Beth mae Bil yr UE (Ymadael) yn ei olygu i Gymru a datganoli?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 13 Gorffennaf 2017 cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil yr UE (Ymadael) i Senedd y DU. Nod y Bil – y cyfeiriwyd ato gynt fel Bil y Diddymu Mawr neu Fil y Diddymu – yw gwneud y newidiadau y mae Llywodraeth y DU yn eu hystyried yn angenrheidiol i gyfraith yn y DU wrth baratoi ar gyfer y DU yn gadael yr UE.

Cafodd y Papur Gwyn a arweiniodd at y Bil, Legislating for the United Kingdom’s Withdrawal from the European Union, ei gyhoeddi ar 30 Mawrth 2017. Darllenwch fwy yn ein blog.

Welsh flag

I grynhoi, mae Bil yr UE (Ymadael) yn gwneud tri phrif beth.

  1. Mae’n diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, sef y prif gyfrwng i gyfraith yr UE lifo i mewn i gyfraith y DU, a dod yn rhan ohoni. Ni fydd y diddymu yn dod i rym nes yr hyn y mae’r Bil yn ei alw yn “ddiwrnod gadael” – dyddiad nad yw’n cael ei bennu yn y Bil, ond tybir yn gyffredinol mai dyma fydd y diwrnod y bydd y DU mewn gwirionedd yn gadael yr UE. Pe byddai Deddf 1972 yn cael ei diddymu yn gynharach, byddai’r DU yn torri ei rhwymedigaethau presennol fel Aelod-wladwriaeth yr UE;
  2. Mae’n nodi y bydd holl gyfraith yr UE (a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd) sy’n gymwys i’r DU ar hyn o bryd yn parhau i weithredu fel rhan o gyfraith y DU, ar y diwrnod gadael ac ar ôl y diwrnod hwnnw. Bwriad hyn yw cyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU i roi’r sicrwydd mwyaf posibl i unigolion a busnesau am eu hawliau a’u rhwymedigaethau ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
  3. Mae’r Bil yn cynnwys y ddwy fath o gyfraith yr UE sy’n effeithio ar y DU. Un fath yw cyfraith yr UE sydd eisoes wedi cael ei throsi i ddeddfwriaeth y DU (Deddfau, rheoliadau ac ati). Bydd hyn yn awr yn dod yn gyfraith annibynnol y DU. Yr ail fath yw cyfraith yr UE nad yw wedi cael ei thrawsnewid yn flaenorol yn ddeddfwriaeth y DU am ei bod yn gymwys yn “uniongyrchol” i’r DU. Enghraifft o hyn yw rhai o’r deddfau sy’n rheoli awdurdodi Organebau a Phlaladdwyr a Addaswyd yn Enetig. Bydd hyn yn awr yn cael ei thrawsnewid i mewn i ddeddfwriaeth y DU am y tro cyntaf.
  4. Mae’n rhoi i Weinidogion Llywodraeth y DU bwerau eang iawn i newid y gyfraith. Mae’r rhan fwyaf o’r pwerau hyn hefyd yn cael eu rhoi i Weinidogion Llywodraeth Cymru (ond gweler isod am y gwahaniaethau rhwng y ddau).
  5. Mae’r set gyntaf o’r pwerau hyn yn caniatáu i Weinidogion wneud unrhyw beth y maent yn “ystyried yn briodol” i sicrhau y gall cyfraith flaenorol yr UE weithio mewn gwirionedd fel rhan o gyfraith y DU, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd angen nifer fawr o newidiadau ar gyfer y diben hwn. Er enghraifft, mae cyfraith bresennol yr UE ar ansawdd dŵr ymdrochi yn ei gwneud yn ofynnol i’r DU anfon adroddiad ar ansawdd ei dŵr i’r Comisiwn Ewropeaidd. Ond, ar y Diwrnod Gadael, ni fydd gan y Comisiwn rôl mwyach o ran y DU. Felly, mae angen i’r ddeddfwriaeth gael ei haddasu fel y gall yr adroddiad gael ei anfon at gorff o fewn y DU – neu, o bosibl, peidio â chael ei anfon o gwbl. Mae’r pŵer a roddir i Weinidogion yn ddigon eang i ganiatáu iddynt sefydlu corff cyhoeddus newydd sbon at y math hwn o ddiben.

Rhoddir pŵer ehangach fyth i Weinidogion hefyd – i newid y gyfraith, neu i wneud cyfreithiau newydd, mewn unrhyw faes polisi, mewn unrhyw ffordd y maent yn ei hystyried yn briodol er mwyn cyd-fynd ag unrhyw gytundeb ymadael terfynol a wneir rhwng y DU a’r UE 27 .

Gelwir yr holl bwerau hyn a roddir i Weinidogion yn “bwerau Harri’r VIII”. Mae hynny’n golygu y gellir eu defnyddio i wneud unrhyw beth a fyddai fel arfer yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol, ac maent yn cynnwys y pŵer i newid neu ddiddymu deddfwriaeth sylfaenol – Deddfau Seneddol, a Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.  Mae Prif Gynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad yn datgan bod ‘y ffaith hon, ynghyd â’r ffaith bod y Bil yn caniatáu i Weinidogion wneud beth bynnag y maent yn ei “ystyried yn briodol” mewn rheoliadau, yn gwneud y pwerau newydd yn eang dros ben’. Mae’r set gyntaf o bwerau, fodd bynnag, yn dal yn gyfyngedig i ryw raddau oherwydd y  gofyniad y gellir ond eu defnyddio i sicrhau mynd i’r afael â phroblemau yn y gyfraith  sy’n deillio o’r DU yn ymadael â’r UE. Felly, er enghraifft, ni ellir defnyddio’r pwerau i newid rheolau blaenorol yr UE  oherwydd nad oedd Gweinidogion yn cytuno â hwy fel mater o bolisi.

Mae’r pwerau a roddir i Weinidogion yn ddarostyngedig i “gymalau machlud” – hy byddant yn dod i ben yn awtomatig ar ôl cyfnod penodol. Argymhellwyd hyn gan Bwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar y Cyfansoddiad yn ei adroddiad ar Fil y Diddymu Mawr ac felly mae’n debygol o gael ei groesawu yn San Steffan, er y gallai rhai feddwl bod yr union gyfnodau a nodir yn y Bil yn rhy hir.

Cyn cyhoeddi’r Bil, roedd cryn ddadlau dros y cynnig i roi pwerau mor helaeth i Weinidogion.

Mae’r Bil hefyd yn darparu na fydd dyfarniadau Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd a roddir ar ôl i’r DU ymadael â’r UE yn rhwymo llysoedd y DU. Fodd bynnag, bydd dyfarniadau a roddir cyn Diwrnod Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i rwymo holl lysoedd y DU, ac eithrio y Goruchaf Lys.

Yn yr holl agweddau hyn, mae’r Bil yn ei hanfod yn dilyn yr hyn a nodwyd yn y Papur Gwyn.

Beth allai’r Bil ei olygu i ddatganoli?

Mae’r Bil eisoes wedi dangos ei fod yn ddadleuol o ran datganoli. Mae’n atal cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a seneddau datganoledig eraill dros dro. Yn y bôn, bydd yn rhaid i’r Cynulliad barhau i i ddeddfu o fewn ffiniau cyfraith yr UE, fel yr oedd yn bodoli yn union cyn i’r DU ymadael (neu o fewn cyfraith yr UE y mae’r Bil wedi’i throsi i gyfraith y DU). Bydd y cyfyngiad hwn yn parhau am gyfnod amhenodol. Nid yw’r cyfyngiad yn berthnasol i Lywodraeth a Senedd y DU, a fydd yn gallu pasio cyfreithiau newydd sy’n newid gofynion presennol yr UE ar ôl i’r DU ymadael. Mewn meysydd lle mae polisi wedi’i ddatganoli – fel amaethyddiaeth neu’r amgylchedd – mae hyn yn golygu y gallai Llywodraeth a Senedd y DU ddileu rheolau blaenorol yr UE ar gyfer Lloegr, ond na fyddai’r Cynulliad yn gallu gwneud hynny ar gyfer Cymru.

Er enghraifft, ni allai Bil amaethyddiaeth yn y Cynulliad gyflwyno system newydd, bwrpasol o daliadau i ffermwyr yng Nghymru a fyddai’n wahanol i system bresennol yr UE, a hefyd yn wahanol i’r ffordd y byddai’r system honno yn cael ei throsi i mewn i gyfraith y DU. Mewn cyferbyniad, gallai Senedd y DU gyflwyno Bil amaethyddiaeth oedd yn dileu gofynion unrhyw reolau’r UE a droswyd gan y Bil.

Mae Llywodraeth y DU yn datgan yn y Nodiadau Esboniadol i’r Bil bod y cyfyngiad hwn yn gyfyngiad ‘trawsnewidiol’ a fydd yn berthnasol wrth iddi ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig ynghylch a oes angen fframweithiau polisi cyffredin mewn meysydd megis amaethyddiaeth a physgodfeydd ar draws y DU ar ôl i ni adael yr UE. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn datgan yn y Nodiadau Esboniadol i’r Bil, lle y penderfynir nad oes angen fframweithiau cyffredin, yna bydd y cyfyngiadau yn cael eu dileu. Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi datgan yn y Cyfarfod Llawn ac mewn tystiolaeth i Bwyllgorau na ddylai Llywodraeth y DU benderfynu ar ei phen ei hun a oes angen fframweithiau cyffredin ond yn hytrach dylai fod yn benderfyniad ar y cyd rhwng y gwledydd datganoledig a Llywodraeth y DU.

Nid yw’r Bil yn cynnwys cymal ‘machlud’ neu derfyn amser ar y cyfyngiad hwn ar y deddfwrfeydd datganoledig ac nid oes unrhyw ofynion i ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig yn cael eu cynnwys yn y Bil.

Mae’r Bil hefyd yn rhoi pwerau llai i Weinidogion datganoledig nac i Weinidogion y DU. Yn bwysig, ni fydd gan Weinidogion datganoledig y pŵer i drosi cyfraith yr UE sy’n “uniongyrchol gymwys” i mewn i gyfraith Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, tra bydd gan Weinidogion y DU y pŵer hwnnw o ran y DU gyfan – neu o ran Lloegr yn unig. Mae cyfraith uniongyrchol gymwys yr UE yn cynnwys llawer o gyfraith amaethyddiaeth – sy’n faes datganoledig.

Mae cyfyngiadau eraill hefyd yn berthnasol i Weinidogion datganoledig, megis yr angen i gael cydsyniad Gweinidogion Llywodraeth y DU mewn rhai achosion. Roedd y Papur Gwyn wedi addo y byddai Gweinidogion yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael pwerau “yn unol” â’r rhai a roddwyd i Weinidogion y DU.

A lle bynnag y mae’r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion datganoledig, mae’n rhoi’r un pŵer i Weinidogion Llywodraeth y DU. Mae Prif Gynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad yn datgan bod hyn yn golygu y gallai Llundain gamu i mewn a deddfu i Gymru ar faterion datganoledig. Nid yw’r Bil yn nodi y byddai hyn yn amodol ar gytundeb Llywodraeth Cymru neu’r Cynulliad – er mewn rhai achosion, byddai confensiynau cyfansoddiadol fel arfer yn gofyn am geisio cydsyniad o’r fath.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ar y Bil.  Yn y datganiad hwn nododd y Prif Weinidogion eu cred bod y Bil yn ‘a naked powers grab, an attack on the founding principles of devolution and could destabilise our economies’.

Dywedodd y Prif Weinidogion hefyd:

The Bill lifts from the UK Government and Parliament the requirement to comply with EU law, but does the opposite for devolved legislatures: it imposes a new set of restrictions. These new restrictions make no sense in the context of the UK leaving the EU.

Maent felly yn dod i’r casgliad na fyddant yn gallu argymell i’r Cynulliad a Senedd yr Alban y dylid rhoi eu cydsyniad i’r Bil.

Dywedodd David Rees, Cadeirydd Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad:

Ar y darlleniad cyntaf, mae’n ymddangos fel petai Llywodraeth y DU yn defnyddio gadael yr Undeb Ewropeaidd i atal y Cynulliad rhag defnyddio’r pwerau sydd ganddo ar hyn o bryd ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fel y nodwyd yn ein hadroddiad diweddar, caiff y Bil hwn ei gyflwyno yn dilyn bron i ddim ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru a dim ymgynghoriad ymlaen llaw â’r Cynulliad. Os yw’r Bil hwn yn ceisio cyfyngu ar bwerau’r Cynulliad, yna gellid ystyried ei fod yn tanseilio datganoli ac ewyllys democrataidd pobl Cymru, fel y mynegwyd yn refferendwm 2011 ar bwerau deddfu llawn i Gymru.


Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Llun o Flickr gan Nicolas Raymond. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Beth mae Bil yr UE (Ymadael) yn ei olygu i Gymru a datganoli? (PDF, 321KB)