Lefelau treth gyngor 2017-18

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ddydd Iau (22 Mawrth 2017), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei datganiad ystadegol blynyddol am lefelau treth gyngor, a ddaw wedi i’r awdurdodau lleol a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod, sef 2017-18. Mae’r datganiad yn coladu newidiadau i’r dreth gyngor ledled Cymru ac yn rhoi dadansoddiad o’r elfennau cyfansoddol. Mae’r blog hwn yn rhoi crynodeb o’r data.

Caiff y dreth gyngor ei chymharu fel arfer drwy edrych ar y pris sy’n cael ei dalu ar gyfartaledd ar gyfer eiddo band D. Yn 2017-18, bydd pris eiddo D ar gyfartaledd yng Nghymru yn c £46, o £1,374 i £1,420. Mae hyn yn gynnydd ar gyfartaledd o 3.3%.

Mae awdurdodau lleol, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a chynghorau cymunedol oll yn codi’r dreth gyngor (gyda’r awdurdodau lleol fel yr “awdurdodau bilio” â chyfrifoldeb dros ei chasglu). O’r £1,420 o’r dreth gyngor band D ar gyfartaledd, bydd awdurdodau lleol yn cael £1,162 (81.8%), bydd cynghorau cymuned yn cael £32 (2.2% ar gyfartaledd ar draws y wlad), a’r Heddlu yn cael £227 (16%).

Yn 2017-18, bydd y cynnydd mwyaf yn y dreth gyngor gyffredinol ym Mhowys, lle bydd y cynnydd cyfunol ar gyfer yr awdurdod lleol, cynghorau cymuned a’r heddlu yn £62 (4.7%); bydd y cynnydd canran mwyaf yn y dreth gyngor yn Sir Benfro, lle bydd y dreth gyngor yn cynyddu 5.3% (£56). Ar hyn o bryd, Sir Benfro sy’n codi’r swm lleiaf am eiddo band D (£1,128); Blaenau Gwent sy’n codi’r swm mwyaf (£1,754).

Y cynnydd ar gyfartaledd gan awdurdodau (gan gynnwys cynghorau cymuned ond heb gynnwys yr heddlu) fydd £35 (3.1%). Mae’r cynnydd mwyaf mewn canran yn Sir Benfro (4.9%) a’r cynnydd lleiaf yng Nghaerffili (1%). O ran cynnydd mewn arian parod, mae’r cynnydd mwyaf yn Sir Fynwy (£52) a’r cynnydd lleiaf yng Nghaerffili (£10).

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cynyddu eu praesept rhwng £9 ac £14 neu 3.8% a 6.9%. Dyfed-Powys sydd â’r cynnydd mwyaf o ran arian parod ac o ran canran.

Mae rhagor o wybodaeth ystadegol ynghylch y dreth gyngor ar gael ar wefan ystadegau Llywodraeth Cymru, StatsCymru.


Erthygl gan Owen Holzinger a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.