd y Bil hwn gan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a sefydlodd y fframwaith cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol a’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), a fydd yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp o fis Ebrill 2018.

Ceir rhagor o wybodaeth am gefndir y Bil, trosolwg o’i rannau, crynodeb o’i oblygiadau ariannol, a geirfa Gymraeg yn y Crynodeb o’r Bil (PDF, 844KB) a luniwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid adroddiad (PDF, 1MB) ar ei ystyriaeth o egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yng Nghyfnod Un ar 10 Mawrth 2017.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn pennu nifer o argymhellion gyda’r nod o gryfhau’r ddeddfwriaeth. Er enghraifft, byddai’r Pwyllgor yn hoffi gweld cyfraddau arfaethedig y trethi, rhestr o ddeunyddiau cymwys a darpariaethau ar gyfer rhyddhad ar ddyled ddrwg, wedi’u cynnwys ar wyneb y Bil.

Er bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â rhai o’r darpariaethau hyn, mae’r Pwyllgor yn parhau i fod yn bryderus nad yw is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i’r un faint o waith craffu â Bil.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn credu bod angen sicrwydd ar fusnesau pan ddaw i ddefnyddio deddfwriaeth treth newydd, ac y byddai cynnwys manylion o’r fath yn y gyfraith ei hun yn helpu i fynd i’r afael â phryderon.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth sylweddol mewn perthynas â phwysigrwydd Cynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Cynllun Cymunedol yn cael ei gynnwys ar wyneb y Bil i ddangos ymrwymiad i’r cynllun wrth symud ymlaen, ond mae’n derbyn y gallai rhai o’r manylion gael eu pennu mewn rheoliadau.

Trafododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol briodoldeb y darpariaethau yn y Bil o ran pwerau i greu is-ddeddfwriaeth. Hefyd, cyhoeddwyd ei adroddiad (PDF, 2MB) ar 10 Mawrth 2017.

Yn amodol ar y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), bydd y Bil yn symud ymlaen at drafodion Cyfnod Dau (sef trafodaeth fanwl ar y Bil ac unrhyw welliannau a gynigir gan Bwyllgor). Disgwylir y bydd trafodion Cyfnod Dau wedi dod i ben erbyn 26 Mai 2017.

Llais Cryfach i Gymru: Y Prif Weinidog i roi tystiolaeth

16 Mawrth 2017

Erthygl gan Dr Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Sut y mae pwyllgor y Cynulliad yn ymchwilio i gysylltiadau rhwng sefydliadau.

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cynnal ymchwiliad i waith rhyngsefydliadol er mwyn:

  • Llunio egwyddorion arfer gorau ar gyfer dulliau o weithio rhwng sefydliadau ar gyfer deddfwriaeth gyfansoddiadol.
  • Ystyried gwaith deddfwrfeydd eraill o ran eu dulliau o weithio rhwng sefydliadau ac adeiladu arno pan fo’n ymwneud â meysydd polisi ehangach.
  • Ceisio, sefydlu a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dulliau o weithio rhwng seneddau, gan gynnwys hyrwyddo’r broses o ymgysylltu â dinasyddion.

Mae’r ymchwiliad yn canolbwyntio ar ddwy ffrwd: Materion Cyfansoddiadol a Materion Polisi Mae’r Pwyllgor ar hyn o bryd yn ystyried Ffrwd I: Materion Cyfansoddiadol. Mae wrthi’n adolygu sut y mae cysylltiadau rhyngsefydliadol wedi dylanwadu ar ddatblygiad datganoli yng Nghymru ers 1999. Mae hyn yn cynnwys ystyried:

  • Sut y mae dulliau rhynglywodraethol wedi effeithio ar ddatblygiad y setliad datganoli.
  • Sut y mae cysylltiadau rhynglywodraethol wedi datblygu ac esblygu, yr hyn a oedd yn llwyddiannus, a sut y mae’r cysylltiadau hyn wedi effeithio ar y setliad datganoli.
  • Sut y mae cysylltiadau rhyngseneddol wedi esblygu, cyflwr presennol y cysylltiadau hyn, a sut y gellid eu datblygu ymhellach o ran y gwaith o ddatblygu deddfwriaeth gyfansoddiadol a chraffu arni.

Mae’r Pwyllgor wedi bod yn clywed gan ffigurau allweddol yn natblygiad datganoli yn ystod y 18 mlynedd ddiwethaf. Mae eisoes wedi clywed gan yr Arglwydd Murphy, a oedd yn Ysgrifenydd Gwladol ar ddau wahanol achlysur – gweler ein llun ar Lywodraethiant Cymru. Yn y cyfarfod diwethaf, clywodd y Pwyllgor gan y Farwnes Randerson, sydd wedi bod yn Weinidog yn Llywodraeth Cymru ac yn Swyddfa Cymru, ac Elfyn Llwyd, sy’n gyn arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi clywed tystiolaeth gan Syr Paul Silk a oedd yn arwain Comisiwn Silk, a fu ynghlwm wrth y ddeddf ddiweddaraf ynghylch datganoli, sef Deddf Cymru 2017.

Ddydd Llun 20 Mawrth, fel rhan o #SeneddCasnewydd, bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ym Mhrifysgol De Cymru, Casnewydd ac yn clywed tystiolaeth gan y Prif Weinidog Carwyn Jones AC fel rhan o’r ymchwiliad. Caiff ei gwestiynu hefyd am y papur gwyn sy’n ymdrin â Chymru’n gadael yr UE, sef Diogelu Dyfodol Cymru. Bydd y cyfarfod yn cychwyn am 2.30pm a bydd croeso i’r cyhoedd.

Mae’r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i ofyn barn ynghylch yr ymchwiliad. 5 Mehefin 2017 yw’r dyddiad cau ar gyfer ymatebion.

Sut y dylai Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru weithio?

14 Mawrth 2017

Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 15 Mawrth, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC)  Cafodd y Pwyllgor fod llawer i gytuno ag ef wrth graffu ar gynigion Llywodraeth Cymru, ond gwnaeth y Pwyllgor 10 argymhelliad i helpu i sicrhau bod anghenion seilwaith Cymru yn cael eu diwallu yn awr ac yn y dyfodol.

Beth yw Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a pham y dewisodd y Pwyllgor ei ystyried?

Adeiladu Pont y Werin, Caerdydd

Llun o Flickr gan Ben Salter. Dan drwydded Creative Commons.

Roedd y compact a luniwyd rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru ym mis Mai 2016 yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yng Nghymru.  Yn ôl cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y comisiwn, bydd yn gorff anstatudol sy’n darparu cyngor technegol a strategol annibynnol ac arbenigol i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith hirdymor Cymru dros gyfnod o bump i 30 mlynedd.  Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno adroddiadau rheolaidd i Lywodraeth Cymru ar seilwaith economaidd ac amgylcheddol.  Llywodraeth Cymru fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am benderfyniadau a pholisi seilwaith.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi dweud mai ei uchelgais ar gyfer CSCC yw dadwleidyddoli’r penderfyniadau dadleuol ynghylch seilwaith, a chyflymu’r gwaith o gyflwyno prosiectau allweddol.  Ym mis Hydref 2016, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai’n anelu at sefydlu CSCC erbyn haf 2017, ond mewn datganiad ysgrifenedig ar 8 Mawrth, dywedodd ei fod bellach yn anelu at ei sefydlu erbyn diwedd 2017.

Roed craffu ar y cynlluniau i sefydlu CSCC yn un o’r prif flaenoriaethau i nifer o’r rhanddeiliaid a ymatebodd i ymgynghoriad y cynhaliodd y Pwyllgor ynghylch ei flaenoriaethau yr haf diwethaf.  Roedd y prif faterion a godwyd gan randdeiliaid yn cynnwys yr angen am weledigaeth hirdymor ar gyfer seilwaith, rôl a chylch gwaith CSCC, sut y bydd yn effeithio ar brosiectau allweddol, dysgu o arfer gorau rhyngwladol, a sut y gall wella’r trefniadau cyfredol ar gyfer cyflwyno seilwaith.

Sut yr ychwanegodd gwaith y Pwyllgor at gynigion Llywodraeth Cymru?

Derbyniodd Llywodraeth Cymru chwech o argymhellion y Pwyllgor, gan dderbyn tri mewn egwyddor a gwrthod un.  Felly, dyma’r ffyrdd y mae’r Pwyllgor wedi dylanwadu ar y model ar gyfer CSCC:

  • Bydd un o Bwyllgorau’r Cynulliad yn craffu ar yr ymgeisydd a ffafrir i gadeirio CSCC mewn gwrandawiad cyn penodi, fel y gwnaeth Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar yn achos yr ymgeisydd a ffafriwyd i gadeirio Awdurdod Refeniw Cymru.
  • Bydd CSCC yn cynhyrchu adroddiad ‘Cyflwr y Genedl’ ar anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol bob tair blynedd fel na fydd cysylltiad rhwng ei waith a’r cylch gwleidyddol, a bydd yn cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n canolbwyntio ar lywodraethu, ac ar waith a fu a gwaith sydd ar y gweill. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i bob un o’r argymhellion o fewn chwe mis.
  • Bydd ei lythyr cylch gwaith blynyddol yn darparu gwybodaeth am faint y bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl y gall ei wario o ran cyllid seilwaith dros yr amserlen hiraf posibl, a hynny er mwyn rhoi cyd-destun pwysig i’r argymhellion.
  • Bydd y llythyr cylch gwaith hefyd yn annog i CSCC feithrin perthynas gref â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU ac Ymddiriedolaeth Dyfodol yr Alban i fod mor effeithiol ag y bo modd.
  • Bydd angen i benodiadau i CSCC ystyried yr amrywiaeth yng nghymunedau Cymru, a nodir ymgysylltu ar y lefel ranbarthol yn ei gylch gorchwyl.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried mecanweithiau megis y Banc Datblygu i ganolbwyntio ar sut y gellir defnyddio mwy o arian preifat i gefnogi datblygiadau seilwaith.

A beth sydd ar ôl i’w drafod?

Un o brif argymhellion y Pwyllgor oedd y byddai deddfwriaeth yn gwneud CSCC yn gorff statudol ar ôl iddo gael ei sefydlu. 

Cafodd tystiolaeth gan gyrff sy’n cynghori ar seilwaith ar lefel ffederal a gwladwriaethol yn Awstralia ddylanwad ar hyn, a dywedwyd wrth y Pwyllgor fod eu statws statudol annibynnol wedi cryfhau eu statws fel llais arbenigol ar seilwaith, ac y byddai manteision y dull hwn yn berthnasol y tu hwnt i Awstralia.

Dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU wrth y Pwyllgor fod y ffaith ei fod yn gorff anstatudol yn golygu iddo gael ei sefydlu         yn gynt, ond bod anfantais hefyd gan ei fod yn llai parhaol yng ngolwg rhanddeiliaid.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan nad yw’n ystyried y byddai rhoi CSCC ar sail statudol yn gwella ei rôl na’i gylch gwaith.  Fodd bynnag, bydd yn ystyried hyn fel rhan o adolygiad ffurfiol a gynhelir cyn diwedd y Pumed Cynulliad.

Hefyd, derbyniodd Llywodraeth Cymru dri argymhelliad mewn egwyddor.  Argymhellodd y Pwyllgor y dylid ehangu cylch gwaith CSCC i gynnwys y cyflenwad o dir ar gyfer datblygiadau tai sy’n arwyddocaol yn strategol a seilwaith ategol cysylltiedig.  Er mai seilwaith economaidd ac amgylcheddol fydd cylch gwaith CSCC ar y dechrau, fe adolygir hyn erbyn diwedd y Pumed Cynulliad.

Hefyd, roeddy  Pwyllgor am i CSCC gael ei leoli y tu allan i Gaerdydd, ac iddo rannu llety â chorff cyhoeddus arall er mwyn sicrhau costau is.  Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn ystyried hyn, a derbyn yr angen i CSCC fod yn annibynnol ar y cyrff y bydd yn rhaid iddo weithio gyda hwy.

Yn olaf, ystyriodd y Pwyllgor y dylai CSCC gael ei ystyried yn gorff cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i hyrwyddo cydweithio, ymgysylltu â’r cyhoedd ac annibyniaeth.  Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd ei gylch gorchwyl yn sicrhau ei bod yn ofynnol i CSCC gadw at egwyddorion ac amcanion y Ddeddf.  Fodd bynnag, ni fydd yn ceisio newid y Ddeddf ar hyn o bryd.

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17

03 Mawrth 2017

Erthygl gan Martin Jennings a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gosodwyd ail gyllideb atodol 2016-17 gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar 7 Chwefror 2017.  Yn ogystal, cyflwynwyd nodyn esboniadol a thablau yn dangos y dyraniadau i’r adrannau.  Mae’r gyllideb atodol hon yn diwygio’r gyllideb atodol gyntaf ar gyfer 2016-17, a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2016. Mae Pwyllgor Cyllid wedi cyhoeddi ei adroddiad Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2016-2017 ar 2 Mawrth.

Mae dros ddeuparth y dyraniadau cyllid yn y gyllideb hon yn gyllid ychwanegol i’r GIG, gan gynnwys £75.9 miliwn i fynd i’r afael â gorwariant disgwyliedig Byrddau Iechyd Lleol (â £7.5 miliwn o hwnnw yn ychwanegol at y £68.4 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016), £50 miliwn i fynd i’r afael â phwysau’r gaeaf, £27 miliwn i ariannu’r diffyg incwm yn sgil y Cynllun Rheoleiddio Prisiau Fferyllol, ac £16 miliwn i gefnogi lansiad y Gronfa Triniaethau newydd

At hynny, mae £20 miliwn wedi cael ei ddyrannu i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddiwallu anghenion ariannol argymhellion Adroddiad Diamond, £8.5 miliwn i sefydlu Trafnidiaeth Cymru er mwyn dylunio a gosod masnachfreintiau’r rheilffordd a Metro De Cymru, a £4 miliwn i Tata Steel i gefnogi anghenion sgiliau.

Y prif ddyraniadau ariannol a wnaed oedd £47 miliwn at y prosiect cefnffyrdd (gan gynnwys £22 miliwn ar gyfer datblygu heol yr M4), £33.4 miliwn mewn grantiau a benthyciadau i gwblhau’r blaenoriaethau datblygu economaidd, a £30 miliwn at yr ymrwymiad a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu i adeiladu 20,000 yn rhagor o dai fforddiadwy.

Ariennir y buddsoddiadau hyn trwy gymysgedd o ddyraniadau o’r cronfeydd wrth gefn a chronfeydd a gariwyd drosodd o’r flwyddyn ariannol flaenorol ac maent hefyd yn ystyried newidiadau yn y cyllid gan Lywodraeth y DU.

Mae’r siart yn crynhoi’r newidiadau i’r dyraniadau ariannol yn gyffredinol, ynghyd â’r dyraniadau o ran refeniw cyllidol a gwariant cyfalaf rhwng gwahanol adrannau Llywodraeth Cymru, gan gymharu’r gyllideb atodol flaenorol â’r un gyfredol.

 

Y Cynulliad i drafod Adroddiad Blynyddol 2015/16 Prif Arolygydd Estyn

02 Mawrth 2017

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun: o Flickr gan theilr. Dan drwydded Creative Commons.

Llun: o Flickr gan theilr. Dan drwydded Creative Commons.

Yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (7 Mawrth, 2017), bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod Adroddiad blynyddol 2015/16 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Meilyr Rowlands. Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol ar 24 Ionawr 2017, ac mae eisoes wedi bod yn destun craffu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 15 Chwefror 2017 .

Dwy o’r prif negeseuon yw bod safonau’r ddarpariaeth yn parhau i fod yn ‘amrywiol’, gyda’r bwlch rhwng perfformwyr gorau a gwaethaf Cymru’n dal ‘yn rhy eang’, ac mai addysgu yw’r ‘agwedd wannaf’ ar hyn o bryd ar draws y rhan fwyaf o feysydd addysg yng Nghymru. Mae hyn hyd yn oed yn fwy amlwg o gofio bod y Prif Arolygydd yn cytuno â’r rhan fwyaf o’r drafodaeth addysgol gyffredinol, sef mai safon yr addysgu yw’r ‘dylanwad mwyaf’ ar ba mor dda mae plant a phobl ifanc yn dysgu.

Amrywioldeb

Mae’r Prif Arolygydd yn adrodd bod ‘amrywioldeb’ o fewn ysgolion a rhyngddynt  yn parhau i fod yn nodwedd amlwg’ o system addysg Cymru. Mae Mr Rowlands yn nodi:

Ym mhob sector, mae darparwyr da a rhagorol, gan gynnwys mewn ardaloedd cymharol ddifreintiedig, ond mae’r bwlch rhwng darparwyr sy’n gwneud yn dda a’r rhai nad ydynt yn gwneud yn dda yn dal i fod yn rhy eang.

Mae hon yn neges debyg i’r llynedd pan amlygodd y Prif Arolygydd  amrywioldeb mewn safonau, gan ddweud mai dyma oedd ‘un o nodweddion mwyaf amlwg y system addysg yng Nghymru’. Yn ei adroddiad yn 2014/15, dywedodd hefyd fod y bwlch rhwng y perfformwyr gorau a’r gwaethaf ‘yn dal yn rhy eang’ a bod ‘angen mynd i’r afael ag ef’, gan awgrymu ei bod yn broblem yn y tymor hir sy’n ymestyn yn ôl cyn hynny. Yn wir, mae’r Prif Arolygydd yn adrodd bod y ‘darlun sylfaenol’ o arolygiadau yn 2015/16 yn ‘debyg’ i’r flwyddyn flaenorol.

Dywedodd y Prif Arolygydd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mai un o’r prif ffyrdd y gall yr amrywioldeb hwn gael ei weld yw yn lefel y cysondeb ar draws ysgol.

Mae pobl yn dweud, ‘Wel, pa un yw’r broblem fwyaf?’ Y gwir amdani yw mai’r un broblem yw hi, oherwydd pan fyddwn yn dweud bod ysgol yn perfformio’n dda, neu fod yr arweinyddiaeth yn gadarn mewn ysgol, neu fod yr addysg yn dda yn yr ysgol honno, yr hyn yr ydym yn ei ddweud mewn gwirionedd yw bod yr addysg, neu’r arweinyddiaeth, neu’r ysgol, yn gyson dda. Yr hyn sy’n gwneud darpariaeth yn ddarpariaeth ddigonol yn unig yw ei bod yn anghyson. Felly, mae’r anghysondeb hwnnw-. Mewn ysgolion a darparwyr eraill lle rydym yn nodi eu bod yn ddigonol, mae pocedi o arfer da ond nid yw hyn yn gyson ar draws y system. Dyna beth sy’n arwain at yr amrywioldeb hwn yr ydym yn ei weld ar lefel system, sef bod gennych amrywioldeb o fewn y pocedi hynny gan ddarparwyr.

Safonau addysgu

Ansawdd yr addysgu yw’r dylanwad mwyaf ar ba mor dda y mae dysgwyr yn dysgu, ond dyma’r agwedd wannaf o’r ddarpariaeth ar draws y rhan fwyaf o feysydd addysg yng Nghymru.

Dyma sut y gwnaeth datganiad i’r wasg Estyn adrodd am gyhoeddi adroddiad blynyddol ei Brif Arolygydd ar gyfer 2015/16.  Ymddengos ei fod yn atgyfnerthu’r angen am y diwygiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol athrawon.

Yn wir, mae yna ffocws arbennig yn adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd eleni ar  well dysgu proffesiynol a datblygiad staff, y  mae’r Prif Arolygydd yn ei ddisgrifio fel ‘gofyniad strwythurol ar gyfer gwell addysgu’. Mae ei adroddiad yn cynnwys deg set o gwestiynau ar gyfer ysgolion, sydd wedi’u cynllunio i gynorthwyo â’u cefnogaeth ar gyfer dysgu proffesiynol athrawon.

Dywed y Prif Arolygydd bod gan ychydig dros dri chwarter yr ysgolion cynradd a arolygwyd yn 2015/16 safonau addysgu oedd yn dda neu’n well. Fodd bynnag, mae hyn yn wir mewn dim ond lleiafrif o ysgolion uwchradd. Mae’r addysgu yn rhagorol yn ‘ychydig iawn’ yn unig o ysgolion cynradd ac uwchradd.

Mae Llywodraeth Cymru yn diwygio’r cyfleoedd datblygu sydd ar gael i athrawon. Mae’n gweithio gydag ‘ysgolion sy’n arloesi’ tuag at sefydlu cynnig dysgu proffesiynol sengl newydd erbyn Gorffennaf 2018, mewn pryd ar gyfer argaeledd y cwricwlwm newydd ym Medi 2018. Mae safonau proffesiynol newydd hefyd yn cael eu datblygu ynghyd ag  adnewyddu rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon (yn dilyn Adolygiad Furlong) gyda fersiynau ‘trawsnewidiol’ newydd i’w  cyflwyno ym mis Medi 2019. Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar hyn o bryd yn cynnal Ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon.

Arsylwadau allweddol eraill

  • Mae mwy o fwlch rhwng y perfformiad gorau a’r perfformiad gwaethaf ar lefel ysgol uwchradd nag ar lefel ysgol gynradd. Mae gan fwy o ysgolion uwchradd berfformiad a rhagolygon ar gyfer gwella sy’n Rhagorol neu’n Anfoddhaol, tra bod ysgolion cynradd yn tueddu i gael eu clystyru yn bennaf o amgylch y ddwy farn ganol, sef Da a Digonol. Mae hwn yn batrwm parhaus o flynyddoedd blaenorol.
  • Mae yna duedd gynyddol o gyflwyno disgyblion yn gynnar ar gyfer arholiadau. Mae Estyn yn gweld y gall fod yn fuddiol mewn rhai pynciau, yn enwedig Mathemateg ond os caiff ei gymhwyso’n ehangach i garfanau mwy o ddisgyblion gall fod yn niweidiol. Gallai helpu disgyblion i ennill graddau C a helpu data perfformiad trothwy Lefel 2 ysgolion (5 neu fwy TGAU ar raddau A* -C), ond mae Estyn yn dweud bod iddo ‘anfanteision’.
  • Nid yw dysgwyr mwy galluog yn cyflawni cystal ag y dylent. Mae hyn yn awgrymu nad yw’r system yn gwneud digon i alluogi disgyblion mwy galluog a thalentog i gyflawni eu potensial. Mae’r OECD wedi nodi bod gan Gymru system gymharol gynhwysol ond nid yw’n ymestyn disgyblion mwy galluog a thalentog cystal ag y gallai.
  • Mae cyfran y disgyblion sy’n ennill 5 TGAU ar raddau A*-C wedi cynyddu o 51.1% yn 2012 i 57.9% yn 2015 a 60.3% yn 2016, er bod y gyfran sy’n ennill 5 TGAU ar raddau A* -A wedi lleihau o 17.1% yn 2012 i 16.6% yn 2015 a 15.9% yn 2016. (Sylwer bod Llywodraeth Cymru wedi dechrau defnyddio dull ystadegol ychydig yn wahanol yn 2016, gan fesur y garfan o ddisgyblion ym Mlwyddyn 11 yn hytrach na’r rhai 15 oed ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.)
  • Y bwlch rhwng y gyfran o ddisgyblion oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ennill trothwy Lefel 2 cynhwysol (5 TGAU graddau A* -C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg) a disgyblion eraill oedd 31 pwynt canran yn 2016. Dyma’r culaf y mae’r bwlch wedi bod mewn deng mlynedd.
  • Arolygwyd pob consortia rhanbarthol gan Estyn yn 2015/16. Mae’r Prif Arolygydd yn adrodd nad yw’rconsortia yn dadansoddi yn ddigonol cynnydd grwpiau o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai mwy galluog, yn ddigon manwl. Nid ydynt chwaith yn gwneud digon i fynd i’r afael ag amrywioldeb mewn safonau, yn enwedig rhwng ysgolion uwchradd.
  • Parhaodd y broblem tymor hir o berfformiad a chanlyniadau gwael mewn unedau cyfeirio disgyblion yn 2015/16. Mae adroddiadau blynyddol dros nifer o flynyddoedd wedi amlygu hwn yn faes sy’n peri pryder.

Beth y mae Estyn yn edrych arno wrth arolygu ysgolion a lleoliadau eraill?

Mae Estyn yn defnyddio Fframwaith Arolygu Cyffredin a gyflwynwyd ar ddechrau’r cylch arolygu cyfredol ym mis Medi 2010. Mae’r Fframwaith yn cynnwys tri chwestiwn allweddol ynghylch ‘pa mor dda’ yw’r deilliannau, y ddarpariaeth, a’r arweinyddiaeth a rheolaeth. Yn dilyn hynny, mae Estyn yn ffurfio dwy farn gyffredinol am berfformiad cyfredol a rhagolygon ar gyfer gwella ym mhob lleoliad yn ôl graddfa â phedwar pwynt iddi: Rhagorol, Da, Digonol ac Anfoddhaol.

Mae Estyn yn cyhoeddi data ar ei ganlyniadau arolygu. Mae hyn yn darparu manylion yr holl farnau arolygu ers dechrau’r cylch fframwaith arolygu presennol ym mis Medi 2010. Gall hyn gael ei hidlo yn ôl sectorau penodol.

Bydd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (7 Mawrth, 2017) yn cael ei darlledu ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar Gofnod y Trafodion y Cynulliad.