Bathodynnau Glas: Sut a pham mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu’r cynllun hwn?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dyma’r drydedd erthygl mewn cyfres o flogiau yn trafod y cynllun Bathodynnau Glas. Roedd y blog ddydd Mawrth yn esbonio’r meini prawf ar gyfer cymhwysedd ac asesu, a blog ddoe yn disgrifio’r broses o wneud cais ac apelio.

Mae’r cynllun Bathodynnau Glas yn drefniant cenedlaethol ar gyfer darparu consesiwn parcio i bobl anabl, sydd mewn grym ar draws y DU.

Ehangu cymhwysedd i gynnwys y rheiny sydd â nam gwybyddol

Ym mis Mehefin 2014, cyhoeddodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd, y câi meini prawf cymhwysedd ar gyfer Bathodyn Glas eu hehangu i gynnwys pobl â nam gwybyddol.

Ym mis Mai 2013, comisiynodd y Gweinidog Grwp Adolygu Arbenigol i ystyried cynllun y Bathodynnau Glas yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar ehangu’r meini prawf cymhwysedd i gynnwys pobl â nam gwybyddol. Gwnaeth y grwp nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y dylai:

  • Ddiwygio’r rheoliadau i ehangu’r meini prawf cymhwysedd cyfredol i gynnwys pobl â nam gwybyddol, nad ydyn nhw’n gallu teithio’n ddiogel ac yn annibynnol;
  • Recriwtio saith Llysgennad Bathodynnau Glas, un ar gyfer pob Bwrdd Iechyd Lleol, i asesu ceisiadau am fathodynnau glas ar gyfer pobl sydd â nam gwybyddol a chynnig cyngor annibynnol ledled Cymru i wella cysondeb o ran gwneud penderfyniadau; a
  • Cyflwyno ffurflen gais arbennig i bobl sy’n gwneud cais o dan y meini prawf dewisol ar gyfer nam gwybyddol neu ddiogelwch, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio iaith blaen a syml.

Ym mis Medi 2013, cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i weithredu ar argymhellion y Grwp Adolygu Arbenigol.

Cynhaliwyd ymgynghoriad o fis Hydref 2013 i Ionawr 2014 ynglyn â:

  • Cynnwys nam gwybyddol yn y meini prawf cymhwysedd;
  • Penodi Llysgenhadon Bathodynnau Glas mewn Byrddau Iechyd Lleol i asesu ceisiadau a wnaed dan y meini prawf nam gwybyddol; a
  • Gwella trefniadau gorfodi ac ymchwilio mewn achosion lle caiff y cynllun ei gamddefnyddio.

Daeth y rheoliadau sy’n ehangu’r meini prawf cymhwysedd i rym ym mis Rhagfyr 2014, ynghyd â chanllawiau newydd ar gyfer awdurdodau lleol.

Cyflwyno bathodynnau dros dro

Ym mis Mai 2015, bu i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd gomisiynu a sefydlu Grwp Gorchwyl a Gorffen y Bathodynnau Glas i adolygu’r modd y gweinyddir y Cynllun Bathodynnau Glas yng Nghymru. Roedd adroddiad y Grŵp yn gwneud 13 0 argymhellion gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried darparu bathodynnau dros dro lle bo amodau cymhwysedd yn debygol o bara am o leiaf 12 mis.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy naill ai dderbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, yr holl argymhellion.

Ar 1 Hydref 2016, ehangwyd y cynllun Bathodynnau Glas yng Nghymru i gynnwys y rheiny sy’n dioddef o anafiadau neu salwch sylweddol dros dro. Yn unol â’r cynllun wedi’i ehangu, rhoddir Bathodynnau Glas am flwyddyn i bobl na all gerdded neu sy’n ei chael hi’n anodd iawn cerdded oherwydd anabledd sylweddol dros dro y disgwylir iddo bara am gyfnod o 12 mis o leiaf. Pan fo’r cyfnod hwn yn dod i ben, bydd deiliad y bathodyn yn gallu gwneud cais arall am fathodyn dros dro neu fathodyn parhaol yn unol â’u hanghenion. Mae enghreifftiau o anableddau sylweddol dros dro yn cynnwys:

  • Person sy’n gwella ar ôl torri eu coes yn ddifrifol sydd weithiau’n cael ei reoli â chymorthyddion allanol am dros flwyddyn;
  • Person sy’n gwella o strôc neu anaf i’r pen sydd wedi effeithio ar ei symudedd;
  • Person sy’n gwella o drawma i’r cefn sy’n effeithio ar ei symudedd;
  • Person â salwch difrifol lle bo’r driniaeth yn wanychol, er enghraifft, triniaeth ar gyfer canser; a
  • Person â nam difrifol i’w goes sy’n disgwyl am driniaeth ar y cymalau, neu sydd wedi cael y driniaeth honno (e.e. yn effeithio yn unochrog neu’n ddwyochrog ar y glun neu’r goes ac ati).

Dyma’r erthygl olaf o’r gyfres o flogiau yn trafod y cynllun Bathodynnau Glas. Esboniodd y blog ddydd Mawrth y meini prawf ar gyfer cymhwysedd ac asesu, ac roedd blog ddoe yn disgrifio’r broses o wneud cais ac apelio.


Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun o geograph.org.uk gan David P Howard. Dan drwydded Creative Commons.