Sut y dylai Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru weithio?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 15 Mawrth, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC)  Cafodd y Pwyllgor fod llawer i gytuno ag ef wrth graffu ar gynigion Llywodraeth Cymru, ond gwnaeth y Pwyllgor 10 argymhelliad i helpu i sicrhau bod anghenion seilwaith Cymru yn cael eu diwallu yn awr ac yn y dyfodol.

Beth yw Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a pham y dewisodd y Pwyllgor ei ystyried?

Adeiladu Pont y Werin, Caerdydd

Roedd y compact a luniwyd rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru ym mis Mai 2016 yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yng Nghymru.  Yn ôl cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y comisiwn, bydd yn gorff anstatudol sy’n darparu cyngor technegol a strategol annibynnol ac arbenigol i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith hirdymor Cymru dros gyfnod o bump i 30 mlynedd.  Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno adroddiadau rheolaidd i Lywodraeth Cymru ar seilwaith economaidd ac amgylcheddol.  Llywodraeth Cymru fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am benderfyniadau a pholisi seilwaith.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi dweud mai ei uchelgais ar gyfer CSCC yw dadwleidyddoli’r penderfyniadau dadleuol ynghylch seilwaith, a chyflymu’r gwaith o gyflwyno prosiectau allweddol.  Ym mis Hydref 2016, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai’n anelu at sefydlu CSCC erbyn haf 2017, ond mewn datganiad ysgrifenedig ar 8 Mawrth, dywedodd ei fod bellach yn anelu at ei sefydlu erbyn diwedd 2017.

Roed craffu ar y cynlluniau i sefydlu CSCC yn un o’r prif flaenoriaethau i nifer o’r rhanddeiliaid a ymatebodd i ymgynghoriad y cynhaliodd y Pwyllgor ynghylch ei flaenoriaethau yr haf diwethaf.  Roedd y prif faterion a godwyd gan randdeiliaid yn cynnwys yr angen am weledigaeth hirdymor ar gyfer seilwaith, rôl a chylch gwaith CSCC, sut y bydd yn effeithio ar brosiectau allweddol, dysgu o arfer gorau rhyngwladol, a sut y gall wella’r trefniadau cyfredol ar gyfer cyflwyno seilwaith.

Sut yr ychwanegodd gwaith y Pwyllgor at gynigion Llywodraeth Cymru?

Derbyniodd Llywodraeth Cymru chwech o argymhellion y Pwyllgor, gan dderbyn tri mewn egwyddor a gwrthod un.  Felly, dyma’r ffyrdd y mae’r Pwyllgor wedi dylanwadu ar y model ar gyfer CSCC:

  • Bydd un o Bwyllgorau’r Cynulliad yn craffu ar yr ymgeisydd a ffafrir i gadeirio CSCC mewn gwrandawiad cyn penodi, fel y gwnaeth Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar yn achos yr ymgeisydd a ffafriwyd i gadeirio Awdurdod Refeniw Cymru.
  • Bydd CSCC yn cynhyrchu adroddiad ‘Cyflwr y Genedl’ ar anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol bob tair blynedd fel na fydd cysylltiad rhwng ei waith a’r cylch gwleidyddol, a bydd yn cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n canolbwyntio ar lywodraethu, ac ar waith a fu a gwaith sydd ar y gweill. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i bob un o’r argymhellion o fewn chwe mis.
  • Bydd ei lythyr cylch gwaith blynyddol yn darparu gwybodaeth am faint y bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl y gall ei wario o ran cyllid seilwaith dros yr amserlen hiraf posibl, a hynny er mwyn rhoi cyd-destun pwysig i’r argymhellion.
  • Bydd y llythyr cylch gwaith hefyd yn annog i CSCC feithrin perthynas gref â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU ac Ymddiriedolaeth Dyfodol yr Alban i fod mor effeithiol ag y bo modd.
  • Bydd angen i benodiadau i CSCC ystyried yr amrywiaeth yng nghymunedau Cymru, a nodir ymgysylltu ar y lefel ranbarthol yn ei gylch gorchwyl.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried mecanweithiau megis y Banc Datblygu i ganolbwyntio ar sut y gellir defnyddio mwy o arian preifat i gefnogi datblygiadau seilwaith.

A beth sydd ar ôl i’w drafod?

Un o brif argymhellion y Pwyllgor oedd y byddai deddfwriaeth yn gwneud CSCC yn gorff statudol ar ôl iddo gael ei sefydlu. 

Cafodd tystiolaeth gan gyrff sy’n cynghori ar seilwaith ar lefel ffederal a gwladwriaethol yn Awstralia ddylanwad ar hyn, a dywedwyd wrth y Pwyllgor fod eu statws statudol annibynnol wedi cryfhau eu statws fel llais arbenigol ar seilwaith, ac y byddai manteision y dull hwn yn berthnasol y tu hwnt i Awstralia.

Dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU wrth y Pwyllgor fod y ffaith ei fod yn gorff anstatudol yn golygu iddo gael ei sefydlu         yn gynt, ond bod anfantais hefyd gan ei fod yn llai parhaol yng ngolwg rhanddeiliaid.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan nad yw’n ystyried y byddai rhoi CSCC ar sail statudol yn gwella ei rôl na’i gylch gwaith.  Fodd bynnag, bydd yn ystyried hyn fel rhan o adolygiad ffurfiol a gynhelir cyn diwedd y Pumed Cynulliad.

Hefyd, derbyniodd Llywodraeth Cymru dri argymhelliad mewn egwyddor.  Argymhellodd y Pwyllgor y dylid ehangu cylch gwaith CSCC i gynnwys y cyflenwad o dir ar gyfer datblygiadau tai sy’n arwyddocaol yn strategol a seilwaith ategol cysylltiedig.  Er mai seilwaith economaidd ac amgylcheddol fydd cylch gwaith CSCC ar y dechrau, fe adolygir hyn erbyn diwedd y Pumed Cynulliad.

Hefyd, roeddy  Pwyllgor am i CSCC gael ei leoli y tu allan i Gaerdydd, ac iddo rannu llety â chorff cyhoeddus arall er mwyn sicrhau costau is.  Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn ystyried hyn, a derbyn yr angen i CSCC fod yn annibynnol ar y cyrff y bydd yn rhaid iddo weithio gyda hwy.

Yn olaf, ystyriodd y Pwyllgor y dylai CSCC gael ei ystyried yn gorff cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i hyrwyddo cydweithio, ymgysylltu â’r cyhoedd ac annibyniaeth.  Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd ei gylch gorchwyl yn sicrhau ei bod yn ofynnol i CSCC gadw at egwyddorion ac amcanion y Ddeddf.  Fodd bynnag, ni fydd yn ceisio newid y Ddeddf ar hyn o bryd.


Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun o Flickr gan Ben Salter. Dan drwydded Creative Commons.