Dyfodol Tirweddau Dynodedig yng Nghymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 28 Mawrth 2017, cynhelir dadl yn y cyfarfod llawn ar yr adolygiad o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae’r blog hwn yn amlinellu’r adolygiad o dirweddau dynodedig a gynhaliwyd yn 2015 a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i benderfynu ar rôl a gweledigaeth tirweddau Cymru yn y dyfodol.

Tirweddau Dynodedig yng Nghymru

Tirwedd Bryniau Clwyd

Mae tirweddau sydd o bwysigrwydd cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu dynodi fel Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) o dan y Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad at Gefn Gwlad 1949.

Mae tua 25 y cant o dir Cymru yn Dirwedd Dynodedig. Mae Cymru yn gartref i bedwar AHNE (Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Pen Llŷn a Gŵyr – ac at hynny, mae AHNE Dyffryn Gwy yn rhychwantu Cymru a Lloegr) a thri Pharc Cenedlaethol (Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri). Ym 1952, dynodwyd Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn Barc Cenedlaethol arfordirol cyntaf y DU, ac ym 1956 cafodd Gŵyr ei ddynodi fel AHNE cyntaf y DU.

Trefniadau rheoli cyfredol a diben Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

Ar hyn o bryd, caiff Parciau Cenedlaethol Cymru eu rheoli gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, sef yr awdurdod cynllunio statudol. Mae’r tirweddau hyn, sydd o bwysigrwydd cenedlaethol, yn cael eu gwarchod gan gyfraith cynllunio. Mae gan Barciau Cenedlaethol ddau ddiben statudol:

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol eu hardaloedd; a
  • Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig eu hardaloedd.

Os bydd gwrthdaro rhwng y ddau ddiben statudol hyn, rhaid i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol roi blaenoriaeth i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal, yn unol ag ‘Egwyddor Sandford’.

Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ardaloedd a ddynodir er mwyn gwarchod a gwella eu harddwch naturiol, ac maent yn wahanol i’r Parciau Cenedlaethol gan nad oes diben statudol iddynt hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd fwynhau a deall yr ardal. Mae gan ddynodiad AHNE yr un statws o safbwynt cynllunio â Pharc Cenedlaethol, ond tra bo Parc Cenedlaethol yn gyfrifol am ei swyddogaethau cynllunio’i hun, yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol sy’n gyfrifol am hyn yn achos AHNE.

Adolygiad o Dirweddau Dynodedig

Yn 2014, bu i Carl Sargeant, sef Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd, gomisiynu grŵp o arbenigwyr (yr Athro Terry Marsden, John Lloyd-Jones a Dr Ruth Williams) i gynnal Adolygiad o Dirweddau Dynodedig. Wrth lansio’r adolygiad, tynnodd y Gweinidog sylw at y ffaith bod yr amseriad yn addas gan fod saith deg o flynyddoedd bron ers i ddibenion statudol y Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol gael eu nodi am y tro cyntaf mewn deddfwriaeth. Diben yr adolygiad o dirweddau dynodedig oedd ‘sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll yr heriau sy’n eu hwynebu heddiw a’r hyn a ddaw yn y dyfodol, a datblygu hefyd ar eu statws yn rhyngwladol’. Un o’r newidiadau a ystyriwyd oedd p’un a ddylid symud i gael un dynodiad yn unig.

Roedd y prif argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig (2015) i Lywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • Ni ddylid cael un dynodiad yn unig fel bod y dynodiad AHNE a Pharc Cenedlaethol yn cael ei gadw yn y dyfodol;
  • Dylid cadw enwau “Parciau Cenedlaethol” ac “Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol”, a chyfeirio atynt gyda’i gilydd fel “Tirweddau Cenedlaethol Cymru”;
  • Dylai fod tri diben statudol cydgloedig ar gyfer y Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol fel ei gilydd; sef:
    • Gwarchod a gwella’r dirwedd unigryw a rhinweddau morweddol yr ardal (Diben Gwarchod);
    • Hybu lles ffisegol a meddyliol drwy fwynhau a deall tirwedd yr ardal (Diben Lles Dynol); a
    • Hybu ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad economaidd a chymunedol yn seiliedig ar reoli adnoddau naturiol a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal (Diben Rheoli Adnoddau Cynaliadwy)
  • Dylid cael Dyletswydd Statudol newydd, sef i gyfrannu at ddiwallu tri diben Tirweddau Cenedlaethol;
  • Dylai Egwyddor Sandford, sy’n cadarnhau blaenoriaeth y diben cadwraeth, yn cael ei defnyddio ar draws yr holl dirweddau dynodedig; a
  • Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth iddo esblygu ei bensaernïaeth fewnol ei hun, ystyried y berthynas rhyngddo a Thirweddau Cenedlaethol Cymru i sicrhau y cynhelir cymaint o graffu ac atebolrwydd ag y bo modd.

Mae blogiau blaenorol yn amlinellu’r adolygiad ymhellach a’r argymhellion o ganlyniad; Adolygiad o Dirweddau Dynodedig Cymru: Parciau Cenedlaethol ac AHNE, Adolygiad o Dirweddau Dynodedig: Argymhellion o Gyfnod 1 a Beth nesaf ar gyfer Tirweddau Cenedlaethol Cymru?.

Yn dilyn yr adolygiad, bu i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol ffurfio Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol. Mae’r grŵp, o dan arweiniad yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Barciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, grwpiau amgylcheddol, busnesau a llywodraeth leol i archwilio’r argymhellion. At hynny, byddai’n caniatáu ystyriaeth o’r argymhellion hyn yng nghyd-destun deddfwriaeth newydd; Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (a gafodd eu gweithredu o ganlyniad i’r adolygiad).

Mae’r Cylch Gorchwyl (PDF 195.4KB) ar gyfer Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol yn nodi’r aelodaeth ynghyd â bwriad y grŵp i gynghori ynghylch y themâu sy’n codi yn yr adroddiad. Mae disgwyl i’r adroddiad, sydd i’w gyhoeddi cyn bo hir, ddisgrifio rôl a gweledigaeth tirweddau dynodedig Cymru yn y dyfodol. Mewn llythyr interim (PDF 62.6KB) at y Gweinidog ar y pryd ym mis Mai 2016, cyn etholiadau’r Cynulliad, nododd y Cadeirydd ei bod yn glir y bydd angen mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio.


Erthygl gan Dr Dr Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun o Flickr gan Andrew. Dan drwydded Creative Commons.