Y wybodaeth ddiweddaraf am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ag anghenion gofal iechyd y plant yn yr ysgol

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Anghenion gofal iechyd yn yr ysgol

Prin y byddai neb yn dadlau nad oes angen cefnogi plant sydd ag anghenion meddygol i sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd addysg a’u mwynhau, ac yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial llawn. Dylai ysgolion Cymru fod â pholisïau ar waith i roi meddyginiaeth i blant. Dylent hefyd egluro sut y byddant yn cefnogi plant sydd ag anghenion gofal iechyd tymor byr rhag i’r anghenion hynny effeithio ar eu gallu i gyfranogi mewn gweithgareddau addysgol. Mae hefyd nifer fach, ond arwyddocaol, o blant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal iechyd hirdymor cymhleth a / neu, y mae angen mwy o sylw arnynt.

Mae Diabetes UK a Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ymysg nifer o randdeiliaid sy’n pryderu am y ffaith nad oes gan lawer o ysgolion yng Nghymru drefniadau digonol ar waith i roi cymorth effeithiol i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal iechyd. Maent wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff llywodraethu i ddiwallu anghenion gofal iechyd dysgwyr, gan gydnabod y gall cyflyrau iechyd beryglu eu bywyd ac y gallant hefyd effeithio ar sut mae plentyn yn dysgu.

Trafodwyd y mater hwn mewn tystiolaeth a ddaeth i law’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrth iddo graffu ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Mae rhanddeiliaid wedi nodi’r cysylltiad rhwng anghenion meddygol ac anghenion dysgu ac maent am i’r fframwaith newydd ar Anghenion Dysgu Ychwanegol gynnwys cyfeiriad penodol at anghenion meddygol.

Mae aelodau’r Pwyllgor yn llunio eu hadroddiad Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar hyn o bryd, a byddant yn trafod a oes angen cyflwyno unrhyw welliannau ynghylch y berthynas rhwng anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion meddygol (Ceir trafodaeth bellach ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol yn nes ymlaen yn yr erthygl hon).

‘Cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd’

Prif bryder rhanddeiliaid oedd y ffaith bod canllawiau Llywodraeth Cymru ar gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd yn  anstatudol . Bydd Aelodau’r Cynulliad yn sicr wedi ymdrin ag achosion etholaethol pan fydd plant ag anghenion gofal iechyd wedi methu cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol a / neu pan fydd rhieni wedi gorfod rhoi’r gorau i weithio er mwyn cynorthwyo eu plant gan nad yw eu plant yn cael cefnogaeth ddigonol gan yr ysgol. Gan hynny, mae rhanddeiliaid wedi galw am ganllawiau statudol yn unol â’r darpariaethau yn Lloegr, lle mae dyletswydd ar ysgolion i gefnogi disgyblion sydd â chyflyrau meddygol wedi’i nodi yn Neddf Plant a Theuluoedd 2014 (Gweler yr erthygl flaenorol).

Yn ei dogfen ymgynghori a oedd yn cyd-fynd â’r canllawiau drafft newydd (a gyhoeddwyd fis Chwefror 2016), dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu i rywfaint o’r canllawiau ar anghenion gofal iechyd fod yn statudol. Ar 30 Mawrth 2017, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes y bydd y ddogfen gyfan, sydd wedi’i hanelu at ysgolion ac awdurdodau lleol, yn cael ei chyhoeddi fel canllawiau statudol.

Mae’r canllawiau statudol newydd, ‘Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd’ (PDF 2.30MB), yn rhoi cyngor i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ynghylch cyflawni eu dyletswyddau tuag at ddysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd. Cyhoeddwyd y canllawiau hyn yn unol ag Adran 175 o Ddeddf Addysg 2002. Mae adran 175 o Ddeddf Addysg 2002 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i wneud trefniadau i sicrhau bod eu swyddogaethau’n cael eu harfer gyda golwg ar ddiogelu a hyrwyddo lles plant yn yr ysgol neu fan dysgu arall. Mae hyn yn cynnwys cefnogi plant sydd ag anghenion gofal iechyd. Wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan adran 175 o Ddeddf Addysg 202, rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu roi sylw i’r canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

Serch hynny, mae rhai pryderon sylweddol yn parhau ynghylch sylwedd y canllawiau ac a yw’r darpariaethau ynghylch lles yn Neddf Addysg 2002 yn ddigonol i’r perwyl hwn.

Yn eu tystiolaeth ysgrifenedig pellach ar y Bil i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ailadroddodd Diabetes UK, ynghyd ag 11 o sefydliadau eraill mewn cyflwyniad ar y cyd, yr alwad y dylai’r fframwaith newydd ar anghenion dysgu ychwanegol gynnwys cyfeiriad penodol at anghenion meddygol.

The guidance doesn’t negate the need to amend the ALN Bill and Code, rather intensifies and accelerates it.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Er nad yw anghenion meddygol wedi’u cynnwys yn benodol yn y diffiniad o anghenion dysgu ychwanegol, cânt eu cynnwys os ydynt yn effeithio ar addysg plentyn i’r graddau y maent yn achosi anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r diffiniad o Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Adran 2 o’r Bil yn datgan bod gan bobl anghenion dysgu ychwanegol:

  • os ydynt yn cael anhawster i ddysgu sy’n sylweddol fwy na’r anhawster a gaiff y rhan fwyaf o blant o’r un oedran; neu
  • os oes ganddynt anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 sy’n eu hatal neu’n eu rhwystro rhag defnyddio cyfleusterau addysgol o’r math a ddarperir fel arfer i blant o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.

Mae’r Bil yn cynnwys yr un diffiniad a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol. Nid yw’r diffiniad yn cynnwys anghenion meddygol/gofal iechyd nad ydynt yn amharu’n sylweddol ar allu’r dysgwr i ddysgu neu i fanteisio ar yr addysg neu’r hyfforddiant sydd ar gael yn gyffredinol.

Mae’r Cod ADY drafft yn cydnabod nad yw’r ffaith bod gan blentyn neu berson ifanc anghenion gofal iechyd yn golygu bod ganddo neu ganddi Anghenion Dysgu Ychwanegol hefyd. Mae cysylltiad clir rhwng y Cod a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar anghenion gofal iechyd, sydd wedi’u diwygio a’u cryfhau. Fodd bynnag, mae’r Cod drafft yn cydnabod y gallai anghenion gofal iechyd effeithio ar allu disgyblion i ddysgu ac y dylent fod yn ffactor wrth benderfynu a oes gan ddysgwr anghenion dysgu ychwanegol.

Ymgynghoriad blaenorol ar ymestyn y fframwaith anghenion addysgol arbennig/anghenion dysgu ychwanegol

Mewn llythyr at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 11 Ebrill 2017, tanlinellodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes fod Llywodraeth Cymru  wedi ymgynghori’n flaenorol ynghylch y posibilrwydd o ehangu cwmpas y diffiniad o ADY a bennwyd yn 2012. Eglurodd y Gweinidog y byddai hyn wedi cynnwys yr holl blant a phobl ifanc o leiafrifoedd penodol neu grwpiau sy’n agored i niwed a’r rhai sydd ag anghenion gofal iechyd neu broblemau ymddygiad. Aeth rhagddo i ddweud bod cryn bryder ynghylch y posibilrwydd y gallai ehangu’r diffiniad wanhau’r buddion i’r dysgwyr mwyaf anghennus. Mae’r llythyr yn nodi:

Extending the definition to cover healthcare needs/medical conditions, for example, would significantly increase the number of learners entitled to a statutory plan and the rights attached to that… It would also extend the provision set out in the plan – it would no longer be confined to educational or training provision, but also include healthcare provision which did not educate or train.

Such an extension of the system would not be appropriate or proportionate in my view.

If a child or young person has an additional learning need, including where that is caused by a medical condition, they will be covered by the system introduced by the Bill. But not all healthcare needs will involve additional learning needs.

Ble y mae hynny’n gadael plant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal iechyd?

Mae rhanddeiliaid sy’n cynrychioli plant a phobl ifanc ag anghenion meddygol yn parhau i fod yn bryderus iawn, ac mae Comisiynydd Plant Cymru yn datgan bod lle i wella. Barn y Comisiynydd Plant yw bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud drwy ddiwygio’r canllawiau ac mae’n bosibl eu bod yn ddigonol i gwrdd ag anghenion gofal iechyd dysgwyr yng Nghymru. Pwysleisiodd ei bod yn bwysig cofio na ddylid ystyried yn awtomatig bod anghenion gofal iechyd yn golygu anghenion dysgu ychwanegol.

Er bod y canllawiau newydd yn well, ym marn rhai, nag yr hyn a oedd ar gael cynt, maent hefyd yn teimlo  bod angen eu cryfhau o hyd. Mae rhai rhanddeiliaid yn teimlo mai’r Bil ADY yw’r unig lwybr sydd ar gael i sicrhau bod hawliau disgyblion sydd ag anghenion meddygol yn cael eu diogelu o dan y gyfraith.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru:

The Rights of Children and Young Persons (Wales) Measure 2011 confer Ministerial powers to amend legislation and guidance for the purpose of giving effect to the UNCRC. Section 2 of the Measure established a Children’s Rights Scheme as the underpinning guidance for implementing the legislation. The scheme requires Welsh Ministers to publish a report every 2.5 years on how well they have given effect to the UNCRC in policy and legislation. The Scheme’s reporting round between 2018 and 2020 could also be a timely opportunity to carry out a full assessment on the effectiveness of ‘Supporting learners with healthcare needs’ and potentially provide a key opportunity for change under Section 6 of the Rights Measure should the guidance not be having the desired effect.

Y camau nesaf

Os oes gan blentyn anghenion gofal iechyd cymhleth a/neu hirdymor, ni ellir gorbwysleisio effaith hynny ar y plentyn hwnnw a’i deulu. Bydd y Pwyllgor Plant, Phobl Ifanc ac Addysg yn ystyried sut mae’r mater hwn yn berthnasol i’r Bil wrth iddynt baratoi eu hadroddiad Cyfnod 1. Y dyddiad terfynol ar gyfer cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yw 24 Mai 2017.

Mae’r canllawiau newydd ynghylch Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd bellach ar waith ac yn gosod dyletswyddau statudol ar ysgolion ac awdurdodau lleol.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun 1: o flickr gan alishavargas. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Y wybodaeth ddiweddaraf am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ag anghenion gofal iechyd y plant yn yr ysgol (PDF, 287KB)