Ymchwiliad Iechyd Meddwl Amenedigol: Cyfle i ddweud eich dweud

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) Cymru wedi cyhuddo Byrddau Iechyd Cymru o siarad gwag o ran eu cefnogaeth i greu rhwydweithiau o glystyrau meddygon teulu, gan ddweud nad yw’r clystyrau’n cael digon o gefnogaeth nac adnoddau i wneud y gwaith. Beth yw’r rhwydweithiau o glystyrau meddygon teulu, pam maent yn bwysig a pa mor gyflym y mae’r newidiadau’n cael eu rhoi ar waith?

Heddiw, bydd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal eu sesiwn dystiolaeth lafar gyntaf ynghylch y mater hwn.  

Cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol i Gymru hyd at fis Mawrth 2018

Ym mis Chwefror 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol i Gymru hyd at fis Mawrth 2018. Mae’r cynllun yn ymwneud â sicrhau llwyddiant y gwasanaethau gofal sylfaenol yn y dyfodol. Mae’n egluro bod y gwasanaeth meddygon teulu’n elfen ganolog o ofal sylfaenol, ond nid yr unig elfen – mae gofal sylfaenol yn cwmpasu llawer mwy o wasanaethau iechyd, gan gynnwys fferylliaeth, deintyddiaeth, optometreg ac ystod ehangach o wasanaethau cymunedol. Mae’r cynllun yn nodi bod angen darparu gwasanaethau gofal sylfaenol drwy ail-fodelu’r gweithlu. Mae’n nodi:

Lle mai rôl y meddyg teulu heddiw yw rhoi diagnosis a thrin y mwyafrif helaeth o bobl a welir ganddo, yn y dyfodol bydd yn fwyfwy cyfrifol am gydweithredu â gwasanaethau iechyd lleol eraill drwy’r clystyrau gofal sylfaenol er mwyn cynnig arweinyddiaeth gyffredinol i dimau aml-broffesiynol a drefnir er mwyn gwella iechyd y boblogaeth a darparu mynediad i ofal er mwyn diwallu anghenion unigolion, teuluoedd a chymunedau lleol ar yr adeg gywir yn y man cywir. (Cynllun cenedlaethol ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol i Gymru, Chwefror 2015, t20 ).

Mae hefyd yn datgan:

Yn y model gweithlu newydd hwn, bydd meddygon teulu yn parhau i chwarae rôl hollbwysig, gan gymryd cyfrifoldeb am safonau proffesiynol, darparu arweinyddiaeth glinigol a gweithio’n uniongyrchol â’r cleifion hynny sydd ag anghenion cymhleth, y gall ond sgiliau meddyg teulu eu diwallu. (t2).

Clystyrau Gofal Sylfaenol

Mae’r cynllun cenedlaethol ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol i Gymru hyd at fis Mawrth 2018 yn atgyfnerthu pwysigrwydd cydgysylltu gofal a chynllunio gwasanaethau yn y gymuned. Mae’r Byrddau Iechyd wedi creu mecanweithiau cynllunio lleol drwy glystyru nifer o feddygfeydd cyfagos gan gyfuno eu poblogaethau cofrestredig i greu poblogaeth cynllunio lleol fach. Mae 64 o’r clystyrau gofal sylfaenol hyn (a elwir hefyd yn glystyrau meddygon teulu) drwy Gymru. Mae’r newidiadau blynyddol i’r contract meddygon teulu cenedlaethol yn cael eu defnyddio i annog meddygon teulu i gytuno ar gynlluniau gweithredu a’u rhoi ar waith i sicrhau cynaliadwyedd ac ansawdd eu gwasanaethau.

Rhaid i bob Bwrdd Iechyd ddatblygu cynlluniau tymor canolig integredig tair blynedd, a dylai’r rhain adlewyrchu cynlluniau eu clystyrau gofal sylfaenol yn benodol. Mae pob clwstwr gofal sylfaenol ym mhob Bwrdd Iechyd wedi datblygu ei gynlluniau datblygu ei hun ac wedi’i gyhoeddi ar wefan GIG Cymru. Mae pob meddygfa yng Nghymru hefyd yn cyhoeddi ei chynllun ei hun fel rhan o’u gofynion o dan y contract meddygon teulu cenedlaethol ( Fframwaith Canlyniadau Ansawdd ).

Mae cynlluniau’r clystyrau gofal sylfaenol a’r byrddau iechyd yn pennu amcanion a chamau gweithredu penodol i wella mynediad at ofal sylfaenol, a safon y gwasanaethau, er mwyn gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Yn ogystal â chynllunio a darparu mwy o wasanaethau gofal sylfaenol i ddiwallu’r angen lleol, bydd gan y clystyrau gofal sylfaenol hefyd ran bwysig yn y broses o gynllunio i symud gwasanaethau ac adnoddau o’r ysbyty i’r gymuned leol er lles eu poblogaethau lleol.

Mae’r cynllun cenedlaethol ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol i Gymru hyd at fis Mawrth 2018 yn nodi:

Mae cydweithredu drwy glystyrau gofal sylfaenol yn creu gwell cyfleoedd i fabwysiadu dull arloesol o gynllunio gofal sylfaenol. Mae a wnelo arloesi ym maes gofal sylfaenol â chreu modelau ariannu newydd, modelau gwasanaeth newydd a rolau newydd i’r gweithlu, ffyrdd newydd o gontractio a phartneriaethau newydd â chymunedau a’r trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae arloesi hefyd yn cynnwys technoleg, cynhyrchion a gwasanaethau newydd, a gweithio gyda phrifysgolion a diwydiant i gyflymu arloesi a hyrwyddo twf economaidd yng Nghymru. Mae a wnelo â gwneud y defnydd gorau o adeiladau i hyrwyddo cydweithredu rhwng gweithwyr proffesiynol (t10).

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir ei bod yn disgwyl i fyrddau iechyd gefnogi eu clystyrau gofal sylfaenol i gymryd y camau priodol ac i gyrraedd y cerrig milltir allweddol i’w helpu i ddatblygu’n gyflym ac yn gynaliadwy. Mae Cyfarwyddwyr y Byrddau Iechyd Sylfaenol, y Byrddau Iechyd Cymunedol a’r Byrddau Iechyd Meddwl yn gyfrifol am fabwysiadu dull cydgysylltiedig cenedlaethol o weithredu i hybu arloesedd yn ein gwasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys dulliau strwythuredig o ddarparu cymorth, dulliau systematig o werthuso syniadau newydd ac arfer da, a blaenoriaethu cyllid i ddatblygu ffyrdd arloesol o ddarparu gofal a gwella mynediad.

Ymchwiliad y Pwyllgor

Bydd ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn canolbwyntio ar rôl y clystyrau fel modd o drawsnewid gofal sylfaenol. Nod ymchwiliad y Pwyllgor yw gwella dealltwriaeth o’r modd y mae model y clystyrau’n gweithio yng Nghymru a bydd yn ystyried:

  • Sut y gall rhwydweithiau clwstwr Meddygon Teulu yng Nghymru helpu i leihau’r pwysau ar feddygon teulu, ac i ba raddau y gall clystyrau ddarparu llwybr mwy hygyrch at ofal (gan gynnwys cymorth iechyd meddwl mewn gofal sylfaenol);
  • Y tîm amlddisgyblaethol sy’n datblygu (sut y mae gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn cyd-fynd â model newydd y clystyrau, a sut y gellir mesur eu cyfraniad);
  • Yr heriau sy’n wynebu’r gweithlu presennol a’r gweithlu yn y dyfodol;
  • Y cyllid a ddyrennir yn uniongyrchol i glystyrau er mwyn galluogi meddygfeydd i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio; sut y caiff arian ei ddefnyddio i leihau’r pwysau ar feddygfeydd ac i wella gwasanaethau a mynediad cleifion atynt;
  • Yr heriau o ran llwyth gwaith a’r ymdrech i symud y pwyslais mewn meddygfeydd a darparu gwasanaethau atal sylfaenol er mwyn gwella canlyniadau iechyd y boblogaeth a thargedu anghydraddoldebau iechyd;
  • Aeddfedrwydd y clystyrau a’r cynnydd a wnaed yn y gwahanol Fyrddau Iechyd Lleol i weithio ar ffurf clystyrau, gan nodi enghreifftiau o arfer gorau;
  • Arweiniad lleol a chenedlaethol o ran cefnogi’r gwaith o ddatblygu seilwaith y clystyrau, a sut y mae’r camau a gymerir yn ategu’r rheini yng nghynllun gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru a gweledigaeth 2010, Gosod y Cyfeiriad;
  • Mwy o fanylion am yr agweddau sy’n cael eu gwerthuso, y cymorth sy’n cael ei ddarparu’n ganolog a’r meini prawf sydd ar waith i bennu llwyddiant neu fethiant y clystyrau, gan gynnwys sut mae mewnbwn gan gymunedau lleol yn cael ei ymgorffori yn y gwaith datblygu a phrofi sy’n cael ei wneud.

Gallwch ddilyn trafodion heddiw ar Senedd TV o 9:45.


Erthygl gan Sarah Hatherley , Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Ymchwiliad Iechyd Meddwl Amenedigol: Cyfle i ddweud eich dweud (PDF, 191KB)