Gwasanaethau Eirioli Plant: Dim mwy o gamgychwyn

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 29 Mawrth 2017 bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i’r ddarpariaeth o ran eiriolaeth statudol [PDF 519KB], a gyhoeddwyd ar 2 Chwefror 2017. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb [PDF 138KB] ym mis Mawrth 2017.

Beth yw eiriolaeth?

Dyma lun o blentyn

Mae Safonau Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gwasanaethau Eiriolaeth Plant 2003 Llywodraeth Cymru [PDF 498KB] yn dweud:

Mae eiriolaeth yn ymwneud â siarad dros blant a phobl ifanc. Mae eiriolaeth yn ymwneud â galluogi plant a phobl ifanc i sicrhau bod eu hawliau yn cael eu parchu a bod eu barn a’u dymuniadau’n cael eu clywed bob amser. Mae eiriolaeth yn ymwneud â chyflwyno barn, dymuniadau ac anghenion plant a phobl ifanc i lunwyr penderfyniadau, a’u helpu i fynd drwy’r system.

Mae gofynion statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, rhai sy’n gadael gofal a phlant mewn angen, i ddechrau o dan Ddeddf Plant 1989 ac yn fwy diweddar wedi’i ymgorffori i mewn i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014).

Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn nodi bod 28,105 o blant a allai fod yn gymwys i gael gwasanaethau eiriolaeth statudol yn 2016. O’r rhain, roedd 5,660 yn blant sy’n derbyn gofal; roedd 3,060 ar y gofrestr amddiffyn plant; ac roedd 19,385 yn blant mewn angen.

Pam mae’n bwysig

Cafodd pwysigrwydd plant sy’n derbyn gofal yn gallu cael mynediad at eiriolwyr annibynnol ei godi pan ganfu adroddiad ar Ymchwiliad Waterhouse (a gyhoeddwyd yn 2000) nad oedd neb wedi gwrando ar ddioddefwyr degawdau o gam-drin rhywiol a chorfforol eang o blant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru nac wedi’u credu. Argymhellir y dylai pob plentyn sy’n derbyn gofal gael mynediad at eiriolwr annibynnol.

Yn yr adroddiad Lleisiau coll, yr hawl i gael eu clywed ym mis Gorffennaf 2014, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru ar y pryd:

Does dim yn ein hatgoffa’n gliriach o hyn na’r honiadau newydd sydd wedi ymddangos o gam-drin hanesyddol yng ngogledd Cymru a sefydlu Operation Pallial ac Adolygiad Macur. Mae amlygrwydd sgandalau cam-drin hanesyddol ar hyn o bryd yn dangos pa mor bwysig yw hi i ni sicrhau ar unwaith bod y gwasanaeth eirioli i blant a phobl ifanc yn gweithio’n iawn heddiw. Mae eiriolaeth yn ein galluogi i greu diwylliant lle’r ydym ni’n gwrando ar blant a phobl ifanc, diwylliant lle gallwn ni ddiogelu ein plant yn well. Yn gryno, mae eiriolaeth yn diogelu plant a phobl ifanc.

Dywedodd y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol wrth Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Statutory advocacy is fundamentally a provision to protect and safeguard the most vulnerable children and young people in Wales. We must not lose sight into the history of why advocacy is so critical in Wales which was a direct result of many children being abused whilst in the care of local authorities. The recommendations from Sir Ronald Waterhouse report; “Lost in Care” are still as relevant today as it was in 2000.

Adroddiadau ers Waterhouse

Rhwng 2003 a 2014 cafwyd saith adroddiad yn nodi pryderon am wasanaethau eiriolaeth a’r ffordd orau o’u cyflwyno yng Nghymru.

Rhwng 2008 a 2010, cyhoeddodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Trydydd Cynulliad dri adroddiad a gwnaeth nifer o argymhellion ac ailadrodd galwadau ynghylch darparu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a grwpiau eraill o blant sy’n agored i niwed. Mae’r rhain i’w gweld ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol:

Sefydlwyd Comisiynydd Plant Cymru yn 2001, y cyntaf yn y DU. Yn 2003, cyhoeddodd y Comisiynydd Plant ar y pryd ei adroddiad Datgan Pryderon [PDF 720KB] a oedd yn cynnwys adolygiad o ddarpariaeth eiriolaeth. Rhwng 2012 a 2014, cyhoeddodd y Comisiynydd Plant ar y pryd dri adroddiad a gwnaeth gyfres o argymhellion mewn perthynas â gwasanaethau eiriolaeth statudol

Yn ôl adroddiad 2014, roedd ansawdd a maint comisiynu darpariaeth gwasanaethau eiriolaeth yn amrywio’n sylweddol rhwng awdurdodau lleol a:

Heb newid sylweddol mae’r model lleol hwn o gomisiynu’n debygol o barhau â’r diffygion sydd yn y ddarpariaeth gyfredol, sydd wedi’u cofnodi’n helaeth. Mae’n bryd i ni symud at fodel cenedlaethol o gomisiynu yn y gobaith y byddai’n darparu’r ffocws, y sbardun a’r strwythurau atebolrwydd sydd, yn fy ngolwg i, yn absennol ar hyn o bryd.

Arweiniodd yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd Plant at Lywodraeth Cymru yn cyflawni gwaith a sefydlu Grŵp Arbenigol Gweinidogol ar Eiriolaeth yn 2014 i ddatblygu cynnig ar gyfer Dull Cenedlaethol o ran Gwasanaethau Eiriolaeth Statudol.

Beth wnaeth y Pwyllgor ddarganfod

Clywodd y Pwyllgor fod oedi rhwystredig ac annerbyniol wedi bod o ran cytuno ar Ddull Cenedlaethol o ran Gwasanaethau Eiriolaeth Statudol a’i roi ar waith. Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor hefyd fod cynnydd wrth gytuno ar y Dull Cenedlaethol yn cael ei wneud yn ystod yr ymchwiliad hwn. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei bod yn siŵr y byddai gan awdurdodau lleol ddull ar waith o ran comisiynu gwasanaethau eiriolaeth wedi’i gytuno ar gyfer Cymru gyfan erbyn mis Mehefin 2017.  Dywedodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, mai dyma yr oedd yn ei ddisgwyl ac roedd wedi ei gwneud yn glir y byddai sancsiynau pe na fyddai hyn yn cael ei gyflawni.

Mae gweithredu’r Dull Cenedlaethol wedi costio rhwng £1 a £1.1 miliwn, gan gynnwys ‘cynnig gweithredol’. Cynnig gweithredol yw lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael gwybod am y gwasanaethau eiriolaeth a sut y gallent gael gafael ar eiriolwr ar yr adeg y maent yn mynd i mewn i’r system gofal statudol.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £500-550,000 tuag at y costau hyn.  Er bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cydnabod y gystadleuaeth am yr adnoddau sydd ar gael, cadarnhaodd fod lefel o ymrwymiad i ddod o hyd i’r arian sy’n weddill ar gyfer y Model Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud wyth argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys y rhai canlynol yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn:

  • Monitro a sicrhau bod pob awdurdod lleol wedi ymrwymo’n weithredol i’r Dull Cenedlaethol erbyn mis Ionawr 2017;
  • Monitro gwariant yr awdurdodau lleol ar wasanaethau eiriolaeth statudol yn flynyddol, a sicrhau bod y gwasanaethau’n cael eu hariannu yn unol â’r asesiad dadansoddi anghenion y boblogaeth;
  • Comisiynu adolygiad annibynnol o gynnydd ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf y bydd y Dull Cenedlaethol ar waith;
  • Darparu diweddariad manwl i’r Pwyllgor ar y cynnydd o ran gweithredu Dull Cenedlaethol ym mis Mehefin 2017.

Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Lun: Image from maxpixel.freegreatpicture.com. Dan drwydded Creative Commons.