Dadl Ar Egwyddorion Cyffredinol Y Bil ADY

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ddydd Mawrth (6 Mehefin 2017), bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg ac yn pleidleisio a ddylid caniatáu iddo symud ymlaen i ail gam proses ddeddfwriaethol y Cynulliad.

Mae’r ddadl yn dilyn gwaith craffu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg  ar y Bil yng Nghyfnod 1 (sy’n ystyried egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth) a chyhoeddi ei adroddiad ar 24 Mai 2017.

Mae hon yn ddelwedd o ryw waith celf gan blant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’n hen bryd diwygio’r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) bresennol gyda Llywodraeth Cymru ei hun yn cydnabod nad yw’r trefniadau presennol yn  ‘addas i’r diben mwyach’. Wrth gyflwyno’r Bil ym mis Rhagfyr 2016, disgrifiodd y Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a’r Iaith Gymraeg, Alun Davies, y Bil fel ‘cyfraith uchelgeisiol i greu dull newydd beiddgar’ ac y byddai’n ‘ailwampio’n llwyr’ y ffordd y mae anghenion plant a phobl ifanc ac yn cael eu diwallu. Mae hyn yn dilyn nifer o adolygiadau, cynigion, cynlluniau peilot ac ymgynghoriadau, gan gynnwys ar Fil drafft yn 2015.

Bydd y ffynonellau canlynol yn ddefnyddiol ar gyfer dadl Cyfnod 1:

(Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF 1.14MB) a’r Pwyllgor Cyllid (PDF 486KB) hefyd wedi adrodd ar y Bil o’u safbwyntiau eu hunain.)

Beth mae’r Bil yn ei wneud?

Mae’r Bil yn darparu ar gyfer fframwaith statudol newydd er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) o’u genedigaeth a thra byddant yn yr ysgol, ac, os ydynt dros yr oedran ysgol gorfodol, tra byddant yn derbyn addysg bellach hefyd. Bydd y Bil, a’r fframwaith newydd y mae’n ei greu, yn disodli’r ddwy system ar wahân o ddeddfwriaeth a threfniadau sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) hyd at 16 oed ac AnawsterauDysgu a/neu Anableddau (AAD) ar ôl 16 oed.

Caiff y term newydd, Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ei ddefnyddio mewn fframwaith deddfwriaethol sengl ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc hyd at 25 oed sy’n cael eu hadnabod yn rhai sydd â’r anghenion hynny. Mae’r diffiniad a ddefnyddir yn y Bil ar gyfer ADY fwy neu lai’r un fath â’r diffiniad cyfreithiol cyfredol o AAA. Hynny yw mae gan blentyn neu berson ifanc AAA os ydynt yn cael llawer mwy o drafferth dysgu na’r rhan fwyaf o ddisgyblion yr un oedran â hwy, neu os oes ganddynt anabledd sy’n eu hatal neu’n eu rhwystro rhag manteisio ar yr addysg sydd ar gael yn gyffredinol.

Caiff dros 105,000 (23%) o ddisgyblion yng Nghymru eu nodi fel rhai sydd ag AAA/ADY (ystadegau 2015/16).

Un o brif ddiwygiadau’r Bil yw rhoi diwedd ar y system bresennol o ddatganiadau. Ar hyn o bryd, mae rhai dysgwyr ag ADY (tua 88%) yn cael eu hanghenion wedi’u diwallu trwy gefnogaeth a arweinir gan yr ysgol ar un o ddwy lefel (Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu Gan yr Ysgol a Mwy). Mae gan eraill, sydd ag anghenion mwy difrifol a chymhleth (12%), ddatganiad gan eu hawdurdod lleol, sy’n rhoi hawl gyfreithiol i gael pecyn penodol o gefnogaeth. Yn hytrach, bydd pob dysgwr ag ADY yn cael yr un math o gynllun statudol er mwyn diwallu eu hanghenion – Cynllun Datblygu Unigol.

Fodd bynnag, byddai yna wahaniaeth o hyd rhwng rhai achosion (mwy difrifol a chymhleth) lle  y byddai awdurdodau lleol  yn gyfrifol am gynnal CDU dysgwr, tra yn y rhan fwyaf o’r achosion yr ysgol neu’r coleg fydd yn gyfrifol.

Yn ogystal â sefydlu un system oed 0-25 o CDU i bob dysgwr ag ADY, mae Llywodraeth Cymru hefyd am i’r Bil:

  • Wella’r cydweithredu rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd fel y gallant wneud ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol; a
  • gwella tegwch a thryloywder trwy ddarparu’n well yr wybodaeth a chyngor i deuluoedd a gwasanaethau osgoi a datrys anghytundeb.

Mae’r Bil hefyd yn parhau bodolaeth y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ar gyfer Cymru ac yn ymestyn yr hawl i apelio i bobl ifanc mewn addysg bellach (yn ogystal â phlant oedran ysgol a’u teuluoedd). Mae’r Bil yn ei ailenwi yn Dribiwnlys Addysg Cymru.

Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gynhyrchu Cod ADY. Bydd hyn yn darparu y rhan fwyaf o’r manylion am y modd y bydd asesiadau a’r penderfyniadau am ddarpariaeth yn cael eu gwneud, gyda’r Bil yn gosod y fframwaith cyffredinol. Darparodd Llywodraeth Cymru ddrafft gweithio i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o’r Cod (PDF 3.16MB) ar 14 Chwefror 2017 a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor i gynorthwyo mewnbwn rhanddeiliaid i graffu Cyfnod 1.

Beth mae’r Pwyllgor CYPE wedi dweud am y Bil?

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn croesawu egwyddorion cyffredinol y Bil ac yn argymell bod y Cynulliad yn cefnogi’r ddeddfwriaeth yng Nghyfnod 1, gan ei galluogi i symud ymlaen i Gam 2 pryd y gall newidiadau gael eu gwneud. Fodd bynnag, mae adroddiad y Pwyllgor yn gwneud 48 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, sy’n anelu at gryfhau’r ddeddfwriaeth ac ymdrin â meysydd o bryder a nodwyd gan randdeiliaid ac aelodau’r Pwyllgor. Mae’r Pwyllgor yn adrodd:

Mae’r dystiolaeth a dderbyniwyd yn amlygu y bydd llawer o heriau wrth weithredu’r Bil. Ni fydd pasio’r ddeddfwriaeth ynddo’i hunan yn mynd i’r afael â’r problemau a’r heriau sylfaenol dyfnach o fewn y system bresennol. Mae’r dystiolaeth hefyd yn tynnu sylw at nifer o bryderon am y ffordd y mae’r fframwaith newydd yn mynd i weithio yn ymarferol. (Paragraff 34)

Mae’r Pwyllgor CYPE hefyd wedi tynnu sylw at yr angen am adnoddau digonol, cynllunio’r gweithlu a threfniadau hyfforddiant i gefnogi gweithredu’r Bil a Rhaglen Trawsnewid ADY ehangach Llywodraeth Cymru.

Gwnaeth y Pwyllgor 18 argymhelliad yn y meysydd canlynol. Mae rhai o’r rhain yn galw am newidiadau i’r Bil ei hun, eraill am ragor o fanylion yn y Cod, tra bod nifer yn codi materion i Lywodraeth Cymru eu hystyried yn fwy cyffredinol yn ddull o ymdrin â’r diwygiadau. (Mae’r rhifau mewn cromfachau yn dynodi’r nifer o argymhellion ym mhob adran o’r adroddiad.)

  • Egwyddorion cyffredinol a’r angen am ddeddfwriaeth (2)
  • Diffinio ADY (2)
  • Amserlenni ar gyfer asesu a pharatoi Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) (1)
  • Cyfrifoldeb am Gynlluniau Datblygu Unigol (6)
  • Templed ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol (2)
  • Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCOs) (4)
  • Y blynyddoedd cynnar (3)
  • Ôl-16 (1)
  • Cydweithredu a chynnwys y sector iechyd (4)
  • Gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth (5)
  • Hawliau plant (2)
  • Darpariaeth cyfrwng Cymraeg (5)
  • Y Tribiwnlys (3)
  • Goblygiadau ariannol a goblygiadau ar gyfer adnoddau (3)
  • Pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth (3)
  • Anghenion meddygol mewn ysgolion (2)

Un diwrnod ar ôl y dyddiad cau ar gyfer yr adroddiad Cyfnod 1 a dyddiad cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor, cyhoeddodd y Gweinidog lythyr yn amlinellu newidiadau (PDF 247KB) i amcangyfrif Llywodraeth Cymru o gostau ac arbedion y Bil. Mae’r newidiadau hyn yn sylweddol. Amlinellodd yr asesiad effaith rheoleiddiol gwreiddiol a gyhoeddwyd ar yr un pryd â’r Bil ym mis Rhagfyr 2016 gyfanswm o £4.8 miliwn o arbedion yn ystod y cyfnod gweithredu (pedair blynedd o 2017-18 i 2020-21). Erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd y Bil yn arwain at gost o £8.3 miliwn yn ystod yr un pedair blynedd, sef newid o £13.1 miliwn. Mae cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a chadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi ysgrifennu at y Gweinidog i fynegi eu siom a’u pryder ynghylch amseriad y cyhoeddiad hwn a maint y newid i’r amcangyfrifon.

Beth fydd yn digwydd ar ôl y ddadl?

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cynulliad ddydd Mawrth (6 Mehefin 2017), bydd y Bil yn symud ymlaen i Gyfnod 2 y broses ddeddfwriaethol, pryd y gall newidiadau gael eu gwneud gan y Pwyllgor CYPE. Byddai’r cyfnod hwn yn cael ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2017 cyn i’r Bil fynd yn ôl i’r Cyfarfod Llawn i’w ddiwygio ymhellach yng Nghyfnod 3 a phleidlais derfynol yng Nghyfnod 4 ar a ddylid pasio’r Bil (fel y’i diwygiwyd). Ni wyddys pa bryd y byddai’r system ADY newydd yn cael ei chyflwyno ac mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar drefniadau trosiannol.


Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhyrchwyd y gwaith celf gan ddisgyblion yn Ysgol y Gogarth, Llandudno.