Canlyniadau Safon Uwch Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Canlyniadau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru

Mae myfyrwyr Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau Safon Uwch heddiw. Bob blwyddyn mae’r Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy’n cynnwys y saith prif ddarparwr cymwysterau yn y DU) yn cyhoeddi crynodebau o’r canlyniadau.  Mae data’r Cyd-gyngor Cymwysterau yn dangos canlyniadau cyfunol y rhai a gofrestrodd gyda’r cyrff dyfarnu sy’n aelodau.

Parhau i Ddarllen

Y frech goch – y diweddaraf

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Rhwng mis Tachwedd 2012 a Gorffennaf 2013 cafwyd y nifer mwyaf o achosion o’r frech goch yng Nghymru ers cyflwyno’r brechlyn MMR. Mae’r frech goch wedi bod yn y newyddion eto yn yr wythnosau diwethaf, yn rhannol o ganlyniad i achosion o’r haint yn ardaloedd Casnewydd a Thorfaen. Mae hefyd wedi bod nifer o achosion ledled Ewrop eleni. Yn eu cynllun strategol byd-eang ar y frech goch a rwbela 2012-2020, gosododd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) nod o gael gwared ar y frech goch erbyn diwedd 2020. Er mwyn cyflawni hyn, bydd gofyn cynyddu’r nifer sy’n derbyn brechlynnau rhag y frech goch ledled y byd, gan gynnwys yng Nghymru a’r DU.

Parhau i Ddarllen

Diweddariad ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r erthygl hon yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas â’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru). Cyhoeddwyd blog gennym ddiwethaf cyn y ddadl yn y cyfarfod Llawn ar Gyfnod 1 y Bil (egwyddorion cyffredinol) ym mis Mehefin 2017.

Parhau i Ddarllen

Cyhoeddiad newydd: Cyfres Cynllunio: 10 – Asesu Effeithiau Amgylcheddol

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r hysbysiad hwylus hwn yn rhoi trosolwg o’r Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA). Mae asesiad effaith amgylcheddol yn weithdrefn sy’n sicrhau y caiff goblygiadau amgylcheddol penderfyniadau cynllunio eu hystyried cyn gwneud y penderfyniadau hynny. Mae’r papur hwn yn amlinellu beth yw’r Asesiadau, pryd y byddant yn ofynnol, beth sy’n digwydd i geisiadau cynllunio nad oes ganddynt Ddatganiad Amgylcheddol, yr hyn y mae’n ofynnol i Asesiadau Effaith Amgylcheddol eu cynnwys, Datganiadau Amgylcheddol a sut y cânt eu hystyried a’r diwygiadau i’r Gyfarwyddeb arnynt.

Parhau i Ddarllen

Blog gwadd gan Cymwysterau Cymru: Newidiadau i gymwysterau TGAU

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn y blog gwadd hwn, mae Jo Richards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio Cymwysterau Cymru, yn egluro’r newidiadau a wnaed i arholiadau TGAU eleni, a’r goblygiadau posibl o ran y canlyniadau a gaiff eu cyhoeddi ym mis Awst.

Parhau i Ddarllen