Canllaw ar hawliau dynol yng Nghymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 6 Ebrill, bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Lwol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad undydd i hawliau dynol yng Nghymru. Bydd yn edrych yn benodol ar effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd, Deddf Hawliau y DU a barn y cyhoedd ynghylch hawliau dynol.

Dyma ganllaw ar hawliau dynol, a’r hyn y maent yn eu golygu yng Nghymru:

Beth yw hawliau dynol?Cyfres o luniau yn dangos yr hawliau a gaiff dinasyddion y DU o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol

Egwyddorion moesol sylfaenol a orfodir drwy’r gyfraith yw hawliau dynol. Maent yn cynnwys yr hawl i bethau megis: achos llys teg; bywyd; addysg; rhyddid i lefaru; rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu; etholiadau rhydd a theg, ac eraill. Ni all llywodraethau ymyrryd â hawliau dinasyddion, heblaw mewn amgylchiadau penodol a nodir mewn cyfraith neu gyfraith achos.

Mae llawer o hanes i gyfreithiau sy’n gwarchod hawliau sylfaenol, yn dyddio o leiaf 800 mlynedd i’r Magna Carta, hyd nes 1689 pan gyflwynwyd Bil Hawliau Lloegr, Bil Hawliau America, Datganiad Hawliau Dyn a Dinesydd Ffrainc ac, yn fwy diweddar, Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Deddf Hawliau Dynol y DU.

Beth yw’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol?

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn gytuniad sy’n gwarchod hawliau dynol a rhyddid sylfaenol yn Ewrop. Rhestr syml ydyw o’r hawliau allweddol y mae ar bobl eu hangen i fyw bywyd urddasol, ac fe’u gorfodir gan Lys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg.

Ysgrifennwyd y rhestr ym 1950 gan Gyngor Ewrop (nad yw’n gysylltiedig â’r Undeb Ewropeaidd), a gafodd ei sefydlu ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Roedd y DU, o dan arweinyddiaeth Winston Churchill, yn chwarae rhan ganolog yng Nghyngor Ewrop ac wrth ddrafftio’r Confensiwn.

Llun yn dangos hanes y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol

Beth yw’r Ddeddf Hawliau Dynol?

Bu i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ymgorffori hawliau dynol mewn cyfraith ddomestig, sydd ar gael i bawb yn y DU.

Ymgorfforodd y Ddeddf yr hawliau yn y Confensiwn Ewropeaidd yng nghyfraith y DU. Golyga hyn fod rhaid i awdurdodau cyhoeddus megis ysgolion, ysbytai a’r heddlu warchod hawliau dynol. Os caiff hawliau dynol eu hanwybyddu, gall dinasyddion y DU fynd i lys domestig i orfodi eu hawliau. Yn flaenorol, roedd rhaid i ddinasyddion y DU fynd yn syth at Lys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg.

Sut fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar hawliau dynol?

Nid yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu gadael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Fodd bynnag, bydd y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio’n sylweddol ar y fframwaith cyfreithiol sy’n gwarchod hawliau dynol yn y DU.

Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn llwyr yn golygu na fyddai’n rhaid i’r DU gydymffurfio mwyach â’r rhwymedigaethau hawliau dynol yng Nghytuniadau’r UE, Egwyddorion Cyffredinol cyfraith yr UE (sy’n cynnwys parchu hawliau sylfaenol) nac ychwaith gyfarwyddebau a rheoliadau’r UE sy’n gwarchod hawliau.

Ni fyddai Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE yn berthnasol, ac mae’n debyg y byddai Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd yn peidio â bod yn awdurdodaeth dros y DU.

Sut mae hawliau dynol yn ymwneud â Chymru?

Ar hyn o bryd, mae gan bawb yng Nghymru yr hawliau yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, y Ddeddf Hawliau Dynol a chyfraith yr UE. Mae rhai o gyfreithiau Cymru yn gysylltiedig â chyfraith hawliau dynol ryngwladol.

Er enghraifft, rhoddodd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth iddynt wneud penderfyniadau. Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Deddf Cymru 2017 yn nodi na all y Cynulliad wneud penderfyniadau na chyfreithiau nad ydynt yn cydymffurfio â deddfwriaeth hawliau dynol.

Pam mae cyfreithiau hawliau dynol yn destun dadleuol yn y DU?

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddiddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol, a chreu ‘Deddf Hawliau y DU’ yn ei le wedi i’r DU adael yr UE. Ym mis Rhagfyr 2016, dywedodd Prif Weinidog y DU y bydd yn wynebu’r etholiad nesaf gan ymrwymo i adael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol hefyd.

Nododd Parti’r Ceidwadwyr ei ‘achos dros newid’ cyfraith hawliau dynol yn y DU mewn papur wyth tudalen o hyd yn 2014. Roedd y papur yn ystyried bod Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi estyn yr hawliau’n raddol ac wedi ehangu hawliau’r Confensiwn i feysydd newydd, y tu hwnt i’r hyn a ragwelwyd pan gytunwyd ar y Confensiwn. Yr enghraifft a ddefnyddiwyd yn y ddadl hon oedd yr achos ynghylch hawliau pleidleisio carcharorion.

Roedd y papur hefyd yn dadlau bod y gofyniad yn y Ddeddf Hawliau Dynol i lysoedd y DU ystyried dyfarniadau Llys Strasbwrg wrth ddehongli hawliau’r Confensiwn yn golygu y dilynnir awdurdodaeth broblemus Strasbwrg yn aml yng nghyfraith y DU. Mae’n werth nodi nad yw dyfarniadau Llys Ewrop yn rhwymo llysoedd y DU, ond eu bod yn dechnegol yn rhwymo’r llywodraeth (trwy Erthygl 46 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol). Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth y DU bob amser yn cadw at ddyfarniadau’r Llys, fel oedd yr achos o ran rhoi’r bleidlais i garcharorion.

Mae papur Llywodraeth y DU yn dadlau bod y Ddeddf Hawliau Dynol yn tanseilio sofraniaeth y Senedd, ynghyd ag atebolrwydd democrataidd i’r cyhoedd, gan nodi bod y Ddeddf yn mynd ymhell y tu hwnt i’r gofynion sydd ar y DU o dan y Confensiwn. Mae ymgyrchwyr yn cwestiynu hyn gan nodi bod Senedd y DU yn dal i fod yn sofran gan y gall Senedd y DU ddiddymu neu ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol ar unrhyw bryd.

Beth yw’r gwaith ymchwil a’r casgliadau diweddaraf ynghylch hawliau dynol?

Cynhaliwyd nifer o ymchwiliadau gan bwyllgorau Senedd y DU yn y blynyddoedd diweddar, gan gynnwys:

Cyhoeddodd yr Academi Brydeinig bapur hefyd gan yr Athro Thomas Glyn Watkin ar Hawliau dynol o safbwynt datganoli yng Nghymru ym mis Tachwedd 2016.

Cyhoeddodd Menter Thomas Paine bapur o’r enw Mapping the Great Repeal: European Union Law and the Protection of Human Rights ym mis Hydref 2016.

Gan bwy fydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth?

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn clywed tystiolaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yr Athro Thomas Glyn Watkin a Dr Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe. Gallwch ddarllen y dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yma.


Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun: o Pixabay gan Efraimstochter. Dan drwydded Creative Commons.
Ffynhonnell: https://rightsinfo.org/the-rights-in-the-european-convention/ (Saesneg yn unig).
Ffynhonnell: https://rightsinfo.org/app/uploads/2015/08/01-how-ECHR-works-desktop.png (Saesneg yn unig).