Sut rydym yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i ddatblygu’n gryf ac yn iach? Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth nyrsys ysgol effeithiol yng Nghymru.

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Fframwaith Diwygiedig ar gyfer Gwasanaeth Nyrsys Ysgol yng Nghymru

Mae potensial enfawr i nyrsys ysgol wella iechyd corfforol, emosiynol a seicolegol plant a phobl ifanc, gan eu cynorthwyo i wneud y gorau o’u gallu yn ystod eu hamser yn yr ysgol ac i dyfu i fod mor iach a chryf â phosibl. Mae hyn yn cael ei gydnabod yn y Fframwaith diwygiedig ar gyfer Gwasanaeth Nyrsys Ysgol yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 18 Mai 2017.

Mae’r Fframwaith Diwygiedig yn uchelgeisiol. Mae’n nodi amrywiaeth o broblemau iechyd y gall nyrsys ysgol helpu i’w datrys, o iechyd corfforol i iechyd emosiynol ac anghenion cymdeithasol ehangach. Mae rôl y Nyrs Ysgol Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN) yn cynnwys:

Mae’r Fframwaith Diwygiedig yn egluro y dylai nyrsys ysgol ganolbwyntio ar waith ataliol; gan weithio’n agos gydag athrawon i’w helpu i gyflwyno gwersi sy’n gallu effeithio ar iechyd plant, fel gofalu am eu dannedd a phwysigrwydd golchi dwylo i osgoi salwch, ysmygu, camddefnyddio alcohol a sylweddau, bwyta’n iach ac addysg rhyw a pherthnasoedd.

Mae’r Fframwaith Diwygiedig hefyd yn cydnabod bod gan nyrsys ysgol ran bwysig yn y gwaith o sicrhau bod gan fyfyrwyr ddealltwriaeth sylfaenol o’r modd y gallant gael, a datblygu, agwedd meddwl iach ni waeth beth yw eu cefndir cymdeithasol, diwylliannol neu economaidd, a’u bod yn cael cyfle i ddatblygu ffyrdd iach o feddwl (Young Minds). Mae’n cyfeirio at Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Nyrsys Ysgol y GIG i Hyrwyddo Llesiant Emosiynol a Diwallu Anghenion Iechyd Meddwl Plant Oedran Ysgol. Mae’r ddogfen hon yn pennu safonau ar gyfer Nyrsys Ysgol y GIG drwy Gymru i sicrhau eu bod yn gallu hyrwyddo llesiant emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc mewn sefydliadau addysgol.

Oherwydd hynny, mae’r Fframwaith Diwygiedig wedi’i groesawu’n gyffredinol. Mae’n nodi bod:

“Plant a phobl ifanc, athrawon a nyrsys ysgol i gyd yn cydnabod bod problemau iechyd meddwl yn cynyddu yn ein hysgolion ac y byddent yn croesawu mwy o gymorth rhagweithiol ac ymatebol gan gynnwys cymorth i ymdrin ag iselder, bwlio, pryder a’r problemau sy’n deillio o fod yn gaeth i alcohol neu sylweddau”.

Mae’n deg dweud bod cryn dipyn o’r Fframwaith Diwygiedig wedi aros yr un fath yn yr ystyr bod Byrddau Iechyd lleol yn defnyddio nyrsys ysgol mewn timau i hybu iechyd plant oedran ysgol yn eu hardaloedd lleol drwy gydol y flwyddyn. Bydd pob ysgol uwchradd yng Nghymru yn parhau i fod â nyrs ysgol benodedig. Fodd bynnag, mae’r Fframwaith Diwygiedig hefyd yn ceisio adeiladu’n rhagweithiol ar y gwasanaeth nyrsys ysgol presennol ac ehangu arfer da er budd holl blant a phobl ifanc oedran ysgolion Cymru:

“Yn y ddogfen ddiwygiedig hon, caiff y disgwyliadau eu hailadrodd a’u hymestyn i sicrhau y bydd gan bob ysgol uwchradd brif ffrwd a’r clwstwr o ysgolion cynradd sy’n ei bwydo nyrs ysgol benodedig SCPHN (SN) a gyflogir gan y GIG drwy gydol y flwyddyn”.

Yn ymarferol, dylai hyn olygu y bydd gan bob plentyn yng Nghymru nyrs ysgol benodedig yn awr drwy gydol eu hamser yn yr ysgol. Mae’r ddogfen yn egluro rôl graidd y gwasanaeth nyrsys ysgol, sy’n seiliedig ar gategorïau Rhaglen Plant Iach Cymru sef gwasanaethau Cyffredinol, Ychwanegol a Dwys.

Er bod y Fframwaith Diwygiedig yn egluro y bydd nyrsys ysgol yn rhoi cymorth ychwanegol a/neu’n cyfeirio disgyblion at wasanaethau lleol neu arbenigol i blant a phobl ifanc os nodir bod ganddynt anghenion ychwanegol, mae’n bosibl y bydd y Fframwaith Diwygiedig yn siomi rhai rhanddeiliaid gan nad yw’n cyfeirio’n benodol at y canllawiau statudol a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, sef ‘Cynorthwyo dysgwyr ag anghenion gofal iechyd’.

Y brif her i Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, fydd dangos bod ei gweledigaeth strategol yn cael ei hadlewyrchu’n ymarferol. Bydd Llywodraeth Cymru am osgoi beirniadaeth flaenorol y Coleg Nyrsio Brenhinol a ddywedodd fod gormod o bwysau’n cael ei roi ar nyrsys ysgol oherwydd blaenoriaethau anghyson, a chynnydd mewn problemau fel diogelu, a’u bod yn cael eu hatal rhag cyflwyno gweithgareddau hybu iechyd, er gwaethaf rhywfaint o fuddsoddiad yn y gwasanaeth. Mae gwaith ymchwil Llywodraeth Cymru ei hun wedi dangos bod cytundeb cyffredinol ymhlith plant a phobl ifanc, nyrsys ysgol ac athrawon fod y ffaith bod gan nyrsys ysgol cyn lleied o amser i’w dreulio yn yr ysgol wedi bod yn rhwystr rhag gwella’r gwasanaeth ac ennill ymddiriedaeth plant a phobl ifanc yn y gorffennol.

Yn Lloegr, cyhoeddwyd dau adroddiad yn ddiweddar (gan y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chomisiynydd Plant Lloegr) a oedd yn pryderu am ddirywiad y gwasanaeth nyrsys ysgol a’r problemau cynyddol sy’n eu hwynebu: The Best Start: The Future of Children’s Health (Mai 2017) a Lightening Review: School Nurses (Medi 2016). Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn gobeithio y bydd y Fframwaith Diwygiedig yn tawelu pryderon tebyg ymhlith rhanddeiliaid Cymru.

Cyfarfod llawn

Pan fydd yn gwneud ei ddatganiad i’r Cyfarfod Llawn ar 6 Mehefin 2017, mae’n bosibl iawn y caiff Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ei herio i ddarparu data manylach ynghylch nifer y nyrsys sy’n gweithio gydag ysgolion a’r gyfran sydd â’r cymhwyster perthnasol i weithio fel nyrs ysgol (yn ôl yr ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd, roedd 233 o nyrsys WTE yn gweithio mewn ysgolion prif ffrwd ar 30 Medi 2016). Mae’n bosibl hefyd y caiff ei holi am y trefniadau monitro a gaiff eu datblygu i ddarparu system i gael gwybodaeth am effeithiolrwydd gwasanaeth nyrsys ysgol Byrddau Iechyd Cymru.

Bydd, yn sicr, yn cydnabod cyfraniad nyrsys ysgol at y gwaith o wella iechyd a lles plant a phobl ifanc oedran ysgol yng Nghymru.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Sut rydym yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i ddatblygu’n gryf ac yn iach? Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth nyrsys ysgol effeithiol yng Nghymru.(PDF, 201KB)