Dyfodol gwahanol ar gyfer Tirweddau Dynodedig yng Nghymru? Cyhoeddi adroddiad newydd

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Efallai bod pwrpas Tirweddau Dynodedig yng Nghymru yn newid. Mae dadl i gael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Mehefin 2017 ar yr adolygiad o Dirweddau Dynodedig. Mae’r blog hwn yn ystyried yr adroddiad hir ddisgwyliedig, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sef Tirweddau’r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru, sy’n dilyn yr Adolygiad o Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol. Mae’r adroddiad yn argymell newid i’r dull o reoli a fyddai’n arwain at fod y tirweddau hyn yn arwain y ffordd o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Cefndir

Mae tirweddau sydd o bwysigrwydd cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu dynodi fel Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) o dan y Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Mae tua 25 y cant o dir Cymru yn Dirwedd Dynodedig.

Mae pedair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru (sef, Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Pen Llŷn a Gŵyr – ac at hynny, mae AHNE Dyffryn Gwy yn rhychwantu Cymru a Lloegr) a thri Pharc Cenedlaethol (Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a Pharc Cenedlaethol Eryri). Ym 1952, dynodwyd Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn Barc Cenedlaethol arfordirol cyntaf y DU, ac ym 1956 cafodd Gŵyr ei dynodi fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf y DU.

Trefniadau rheoli cyfredol a diben Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

Tirwedd Eryri

Mae gan Barciau Cenedlaethol ddau ddiben statudol:

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol eu hardaloedd; a
  • Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig eu hardaloedd.

Os bydd gwrthdaro rhwng y ddau ddiben statudol hyn, rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol roi blaenoriaeth i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal, yn unol ag ‘Egwyddor Sandford’.

Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ardaloedd a ddynodir er mwyn gwarchod a gwella eu harddwch naturiol, ac maent yn wahanol i’r Parciau Cenedlaethol gan nad oes diben statudol iddynt o ran hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd fwynhau a deall yr ardal.

Adolygiad Marsden

Yng ngoleuni oedran y ddeddfwriaeth sy’n nodi dibenion statudol y ddau ddynodiad (bron i 70 mlwydd oed), yn 2014 comisiynodd Llywodraeth Cymru grŵp o arbenigwyr, o dan arweiniad yr Athro Terry Marsden, i gynnal Adolygiad o Dirweddau Dynodedig. Ac yntau wedi’i gyhoeddi yn 2015, roedd ‘Adolygiad Marsden’ yn darparu 69 o argymhellion.

Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol

Yn dilyn yr adolygiad, yn ystod hydref 2015, gofynnodd Carl Sargeant AC, y Gweinidog Adnoddau Naturiol ar y pryd am sefydlu Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol. Mae’r grŵp, o dan arweiniad yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Parciau Cenedlaethol, yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, grwpiau amgylcheddol, busnesau a llywodraeth leol a fu’n edrych yn fanwl ar argymhellion Adolygiad Marsden. Roedd y gweithgor hefyd yn caniatáu ystyriaeth o’r argymhellion hyn yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth newydd; Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a’r dystiolaeth a ddarparwyd yn yr Adroddiad ar Gyflwr ein Hadnoddau Naturiol. Cyhoeddodd y Gweithgor ei adroddiad Tirweddau’r dyfodol: Cyflawni dros Gymru (yr ‘Adolygiad o Dirweddau’r Dyfodol’) ym mis Mai.

Adolygiad o Dirweddau’r Dyfodol – adroddiad gan y Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol

Cynnig

Mae’r adroddiad yn nodi Cynnig newydd ar gyfer Tirweddau Dynodedig, i fynd y tu hwnt i’w dibenion cyfredol sy’n ymwneud â chadwraeth a gwerth amwynder. Mae’n nodi y dylai Tirweddau Dynodedig arwain y ffordd o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy gan ddarparu budd cyhoeddus a phreifat ehangach. Mae’n pwysleisio’r cyfle, drwy weithio mewn partneriaeth, i wireddu potensial economaidd cymunedau ac yn hyrwyddo twf gwyrdd a gwytnwch ecosystemau drwy’r tirweddau hyn.

Llywodraethu

Cynigir ffordd newydd o weithio drwy drefniadau llywodraethu, sy’n cynnwys amrywiaeth eang o fodelau cyflawni a phartneriaeth sydd â gweledigaeth gyffredin. Mae hefyd yn argymell y dylai cyrff a phartneriaethau sydd â chyfrifoldeb am y Tirweddau Dynodedig weithio ar draws ffiniau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaethau lleol i hyrwyddo eu gwerth cymdeithasol, eu gwerth diwylliannol, eu gwerth economaidd a’u defnydd cynaliadwy. Dywed yr adroddiad y byddai angen i bartneriaethau ddenu adnoddau newydd a dylanwadu ar fuddsoddiadau gan eraill. Mae’n pwysleisio y bydd angen newid ymddygiadol a sefydliadol ar y ffordd newydd hon o weithio.

Cynllun Gweithredu

Mae cynllun gweithredu 18 mis o hyd o gamau cyntaf i gyflawni’r Cynnig wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. Fe’i rhennir i’r elfennau canlynol:

  • cydweithredu a phartneriaeth;
  • gweledigaeth a chyfeiriad;
  • llywodraethu adfywiol: gwella perfformiad ac atebolrwydd;
  • arloesi o ran adnoddau; a
  • rhoi arweiniad o ran lles a gwydnwch.

Ymatebion i’r adroddiad

Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

Mae tirwedd Cymru yn rhan anferthol o’n hunaniaeth ac yn ased cenedlaethol pwysig. Mae’n denu twristiaeth, hamddena yn yr awyr agored a gwaith lleol. Mae’n cyfrannu at wella’n hiechyd a’n lles ac mae ganddo botensial aruthrol ar gyfer datblygu atebion ynni gwyrdd.

Dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod yn gwneud y gorau o’n tirwedd eiconig. Mae yna lawer y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd wrth inni chwilio’n ffordd tuag at ddyfodol y tu allan i’r UE.

Hoffwn ddiolch i’r gweithgor am yr adroddiad. Y cam nesaf yw gwireddu’r uchelgais hwn, nid ar ein pen ein hunain, ond gyda’n gilydd mewn partneriaeth.

Wrth groesawu ymrwymiad yr adroddiad ar Dirweddau Dynodedig, mae Cymdeithas Eryri wedi beirniadu’r adroddiad am ei ddiffyg eglurder a’i ddiffyg pwyslais ar brif bwrpas cadwraeth y dynodiadau hyn:

We searched the Future Landscapes document for the key words in National Parks’ existing purposes – ‘natural beauty’, ‘conservation’, ‘wildlife’, ‘cultural heritage’ ‘enjoyment’ ‘access’, ‘recreation’

None of the words occurs in the body of the document. ‘Conservation’ is the C-word spectacularly missing from the Future Landscapes document..

… It purports to summarise the detailed independent report produced by the Marsden panel in 2015, …. but fails to mention one of Marsden’s key recommendations – that the Sandford Principle must continue to apply, thereby ensuring that conservation remains the primary purpose of National Parks and AONBs.

Mae Gwe Werdd Sir Fynwy (Cymdeithas wirfoddol sy’n cynnwys hyd at hanner cant o sefydliadau amgylcheddol) hefyd wedi gwneud sylwadau ar yr adroddiad, gan nodi:

While there is reference to controversial topics such as tourism and renewable energy, the report is more concerned with matters such as governance, collaboration, monitoring change, sustainable land management and drawing on good practice.

Y camau nesaf

Mae’r Adolygiad o Dirweddau’r Dyfodol yn cynnig model ar gyfer datblygu polisïau cyhoeddus a drafftio deddfwriaeth ddatganoledig yn y dyfodol. Mater i Lywodraeth Cymru fydd ystyried a oes angen newid y ddeddfwriaeth i gefnogi argymhellion yr adroddiad.


Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun: o Elfyn Henderson.