Gwneud i’r economi weithio i’r rheiny sydd ag incwm isel

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Cynulliad yn dechrau clywed gan dystion ar gyfer ei ymchwiliad i wneud i’r economi weithio i’r rheiny sydd ag incwm isel  ar 5 Gorffennaf.  Bydd yn edrych ar sut y gall y Strategaeth Economaidd a Chynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru wella sefyllfa pobl ar incwm isel, yn ogystal â mesurau i hybu cyflogau isel, (an)sicrwydd gwaith ac anghydraddoldeb economaidd rhwng lleoedd gwahanol a grwpiau gwahanol o bobl.

Er mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am lawer o’r dulliau i ysgogi newid yn sefyllfa economaidd pobl ar incwm isel, bydd y Pwyllgor yn ystyried ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei chyfrifoldebau datganoledig yn y maes hwn, yn ogystal â sut y mae’r rhain yn rhyngweithio â pholisïau Llywodraeth y DU ar fudd-daliadau nawdd cymdeithasol a’r Rhaglen Gwaith ac Iechyd.

Er y gall ystadegau roi ychydig o’r gwir i ni am brofiadau bywydau pobl, dyma bum ffaith pendant sy’n debygol o lywio gwaith y Pwyllgor.

Mae dros hanner y plant ac oedolion o oedran gweithio sydd mewn tlodi incwm cymharol yn aelodau o deuluoedd sy’n gweithio

Mae set ddata yr Adran Gwaith a Phensiynau, Aelwydydd sydd ag Incwm Is na’r Cyfartaledd yn ystyried a yw pobl yn byw mewn aelwydydd gyda llai na 60 y cant o incwm canolrifol cartref yn y DU, a elwir yn dlodi incwm cymharol neu incwm isel cymharol. Mae’r prif fesur a ddefnyddir yn ystyried a yw pobl yn byw mewn tlodi incwm cymharol ar ôl costau tai.

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf  yn dangos bod 61 y cant o blant a 57 y cant o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru sydd mewn tlodi incwm cymharol yn byw mewn cartrefi lle mae rhywun mewn gwaith.  Mae hyn yn dangos tuedd gynyddol tuag at dlodi mewn gwaith, er bod cartrefi lle nad oes neb yn gweithio yn parhau i fod mewn mwy o berygl o fod mewn tlodi incwm cymharol.  Gellir gweld bod 68 y cant o blant sy’n byw mewn cartrefi lle nad oes neb yn gweithio rhwng 2013-14 a 2015-16 yn byw mewn tlodi incwm cymharol o gymharu â 22 y cant o blant yn byw mewn aelwydydd sy’n gweithio.  Yn yr un modd, mae 65 y cant o oedolion o oedran gweithio sy’n byw mewn cartrefi nad ydynt yn gweithio mewn tlodi incwm cymharol o gymharu â 23 y cant o oedolion o oedran gweithio yn byw mewn cartref lle mae rhywun yn gweithio.

O edrych ar y ffigurau cyffredinol, mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer 2013-14 i 2015-16 yn dangos, ar ôl costau tai:

  • Roedd 30 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn aelwydydd ag incwm cymharol isel, o’i gymharu â 23 y cant o oedolion o oedran gweithio a 18 y cant o bensiynwyr.
  • Roedd 23 y cant o boblogaeth Cymru yn byw mewn aelwydydd ag incwm cymharol isel – y ganran fwyaf o blith gwledydd y DU a holl ranbarthau Lloegr heblaw Llundain a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Graff 1: Graff llinell yn dangos tlodi incwm cymharol mewn aelwydydd sy'n gweithio a nad ydynt yn gweithio

Mae chwarter y bobl sy’n gweithio yng Nghymru yn ennill llai na’r Cyflog Byw gwirfoddol

Caiff y cyflog byw gwirfoddol ei gyfrifo gan y Resolution Foundation ym mis Tachwedd bob blwyddyn, ac £8.45 yr awr yw’r ffigur y tu allan i Lundain ar hyn o bryd.  Dyma’r isafswm sydd ei angen ar bobl i dalu am gostau byw eu teuluoedd. Mae’n uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol, a bennir gan Gomisiwn Cyflogau Isel Llywodraeth y DU. Dyma’r symiau lleiaf y mae’n ofynnol i gyflogwyr, yn ôl y gyfraith, eu talu i weithwyr yn y rhan fwyaf o amgylchiadau.

Ym mis Ebrill 2016, yn ôl ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd 285,000 o bobl a oedd yn gweithio yng Nghymru yn ennill llai na’r cyflog byw gwirfoddol, sef chwarter yr holl bobl yng Nghymru. Roedd 172,000 (60 y cant) o’r rhain yn fenywod a 113,000 (40 y cant) yn ddynion.  Daw’r pwyntiau a ganlyn i’r amlwg o ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol:

  • Mae canran fwy o weithwyr yng Nghymru yn ennill llai na’r cyflog byw nag yn Lloegr a’r Alban, ond Gogledd Iwerddon sydd â’r ganran fwyaf o weithwyr yn ennill llai na’r cyflog byw o blith gwledydd y DU.
  • Mae menywod yng Nghymru yn fwy tebygol na dynion o ennill llai na’r cyflog byw, oherwydd bod canran fwy o fenywod yn gweithio’n rhan-amser. Er bod canran fwy o ddynion (53.9 y cant) nag o fenywod (43.2 y cant) sy’n gweithio’n rhan-amser yng Nghymru yn ennill llai na’r cyflog byw, mae 109,000 o fenywod sy’n gweithio’n rhan-amser yn ennill llai na’r cyflog byw o’i gymharu â 39,000 o ddynion.

Y ganran o bobl sy’n derbyn budd-daliadau allan-o-waith yng Nghymru yw’r ail uchaf o’r cenhedloedd datganoledig a rhanbarthau Prydain

Ym mis Tachwedd 2016, roedd 216,240 o bobl, sef 11.3 y cant o’r boblogaeth o oedran gweithio yng Nghymru, yn cael y prif fudd-daliadau i’r rhai nad ydynt mewn gwaith – budd-daliadau nad ydynt ar gael i’r rhai mewn gwaith amser llawn.  Dyma’r gyfradd uchaf ond un o blith y rhanbarthau a’r gwledydd datganoledig ym Mhrydain (mae nawdd cymdeithasol wedi’i ddatganoli’n llawn i Ogledd Iwerddon ac nid yw wedi’i gynnwys yn ystadegau budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau).

Graff 2: Canran y boblogaeth sy'n hawlio budd-daliadau allan-o-waith yng ngwledydd a rhanbarthau datganoledig Prydain

Mae menywod sy’n gweithio yn ennill llai yr awr ar gyfartaledd na dynion

Mae dwy ffordd gyffredin o gymharu gwahaniaethau mewn cyflog gweithwyr benywaidd a gwrywaidd – mae’r ddwy ffordd yn dangos bod menywod ar gyfartaledd yn cael eu talu llai yr awr na dynion yng Nghymru ac yn y DU.

  • Mae’r prif fesur a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cymharu canolrif enillion yr awr menywod a dynion sy’n gweithio amser llawn, heb gynnwys taliadau goramser. Gan ddefnyddio’r mesur hwn, 7.5 y cant oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn 2016 ar gyfer gweithwyr llawn amser, sy’n is na ffigur y DU o 9.4 y cant.
  • Dull arall a ddefnyddir i fesur y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw edrych ar enillion canolrif yr awr heb gynnwys goramser ar gyfer yr holl fenywod a dynion sy’n gweithio, oherwydd bod hyn yn ystyried y ffaith bod menywod lawer yn fwy tebygol o weithio’n rhan-amser na dynion. Gan ddefnyddio’r mesur hwn, 15.7 y cant oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn 2016 ar gyfer yr holl weithwyr, sy’n is na ffigur y DU o 18.1 y cant.

Mae swyddi heb sicrwydd yng Nghymru ar gynnydd

Mae Cyngres yr Undebau Llafur wedi cyhoeddi dadansoddiad yn seiliedig ar ddata gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn tynnu sylw at y cynnydd mewn swyddi heb sicrwydd yng Nghymru a ledled y DU yn y blynyddoedd diwethaf. Maent yn cyfrif hunangyflogaeth â chyflog isel, gwaith dros dro a chontractau dim oriau fel dangosyddion swyddi heb sicrwydd, oherwydd bod i’r mathau hyn o waith lai o hawliau cyflogaeth a mesurau diogelu incwm.

Trwy ddiffiniad Cyngres yr Undebau Llafur, mae 9.1 y cant o weithwyr Cymru mewn swyddi heb sicrwydd yn ystod Hydref – Rhagfyr 2016 o’i gymharu ag 8.2 y cant ym mis Hydref – Rhagfyr 2011.  Mae’r canran hwn yn uwch nag yn yr Alban, ond yn is nag ym mhob un o ranbarthau Lloegr, a’r Gogledd Ddwyrain sydd â’r gyfradd uchaf o swyddi heb sicrwydd, ar 10.7 y cant.

Mae Cyngres yr Undebau Llafur yn datgan bod tua 48,000 yn fwy o swyddi yng Nghymru rhwng mis Hydref a Rhagfyr 2016 na rhwng mis Hydref a Rhagfyr 2011. Mae’n nodi bod 34 y cant o’r rhain mewn cyflogaeth heb sicrwydd.

Felly beth y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud am hyn i gyd, a beth y gall ei wneud o fewn ei phwerau datganoledig? Edrychwch ar yr ymatebion i ymgynghoriad y Pwyllgor a gwrandewch ar y sesiynau tystiolaeth i ganfod beth yw barn pobl.


Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell: Ystadegau Cymru, Plant mewn tlodi incwm cymharol yn ôl statws economaidd yr aelwyd  ac Oedolion o oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol yn ôl statws economaidd yr aelwyd Ffynhonnell: NOMIS – Ystadegau Swyddogol y Farchnad Lafur, Budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau: Hawlwyr Budd-daliadau – Grŵp Cleientiaid Oedran Gweithio

 

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Gwneud i’r economi weithio i’r rheiny sydd ag incwm isel(PDF, 296KB)