Y cynllun gweithredu: Cyfarwyddebau Natur ‘Addas i’r Diben’ yn cael bywyd newydd

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn dilyn cyfnod o ansicrwydd, bydd Cyfarwyddebau Natur yr UE, sy’n diogelu nifer helaeth o fywyd gwyllt yr UE, yn ffynnu o dan ‘Gynllun Gweithredu’ newydd.

Roedd y Cyfarwyddebau, sy’n ffurfio pileri deddfwriaeth amgylcheddol yr UE, yn destun ‘Gwiriad Addasrwydd’ yn 2016 gan beri pryder ynghylch eu dyfodol. Fodd bynnag, cafwyd ymateb digynsail o blaid y Cyfarwyddebau yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus yr adolygiad.

Cafodd canlyniad y gwiriad addasrwydd, gan gynnwys ymateb y cyhoedd, ei glywed gan y Comisiwn Ewropeaidd a ddewisodd nid yn unig i gadw’r Cyfarwyddebau fel y maent ond, ym mis Ebrill eleni, cyflwynodd ‘Gynllun Gweithredu’ newydd i wella eu heffeithiolrwydd.

Y Cyfarwyddebau Natur

Mae’r Cyfarwyddebau Natur yn cwmpasu Cyfarwyddeb Adar yr UE a Chyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE ac yn gyfrifol am ddiogelu 500 o adar, oddeutu 1200 o rywogaethau o anifeiliaid a 200 o fathau o gynefinoedd ledled Ewrop. Gyda’i gilydd, mae’r Cyfarwyddebau’n sefydlu’r Rhwydwaith Natura 2000, rhwydwaith ecolegol cydlynol o safleoedd a warchodir a gaiff eu rhannu’n ddau gategori; Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

Yng Nghymru, ers 2014, roedd 20 o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig dosbarthedig a 92 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sy’n cwmpasu 37 y cant o dir Cymru a 39 y cant o foroedd Cymru. Er gwaethaf hyn, mae Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) 2016 yn datgelu mai dim ond 55 y cant o’r rhywogaethau yn yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a’r Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig sydd mewn cyflwr ffafriol, gan dynnu sylw at yr angen am adnewyddu mesurau polisi cysylltiedig.

Mae’r Cyfarwyddebau’n cefnogi Strategaeth Bioamrywiaeth Ewropeaidd ehangach EU2020 sy’n ceisio atal colli bioamrywiaeth erbyn 2020 drwy chwe tharged, gan gynnwys dim colled net o wasanaethau ecosystem a bioamrywiaeth. Canfu adroddiad cynnydd yn 2010 fod yr UE wedi methu â chyrraedd ei thargedau blaenorol yn 2010. Mae gwella gweithrediad y Cyfarwyddebau Natur yn debygol o fod yn rhan hanfodol o ymdrechion i gyrraedd targedau uchelgeisiol 2020.

Ar hyn o bryd, mae’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y Cyfarwyddebau Natur yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd), Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 a Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol, & c.) 2007 (fel y’i diwygiwyd).

I gael mwy o wybodaeth am gynnwys y Cyfarwyddebau Natur, darllenwch yr erthygl flaenorol hon gan Pigion.

Y Cynllun Gweithredu

Cafodd y Cynllun ei gyhoeddi gan y Comisiwn ar 27 Ebrill 2017 a’i fwriad yw gwella’r diogelwch o fioamrywiaeth yn yr UE er budd dinasyddion a’r economi. Mae’n cynnwys 15 o gamau gweithredu ar gyfer y Comisiwn, Aelod-wladwriaethau a rhanddeiliaid i’w gweithredu cyn 2019. Caiff y rhain eu grwpio yn bedwar maes â blaenoriaeth:

  1. Gwella canllawiau a gwybodaeth a sicrhau cydlyniad gwell gydag amcanion economaidd-gymdeithasol ehangach (camau gweithredu 1-3): Bydd y Comisiwn yn helpu bob Aelod-wladwriaeth i ddiweddaru a hyrwyddo canllawiau ar ystod o bynciau gan gynnwys ynni gwynt, ynni dŵr a dyframaethu. Bydd hefyd yn sicrhau mynediad y cyhoedd i ddata.
  2. Meithrin perchenogaeth wleidyddol a chryfhau cydymffurfiad (camau gweithredu 4-7): Bydd y Comisiwn yn gweithio gydag awdurdodau cenedlaethol a rhanbarthol, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid i wella’r broses o weithredu a rhoi mesurau cadwraeth angenrheidiol ar waith.
  3. Cryfhau’r buddsoddiad yn Natura 2000 a gwella’r defnydd o arian yr UE (camau gweithredu 8-12): Bydd hyn ar ffurf cynnydd o 10 y cant yn y gyllideb LIFE, yn ogystal â hyrwyddo synergeddau â chyllid PAC. Mae’r cynllun hefyd yn bwriadu ysgogi buddsoddiad y sector preifat drwy’r Cyfleuster Cyllid Cyfalaf Naturiol tra’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu isadeiledd gwyrdd ar gyfer cysylltedd gwell Natura 2000.
  4. Allgymorth a chyfathrebu gwell, gan ymgysylltu â dinasyddion, rhanddeiliaid a chymunedau (camau gweithredu 13-15): Caiff hyn ei weithredu drwy gefnogi’r broses o gyfnewid gwybodaeth ag awdurdodau drwy lwyfan ar y cyd gyda Phwyllgor y Rhanbarthau. Mae’r cynllun hefyd yn ceisio cynnwys pobl ifanc drwy Gorfflu Undod Ewrop. At hynny, bydd y Comisiwn yn cryfhau cysylltiadau rhwng treftadaeth naturiol a diwylliannol yng nghyd-destun Blwyddyn Treftadaeth Ddiwylliannol Ewrop yn 2018. Bydd 21 Mai 2018 hefyd yn cael ei nodi yn Ddiwrnod Natura Ewrop.

Nid yw Aelodau o Senedd Ewrop wedi canmol y cynllun yn fawr. Roedd rhai yn pryderu am y diffyg eglurder ynghylch statws cadwraeth nifer o rywogaethau dan fygythiad, tra bod eraill yn tynnu sylw at hepgor pryfed peillio o’r Cynllun Gweithredu.

Yn benodol, roedd pryder cyffredinol ynghylch a fydd y Cynllun Gweithredu yn gallu cyrraedd targedau bioamrywiaeth EU2020 ar adeg pan fo bioamrywiaeth yn gostwng ledled Ewrop, gyda rhai yn beio diffyg cyllid Natura 2000 am y methiant hwn. At hynny, nid yw’r cynllun yn cynnwys unrhyw sôn am gynlluniau bioamrywiaeth yn y dyfodol y tu hwnt i 2020.

Y camau nesaf

Mae Cyngor yr Amgylchedd wedi llunio casgliadau drafft ar y Cynllun Gweithredu a gafodd eu hanfon at y Cynrychiolwyr Cenedlaethol ar 7 Mehefin. Mae’r casgliadau yn debygol o gael eu mabwysiadu yn ystod cyfarfod y Cyngor ar 19 Mehefin.

Y cam nesaf yw i Bwyllgor yr Amgylchedd, Iechyd Cyhoeddus a Diogelwch Bwyd yn Senedd Ewrop i gyflwyno Cwestiwn Llafar i’r Comisiwn ar y Cynllun Gweithredu. Disgwylir y bydd y Comisiwn yn ymateb yn ffurfiol yn ystod y Cyfarfod Llawn ym mis Mehefin neu Orffennaf.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Gyda’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y gorwel, mae dyfodol y Cyfarwyddebau Natur yn y DU yn ansicr. Er gwaethaf hyn, bydd sawl darn o ddeddfwriaeth yn parhau mewn grym yng Nghymru ni waeth beth fydd yn digwydd. Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ym mis Mai 2017 mewn ymateb i gwestiwn am ddyfodol y Cyfarwyddebau:

Rydym wedi ymrwymo i gynnal a gwella ein safonau amgylcheddol, ac rydym yn cydnabod bod ein hadnoddau naturiol yn hanfodol i ddyfodol Cymru ar ôl gadael yr UE. Mae deddf yr amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol eisoes wedi rhoi sylfaen gref ar waith sy’n seiliedig ar ymrwymiadau rhyngwladol na fydd yn cael eu heffeithio gan Brexit.

Er y gall bwriad amgylcheddol Llywodraeth Cymru aros yn gyfan, gallai ei rôl yn rhwydwaith Natura 2000 a mynediad at gyllid cysylltiedig yr UE fod mewn perygl. Mae rhai arbenigwyr wedi awgrymu y bydd cyfraniad y DU a Chymru i Natura 2000 yn dibynnu ar barodrwydd gwleidyddol i gymryd rhan. Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU wedi gwneud datganiad ynghylch eu bwriad. Rhagwelir y bydd Bil y Diddymu Mawr yn newid pob un o ddeddfwriaethau’r UE sy’n weddill yn gyfraith ddomestig yn y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig. Caiff hyn ei ddilyn gan broses o ‘adolygu a diwygio’ lle gall y Llywodraeth ddiwygio deddfwriaeth. Yn y gorffennol mae Michael Gove, Ysgrifennydd Cabinet newydd y DU dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi beirniadu’r Cyfarwyddebau Cynefinoedd fel rhwystr i adeiladu tai. Hyd nes bod y broses adolygu hon yn gyflawn, mae’n ansicr a fydd y sefyllfa bresennol yn parhau ar gyfer cadwraeth natur yng Nghymru a ledled y DU, neu a yw safonau amgylcheddol ar fin newid.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Keri McNamara gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r post blog hwn gael ei gwblhau.


Erthygl gan Keri McNamara, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun: o Pixabay gan David Mark. Dan drwydded Creative Commons.