Ailbrisio ardrethi busnes a rhyddhad trosiannol: y wybodaeth ddiweddaraf

01 Mawrth 2017

Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gwelwyd cryn ddiddordeb mewn ailbrisio ardrethi busnes ledled Prydain dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, gyda phryderon yn cael eu codi am yr effaith ar fusnesau a fydd yn talu ardrethi busnes uwch o fis Ebrill 2017 ymlaen. Mae dulliau gwahanol wedi cael eu defnyddio i ymdrin ag ardrethi busnes yng Nghymru, Lloegr a’r Alban (daeth ailbrisiad i rym yng Ngogledd Iwerddon yn 2015).

Mae’r erthygl hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn ein herthygl flaenorol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, a oedd yn rhoi manylion y gwaith ailbrisio a’i effeithiau. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi cynnal y gwaith ailbrisio yng Nghymru yn annibynnol, ac nid yw Llywodraeth Cymru yn cymhwyso polisi na chanllawiau i’r ailbrisiad.

Sut y mae’r ailbrisiad wedi effeithio ar wahanol rannau o Gymru?

Fel y mae’r erthygl flaenorol yn egluro, un elfen o’r bil ardrethi busnes yw newidiadau i werthoedd ardrethol; mae’r lluosydd ardrethi a bennir gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn ariannol yn effeithio ar y bil hefyd, yn ogystal ag unrhyw ryddhad y gallai busnesau fod yn gymwys i’w gael.

Ardaloedd gwledig yn bennaf a welodd y cynnydd mwyaf mewn gwerthoedd ardrethol rhwng prisiad 2010 a ffigurau’r ailbrisiad drafft ar gyfer 2017. Roedd yr ardaloedd hynny’n cynnwys Conwy (cynnydd o 9.2 y cant ar gyfartaledd), Gwynedd (cynnydd o 8.9 y cant ar gyfartaledd) a Sir Fynwy (cynnydd o 7.0 y cant ar gyfartaledd).   Mae’r ffigurau hyn yn wahanol i’r effeithiau ar filiau a ragwelir yn Lloegr, sydd wedi cael sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar. Fel y nodwyd uchod, dim ond un elfen yw gwerthoedd ardrethol wrth gyfrifo biliau ardrethi busnes.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi cyhoeddi mapiau o’r newid canrannol ar gyfartaledd a welwyd mewn gwerth ardrethol ym mhob awdurdod lleol, ac maent i’w gweld isod. Wrth edrych ar y ffigurau hyn, mae’n bwysig nodi mai cyfartaledd yw hwn ar draws yr ardal a’r sectorau, felly gallai’r effaith ar sectorau ac ardaloedd penodol o fewn ardaloedd awdurdod lleol fod yn wahanol. Bydd rhai busnesau ym mhob ardal awdurdod lleol wedi gweld cynnydd, tra y bydd rhai eraill wedi gweld lleihad yn eu gwerth ardrethol.

Map yn dangos newidiadau i werth ardrethol busnesau ym mhob awdurdod lleol

Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith i helpu busnesau y bydd eu biliau’n codi o ganlyniad i’r ailbrisiad?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dau fesur a fydd yn cynnig rhyddhad trosiannol o fis Ebrill 2017 ymlaen i fusnesau y mae’r ailbrisiad yn effeithio’n negyddol arnynt.

Mae’r cynllun cyntaf, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2016, wedi ei dargedu at fusnesau bach, a bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid o £10 miliwn i helpu 7,000 o drethdalwyr.  Bydd busnesau a chanddynt safleoedd ar hyn o bryd sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000 ac sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach yn 2016-17, ond a fydd yn cael llai o ryddhad neu ddim rhyddhad yn 2017-18 oherwydd y cynnydd yng ngwerth ardrethol eu heiddo, yn elwa ar y cynllun hwn.  Bydd y rhyddhad trosiannol arfaethedig yn lledaenu’r cynnydd o ran atebolrwydd i dalu ardrethi busnes dros dair blynedd, felly bydd busnesau’n talu 25 y cant o’u hatebolrwydd ychwanegol yn 2017-18, 50 y cant yn 2018-19 a 75 y cant yn 2019-20.  Erbyn dechrau 2020-21, bydd trethdalwyr yn talu’r bil yn llawn yn seiliedig ar ailbrisiad 2017.  Cafodd y rheoliadau sy’n cyflwyno’r cynllun hwn eu trafod a’u pasio drwy bleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Rhagfyr 2016.

Ar 17 Chwefror, cyflwynodd Llywodraeth Cymru fanylion cynllun rhyddhad trosiannol pellach, sef Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr.  Caiff hyn ei dargedu at fusnesau’r stryd fawr fel siopau, bwytai, caffis, tafarndai a bariau gwin.  Bydd y cynllun hwn hefyd yn costio  £10 miliwn i Lywodraeth Cymru, a bydd yn cael ei gyflwyno o fis Ebrill 2017, gan greu budd i 15,000 o fusnesau.   Mae datganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi’r meini prawf cymhwyso ar gyfer y cynllun. Gall manwerthwyr gael gwybod a ydynt yn gymwys ar gyfer y cynllun drwy gysylltu â’u hawdurdodau lleol.

Mae dwy haen o ryddhad o dan y cynllun hwn. O dan yr haen gyntaf, bydd siopau’r stryd fawr sydd â gwerth ardrethol o rhwng £6,001 a £12,000 sydd eisoes yn cael naill ai rhyddhad ardrethi i fusnesau bach neu ryddhad ardrethi trosiannol, yn cael gostyngiad o £500 yn eu bil ardrethi neu, os yw eu bil yn llai na £500, bydd yn gostwng i ddim.  O dan yr ail haen, bydd manwerthwyr cymwys y stryd fawr sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £50,000 sy’n gweld cynnydd yn eu hardrethi o 1 Ebrill, yn cael gostyngiad yn eu bil ardrethi o £1,500.

Sut mae hyn yn wahanol i’r hyn a gynigir mewn mannau eraill ym Mhrydain?

Mae Lloegr a’r Alban wedi datgan y byddant yn gweithredu ffyrdd gwahanol o liniaru effaith negyddol yr ailbrisiad ar rai busnesau.

O dan gynllun Llywodraeth y DU i Loegr, y bwriad yw y bydd pob busnes sydd yn gweld cynnydd yn ei fil ardrethi busnes o ganlyniad i’r ailbrisio yn cael rhywfaint o ryddhad trosiannol. Un gwahaniaeth allweddol i’r cynllun yng Nghymru yw ei fod yn gynllun sy’n ariannu ei hun, a thelir amdano drwy roi terfyn uchaf ar y gostyngiadau a roddir i’r busnesau hynny sy’n gweld gostyngiad yn eu biliau. Mae busnesau bach a chanolig yn cael mwy o gymorth na busnesau mwy.  Cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Gymunedau a Llywodraeth Leol ar 22 Chwefror ei fod yn gweithio’n agos gyda Changhellor y Trysorlys i ddarparu rhagor o gymorth i’r busnesau yn Lloegr sy’n wynebu’r cynnydd mwyaf i’w biliau, a disgwylir cyhoeddiad i gyd-fynd â chyllideb Llywodraeth y DU ar 8 Mawrth.

Yn yr Alban, mae Llywodraeth yr Alban wedi rhoi terfyn uchaf o 12.5 y cant ar y cynnydd ym miliau busnesau lletygarwch fel gwestai a thafarndai, a hefyd swyddfeydd yn Aberdeen a Swydd Aberdeen. Mae’r sectorau lletygarwch a thafarndai wedi nodi pryderon ynghylch maint y cynnydd y byddant yn eu hwynebu, a hefyd y fethodoleg prisio gwahanol a ddefnyddir yn y sectorau hyn. Mae’r cap ar swyddfeydd yn Aberdeen ac Aberdeenshire yn sgil effaith y lleihad ym mhrisiau olew ar yr economi leol.