Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu – pwy ydyn nhw a beth y maen nhw’n ei wneud?

15 Mawrth 2017

Erthygl gan Piotr Wegorowski, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cefndir

Golau y tu allan i adeilad yn nodi'r geiriau “police court”

Llun: o Flickr gan meg_nicol. Trwydded Creative Commons.

Cyflwynwyd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn lle awdurdodau’r heddlu ym mhob un o ardaloedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr (y tu allan i Lundain) o dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Cawsant eu cyflwyno yn dilyn galwadau i wneud y broses o oruchwylio plismona yn fwy democrataidd. Cyflwynwyd y syniad am y tro cyntaf mewn pamffled gan Douglas Carswell, a alwodd am siryfion etholedig, yna cafodd y syniad ei gynnwys ym maniffesto’r Ceidwadwyr ar gyfer etholiad 2010. Ar y pryd, roedd pobl yn gwrthwynebu’r syniad, gan awgrymu y gallai’r drefn o ethol Comisiynwyr yn uniongyrchol droi plismona yn fater gwleidyddol. Awgrymwyd hefyd y gallai diffyg dealltwriaeth ynghylch rôl a chyfrifoldebau’r swyddogion etholedig rwystro atebolrwydd y Comisiynwyr i’r cyhoedd.

At hynny, nid yw mandad cymdeithasol y rôl wedi bod mor gryf ag y gobeithiwyd yn wreiddiol am mai dim ond nifer fach o bobl a bleidleisiodd. Cynhaliwyd yr etholiadau cyntaf ar gyfer y swydd newydd ym mis Tachwedd 2012, gan ddenu’r ganran isaf erioed o bleidleiswyr ar gyfer etholiad yn y DU nad oedd yn etholiad llywodraeth leol, sef 15.1 y cant. Yn yr etholiad diweddaraf yn 2016, pleidleisiodd 26.6 y cant o bobl ar gyfartaledd. Pleidleisiodd llawer mwy o bobl yng Nghymru na Lloegr, sef 44.4 y cant (yn seiliedig ar bleidleisiau dilys), fwy na thebyg am fod etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol wedi’u cynnal yr un pryd, ac roedd canran y pleidleiswyr ar gyfer y ddau etholiad yn weddol debyg.

Beth y mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn ei wneud?

Dyma swyddogaethau craidd y Comisiynwyr:

  • Penodi’r Prif Gwnstabl, a’i ddwyn i gyfrif am reoli’r heddlu;
  • Os bydd angen, diarddel y Prif Gwnstabl neu alw arno i ymddeol neu ymddiswyddo;
  • Cyflwyno cynllun 5 mlynedd ar gyfer yr Heddlu a Throseddu ac, mewn ymgynghoriad â’r Prif Gwnstabl, penderfynu ar flaenoriaethau plismona lleol; a
  • Pennu lefel y praesept lleol blynyddol a chyllideb flynyddol yr heddlu

Er mai rôl y Comisiynwyr yw gosod cyfeiriad strategol yr heddlu, rhaid iddynt beidio â dylanwadu ar hawl y Prif Gwnstabliaid i annibyniaeth weithredol. Fodd bynnag, nid yw’n hawdd diffinio’r gwahaniaeth rhwng materion gweithredol a materion strategol. Fel y nodir yng Ngorchymyn Protocol Plismona 2011:

The PCC and Chief Constable must work together to safeguard the principle of operational independence, while ensuring that the PCC is not fetter in fulfilling their statutory role. The concept of operational independence is not defined in statue, and (…), by its nature, is fluid and context-driven.

Felly, mae llwyddiant y Comisiynwyr yn dibynnu’n rhannol ar gynnal perthynas waith dda gyda Phrif Gwnstabl yr heddlu dan sylw. Mae’n arbennig o bwysig o ystyried pŵer y Comisiynwyr i ddiarddel eu Prif Gwnstabliaid, sydd wedi creu tipyn o ddadlau. Er enghraifft, yn 2013 gwnaeth Prif Gwnstabl Heddlu Gwent ymddeol yn gynnar o’i swydd ar ôl i’r Comisiynydd ar y pryd wneud cais iddo adael. Roedd adroddiad gan Bwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin a gyhoeddwyd yn 2014 yn argymell y dylai’r ddeddfwriaeth gael ei diwygio i’w gwneud yn ofynnol i Gomisiynwyr nodi ar ba sail y maent am ddiarddel neu gael gwared ar brif gwnstabliaid. Gwnaeth y Pwyllgor hefyd leisio pryderon nad oedd gwaith craffu priodol yn cael ei gynnal ar y broses.

Paneli’r Heddlu a Throseddu sy’n craffu ar waith y Comisiynwyr, ac mae’r paneli’n cynnwys cynrychiolwyr awdurdodau lleol ynghyd ag o leiaf ddau aelod annibynnol cyfetholedig. Mae’n werth nodi mai’r Ysgrifennydd Gwladol sy’n sefydlu Paneli’r Heddlu a Throseddu yng Nghymru ac nid awdurdodau lleol,fel sy’n wir yn Lloegr, a hynny oherwydd i’r Trydydd Cynulliad wrthod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ynghylch Bil Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol. Yn ystod ymchwiliad diweddaraf Senedd y DU i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn 2016, gwnaeth Ron Ball, y Comisiynydd ar gyfer Heddlu Swydd Warwick, nodi yn ei dystiolaeth i Bwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin y gall y berthynas rhwng y Comisiynwyr a’r Paneli fod yn llawn tensiynau, gyda’r Paneli’n tueddu’n amlach i feirniadu’r Comisiynwyr yn hytrach na’u cefnogi.

Cyllid

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am bennu cyllideb flynyddol yr heddlu. Daw’r cyllid o sawl ffynhonnell, gan gynnwys Grant y Swyddfa Gartref ar gyfer yr Heddlu, grant Llywodraeth Cymru a phraesept y dreth gyngor. Mae rhagor o wybodaeth am gyllid yr heddlu yn y cofnod blog am y ddadl ar Setliad Terfynol yr Heddlu 2017-18.

Mae praeseptau’r heddlu yn ffynhonnell bwysig o incwm yng Nghymru. Y Comisiynwyr sy’n pennu lefel y praeseptau bob blwyddyn, ac mae’r awdurdodau lleol yn casglu’r arian ar eu rhan ynghyd â’r dreth gyngor. Yn 2015-16, daeth 37 y cant o gyllid yr heddlu yng Nghymru o’r dreth gyngor, o gymharu â chyfartaledd o 24 y cant yn Lloegr.

Mae praesept y dreth gyngor yn fodd i’r Comisiynwyr wrthbwyso, i ryw raddau, y gostyngiad yn y cyllid a ddaw o’r setliad. Mae pob un o Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi cyhoeddi ffioedd uwch ar gyfer 2017-18. Mae’r Comisiynydd yn ardal Dyfed Powys wedi gofyn am gynnydd o 6.9 y cant; mae’r Comisiynydd yng Ngwent wedi cynnig cynnydd o 3.99 y cant; mae Comisiynydd Gogledd Cymru wedi cynyddu’r praesept gan 4.64 y cant; ac yn Ne Cymru, bydd y praesept yn cynyddu gan 5 y cant.

Heriau

Mae angen i Gomisiynwyr sicrhau eu bod yn mynd i’r afael ag anghenion cymunedau lleol ond mae disgwyl iddynt hefyd ystyried y Gofyniad Plismona Strategol, a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Cartref ac sy’n nodi’r blaenoriaethau cenedlaethol. Hefyd, yng Nghymru mae llawer o ffactorau sy’n dylanwadu ar ddiogelwch cymunedol a meysydd cysylltiedig, fel iechyd, addysg neu wasanaethau cymdeithasol, wedi cael eu datganoli. Mae’n rhaid i’r Comisiynwyr yng Nghymru gydbwyso blaenoriaethau lleol yn ogystal â blaenoriaethau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, tynnwyd sylw at yr heriau sy’n gysylltiedig â chynllunio strategol pan fo nifer o gyrff yn rhannu cyfrifoldeb am ddiogelwch cymunedol:

Er bod gan bob awdurdod lleol a’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu gynlluniau, nid ydynt wedi’u halinio’n gyson i sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau a’r effaith fwyaf bosibl, ac nid yw’r flaenoriaeth genedlaethol, ranbarthol a lleol yr un peth mewn unrhyw faes. Mae cynllunio datgymalog a chydgysylltu gwael yn esgor ar y perygl y bydd sefydliadau naill ai’n dyblygu gweithgarwch, neu’r perygl na fydd yr un ohonynt yn canolbwyntio ar y materion pwysicaf.

Mae’r adroddiad yn awgrymu y dylid datblygu strategaeth genedlaethol. Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Ionawr 2017, roedd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru yn beirniadu’r adroddiad, gan awgrymu y dylai Comisiynwyr flaenoriaethu materion lleol a chan nodi y byddai llwyddiannau unigol wrth fynd i’r afael â phroblemau lleol, gyda’i gilydd, yn arwain at lwyddiant cenedlaethol. Mae’n cyfeirio at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fel enghraifft o ddull tebyg sy’n gweithio o’r bôn i’r brig, gan roi mwy o bwyslais ar fynd i’r afael ag anghenion lleol a gweithio mewn partneriaeth. Yn wir, mae dau o’r pedwar Cynllun Heddlu a Throseddu, sef y dogfennau strategol sy’n nodi’r weledigaeth ar gyfer yr heddluoedd gwahanol, yn cyfeirio’n benodol at y Ddeddf.

Prin oedd y dystiolaeth yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru bod y cyhoedd yn cael cyfle i gyfrannu at lunio cynlluniau diogelwch cymunedol yn eu hardaloedd.

Esblygiad y rôl

Ers iddi gael ei chreu, mae rôl y Comisiynwyr eisoes wedi esblygu, yn rhannol oherwydd newidiadau mewn polisi a deddfwriaeth. Ers 2014, mae’r Comisiynwyr wedi bod yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau i ddioddefwyr. At hynny, mae Deddf Plismona a Throsedd 2017, a gafodd gydsyniad brenhinol ar 31 Ionawr 2017, yn rhoi dyletswydd ar wasanaethau heddlu, tân ac ambiwlans i weithio gyda’i gilydd ac mae’n galluogi Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i gymryd cyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub os bydd achos lleol dros wneud hynny. Gan fod gwasanaethau tân wedi’u datganoli, dim ond i Loegr y mae’r ddarpariaeth benodol hon yn gymwys. Nid yw’r Comisiynwyr yng Nghymru wedi cymryd cyfrifoldeb am yr awdurdodau tân ac achub, ond mae tystiolaeth eu bod yn cydweithio, fel y nodwyd mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan grŵp cydweithio’r gwasanaethau brys. Mae Adran 13A o Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 yn caniatáu i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu arfer pwerau o ran ymdrin â chwynion i’r heddlu. Gallant ddewis cael a chofnodi cwynion, cysylltu ag achwynwyr i drafod y mater, a datrys unrhyw gwynion y penderfynir y byddai’n briodol eu datrys yn lleol. Caiff Comisiynwyr hefyd ymwneud hyd yn oed yn fwy â’r broses o ymdrin â chwynion drwy weithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer cwynion, ar wahân i gwynion sy’n destun ymchwiliad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu neu ymchwiliad dan gyfarwyddyd.

Yn ei haraith yng nghyfarfod cyffredinol Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn fuan ar ôl yr etholiad ym mis Mai, awgrymodd yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd y gallai fod posibilrwydd o ehangu rôl y Comisiynwyr i chwarae mwy o ran yn y system cyfiawnder troseddol. Nid oes neb yn gwybod beth fydd union natur y cyfrifoldebau ychwanegol ac nid oes unrhyw gynlluniau pendant eto, felly nid yw’n glir sut y bydd y rôl yn parhau i esblygu. Fodd bynnag, mae’n glir bod y Comisiynwyr wedi ennill eu plwyf a bydd yn werth cadw llygad ar y ffyrdd y mae eu rôl yn esblygu.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Piotr Wegorowski gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.