Sut y mae pethau o ran fy economi leol?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dros y misoedd diwethaf mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi data ar lefel awdurdodau lleol, am y tro cyntaf, ar gyfer dau ddull mesur allbwn economaidd a ffyniant, sef data ar Werth Ychwanegol Crynswth (GYC) ac Incwm Aelwydydd Crynswth i’w Wario (GDHI). Creffir ar y cyfresi data hyn fel dangosyddion allweddol o berfformiad economaidd pan fydd data ar gyfer Cymru yn cael eu rhyddhau. Felly, beth a allant ei ddweud wrthym ar lefel leol? A pha gyfyngiadau allai fod ar y mewnwelediad y gallwn ei gael yn sgîl y ffigurau?

Beth yw’r casgliadau allweddol y gellir dod iddynt yn sgîl y data?

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi llunio mapiau rhyngweithiol y gellir eu defnyddio i edrych ar berfformiad awdurdodau lleol ar draws Cymru rhwng 1997 a 2015 gan ddefnyddio’r dulliau mesur hyn, sy’n dangos GYC a GDHI y pen, a hefyd yn ei ddangos fel canran o gyfartaledd y DU. Mae’r mapiau isod yn dangos GYC a GDHI y pen fel canran o gyfartaledd y DU yn 2015.

Fel y gwelwch, Caerdydd, Sir y Fflint a Chasnewydd oedd â’r GVA a’r GDHI uchaf y pen o’r awdurdodau lleol yng Nghymru yn ystod 2015, fodd bynnag, ar gyfer y ddau fesur nid oedd dim un awdurdod lleol yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y DU. Roedd Blaenau Gwent a Chaerffili ymhlith y tri awdurdod oedd â’r GYC a’r GDHI isaf y pen yng Nghymru yn 2015.

Mae rhai awdurdodau lleol yn gwneud yn well yn ôl un mesur na’r llall. Er enghraifft, mae gan Wynedd GYC lawer yn uwch y pen nag Ynys Môn, fodd bynnag, pan fyddwch yn edrych ar GDHI caiff hyn ei wrthdroi. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod GYC yn ddull mesur ffyniant economaidd yn y gweithle a GDHI yn ddull mesur sy’n seiliedig ar gartrefi. O ystyried bod tua 7,500 o bobl yn cymudo o Ynys Môn i Wynedd o’i gymharu â 1,700 y ffordd arall, mae hyn yn golygu bod gweithwyr o Ynys Môn yn cyfrannu at GVA Gwynedd.

Ffigur 1: GYC y pen fel canran o gyfartaledd y DU, 2015

Map cyntaf: GYC y pen fel canran o gyfartaledd y DU ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru yn 2015.

O edrych ar y data GYC yn fanylach, gellir gweld:

  • Rhwng 1997 a 2015, bod gwelliant yn eu GYC y pen fel canran o gyfartaledd y DU mewn tri o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, sef yn Sir Gaerfyrddin, ym Merthyr Tudful ac yn Rhondda Cynon Taf.
  • O’r 19 o awdurdodau lle bu gostyngiad yn eu GYC y pen fel canran o gyfartaledd y DU dros y cyfnod hwn, yn Sir y Fflint, Sir Benfro a Phowys y bu’r gostyngiadau pwynt canran mwyaf.
  • Ers 1999, Caerdydd a fu â’r GYC uchaf y pen o blith pob awdurdod lleol yng Nghymru. Fodd bynnag, ers 2007 mae hwn wedi gostwng, o 116% o gyfartaledd y DU i 99.6% o gyfartaledd y DU yn 2015.
  • Ar gyfer pob blwyddyn ers 1997, ym Mlaenau Gwent y bu’r GYC isaf y pen o blith pob awdurdod lleol yng Nghymru, ac ym mhob blwyddyn heb 2012 y bu’r GYC isaf y pen o unrhyw awdurdod lleol ar draws y DU. Fodd bynnag, fel cafeat i’r data hwn mae’n werth bod yn ymwybodol, er 2008 mae dwy i deirgwaith cymaint o bobl wedi bod yn cymudo o Flaenau Gwent ag sy’n cymudo i mewn, sy’n golygu bod preswylwyr Blaenau Gwent yn cyfrannu at GYC awdurdodau lleol eraill.

Ffigur 2: GDHI y pen fel canran o gyfartaledd y DU, 2015

Ail fap: GDHI y pen fel canran o gyfartaledd y DU ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru yn 2015.

O edrych yn fanwl ar y data GDHI, gellir gweld:

  • Rhwng 1997 a 2015, bod gwelliant yn eu GDHI y pen fel canran o gyfartaledd y DU mewn 8 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gyda’r cynnydd pwynt canran mwyaf ym Mhowys a’r gostyngiad pwynt canran mwyaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
  • Rhwng 1998 a 2014, yng Nghaerdydd yr oedd y GDHI y pen uchaf o blith awdurdodau lleol Cymru, a hyd at 2011 roedd hwn yn gyson uwch na chyfartaledd y DU. Fodd bynnag, yn y blynyddoedd diwethaf bu gostyngiad pwynt canran, ac yn 2015 roedd gan Gasnewydd a Sir y Fflint GDHI uwch y pen.
  • Am 13 o’r 19 mlynedd o ddata rhwng 1997 a 2015, Blaenau Gwent fu â’r GDHI y pen isaf o blith pob awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys y tair blynedd ddiwethaf y mae data ar gael ar eu cyfer.

Beth yw cyfyngiadau’r data, a pha ddangosyddion ychwanegol y gallai fod angen i ni edrych arnynt i gael darlun llawn o berfformiad economaidd lleol?

Er bod y data yn rhoi cipolwg defnyddiol ar berfformiad economaidd ar lefel leol, mae nifer o gyfyngiadau ar eu defnyddio.

Nid yw data GYC a GDHI ar gyfer awdurdodau lleol yn cael eu hystyried yn Ystadegau Gwladol yn yr un ffordd ag y mae data ar gyfer ardaloedd mwy o faint.  Hynny yw, nid ydynt wedi cael eu hasesu fel ystadegau sy’n bodloni’r safonau ansawdd sy’n cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol. Felly, er bod y cyfresi data wedi cael eu cyhoeddi i fodloni angen y defnyddiwr, dylid bod yn ofalus wrth ddod i gasgliadau ar eu sail.

Fel y soniwyd uchod, mae cymudo rhwng ardaloedd yn achosi cyfyngiad o ran data GYC. Mae hyn yn cael effaith wrth edrych ar GVA ardaloedd daearyddol mawr a bach yng Nghymru. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn amlygu bod dosbarthiad oedran yn ystumio’r ffigurau GYC y pen, gan y bydd hyn yn effeithio ar y gyfran o bobl sy’n gweithio. Bydd effeithiau’r ystumio hwn yn arbennig o amlwg wrth edrych ar ardaloedd llai, fel ardaloedd awdurdodau lleol.

Codwyd pryderon ehangach gan Lywodraeth Cymru o ran defnyddio un dangosydd yn unig fel mesur o lwyddiant economaidd neu fel arall, ac mae’r Llywodraeth o’r farn bod angen amrywiaeth o ddangosyddion i fesur perfformiad economaidd, gan gynnwys cyfraddau cyflogaeth, enillion a chyfradd tlodi yn ogystal â GYC a GDHI. O ran GYC, maent yn dweud bod hwn yn gysylltiedig â maint dinasoedd, a bod hyn yn cael effaith negyddol ar Gymru gan bod ganddi’r gyfran isaf o’i heconomi mewn dinasoedd mawr o blith holl genhedloedd a rhanbarthau Prydain Fawr.

Wrth edrych y tu hwnt i’r llywodraeth, mae nifer o sefydliadau wedi galw am ddefnyddio gwahanol ddulliau mesur i edrych ar dwf economaidd. Er enghraifft, mae Sefydliad Joseph Rowntree a Sefydliad Bevan wedi galw am roi twf cynhwysol ar waith, i fod o fudd i bobl ar draws yr holl gymunedau a lleoedd. Byddai hwn yn ystyried dulliau mesur fel enillion isel, diweithdra, cyflenwad / fforddiadwyedd tai a chyrhaeddiad addysgol yn ogystal â dangosyddion fel allbwn economaidd, nifer y busnesau a galwedigaethau y mae gofyn am ragor o sgiliau i’w cyflawni.


Erthygl gan Gareth Thomas a Sam Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru