Diweddariad ar Brexit

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cyhoeddi bwletin bob pythefnos ar ‘Adael yr Undeb Ewropeaidd’ (Brexit) ar gyfer y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch datganiadau ac adroddiadau diweddaraf y llywodraeth, Senedd y DU, yr UE ac eraill. Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf  yma (272KB)

Parhau I Ddarllen

Rhoi sylw dyledus? I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei gyfrifoldebau o ddifrif o dan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC)

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae gan blant a phobl ifanc hyd at 18 mlwydd oed amrywiaeth o hawliau wedi’u nodi yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn), gan gynnwys hawliau i gael eu hamddiffyn, i iechyd, i deulu, i addysg, i ddiwylliant ac i hamdden (gweler crynodeb o erthyglau) (PDF 73.8KB)).

Mae’r Confensiwn yn nodi’r hyn y mae’n rhaid i lywodraethau, awdurdodau cyhoeddus ac oedolion ei wneud i alluogi plant i fwynhau eu holl hawliau. Cadarnhaodd y DU y Confensiwn ym 1991 a mabwysiadodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y Confensiwn yn unfrydol fel sail ar gyfer gwneud polisi ar gyfer plant ym mis Ionawr 2004.

Parhau i Ddarllen

A allai parthau rhydd roi hwb i borthladdoedd Cymru?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ardaloedd sydd wedi’u lleoli’n ddaearyddol o fewn ffiniau tir gwlad ond sydd y tu hwnt i reolaeth tollau yw parthau rhydd. Yn yr ardaloedd hyn, ni chodir tollau mewnforio na threth ar werth hyd nes y bydd nwyddau’n gadael y parth ac yn mynd i mewn i’r wlad y mae’r parth wedi’i lleoli ynddi. Pan fydd parthau rhydd wedi’u lleoli mewn porthladdoedd môr, maent yn aml yn cael eu galw’n borthladdoedd rhydd.

Ymddengys parthau rhydd ledled y byd, o Frasil i Fwlgaria, gan weithredu fel catalyddion ar gyfer masnach ryngwladol drwy ganiatáu i fasnachwyr a chwmnïau cludo ar longau storio nwyddau gydag ychydig iawn o gost a biwrocratiaeth.

Parhau i Ddarllen

Beth mae Bil yr UE (Ymadael) yn ei olygu i Gymru a datganoli?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 13 Gorffennaf 2017 cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil yr UE (Ymadael) i Senedd y DU. Nod y Bil – y cyfeiriwyd ato gynt fel Bil y Diddymu Mawr neu Fil y Diddymu – yw gwneud y newidiadau y mae Llywodraeth y DU yn eu hystyried yn angenrheidiol i gyfraith yn y DU wrth baratoi ar gyfer y DU yn gadael yr UE.

Cafodd y Papur Gwyn a arweiniodd at y Bil, Legislating for the United Kingdom’s Withdrawal from the European Union, ei gyhoeddi ar 30 Mawrth 2017. Darllenwch fwy yn ein blog.

Parhau i Ddarllen

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017-18

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bydd y Cynulliad yn trafod Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Gorffennaf. Mae’r erthygl hon yn rhoi gwybodaeth gefndirol am y gyllideb atodol a gwaith Pwyllgor Cyllid y Cynulliad i graffu ar y dyraniadau a geir ynddi.

Clywodd y Pwyllgor Cyllid dystiolaeth lafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am y newidiadau yn y gyllideb atodol, ac mae wedi cyhoeddi adroddiad a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 14 Gorffennaf.

Parhau i Ddarllen