Bright sparks/Menywod disglair: dathlu menywod Cymru sy’n ymwneud â meysydd STEM

13 Mawrth 2017

Erthygl gan Jeni Spragg, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun: o Flickr gan Jared Tarbell. Dan drwydded Creative Commons.

Yr wythnos diwethaf, bu pobl ledled y byd yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, sy’n galw ar arweinwyr ac unigolion i weithredu fel hyrwyddwyr cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Heddiw yn y Senedd, bydd yr ymgyrch Menywod Mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg (WISE) yn nodi’r achlysur drwy gynnal ddigwyddiad o’r enw Dathlu Menywod Talentog yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad yn dathlu cyfraniad menywod i Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Bydd noddwr sefydliad WISE, sef Ei Huchelder Brenhinol, y Dywysoges Frenhinol, yn bresennol yn y digwyddiad. Noddir y digwyddiad gan Julie James AC, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Fe’i cynhelir flwyddyn ar ôl lansio’r adroddiad Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus.

Mae rhagor o wybodaeth am y dangosyddion sy’n ymwneud â chydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi’i chynnwys yn ein blog blaenorol.

Beth yw’r agenda STEM?

Yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaed ymdrechion sylweddol i greu gweithlu mwy cydnerth ym meysydd STEM. Cydnabyddir bod sgiliau STEM yn cynnig cyfleoedd nid yn unig i unigolion ond i’r economi yn ei chyfanrwydd hefyd.

Mae strategaeth berthnasol Llywodraeth Cymru, sef Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg mewn addysg a hyfforddiant: Cynllun Cyflawni i Gymru, yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr agenda STEM yng Nghymru.

Beth yw’r agenda STEM?

Yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaed ymdrechion sylweddol i greu gweithlu mwy cydnerth ym meysydd STEM. Cydnabyddir bod sgiliau STEM yn cynnig cyfleoedd nid yn unig i unigolion ond i’r economi yn ei chyfanrwydd hefyd.

Mae strategaeth berthnasol Llywodraeth Cymru, sef Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg mewn addysg a hyfforddiant: Cynllun Cyflawni i Gymru, yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr agenda STEM yng Nghymru.

  • Mae talent STEM yn werthfawr i economi Cymru: roedd y sector peirianneg yn gyfrifol am gyfrannu 27.1% o gynnyrch domestig gros (GDP) y DU yn 2014. Mae’n bosibl y byddai cynyddu nifer y menywod sy’n ymwneud â meysydd STEM werth £2 filiwn i economi Cymru;
  • Mae galw mawr am sgiliau STEM: mae amcangyfrifon yn awgrymu bod angen dyblu nifer y graddedigion peirianneg erbyn 2020. Mae diffyg o tua 600 o academyddion STEM yng Nghymru;
  • Mae menywod yn cael eu tangynrychioli drwy holl amrediad y gyrfaoedd sydd ar gael ym meysydd STEM: Mae 12% o fyfyrwyr prifysgol sy’n astudio peirianneg a thechnoleg yng Nghymru yn fenywaidd. Mae llai na 10% o weithwyr peirianneg a gweithwyr proffesiynol STEM yn y DU yn fenywod, ac mae menywod yn cael eu tangynrychioli ym mhob math o rolau arweinyddiaeth perthnasol; ac
  • Mae sgiliau STEM yn cynnig cyfleoedd: mae galw mawr am sgiliau STEM, sy’n gallu arwain at swyddi sy’n talu’n dda. Ar gyfartaledd, mae’r rhai sy’n gweithio ym mhroffesiynau STEM yn ennill 20% yn fwy na gweithwyr mewn sectorau eraill.

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi STEM?

Drwy archwilio enghreifftiau o arfer gorau, mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion sydd wedi’u grwpio o dan bedair thema allweddol: addysg, recriwtio, cadw gweithwyr a dyrchafu gweithwyr i rolau arweinyddiaeth. Gyda’i gilydd, nod yr argymhellion hyn yw datblygu a chynnal talent STEM, a hynny er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i fenywod ac i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o’r 33 o argymhellion; mae dau ohonynt yn gamau penodol i’w cymryd gan Lywodraeth Cymru. Mae argymhellion eraill yn galw ar gyflogwyr, addysgwyr ac unigolion i chwarae rôl yn y maes hwn.  Bydd y dathliad a gynhelir heddiw yn y Senedd yn dod â rhai o’r partneriaid hyn ynghyd.

Beth arall sy’n cael ei wneud i hyrwyddo rôl menywod ym meysydd STEM?

Mae amrywiaeth enfawr o fentrau STEM yn cael eu cynnig gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan gynnwys sefydliadau addysg, cyrff proffesiynol a busnesau.

Gall y mentrau hyn fod ar ffurf gweithdai a ‘dyddiau herio’, ffeiriau gwyddoniaeth, adnoddau ar-lein, cyrsiau blasu mewn prifysgolion, a phrosiectau. Mae hyd yn oed cystadleuaeth ar-lein sy’n dilyn arddull yr X-Factor, lle mae myfyrwyr yn pleidleisio dros eu hoff fodel rôl STEM.

Mae’r cynllun Llysgenhadon STEM yn dod â gwirfoddolwyr, darparwyr ac addysgwyr STEM ynghyd mewn un rhwydwaith. Mae dros 30,000 o lysgenhadon STEM wedi’u cofrestru yn y DU, ac mae dros 40% ohonynt yn fenywod. Yng Nghymru, mae’r cynllun yn cael ei reoli gan sefydliad Gweld Gwyddoniaeth. Mae gwefan y sefydliad yn cynnwys mynegai o ddarparwyr STEM yng Nghymru.

Mae’r ymgyrch WISE, sy’n cynnal y digwyddiad yn y Senedd heddiw, yn gweithio i hyrwyddo gyrfaoedd STEM ymhlith merched a menywod, ac i gynghori sefydliadau. Bydd y fenter People Like Me yn sail ar gyfer gweithdy i ddisgyblion ysgol yn y digwyddiad.

Mae’r adroddiad Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus yn cynnwys manylion am rai o’r mentrau sy’n bodoli yng Nghymru.  Mae enghreifftiau eraill o fentrau sy’n ymwneud â rôl menywod ym meysydd STEM yn cynnwys:

Mae adroddiad gan yr Academi Frenhinol, sef The UK STEM education landscape, yn crynhoi ac yn trafod amrediad ac effaith mentrau STEM yn y DU, gan gynnwys y rhai sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth.

Sut beth yw’r profiad o fod yn fenyw sy’n ymwneud ag un o feysydd STEM?

Rwyf ar ganol gwneud doethurieth mewn peirianneg gemegol, ond ar hyn o bryd rwy’n gwneud interniaeth tri mis yng Ngwasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol.

Hyd yn hyn, mae gyrfa STEM wedi ateb fy ngofynion i’r dim, ond byddwn yn dweud celwydd pe bawn yn dweud bod fy rhyw wedi bod yn ddibwys. Wrth ddewis cwrs yn y brifysgol, nodais y gymhareb rhyw. Rwyf wedi bod yn bresennol mewn cyfarfodydd lle  byddai’r siaradwr, yn ôl yr arfer, yn annerch y bobl yn yr ystafell fel ‘boneddigion’. Rwyf wedi gwisgo oferôls a oedd yn rhy fawr o lawer gan mai dyna’r rhai lleiaf a oedd ar gael, gan achosi peth miri.

Mae’r pethau bychain hyn yn tueddu i wneud imi wenu, ond gwn fod menywod eraill yn wynebu rhwystrau llawer mwy. Fel y mae’r adroddiad yn ei amlygu, er bod gwahaniaethu yn llai o broblem, mae tuedd anymwybodol yn parhau i fod yn broblem.  Mae rhwystrau strwythurol hefyd, fel yr heriau sy’n codi mewn perthynas â chyfrifoldebau teuluol a seibiannau gyrfa.

Ar ochr arall y geiniog, mae cydweithwyr a chyfoedion wedi awgrymu y bydd fy rhyw yn fy helpu i sicrhau cynnydd yn fy mhroffesiwn. Mae angen taro cydbwysedd bob amser rhwng annog amrywiaeth a chreu amheuaeth sy’n tanseilio gallu.

Mae taith yrfa pob person yn unigryw, ond yn sicr mae’r themâu sy’n codi yn yr adroddiad ar Fenywod Dawnus yn taro deuddeg i mi. Fodd bynnag, mae’r sector yn esblygu, ac mae’n amser cyffrous i fod yn gweithio ym meysydd STEM.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jeni Spragg gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.