Bod yn gaeth i gamblo – mater iechyd y cyhoedd?

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar 29 Mawrth 2017. Mae’n cael ei phostio eto cyn y Ddadl Fer ar Gamblo Cymhellol ar 19 Gorffennaf 2017.

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae llawer o bobl yn y DU yn gamblo ac, er bod llawer yn gallu gwneud hynny mewn ffordd gyfrifol, mae rhai yn mynd yn gaeth i’r gweithgaredd, ac yn datblygu problem gamblo. Yn ôl Adroddiad gan y Comisiwn Hapchwarae  a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2011, mae gan 1.1 y cant o bobl Cymru broblem gamblo. Mewn adroddiad mwy diweddar a gyhoeddodd y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR)  cafwyd dadansoddiad manwl o ddata ar gyfer Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd ac awgrymwyd bod y rhai sydd â phroblem gamblo yn costio rhwng rhwng £260 miliwn ac £1.16 biliwn y flwyddyn i’r llywodraeth, a rhwng £40 miliwn a £70 miliwn y flwyddyn i Gymru.

Y polisi ar hyn o bryd a sut y bydd yn datblygu yn y dyfodol

Mae'r ddelwedd yn dangos pentyrrau o sglodion casinoNid yw’r pŵer i reoleiddio gamblo wedi’i ddatganoli a chaiff ei reoli gan Ddeddf Gamblo 2005 , sy’n darparu fframwaith rheoleiddio ar gyfer y diwydiant. Ar hyn o bryd, mae’r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cynnal Adolygiad o Beiriannau Hapchwarae a Mesurau Cyfrifoldeb Cymdeithasol, a nod hwn yw penderfynu a oes angen newidiadau i sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng twf cymdeithasol cyfrifol a diogelu defnyddwyr a’r gymuned ehangach ac, os felly, sut fath o newidiadau sydd eu hangen. Mae’r adolygiad yn cynnwys pennu uchafswm y gellid ei gamblo a nifer y peiriannau hapchwarae a ganiateir. Mae adroddiad  (PDF 958 KB) a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Beiriannau Betio Ods Sefydlog (FOBT)  wedi galw ar Lywodraeth y DU i ostwng yn sylweddol yr uchafswm y gellir ei fentro o’r £100 presennol i £2. Mae Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin wedi cyhoeddi papur briffio ar beiriannau betio ods sefydlog, sy’n crynhoi’r materion yn ymwneud â’r dull penodol hwn o gamblo.

Mae Adran 58 o Ddeddf Cymru 2017 yn datganoli cymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â pheiriannau hapchwarae a awdurdodir drwy drwydded safle betio newydd lle yn y cyfnod adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi oedd hyn. Yn ystod y Ddadl yn Nhŷ‘r Arglwyddi, croesawyd y pwerau newydd er bod rhai Arglwyddi o’r farn nad oedd y newidiadau yn mynd yn ddigon pell ac y dylid datganoli cymhwysedd ar gyfer peiriannau nad oeddent yn caniatáu i neb fetio mwy na £2. Mewn tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad wrth iddo graffu ar y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), dywedodd cynrychiolwyr iechyd y cyhoedd mai peiriannau FOBT oedd ‘crac cocên’ y diwydiant hapchwarae. Mae’n bwysig cofio, fodd bynnag, mai dim ond un math o gamblo yw hwn o blith llawer. Er enghraifft, mae rhai wedi galw am fwy o reolaeth dros fetio ym myd pêl-droed. Mae gamblo ar-lein yn cynyddu hefyd, a derbynnir bod hyn yn anoddach i’w reoleiddio .

Er mai pwerau cyfyngedig sydd gan Gymru o ran rheoleiddio gamblo, mae bod yn gaeth i gamblo’n cael ei gydnabod fwyfwy fel mater sy’n peri pryder ym maes iechyd y cyhoedd.

Er enghraifft, yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae bod yn gaeth i gamblo’n broblem sy’n dod yn gynyddol amlwg. Mae ei adroddiad, sef New and Emerging Threats to the Health of rhe Gwent Population (PDF 4.9 MB), a gyhoeddwyd yn 2014, yn awgrymu bod gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio yn y gwasanaethau gofal sylfaenol, ynghyd â gwasanaethau iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, i gyd yn bwysig iawn yn y broses o roi diagnosis a chyfeirio pobl at wasanaethau a all eu cynorthwyo. Yn yr un modd, ymhlith argymhellion adroddiad yr IPRR uchod, nodir y dylid manteisio ar gyfleoedd i sgrinio pobl am broblemau gamblo pan fyddant yn dod i sylw gwasanaethau rheng flaen a dylid hyfforddi gweithwyr proffesiynol i adnabod problemau gamblo pan fo modd.

Diagnosis a thriniaeth

Gellir cael gwybodaeth gyffredinol am fod yn gaeth i gamblo ar wefan Galw Iechyd Cymru. Mae gwefan NHS Choices yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am fod yn gaeth i gamblo ac am y triniaethau sydd ar gael. Cyn dechrau unrhyw driniaeth, mae’n hanfodol bod yr unigolyn yn derbyn bod problem, ac mae pedair ffordd i bobl gael y driniaeth honno:

  • Eu cyfeirio’u hunain;
  • Cael eu cyfeirio gan feddyg teulu;
  • Clinigau preifat;
  • Cael eu cyfeirio agn y Llys.

Er bod y rhan fwyaf yn eu cyfeirio’u hunain, mae gan feddygon teulu rôl bwysig yn y broses sgrinio. O gofio bod proffil y gamblwr traddodiadol wedi newid, mae’n bwysicach nag erioed sicrhau eu bod yn cael yr hyfforddiant priodol. Er bod dynion yn fwy tueddol o gamblo na merched, mae’r bwlch wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf; roedd 63 y cant o ddynion a 59 y cant o ferched wedi gamblo mewn rhyw ffordd yng Nghymru yn 2015. Yn yr un modd, mae problemau gamblo’n effeithio fwyfwy ar bobl ifanc.

Mae’r rhai sy’n gaeth i gamblo’n aml iawn yn gaeth i bethau eraill hefyd, fel alcohol  (PDF 1.1 MB). Mae tystiolaeth hefyd sy’n awgrymu y gall gamblo fod yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl.

Mae nifer o driniaethau posibl ar gael, fel y nodwyd yn yr adolygiad eang a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain  (PDF 358 KB):

  • Cynghori / Cwnsela*
  • Seicotherapi;
  • Therapi gwybyddol-ymddygiadol;
  • Gofal preswyl
  • Ffarmacotherapi;
  • Cyfuniadau o’r uchod.

Caiff y ddarpariaeth bresennol ei ystyried yn annigonol yn aml. Ar hyn o bryd, sefydliadau preifat ac elusennol, fel GamCare, Gamble Aware, Gamblers Anonymous, ymhlith eraill, sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r triniaethau. Yng Nghymru, mae’r elusen Beat the Odds Wales  yn cynnig cymorth i’r rhai sy’n dioddef oherwydd problemau gamblo. Dim ond un Clinig Problemau Gamblo Cenedlaethol  sydd gan y GIG yn y DU, ac mae hwnnw yn Llundain. Mae’n derbyn cleifion o Gymru a Lloegr. Yn 2013 galwodd cyfarwyddwr y clinig, Dr Henrietta Bowden-Jones, ar Lywodraeth Cymru i ariannu clinig tebyg yng Nghymru .

Gwaith ar y gweill?

Trafodwyd problemau gamblo yn y Cyfarfod Llawn yn y 4ydd Cynulliad, pan alwyd ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu strategaeth i fynd i’r afael ag effaith gymdeithasol gamblo a’i effaith ar iechyd. Mewn ateb i gwestiwn ar 28 Mehefin 2016 am yr hyn a oedd yn cael ei wneud i ymdrin â gamblo, dywedodd y Prif Weinidog

mae’n hynod o bwysig bod pobl yn gweld gamblo fel rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, yn yr un ffordd ag y mae pobl yn gweld alcohol fel rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, fel y mae cam-ddefnyddio cyffuriau penodol yn rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, mae’n hynod o bwysig gyda gamblo hefyd. Rydym ni’n ystyried ffyrdd y gallwn ni sicrhau, trwy gyfrwng ein system addysg, bod pobl yn deall peryglon gamblo

Mewn nifer o ymatebion i ymgynghoriad  Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad, tynnwyd sylw at y ffaith nad yw problemau gamblo wedi cael digon o sylw, ac y dylid ystyried y broblem o safbwynt iechyd y cyhoedd. Yn yr Unol Daleithiau, roedd rhai ymchwilwyr yn gofyn i safbwynt o’r fath gael ei fabwysiadu ugain mlynedd yn ôl ac mae gan Weinyddiaeth Iechyd Seland Newydd,  er enghraifft, ddyletswydd statudol i gydlynu gwasanaethau sy’n ymdrin â phroblemau gamblo. Mae’n bosibl bod lle i’r sector iechyd yma yng Nghymru gymryd rhan fwy blaenllaw yn yr ymdrech i ymdrin â’r broblem.


Erthygl gan Piotr Wegorowski, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Piotr Wegorowski gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.

 

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Bod yn gaeth i gamblo – mater iechyd y cyhoedd? (PDF, 215KB)